Eitem ar yr agenda
COFNODION
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf
2024 (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2024 i’w hystyried.
Materion cywirdeb –
Datganodd y Cadeirydd bod enw’r Pwyllgor ar y rhaglen ac mewn nifer o adroddiadau yn
anghywir. Dylid cywiro enw’r Pwyllgor o’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
fel y nodir yn y cofnodion i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Tudalen 8 - Dylai Cylch Gorchwyl Ymchwiliadau ddarllen
fel a ganlyn; dylai'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio weld a gallu gwneud
sylwadau ar y cylch gorchwyl cyn cytuno arnynt yn hytrach na dylai'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio fod wedi gweld a gallu gwneud sylwadau ar y cylch
gorchwyl cyn cytuno arnynt fel y nodir yn y cofnodion.
Tudalen 13 – Dylai Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid
Conwy a Sir Ddinbych ddatgan bod y pryderon yn ymwneud â’r bwrdd iechyd a’r tîm
prawf ac nid bod y pryderon gan y bwrdd iechyd a’r tîm prawf fel y nodwyd yn y
cofnodion.
Tudalen 14 - Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio - Roedd y paragraff rhagarweiniol anghywir wedi’i
gynnwys yn y cofnodion.
Tudalen 17 - Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023-2024 -
Holodd yr Aelod Lleyg Nigel Rudd ynghylch cynnwys yr Argyfwng Costau Byw yn y
Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Eglurodd Swyddogion y byddai hyn yn cael ei
ddileu o’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Tudalen 17 - Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023-2024,
yn y penderfyniad dylid nodi: yn ogystal â’r Pwyllgor cymeradwyo creu Grŵp
Llywodraethu Corfforaethol ac nid Bwrdd Llywodraethu ac Archwilio fel y
datganwyd yn y cofnodion.
Materion yn Codi –
Tudalen 8 - Materion Brys - Hysbysodd y Cadeirydd y
Pwyllgor ei fod wedi mynychu cyfarfod y Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion Craffu
a’u bod wedi ystyried y pum pwynt a godwyd gan y Pwyllgor yn y cyfarfod
blaenorol. Dywedodd y Swyddog Monitro bod y Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion
Craffu wedi cynnal cyfarfod i ystyried y cylch gorchwyl drafft. Roedd
newidiadau wedi cael eu gwneud i’r cylch gorchwyl i gynnwys yr adborth gan y
Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion ac roedd cylch gorchwyl drafft terfynol yn
cael ei baratoi i’w gyflwyno i aelodau mewn Gweithdy Aelodau. Roedd cyfarfod
Cabinet arall yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos nesaf am gyflwyniad y
Gwasanaeth Ailgylchu newydd.
Tudalen 10 - Her Gwasanaeth: Ffioedd Cynllunio - dywedodd y Swyddog
Monitro bod y Cyngor wedi cymryd rhan trwy Grŵp Swyddogion Cynllunio
Cymru, a’u bod wedi lobio Llywodraeth Cymru ynghylch cynnydd mewn ffioedd
cynllunio statudol. Deallwyd bod cynnydd cymharol arferol i’w ddisgwyl dros y
misoedd nesaf ac roedd gwaith yn mynd rhagddo gan Lywodraeth Cymru i adolygu’n
sylfaenol sut y gosodir ffioedd. Byddai’r Cyngor yn darparu gwybodaeth ac
adborth i’r Llywodraeth fel rhan o’r broses trwy’r Grŵp Swyddogion Cynllunio.
Tudalen 13 - Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a
Sir Ddinbych - Hysbysodd y Swyddog Monitro yr aelodau bod swyddogion mewn
cysylltiad â’u cymheiriaid yng Nghyngor Conwy i bennu a fyddai modd trefnu
cyfarfod ar y cyd.
Tudalen 18 - Y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth
Ariannol Tymor Canolig - dywedodd y Cadeirydd bod disgwyl yr adroddiad nesaf
yng nghyfarfod mis Tachwedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a holodd a
oedd diweddariad i’w roi. Dywedodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio bod gwaith yn
parhau ar Gynllun Tymor Canolig wedi’i ddiweddaru a byddai hwn yn cael ei
gyflwyno i’r Cabinet ym mis Hydref. Yn dilyn hynny, byddai’r Cynllun yn cael ei
gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Tachwedd am sylwadau.
Tudalen 21 - Rhaglen Waith Llywodraethu ac Archwilio -
Dywedodd y Cadeirydd bod disgwyl i’r Datganiad Cyfrifon ar gyfer 2022-2023 gael
ei gyflwyno yn y cyfarfod. Fodd bynnag, nid oedd yr adroddiad ar gael ac roedd
esboniad wedi cael ei rannu gydag aelodau’r Pwyllgor gan y Swyddog Adran 151.
Dywedodd Aelodau bod yr iaith a ddefnyddiwyd yn y nodyn briffio esboniadol a
ddarparwyd yn benodol i’r pwnc ac yn anodd ei ddeall. Dywedodd y Cadeirydd y
byddai’n rhannu dolen i fodiwl hyfforddiant i helpu’r aelodau i ddeall yr iaith
a ddefnyddir yn dilyn y cyfarfod (DS i weithredu).
PENDERFYNWYD: yn amodol ar yr uchod, y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf
2024 fel cofnod cywir.
Dogfennau ategol: