Eitem ar yr agenda
MEWN CYFARFODYDD
Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yn y Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau.
Cofnodion:
Adroddodd yr
Aelodau am y cyfarfodydd y gwnaethant ymweld â nhw, fel a ganlyn –
- Adroddodd yr Aelod Annibynnol, Samuel Jones,
am gyfarfod Cyngor Cymuned Llangynhafal a gynhaliwyd ar 24 Ebrill
2024. Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol oedd hwn, gyda chyfarfod cyhoeddus agored i ddilyn. Roedd 8 Cynghorydd Cymuned yn bresennol,
ynghyd â Chlerc y Cyngor. Roedd 10 aelod o’r cyhoedd hefyd yn bresennol,
ond bu iddynt adael ar ôl i’r Cyfarfod Blynyddol ddod i ben a chyn i’r
cyfarfod cyffredin gychwyn. Nid
oedd hwn yn gyfarfod hybrid. Roedd
y Cyngor yn weithgar iawn yn yr ardal leol. Nododd Adroddiad Blynyddol y Cyngor
Cymuned y gallai aelodau’r cyhoedd fynychu pob cyfarfod drwy gydol y
flwyddyn. Datganodd aelod
gysylltiad personol, gan fod cais am gymorth ariannol ar gyfer y clwb
chwaraeon wedi cael ei gyflwyno. Bu
i’r aelod ymddwyn yn unol â’u datganiad.
Caniataodd y Cadeirydd gyfnod priodol o amser i ymateb i
gwestiynau. Cafodd y Cadeirydd
gefnogaeth y Clerc. Cynhaliwyd y
cyfarfod yn dda ac ymatebodd y Clerc i negeseuon e-bost.
Nododd y Swyddog
Monitro bod Cyngor Cymuned Llangynhafal yn cael ei redeg yn dda. Cadarnhawyd pe gofynnir am gymorth ariannol
ar gyfer ffigwr dros £500 y gallai'r datganiad o fuddiant fod yn fuddiant sy'n
rhagfarnu - ond os yw'n llai na £500 mae eithriad. Byddai angen datgan buddiant
personol o hyd.
- Eglurodd yr Aelod Annibynnol, Peter Lamb, nad
oedd wedi gallu ymweld â Chyngor Tref Prestatyn, ond y byddai’n gwneud
hynny ym mis Medi 2024.
- Nid oedd yr Aelod Annibynnol, Anne Mellor,
wedi ymweld â Chyngor Dinas, Tref na Chymuned ers y Pwyllgor Safonau
diwethaf.
- Adroddodd yr Aelod Annibynnol, Julia Hughes,
ar gyfarfod Cyngor Cymuned Bodfari a gynhaliwyd ar 14 Mai 2024. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol oedd hwn
gyda chyfarfod cyffredin i ddilyn.
Roedd yn gyfarfod hybrid; ymunodd 2 aelod o bell ac roedd 3 aelod
yn y cyfarfod yn bersonol, ynghyd â’r Clerc. Cafwyd problemau cysylltedd ac fe
gollodd y 2 aelod o bell gysylltiad am gyfnod byr. Cafwyd datganiadau o ddiddordeb a
datganwyd cysylltiad pan dderbyniwyd siec gan y loteri yn y cyfarfod
cyffredin, ac nid oedd yr aelodau’n siŵr a oedd hynny’n gysylltiad
personol neu’n gysylltiad personol sy’n rhagfarnu. Ym mhapurau’r cyfarfod, roedd y cyfenw
ar y siec a dalwyd i gontractwyr yr un cyfenw ag un o’r cynghorwyr. Datganodd y Cynghorydd gysylltiad
personol sy’n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod. Daeth y cyfarfod i ben am 9.00pm. Cefnogwyd y Cadeirydd gan y Clerc, ac
ni chafwyd unrhyw drafferth cysylltu â’r Clerc. Cafwyd trafferth clywed y Cynghorwyr a
oedd yn ymuno o bell oherwydd safle’r cadeiriau.
Cadarnhaodd y
Cadeirydd ei bod eto i ymweld â Chyngor Tref y Rhyl, ond gan y cafwyd 2
brofedigaeth yn yr ychydig fisoedd diwethaf, teimlwyd y byddai’n fwy priodol
ymweld ar ôl i bethau dawelu.
Roedd nifer o’r
Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned wedi cael Clercod newydd. Roedd rhai ohonynt yn brofiadol, ond roedd
eraill heb unrhyw brofiad blaenorol.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’n llunio rhestr o’r Clercod hynny
heb brofiad.
Os bydd cyfarfod
yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod unigolyn di-Gymraeg yn
bresennol, cadarnhawyd y dylid trefnu bod rhywun yno i helpu’r unigolyn
di-Gymraeg drwy egluro iddo beth sy’n digwydd yn y cyfarfod. Mae’r ddeddfwriaeth yn nodi bod rhaid trin y
ddwy iaith yn gyfartal.
Yn ystod y
trafodaethau, cytunwyd i lunio rhestr o Gynghorau i’r Aelodau Annibynnol ymweld
â nhw. Bydd rhestr o gyfarfodydd y
Cyngor Sir yn cael ei dosbarthu, yn ogystal â rhestr o’r Cynghorau Dinas, Tref
a Chymuned sy’n cynnal eu cyfarfodydd drwy gyfrwng y Gymraeg.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y byddai’r
Pwyllgor Safonau’n nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymweld â chyfarfodydd.