Eitem ar yr agenda
CYNLLUN CYFIAWNDER IEUENCTID STRATEGOL TAIR BLYNEDD
Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles (copi ynghlwm) sy’n manylu ar gefndir, diben a bwriadau’r
Cynllun Gwasanaeth Ieuenctid Strategol, a darparu’r drafft terfynol y bwriedir
ei gyflwyno i’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a’i gyhoeddi a’i ddosbarthu
wedyn.
11.30 a.m.
Cofnodion:
Roedd
copi o adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles, a oedd
yn manylu cefndir, pwrpas a bwriadau’r Cynllun Gwasanaeth Ieuenctid Strategol,
ac yn cyflwyni’r drafft terfynol i’w gyflwyno i’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
a’i gyhoeddi a’i ddosbarthu wedi hynny, wedi ei gylchlythyru gyda’r papurau ar
gyfer y cyfarfod.
Mae’r Bwrdd Cyfiawnder
Ieuenctid yn goruchwylio’r system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr ac
yn gweithio i rwystro troseddu ac ail-droseddu gan blant a phobl ifanc dan 18
oed. Mae’n monitro ac yn adrodd ar berfformiad y systemau cyfiawnder ieuenctid
i’r Gweinidog Cartref trwy Gynlluniau Cyfiawnder Ieuenctid Strategol a
gyflwynir bob blwyddyn gan bob Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a thrwy gasglu
data perfformiad. Mae Timau Rhanbarthol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn derbyn
cyflwyniad y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid.
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaeth
Ieuenctid Strategol amlinelliad o’r adroddiad a oedd yn amlygu’r meysydd
allweddol canlynol:-
- agweddau gweithredol a swyddogaethol
y gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid lleol.
- Blaenoriaethau lleol:-
·
Cwsmeriaid syflaenol
·
Cyflwyno gwasanaeth ar gyfer Sir Ddinbych a Chonwy.
- Blaenoriaethau strategol ar
gyfer y 3 blynedd nesaf:-
·
Sut mae’r blaenoriaethau yn helpu cyflawni Uchelgeisiau Strategol a rolau
craidd y Cyngor.
·
Canlyniad ac amcanion
cyflawniad llwyddiannus blaenoriaethau.
- Amcanion gweithredol a gytunwyd ar gyfer 2012-15, sef
blaenoriaethau pellach â thema yn adran 3 y cynllun gweithredol.
Rhoddwyd crynodeb manwl o’r tair adran yng Nghynllun Busnes
Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych 2012-2015 gan Reolwr Strategol y
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Cyfeiriodd yn benodol at y chwech Dangosydd
Perfformiad allweddol a oedd yn manylu:
·
Newydd-ddyfodiaid tro cyntaf
·
Medru cyrchu llety addas.
·
Collfarnau gwarchodol.
·
Cyfraddau ail-droseddu.
·
Cyfranogiad mewn Addysg,
Hyfforddiant a Chyflogaeth.
·
Camddefnyddio Sylweddau
(Gwasanaethau Asesu a Thrin).
Rhoddwyd yr ymatebion canlynol
i gwestiynau a materion a godwyd gan yr Aelodau:-
- Nid oedd y newidiadau yn y
Gwasanaeth Prawf wed cael effaith andwyol ar gyflwyno’r Gwasanaeth Plant a
Theuluoedd. Fodd bynnag, byddai unrhyw effaith yn y dyfodol yn cael ei hadrodd
i’r Aelodau.
- Roedd y Gwasanaeth
Cyfiawnder Ieuenctid yn cael ei fonitro trwy’r chwech Dangosydd Perfformiad
Allweddol, gyda phob aelod staff yn cael mewnbwn i’r system cofnodi data ar ôl
ymgymryd ag asesiadau cynhwysfawr. Rhoddwyd amlinelliad o’r broses graffu
drylwyr i’r Pwyllgor.
- Darparwyd manylion
Cyfranogiad mewn Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth ac amlinellodd Rheolwr
Strategol y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid waith y ddau Swyddog Addysg a
gyflogwyd yn y gwasanaeth. Cadarnhawyd bod asesiadau risg priodol yn cael eu
hymgymryd mewn achosion lle cafwyd problemau ynglŷn ag ymddygiad.
- Roedd holl aelodau staff y gwasanaeth wedi cael archwiliad CRB ac
roedd gwirfoddolwyr yn cael archwiliadau CRB manylach. Esboniwyd y byddai
goblygiadau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn effeithio pob cyfundrefn a
byddai hyn yn cael ei adlewyrchu yn adroddiad y flwyddyn nesaf.
- Esboniwyd bod problemau
ariannu yn cynrychioli’r bygythiad mwyaf i’r gwasanaeth ac amlinellwyd manylion y ffynhonnell
ariannu, a phroblemau cysylltiedig, i’r Pwyllgor.
- Esboniodd y Rheolwr
Strategol Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid bod Cofrestr Risg yn cael ei chadw a
bod Cynllun Gweithredu at y dyfodol yn cael ei ddatblygu. Cadarnhawyd nad oedd
modd darogan newidiadau i’r gwasanaeth a’i bod yn anodd cynllunio ar ei gyfer
gyda newidiadau i’r system remánd yn cael goblygiadau ariannol posibl i
Awdurdodau Lleol, gyda chyfeiriad penodol
at ddefnydd ysbeidiol gwasanaethau yn arwain at gostau gweithredu uwch
i’r darparwr gwasanaeth.
- Amlinellwyd manylion
darpariaeth llety a goblygiadau cyllidebol cysylltiedig gan Bennaeth y
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Mewn ateb i gwestiwn gan y Cadeirydd,
amlinellodd y swyddogion y trefniadau a fodolai i sicrhau diogelwch plant yn y
ddalfa a rhwystro achosion o hunan-niweidio.
Ar ôl trafodaeth fer, fe:-
BENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Craffu
Partneriethau yn derbyn a chydnabod adolygiad Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid
Strategol Conwy a Sir Ddinbych ar gyfer 2012/13.
Dogfennau ategol: