Eitem ar yr agenda
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 1 Mawrth (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2024.
Cywirdeb –
Tudalen 10 (Eitem 6) – dylai’r cofnodion nodi fod Samuel Jones am ymweld â Llangynhafal ac nid Llanfihangel.
Materion yn Codi –
Tudalen 8 – 2il baragraff – cadarnhad bod cofnodion cyfarfod y Fforwm Safonau Cenedlaethol a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2024 bellach wedi cael eu dosbarthu.
Tudalen 8 – 3ydd paragraff – trafodwyd y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ystod y sesiwn hyfforddi cyn y cyfarfod fore heddiw.
Tudalen 8 – 8fed paragraff – taflenni Cadeirio Tudalen 14 – gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad o ystyr y paragraff hwn.
Eglurodd y Swyddog Monitro bod hyfforddiant wedi’i ddarparu yn y gorffennol i Gadeiryddion Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned gan unigolyn nad oedd wedi’i gyflogi gan y Cyngor Sir. Yn anffodus, mae’r unigolyn hwnnw bellach wedi ymddeol. Yn hytrach na chynnig hyfforddiant wyneb yn wyneb, rhannwyd canllawiau i bob Cadeirydd. Roedd y tîm Monitro am edrych ar y ffordd orau o gynnig hyfforddiant a chysylltu ag Un Llais Cymru i holi am unrhyw ddeunyddiau a hyfforddiant buddiol a oedd ar gael.
Tudalen 9 – paragraff olaf – cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai canllawiau ymddygiad ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael ei ychwanegu at raglen waith Gweithdai’r Cyngor. Os na fydd posib canfod lle iddo ar raglen waith Gweithdai’r Cyngor, bydd sesiwn hyfforddi ar wahân yn cael ei threfnu. Bydd y Swyddog Monitro’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Safonau yn y cyfarfod nesaf ym mis Medi.
Tudalen 10 – Penderfyniad ar frig y dudalen –
- Gofynnodd y Cadeirydd am gadarnhad bod adroddiad “Ein Canfyddiadau” wedi cael ei anfon at Arweinwyr y Grwpiau. Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’n holi ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Safonau.
- A oedd y Swyddog Monitro wedi ysgrifennu at y Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned i’w hysbysu am ddyddiadau hyfforddiant? Eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd y dyddiadau hyfforddiant wedi cael eu hanfon oherwydd problemau capasiti. Bydd y tîm Monitro newydd yn cyfarfod ym mis Medi i drefnu dyddiadau hyfforddiant, ac yna’n rhoi gwybod i’r Pwyllgor Safonau amdanynt.
Tudalen 10 – Eitem 6, Ymweld â chyfarfodydd –
- Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’n gwirio gyda Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd pa bryd y byddai dyraniad y cyfarfodydd y gallai Aelodau Lleyg y Pwyllgor Safonau ymweld â nhw yn cael ei ailosod, ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Safonau yn y cyfarfod nesaf ym mis Medi.
- Ar y pwynt hwn, gofynnodd y Cadeirydd a oedd gan unrhyw Gynghorau Dinas, Trefn neu Gymuned Glerc Tref newydd a dibrofiad, gan y gellid eu hychwanegu at y rhestr ymweliadau. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’n chwilio am y wybodaeth hon.
- Gallai Aelodau Lleyg hefyd fynd i gyfarfodydd Cyngor Sir yn bersonol neu arsylwi’r cyfarfodydd dros weddarllediad. Roedd gweddarllediadau’n cael eu cadw ar lein am chwe mis ar ôl i’r cyfarfod ddod i ben. Cadarnhawyd y byddai rhestr o holl gyfarfodydd y Cyngor Sir yn cael eu rhannu ag aelodau’r Pwyllgor Safonau.
Tudalen 11 – Eitem 8, Y Wybodaeth Ddiweddaraf o’r Fforwm Safonau Cenedlaethol. Cynhaliwyd cyfarfod y Fforwm Safonau Cenedlaethol bob chwe mis. Gwahoddwyd Cadeiryddion pob Pwyllgor Safonau i fynychu. Byddai un o chwe Swyddog Monitro Safonau Gogledd Cymru yn mynychu pob cyfarfod ac yna'n adrodd yn ôl i Swyddogion Monitro eraill Gogledd Cymru. Byddai pob Swyddog Monitro yn mynychu un cyfarfod Fforwm bob tair blynedd.
Tudalen 13 –
trydydd paragraff, Adran 15.8 Tudalen 179/180 – unrhyw wybodaeth mewn perthynas
â’r papurau cefndir. Cadarnhaodd y Swyddog
Monitro ei fod yn ceisio arweiniad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, ac y
byddai’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Safonau.
Tudalen 15 – trydydd paragraff – Nid yw Towyn na Bae Cinmel yn Sir Ddinbych. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro ei fod wedi ffonio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i dynnu sylw at y camgymeriad.
PENDERFYNWYD: yn amodol ar yr uchod, derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2024 fel cofnod cywir
o’r trafodaethau.
Dogfennau ategol: