Eitem ar yr agenda
GWASANAETHAU CEFNOGI’R GRANT CYMORTH TAI
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a
Chymunedau (copi ynghlwm) yn ymwneud â nifer o wasanaethau Grant Cymorth Tai.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) cymeradwyo caffael y Contract
“Cadw Fy Nghartref” gyda gwerth uwch o £185,000 i gyfanswm o £685,000 y flwyddyn,
ac yn cytuno i ymestyn y tri chontract presennol i fis Medi 2025 tra bod y
broses gaffael yn digwydd a sicrhau bod darpariaeth gwasanaeth yn cael ei
gynnal. Yn ogystal â hyn, bod y Cabinet
hefyd yn cytuno i amrywio’r contract Wallich presennol i ddarparu gwasanaeth
cyfryngu peilot yn ystod cyfnod yr estyniad i fis Medi 2025. Roedd y cynnig ar gyfer contract 3 blynedd
gyda’r dewis i’w ymestyn am 2 flynedd arall, Ffurflen Gomisiynu (Atodiad 1 yr
adroddiad);
(b) cymeradwyo rhoi tendr agored
ar gyfer Contract y “Gwasanaeth Lloches a Chefnogaeth yn ôl yr Angen” a
ddarperir ar hyn o bryd gan Uned Diogelwch Trais Teuluol Gogledd Cymru. Roedd y cynnig ar gyfer gwasanaeth a ail
gomisiynwyd am 5 mlynedd ynghyd â’r dewis i’w ymestyn am 2 flynedd arall;
(c) cytuno i gyfuno’r 3 prosiect
“Gwasanaeth Cefnogaeth yn ôl yr Angen ar gyfer Iechyd Meddwl” presennol a
ddarperir yn allanol sydd wedi’u contractio ar hyn o bryd tan 31 Hydref 2024 i
un prosiect canolog ac ymgorffori’r gwasanaeth i’r tîm iechyd meddwl a lles
presennol (fel y nodir yn Atodiad 5 yr adroddiad), a hepgor y cyfleuster galw i
mewn er mwyn osgoi’r perygl o fethu â rhoi’r 3 mis o rybudd gofynnol ar 31
Gorffennaf i’r darparwyr contract presennol, a
(d) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried
yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau fel y nodir yn Atodiadau
2 a 4 yr adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad
cyfrinachol a oedd yn darparu gwybodaeth ynghlwm â nifer o Wasanaethau’r Grant
Cymorth Tai a’r argymhellion fel camau gweithredu.
Rhoddwyd gwybodaeth i’r Cabinet ynghlwm â’r
canlynol:
·
y cynnig diwygiedig am
brosiect cymorth cyfannol newydd sy'n ymwneud â thai, “Cadw Fy Nghartref“, sydd
wedi’i gynllunio i gefnogi pobl sy'n byw yn Sir Ddinbych i gynnal eu llety ac
atal digartrefedd
·
cynigion ar gyfer dyfodol y
contract Tai â Chymorth (Lloches a Chefnogaeth yn ôl yr Angen), a oedd yn
cynnig cefnogaeth ar sail anghenion oedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn, i rai
oedd wedi dioddef cam-drin domestig a’u haelwydydd, a
·
cynigion i symleiddio’r
ddarpariaeth oedd ar gael ynghlwm â Darpariaeth Cefnogaeth Iechyd Meddwl yn ôl
yr Angen y Grant Cymorth Tai.
Roedd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a
Digartrefedd a Rheolwr Gwasanaeth – y Gwasanaeth Digartrefedd hefyd yn
bresennol ar gyfer yr eitem hon.
Byddai’r tri phrosiect yn cael eu hariannu’n llwyr trwy Grant Cymorth Tai
Sir Ddinbych, a oedd yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Darparwyd rhagor o fanylion am bob gwasanaeth
cymorth ynghyd â’r rhesymau y tu ôl i argymhellion yr adroddiad. O ran y penderfyniad oedd yn ymwneud â’r
Gwasanaeth Cefnogaeth Iechyd Meddwl yn ôl yr Angen, ceisiwyd cymeradwyaeth i
atal y gallu i’w alw i mewn oherwydd yr terfynau amser caeth oedd ynghlwm â
datblygu’r argymhelliad.
Trafododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a’i
argymhellion gan godi nifer o gwestiynau gyda’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion
ynghlwm â hynny. Eglurodd y swyddogion y
rhesymau dros y penderfyniad i gael contract allanol ar gyfer y prosiect Cadw
Fy Nghartref o ystyried faint o gyllid y Grant Cymorth Tai a’r
arbenigeddau/hyblygrwydd oedd eu hangen gyda nifer o sefydliadau’n cydweithio,
a fyddai hefyd yn lleihau’r costau rheoli ac yn sicrhau gwell gwerth am arian
gyda’r dull hwnnw. Roedd y Gwasanaeth
Cefnogaeth Iechyd Meddwl yn wasanaeth llai gyda llai o risg i ddod â’r
gwasanaeth yn fewnol o ystyried bod gwerth y contract yn llawer is, a’r bwriad
oedd ehangu’r ddarpariaeth fewnol bresennol.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) cymeradwyo caffael y Contract “Cadw Fy
Nghartref” gyda gwerth uwch o £185,000, gan greu cyfanswm o £685,000 y
flwyddyn, ac yn cytuno i ymestyn y tri chontract cyfredol i fis Medi 2025 tra
bo’r broses gaffael yn digwydd a sicrhau bod gwasanaeth yn parhau i gael ei
ddarparu. Yn ogystal â hyn, fod y
Cabinet hefyd yn cytuno i amrywio’r contract Wallich cyfredol i ddarparu
gwasanaeth cyfryngu peilot yn ystod cyfnod yr estyniad i fis Medi 2025. Roedd y cynnig ar gyfer contract 3 blynedd
gyda’r dewis i’w ymestyn am 2 flynedd arall, Ffurflen Gomisiynu (Atodiad 1 i’r
adroddiad);
(b) cymeradwyo rhoi tendr agored ar gyfer
Contract y “Gwasanaeth Lloches a Chefnogaeth yn ôl yr Angen” a oedd yn cael ei
ddarparu ar hyn o bryd gan Uned Diogelwch Trais Teuluol Gogledd Cymru. Roedd y cynnig ar gyfer gwasanaeth wedi’i
ailgomisiynu am 5 mlynedd ynghyd â’r dewis i’w ymestyn am 2 flynedd arall;
(c) cytuno i gyfuno 3 phrosiect cyfredol y “Gwasanaeth Cefnogaeth Iechyd Meddwl yn ôl yr Angen” a oedd
yn cael eu darparu’n allanol ac a oedd wedi’u contractio ar hyn o bryd tan 31 Hydref
2024 yn un prosiect canolog ac ymgorffori’r gwasanaeth i’r tîm iechyd meddwl a
lles presennol (fel y nodir yn Atodiad 5 i’r adroddiad), ac atal y gallu i’w
alw i mewn er mwyn osgoi’r perygl o fethu â rhoi’r 3 mis o rybudd gofynnol ar
31 Gorffennaf i’r darparwyr contract cyfredol, ac yn
(d) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau fel y nodir yn
Atodiadau 2 a 4 i’r adroddiad.
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 11./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 11./2 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 11./3 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 11./4 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 11./5 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 11./6 yn gyfyngedig