Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN GWEITHREDU DIOGELU AR ÔL SIR BENFRO

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid (copi ynghlwm) a oedd yn amlinellu Cynllun Gweithredu Diogelu Plant yn dilyn adroddiad Sir Benfro.

                                                                                                           10.55 a.m.

 

 

Cofnodion:

Roedd copi o gyd-adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid, yn amlinellu Cynllun Gweithredu ar ôl Sir Benfro, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid at fater diogelu plant a’r cyhoeddusrwydd arwyddocaol yn ymwneud ag achosion Jimmy Savile a Bryn Estyn.  Cyflwynodd yr adroddiad a oedd yn amlinellu canfyddiadau cyd-archwiliad AGGCC ac Estyn mewn perthynas â thrin a rheoli honiadau o gamdriniaeth broffesiynol a’r trefniadau ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant yn y gwasanaethau addysg yn Sir Benfro. Nododd yr adroddiad fethiannau arwyddocaol gan yr Awdurdod o ran diogelu plant a chyflwynodd gyfres o ofynion. Roedd Cyd-adolygiad wedi ei wneud i ystyried cynnydd a gwneud argymhellion pellach. Roedd yr adroddiadau hyn yn nodi methiannau ac yn gwneud argymhellion yn y meysydd canlynol:-

 

Recriwtio

Cadw cofnodion

Prosesau, polisïau a gweithdrefnau

Hyfforddiant

Adrodd a chraffu

 

Roedd materion penodol eraill wedi eu hamlygu wedyn a oedd yn ymwneud ag ystafelloedd “seibiant” yn ysgolion Sir Benfro, ac esboniwyd bod gan Sir Ddinbych bolisi cyffredin mewn ysgolion uwchradd ar ‘Ddefnyddio Grym Rhesymol ac Ymyriad Corfforol Cyfyngol’. Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd E.A. Jones, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid bod y polisi wedi ei anfon at ysgolion uwchradd gyda’r nod bod y polisi, neu fersiwn derbyniol ohono, yn cael ei fabwysiadu gan holl gyrff llywodraethol ysgolion uwchradd erbyn y Pasg 2013. Cadarnhaodd mai cyfrifoldeb yr ysgolion fyddai sicrhau bod ganddynt fersiwn derbyniol a gytunwyd o’r polisi. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol amlinelliad o bwrpas a defnydd ystafelloedd “seibiant” yn ysgolion Sir Ddinbych a rhoddodd sicrhad bod disgyblion yn cael eu goruchwylio wrth ddefnyddio  cyfleusterau’r ystafelloedd “seibiant”. 

 

Roedd yr arfer yn Sir Ddinbych ac Awdurdodau eraill yng Nghymru wedi eu harchwilio a’u hadolygu mewn perthynas â chanfyddiadau ac argymhellion y ddau adroddiad, ac roedd camau i wella wedi eu hychwanegu at Gynllun Gweithredu Diogelu, Atodiad 1 i alluogi monitro cynnydd yn gorfforaethol.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu'r camau a gymerwyd gan Sir Ddinbych mewn ymateb i ganfyddiadau’r Arolygiaeth yn Sir Benfro ac roedd yn rhoi gwybodaeth ar weithredu camau yn y Cynllun Camau Diogelu Corfforaethol i fonitro cynnydd. Roedd yn arfarnu trefniadau craffu Bwrdd Diogelu Plant Lleol Conwy a Sir Ddinbych ac yn delio â materion mwy cyffredinol ynghyd â phwyntiau polisi a gweithdrefn. Esboniodd bod rhai materion a godwyd yn y Cynllun Gweithredu Diogelu yn well o gael eu trin gan y Bwrdd Diogelu Lleol, ac roedd y strwythur ar gyfer craffu ar drefniadau diogelu wedi ei amlinellu.

 

Roedd Cynllun Gweithredu Diogelu Sir Ddinbych wedi ei ddatblygu wrth i faterion eraill godi neu gael eu codi yn genedlaethol, gyda chynnydd yn cael ei yrru trwy’r Tîm Rheoli Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg. Nid oedd y trefniadau wedi disodli rhai’r Bwrdd Diogelu Lleol ond roeddynt wedi eu dylunio i sicrhau ffocws priodol ar Sir Ddinbych fel cyfundrefn gorfforaethol gymhleth aml-swyddogaethol.

 

Roedd nifer o bwyntiau a meysydd allweddol wedi eu hamlygu yn yr adroddiad a oedd yn ymwneud ag:

 

·        Archwiliadau CRB/geirda a Pholisïau AD ynghyd â chyrff Diogelu a Thrydydd Sector.

·        Polisïau a Gweithdrefnau Diogelu.

·        Camau cyflogaeth.

·        Llywodraethwyr ysgol.

·        Adrodd i Fwrdd Lleol Diogelu Plant.

·        Rhestr Wirio Archwilio Diogelu Ysgolion.

·        Llywodraethwyr Ysgol gyda chyfrifoldeb am ddiogelu.

·        Ymyraethau Cyfyngol / Ystafelloedd Seibiant mewn Ysgolion / Sefydliadau.

 

Mewn perthynas ag Archwiliadau CRB, Geirda a Pholisïau AD ynghyd â Diogelu a cyrff Trydydd Sector, cadarnhawyd bod archwiliadau CRB yn cael eu gwneud yn gyson gan Sir Ddinbych, gan gynnwys gwirfoddolwyr a oedd yn gweithio’n uniongyrchol â phlant, ac roedd cynnydd manwl ar y gwaith hwn wedi ei gynnwys yn y Cynllun Gweithredu. Cyfeiriwyd at effaith Deddf Amddiffyn Rhyddidau 2012, a oedd yn pennu newidiadau i’r broses archwilio CRB gydag amharodrwydd y CRB i ymgymryd ag archwilad ar unigolion penodol.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai cyflwyniad y Ddeddf yn gwneud archwiliadau CRB yn y dyfodol yn heriol iawn. Rhoddodd y Pennaeth Adnoddau Dynol Strategol fanylion yr archwiliadau CRB a ymgymerwyd mewn perthynas â recriwtio staff o fewn yr Awdurdod, a chadarnhaodd bod yr holl wybodaeth wedi ei chynnwys ar system TRENT a bod cyfeiriadau yn cael eu harchwilio’n flynyddol.

 

Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd J A Davies, ar yr angen i gydnabod a delio â phroblemau a wynebwyd gan ofalwyr ifanc, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid bod ymdrechion yn cael eu gwneud, trwy Strategaeth Gofalwyr ifanc, i wella ymwybyddiaeth mewn ysgolion a broblemau a allai godi i ofalwyr ifanc. Cadarnhaodd bod hyfforddiant yn cael ei roddi i staff i’w cynorthwyo gydag adnabod a delio â phroblemau a wynebwyd gan ofalwyr ifanc.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J. Butterfield, rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fanylion Aelodaeth y Bwrdd Lleol Diogelu Plant, a oedd yn bartneriaeth statudol aml-asiantaeth. Cytunodd y swyddogion bod copïau o’r adroddiad yn ymwneud â ‘Defnyddio Grym Rhesymol ac Ymyriad Corfforol Cyfyngol’ yn cael ei ddosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor i ddibenion gwybodaeth.                                                                                         

 

Ar ôl trafodaeth fer, fe:-

 

BENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau:-

 

(a)   Yn derbyn a chydnabod cynnwys yr adroddiad a’r cynnydd o ran gweithredu’r Cynllun Gweithredu ar Ddiogelu.

(b)   Yn cydnabod rôl a swyddogaethau craffu’r Bwrdd Lleol Diogelu Plant mewn perthynas â gweithgareddau diogelu ledled Conwy a Sir Ddinbych a

(c)    Yn gofyn bod copïau o’r polisi ‘Defnyddio Grym Rhesymol ac Ymyriad Corfforol Cyfyngol’ yn cael eu dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor.

 

Gofynnodd y Cynghorydd J Butterfield bod ei phryderon bod rhai Aelodau etholedig wedi cael mwy o amser nag eraill i fynegi eu barn wrth ystyried eitemau busnes yn cael eu cofnodi. Esboniodd y Cadeirydd iddo wneud pob ymdrech i fod yn deg a di-duedd wrth ddyrannu amser i Aelodau siarad.

 

 

Dogfennau ategol: