Eitem ar yr agenda
DYFARNIAD CYLLID FFYNIANT BRO LLYWODRAETH Y DU (ROWND 3) – ETHOLAETH DYFFRYN CLWYD.
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf
Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi ynghlwm) yn rhoi gwybod i’r Cabinet am y
penderfyniad brys a wnaed i dderbyn y cynnig dyfarniad Grant gan Lywodraeth y
DU, dan Rownd 3 y Gronfa Ffyniant Bro.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) cymeradwyo’r penderfyniad
brys a wnaed gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi mewn
ymgynghoriad â’r Arweinydd/Aelod Arweiniol a’r Dirprwy Arweinydd i dderbyn y
cynnig Grant gan Lywodraeth y DU o £19,973,282 o dan Rownd 3 y Gronfa Ffyniant
Bro.
(b) cadarnhau ei fod yn deall yr
adroddiad a’r newidiadau a wnaed i gais Dyffryn Clwyd i’r Gronfa Ffyniant Bro
fel rhan o broses ddyrannu cyllid Rownd 3 Llywodraeth y DU a’i fod yn derbyn y
Dyraniad Grant Rownd 3 ar gyfer etholaeth Dyffryn Clwyd, a
(c) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau fel y nodir yn
Atodiad 2 yr adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad
yn rhoi gwybod i’r Cabinet am y penderfyniad brys a wnaed gan y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi wrth ymgynghori gyda’r Arweinydd/Aelod
Arweiniol a’r Dirprwy Arweinydd i dderbyn cynnig dyfarnu Grant gan Lywodraeth y
DU o £19,973,282 dan 3edd rownd y Gronfa Ffyniant Bro.
Rhoddwyd rhywfaint o gefndir i’r Gronfa Ffyniant
Bro, gan gynnwys canlyniad rowndiau cynigion 1 a 2 y Gronfa, a’r cynnig gan
Lywodraeth y DU am ddarpar ddyfarniad grant dan rownd 3 o ychydig llai nag £20
miliwn ym mis Tachwedd 2023 yn seiliedig ar arfarniadau blaenorol o geisiadau a
gyflwynwyd dan rownd 2. Ar ôl adolygu’r
cais, roedd y Cyngor wedi gwneud tri addasiad i adlewyrchu’r newidiadau i
amgylchiadau ers ei gyflwyno ym mis Awst 2022 oedd yn ymwneud â thynnu
prosiectau a oedd eisoes wedi cael cyllid o ffynhonnell arall, newid cyfraniad
cyllid cyfatebol y Cyngor o £1.9 miliwn am gyllid y Fargen Dwf, ac addasu
prosiectau i adlewyrchu effeithiau chwyddiant.
Roedd gwerth y Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer yr ardal yn parhau’r un
fath.
Derbyniodd y Cabinet y rhesymeg y tu ôl i’r
penderfyniad brys a wnaed gan nodi’r newidiadau a wnaed i’r cais am gyllid yn
dilyn yr adolygiad diweddar. Fe wnaeth y
Cynghorydd Julie Matthews ailfynegi pwysigrwydd cyfathrebu ac ymgysylltu â’r
cyhoedd am y prosiectau a’r manteision o ganlyniad a holodd am gynlluniau at y
dyfodol ynghlwm â hynny. Eglurodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Amgylchedd y diffyg manylion mewn
prosiectau penodol ar adeg cyflwyno’r cais a rhai wedi’u datblygu’n fwy nag
eraill ac roedd gwaith yn cael ei wneud i wneud i’r uchelgeisiau hynny ffitio o
fewn y gyllideb oedd ar gael. Rhoddodd sicrwydd
ynglŷn â chyfathrebu ac ymgysylltu at y dyfodol, yn enwedig gan fod y
cyllid bellach wedi’i sicrhau. Soniodd y
Cynghorydd Emrys Wynne am y cyfeiriad at y Gymraeg yn yr Asesiad o Effaith ar
Les a gofynnodd am newid y geiriad i gryfhau’r cyfeiriad hwnnw i ddweud “Bydd
byrddau dehongli dwyieithog yn cael eu defnyddio i ddarparu gwybodaeth…”. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol i newid
y geiriad er mwyn eglurder.
Cododd y Cynghorydd Brian Jones nifer o gwestiynau
a phryderon ynglŷn â’r terfynau amser i gwblhau’r prosiectau a oedd wedi’u
rhestru yn yr adroddiad, diffyg manylion o ran prosiectau a chostau, rhinweddau
prosiectau unigol, sicrhau bod ymgynghoriad cyhoeddus yn amserol ar gam priodol
yn y broses, ac unrhyw effaith bosib’ ar y dyfarniad cyllid o ganlyniad i’r
newid i Lywodraeth y DU.
Ymatebodd yr Arweinydd a’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol i’r materion a godwyd fel a ganlyn –
·
roedd yr Adran yn Llywodraeth
y DU wedi newid ei henw o Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau i Adran Tai,
Cymunedau a Llywodraeth Leol ac roedd disgwyl am rywfaint o ganllawiau
cyffredinol am y ffordd y byddai ffyniant bro’n gweithio yn y dyfodol. Fodd bynnag, ni welwyd unrhyw arwydd y
byddai'r dyfarniad cyllid yn cael ei dynnu'n ôl, ac roedd gwaith yn mynd
rhagddo ar gyflawni'r prosiectau
·
cyfeiriwyd at gyfarfod
cychwynnol Bwrdd Tref y Rhyl, a’r cynllun hirdymor ar gyfer y Rhyl yn rhan
ganolog iawn o'r agenda ffyniant bro a'r arwyddion oedd y byddai estyniad i'r
terfynau amser presennol i gwblhau prosiectau heb unrhyw newidiadau sylweddol
wrth symud ymlaen; roedd pwysigrwydd cyfathrebu ac ymgysylltu â'r cyhoedd a'r
gymuned fusnes hefyd wedi'i drafod ac roedd hynny’n cael ei gyfrif yn
hollbwysig gan bawb dan sylw
·
roedd yr Arweinydd wedi
cyfarfod â Gill German AS a Becky Gittins AS ynghlwm â nifer o faterion ac
roedd wedi mynegi pryderon o ran terfynau amser yr agenda ffyniant bro
·
roedd yr adroddiad yn
ymwneud â’r broses o dderbyn y dyfarniad cyllid ac felly nid oedd yn cynnwys
manylion prosiectau unigol. Fodd bynnag,
byddai modd dod ag adroddiad arall ger bron yn trafod manylion prosiectau’n
benodol, neu gynnal gweithdy gyda’r aelodau i drafod rhagor am y
prosiectau. Wedi dweud hynny, roedd y
rhesymau am brosiect y Porth wedi’u nodi ac roedd llawer o waith ymgysylltu
eisoes wedi bod â busnesau cyfagos, aelodau lleol a Chyngor Tref y Rhyl
·
roedd pwysigrwydd
cyfathrebu ac ymgysylltu ynghlwm â phob agwedd ar y rhaglen ffyniant bro wedi’i
bwysleisio a’i nodi sawl gwaith ac fe roddwyd sicrwydd y byddai’n parhau i fod
yn flaenoriaeth o hyn ymlaen hefyd.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) cymeradwyo’r penderfyniad brys a wnaed gan
y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi wrth ymgynghori â’r
Arweinydd/Aelod Arweiniol a’r Dirprwy Arweinydd i dderbyn y cynnig Grant o
£19,973,282 gan
Lywodraeth y DU o dan rownd 3 y Gronfa Ffyniant Bro;
(b) cadarnhau ei fod yn deall yr adroddiad a’r
newidiadau a wnaed i gais Dyffryn Clwyd i’r Gronfa Ffyniant Bro fel rhan o
broses ddyrannu cyllid rownd 3 Llywodraeth y DU a’i fod yn derbyn dyraniad
Grant rownd 3 ar gyfer etholaeth Dyffryn Clwyd, ac yn
(c) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau fel y nodir yn
Atodiad 2 i’r adroddiad.
Ar y pwynt hwn (11.20am), cymerwyd egwyl am luniaeth.
Dogfennau ategol:
- LUF 3 REPORT, Eitem 7. PDF 241 KB
- LUF 3 - Appendix 1 Record Of Decision LUF 3 Acceptance, Eitem 7. PDF 227 KB
- LUF 3 - Appendix 2 WIA_, Eitem 7. PDF 672 KB
- LUF 3 - Appendix 3 2021 14 12 VoC LUF application Cabinet Report_, Eitem 7. PDF 2 MB
- LUF 3 - Appendix 4 2024 02 26 Vale of Clwyd breakdown (V2), Eitem 7. PDF 526 KB