Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PROSIECTAU CRONFA FFYNIANT BRO GORLLEWIN CLWYD: SGWÂR SANT PEDR A PHARC CAE DDÔL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cam nesaf y ddau brosiect Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd yn Rhuthun.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn 

 

(a)      nodi sefyllfa prosiectau Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd a gymeradwywyd yn Rhuthun; 

 

(b)      cymeradwyo cam nesaf y prosiect, dechrau’r dyluniadau manwl, a

 

(c)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gam nesaf dau brosiect Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd yn Rhuthun – gwelliannau i’r Parth Cyhoeddus wrth Sgwâr Sant Pedr a Pharc Cae Ddôl.

 

Roedd y prosiectau wedi’u cymeradwyo o fewn cais y Cyngor am gyllid dan ail rownd Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.  Roedd manylion allbynnau’r contractau a beth roedd pob cynllun yn mynd i’w gyflawni wedi’i nodi yn yr adroddiad, ynghyd â’r cynnydd hyd yma.  Rhoddodd y Rheolwr Traffig a Chludiant drosolwg o’r hyn oedd yn yr adroddiad, yn cynnwys gwaith hyd yma ar brosiectau a manylion y gwaith ymgynghori ac ymgysylltu cynhwysfawr a wnaed, gan gynnwys gyda Chyngor Tref Rhuthun a Grwpiau Ardal Aelodau Rhuthun, a chanfyddiadau a’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ehangach.  Er bod cefnogaeth eang ar gyfer y ddau brosiect, tynnwyd sylw’r Cabinet at y pryderon a nodwyd ar gyfer pob cynllun a’r camau gweithredu arfaethedig i leddfu’r pryderon hynny.  O ran llywodraethu, roedd Grŵp Budd-ddeiliaid wedi’i sefydlu, ynghyd â Bwrdd Prosiect.

 

Roedd y prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol –

 

·       Croesawai’r Cabinet y buddsoddiad yn Rhuthun, gan gydnabod gwelliannau a manteision y prosiectau i’r ardal.  Er bod cefnogaeth leol i’r prosiectau yn gyffredinol, roedd angen ymateb i bryderon a godwyd a lleihau’r effaith ar fusnesau a thrigolion wrth wneud y gwelliannau, a thrafodwyd rhagor am bwysigrwydd cyfathrebu’n barhaus ac yn amserol

·       Sgwâr Sant Pedr – er bod y rhan fwyaf o’r ymatebion i’r ymgynghoriad o blaid y cynigion, byddai camau’n cael eu cymryd i liniaru a mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd, oedd yn cynnwys rhannu adborth o’r ymgynghoriad a pharhau â’r broses ymgysylltu gyda busnesau a thrigolion; gellid ymdrin â phryderon ynghlwm â pharcio ar gam yr ymgynghoriad ar Orchymyn Traffig, lle byddai cyfle i wneud newidiadau i gyfyngiadau parcio, a byddai pryderon am golli masnach yn cael eu datrys gyda threfniadau tebyg i brosiect gwella’r parth cyhoeddus a wnaed yn Llangollen yn ddiweddar a thrwy’r rôl trafod â busnesau a ysgwyddwyd gan y contractwr i weithio’n agos gyda busnesau lleol i amharu cyn lleied â phosib’ arnynt a sicrhau bod problemau’n cael eu dynodi a’u datrys cyn gynted â phosib’

·       Parc Chwarae Cae Ddôl – dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne fod cwestiynau wedi’u codi ynglŷn â threfnu’r gwaith i osod parc chwarae hygyrch newydd i gael ei wneud dros yr haf ac eglurodd ei bod yn rhaid gwario cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer y prosiect cyn diwedd y flwyddyn ac y byddai wedi bod yn annoeth gohirio’r gwaith.  Tynnodd sylw at y cyfleusterau ardderchog oedd yn cael eu gosod, a fyddai’n cyd-fynd â’r uwchgynllun cyffredinol ar gyfer Cae Ddôl ac o fudd i blant a’u teuluoedd yn yr ardal

·       Bloc Toiledau Cae Ddôl – roedd trafodaethau cynnar yn cael eu cynnal gyda Chyngor Tref Rhuthun i weld a fyddai modd iddynt ysgwyddo’r cyfrifoldeb am reoli’r toiledau pe baent yn cael eu hadnewyddu â chyllid y Gronfa Ffyniant Bro; byddai’r aelodau lleol yn cael gwybod am gynnydd drwy’r Grŵp Budd-ddeiliaid a Bwrdd y Prosiect.  Soniodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis am drefniant tebyg gyda Chyngor Tref Corwen, gan annog cyfarfod rhwng y Cynghorau Tref i drafod y trefniant a oedd yn gweithio’n dda yng Nghorwen.  Roedd y Cynghorydd Brian Jones yn poeni am deimladau’r cyhoedd am fuddsoddi mewn cyfleusterau toiledau pan oedd eu dyfodol yn ansicr.  Cadarnhaodd y swyddogion na fyddai unrhyw fuddsoddiad heb sicrwydd am ddarpariaeth yn y dyfodol ac roedd angen ymdrin â’r mater yn ymarferol er mwyn creu cyswllt rhwng gwaith adolygu cyfleusterau cyhoeddus a thrafodaethau am gyllid y Gronfa Ffyniant Bro a buddsoddi mewn cyfleusterau

·       cytunodd y swyddogion i ymateb i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Bobby Feeley y tu allan i’r cyfarfod pan oeddent yn gwybod pwy fyddai’n Gadeirydd ar Fwrdd y Prosiect yn lle’r cyn-AS David Jones ac a oedd unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i drefniadau’r Gronfa Ffyniant Bro ar ôl i Lywodraeth y DU newid yn ddiweddar.  Byddai diweddariadau ar gynigion i Gyngor Tref Rhuthun ysgwyddo cyfrifoldeb am reoli’r toiledau’n dod drwy’r Grŵp Budd-ddeiliaid a Bwrdd y Prosiect

·       Dyluniadau Cysyniadol Sgwâr Sant Pedr – Tynnodd y Cynghorydd Rhys Thomas sylw at y ddelwedd o’r sgwâr gan ddweud nad oedd yn meddwl ei fod yn cyd-fynd â’r ardal o’i amgylch, a’i fod yn tynnu oddi ar werth amgylcheddol a phensaernïol y sgwâr.  Gan gydnabod bod rhaid i’r prosiect beidio ag amharu ar y gwasanaethau oedd o dan y ffordd, gofynnodd am roi rhagor o ystyriaeth i ddarparu rhywfaint o lystyfiant i dorri ar y darn caled mawr.  Nodwyd bod llawer o waith wedi’i wneud ar y dyluniad, yn cynnwys cyfraniadau gan Bensaer Tirlunio, ond cytunodd y swyddogion i ystyried rhagor ar y sylwadau a’r cais.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi sefyllfa prosiectau Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd a gymeradwywyd yn Rhuthun; 

 

(b)      cymeradwyo cam nesaf y prosiect, dechrau’r dyluniadau manwl; ac yn

 

(c)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau fel y nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: