Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR AMDDIFFYN OEDOLION YN SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (copi ynghlwm) o ran perfformiad blynyddol ynglŷn ag Amddiffyn Oedolion mewn cydymffurfiad â Chanllawiau Statudol.     

                                                                                                           9.35 a.m.

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles yn ymwneud â pherfformiad blynyddol ar Amddiffyn Oedolion yn cydymffurfio â Chanllawiau Statudol, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth i alluogi adolygiad o’r cynnydd dros y deuddeg mis diwethaf, ac yn sicrhau bod gofynion polisi amddiffyn oedolion yn rhan o agwedd gyffredinol y gyfundrefn tuag at ddarparu a datblygu’r gwasanaeth.

 

Y ddogfen bolisi allweddol mewn Amddiffyn Oedolion ar gyfer Sir Ddinbych oedd Polisi a Chanllawiau Interim Cymru ar gyfer Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed, a oedd yn seiliedig ar y canllawiau â gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ‘Mewn Dwylo Diogel’. Roedd Fforwm Gogledd Cymru yn monitro datblygiadau i scrhau eu bod wedi eu hymgorffori mewn arferion presennol. Roedd ‘Mewn Dwylo Diogel’ yn amlygu cyfrifoldeb Awdurdodau Lleol wrth gymryd y rôl arweiniol yn y broses. 

 

Bu i’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes grynhoi cynnwys yr adroddiad, a oedd yn cynnwys materion allweddol a meysydd gweithgaredd yn ymwneud ag Amddiffyn Oedolion 2010/11, Hyfforddiant a ddarparwyd gan Sir Ddinbych mewn perthynas ag amddiffyn oedolion, Dangosyddion Perfformiad a Chynllun Gweithredu Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA). Roedd datblygiadau diweddar yn cynnwys:

 

·        Ymgynghori ar Fesur Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym Mawrth 2012.

·        Ystyried y posibilrwydd o gael Cyd-bwyllgor Amddiffyn Oedolion gyda Chonwy.

·        Arolwg Achos Difrifol a ymgymerwyd mewn perthynas ag achos dynes oedrannus a lofruddiwyd gan ei gŵr.

·        Grŵp Gorchwyl a Gorffen a oedd ar hyn o bryd yn ystyried opsiynau i argymell model ar gyfer rheoli gwaith diogelu oedolion yn Sir Ddinbych yn y dyfodol.

·        Datblygu Cynllun Gweithredu gan Bwyllgor Amddiffyn Oedolion Sir Ddinbych.

 

Roedd yr Atodiadau i’r adroddiad yn cynnwys peth o’r data allweddol ar gyfer gwaith amddiffyn oedolion agored i niwed yn Sir Ddinbych yn ystod y flwyddyn. Derbyniodd Sir Ddinbych 244 atgyfeiriad er bod llawer o achosion yn parhau ac roedd casglu data yn anghyflawn.

 

            Atodiad 1 – dangos y grwpiau a effeithiwyd gan gamdriniaeth.

            Atodiad 2 – dangos y mathau o gamdriniaeth yr oedd pobl yn ei dioddef.

            Atodiad 3 – manylu lle’r oedd y gamdriniaeth wedi digwydd.

            Atodiad 4 – adnabod y bobl yr honnwyd eu bod yn gyfrifol am gamdrin.

            Atodiad 5 – dangos statws honiadau.

            Atodiad 6 – dangos y canlyniad i’r dioddefwr honedig.

            Atodiad 7 – dangos y canlyniad i’r un a oedd yn camdrin.

           

Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd J.A. Davies ar yr angen i ddarparu llinell ofal gyfrinachol i oedolion. Esboniodd bod taflenni a ddosbarthwyd ar ran Fforwm Gogledd Cymru a oedd yn cynnwys rhif ffôn anghywir wedi cael eu galw’n ôl lle bo modd, ac roedd rhif ffôn arall wedi ei roddi allan ac wedi ei restru ar eu gwefan. Cytunodd yr Aelodau y dylid ystyried y posibilrwydd o ddarparu llinell ofal i oedolion, ynghyd â manylion y costau dan sylw, yn cael ei archwilio. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J. Butterfield, rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes fanylion y Cynlluniau Byw yn y Gymuned a oedd yn rhedeg yn Sir Ddinbych a chytunodd ystyried y posibilrwydd bod Aelodau’r Pwyllgor Craffu priodol yn ymweld â detholiad o’r cynlluniau a oedd yn rhedeg ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd J R Bartley at Atodiad 3 yr adroddiad a mynegodd bryder ynglŷn â sgiliau’r heddlu a oedd yn delio â dioddefwyr gydag anabledd dysgu. Amlinellwyd manylion y cysylltiadau rhwng Uned Gwarchod y Cyhoedd a POVA, gan roddi sylw penodol at bresenoldeb yr Heddlu ar y Pwyllgor Diogelu Oedolion. Rhoddwyd cadarnhad bod yr Heddlu yn sensitif i faterion yn ymwneud ag oedolion agored i niwed ac i achosion yn ymwneud â phersonau ag anabledd dysgu, a bod yr hyfforddiant priodol wedi ei roddi i heddweision mewn perthynas â hyn. 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes, trwy gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o gamdriniaeth, y gallai fod perygl bod achosion proffil uchel yn arwain at atgyfeiriadau a allai fod yn her i allu’r tîm POVA i ddelio â’r gwaith yn y strwythur presennol. Fodd bynnag, pwysleisiwyd pwysigrwydd cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd ac amlygwyd gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen wrth reoli atgyfeiriadau. Pwysleisiodd y Cynghorydd E.A. Jones arwyddocad sicrhau na fyddai capasiti yn rhwystro neu’n gwrthannog pobl ag anghenion rhag defnyddio’r gwasanaeth.

 

Rhoddwyd yr ymatebion canlynol i faterion a godwyd gan yr Aelodau:-

 

-          Rhoddwyd manylion a gwybodaeth gefndir yn ymwneud â’r Astudiaethau Achos yn yr adroddiad i’r Pwyllgor.

-          Esboniwyd y byddai gofynion hyfforddi staff a safonau ar gyfer gofalwyr a gyflogwyd gan asiantaethau yn cael eu pennu yn y contractau perthnasol a chan AGGCC. Amlinellodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes y sefyllfa yn gyfansoddiadol mewn perthynas â chwmnïau gofal preifat. Cadarnhaodd y gellid cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor yn amlinellu’r gwasanaethau hyfforddi a ddarparwyd gan Gwasanaethau Cymdeithasol, a gofyn am esboniad gan yr Adran Gyfreithiol mewn perthynas â gwahodd cwmnïau gofal preifat i fynychu cyfarfodydd Pwyllgor Craffu.

-          Cyfeiriwyd at honiadau camdriniaeth a amlygwyd yn y wasg yn ddiweddar, gan gyfeirio’n benodol at Adroddiad Waterhouse. Esboniwyd bod archwiliadau yn y cyfnod cynnar ar hyn o bryd, ond y gellid cyflwyno adroddiad ar hyn i’r Pwyllgor ar yr adeg briodol yn y dyfodol os oedd angen.

-          Adroddiad diweddaru ar allu’r gwasanaethau Diogelu Oedolion i ddelio â chynnydd posibl mewn atgyfeiriadau i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu mewn 6 mis.

 

Ar ôl trafodaeth fer, fe:-

 

BENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau:-

 

(a)   Yn cydnabod natur bwysig agwedd gorfforaethol tuag at Ddiogelu Oedolion Agored i Niwed, cyfrifoldeb y Cyngor i ystyried hyn fel maes blaenoriaeth allweddol ac yn cydnabod hyn ynghyd â’r ymroddiad a’r arwyddocad a roddwyd gan Sir Ddinbych i Ddiogelu Plant.

(b)   Argymell y posibilrwydd o ddarparu llinell ofal oedolion.

(c)   Cytuno y dylid gofyn am esboniad gan yr Adran Gyfreithiol o ran rhoi gwahoddiad i gwmnïau gofal preifat fynychu cyfarfodydd Pwyllgor Craffu.

(d)   Gofyn bod y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion yn hystyried ymarferoldeb gwneud trefniadau i Aelodau’r Pwyllgor Craffu priodol ymweld â Chynlluniau Byw yn y Gymuned sy'n rhedeg yn y Sir ar hyn o bryd.

Cytuno bod adroddiad diweddaru ar allu’r gwasanaethau Diogelu Oedolion i ddelio â chynnydd posibl mewn atgyfeiriadau yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu ymhen 6 mis.

 

 

Dogfennau ategol: