Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2023/24

Ystyried a darparu sylwadau ar Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2023/24 (copi ynghlwm) cyn ei gyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a’i gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych (CSDd).

 

10.15am – 11am

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Iechyd a Gofal Cymdeithasol (EH) yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn crynhoi’r cynnydd sylweddol yn yr angen am wasanaethau gofal cymdeithasol a phroblemau recriwtio a chadw yn y sector, felly roedd y cynnydd wedi bod yn arafach ac roedd y perfformiad wedi dirywio yn erbyn y dangosyddion allweddol oherwydd y pwysau. Byddai’r pwyslais yn y dyfodol ar y rhaglen drawsnewid.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg (NS) ei fod yn ofyniad statudol i lunio’r adroddiad a bod ei fformat a’i gynnwys yn cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru, felly roedd cyfyngiadau o ran faint y gallai Cyngor Sir Ddinbych addasu’r adroddiad.  Fodd bynnag, byddai fformat newydd cyn bo hir gan Lywodraeth Cymru.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg (NS) i’r adran, partneriaid a gofalwyr anffurfiol am eu gwaith caled parhaus. Roedd y tîm yn parhau i weithredu fel gwasanaeth cyfunol gydag Addysg a Gofal Cymdeithasol, ac roedd ganddo benaethiaid gwasanaeth ar y cyd ynghyd â chyllideb a chynllun gwasanaeth ar y cyd. 

 

Yna agorodd y Cadeirydd y drafodaeth ar gyfer unrhyw gwestiynau. 

Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd y swyddogion:

  • Bod recriwtio a chadw yn her drwy’r adroddiad cyfan, yn enwedig mewn Gwasanaethau Plant. Nid oedd yr anawsterau a wynebir yma yn newydd i’r cyfnod adrodd hwn, roedd craffu wedi cael gwybod am y mater sawl tro o’r blaen. Roedd yr adran wedi gwneud gwaith penodol pellach, gan edrych ar y rhesymau a roddwyd mewn cyfweliadau gadael, datblygu’r staff presennol, hyrwyddo’r cynnig gweithio'n hyblyg yn barhaus a lobïo’n genedlaethol am gynnydd mewn cyflogau i’r sector. Fodd bynnag, roedd hon yn broblem genedlaethol, nid oedd digon o staff Gwaith Cymdeithasol erbyn hyn ac felly nid oedd digon o weithwyr newydd gymhwyso’n ymuno â’r proffesiwn. Felly hefyd Iechyd Meddwl, roedd prinder cenedlaethol o weithwyr proffesiynol yn y gwasanaeth. Roedd Sir Ddinbych yn edrych ar strwythur presennol y tîm ac yn dyrannu gwaith i ryddhau Ymarferwyr Iechyd Meddwl Cymeradwy i ganolbwyntio ar y gwaith yr oedd yn ofynnol iddynt ei wneud yn statudol. 
  • Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ei bod hi a chyd aelodau Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn lobïo  Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), y Gymdeithas Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac eraill yn barhaus am well cyflog i weithwyr yn y sector gofal, yn cynnwys yr un telerau ac amodau â gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. 
  • Roedd yr adroddiad yn feichus, ac roedd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd (AL) yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y fformat newydd ar gyfer adroddiadau blynyddol yn y dyfodol, ond roedd yn ansicr faint o’u mewnbwn fyddai’n cael ei gynnwys. Byddai’r fformat newydd yn well gobeithio, byddai’n cynnwys adran ar berfformiad gyda data a byddai’n gwahanu gwybodaeth am Wasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant yn gliriach. Croesawyd yr Astudiaethau Achos yn yr adroddiad, oedd yn rhoi darlun defnyddiol o ba mor gymhleth oedd darparu’r mathau cywir o wasanaethau er mwyn bod yn addas i unigolion.   
  • Trafodwyd cynhwysiant digidol a phwysigrwydd estyn allan i breswylwyr hŷn a’r rhai oedd wedi eu heithrio’n ddigidol. Roedd gan y cynllun ‘Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych’ rôl allweddol yn hyn, yn enwedig yn ardaloedd gwledig Sir Ddinbych. Roedd ‘Hyder Digidol’ yn gynllun arall oedd â’r nod o feithrin hyder digidol, wedi’i ariannu drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
  • Anghenion Cymhleth, roedd y pwysau’n dal i gynyddu, oedran cyfartalog y boblogaeth hŷn oedd yn gofyn am ofal preswyl bellach oedd 82 – 83 oed. Roeddent yn defnyddio’r gwasanaethau hyn pan oedd teulu’n methu â darparu’r gefnogaeth angenrheidiol mwyach, felly roedd ganddynt fwy o anghenion pan oeddent yn gofyn am ofal y tro cyntaf. Ers y pandemig, roedd cynnydd wedi bod mewn iechyd meddwl cymhleth ac iechyd meddwl ymddygiadol mewn Gwasanaethau Plant. Roedd llawer o waith ar y gweill gyda phartneriaid, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yr Heddlu ac ati, yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a chefnogi teuluoedd yn gynt. Cynhaliwyd cyfarfodydd Tîm Amlasiantaeth rheolaidd gydag ysgolion, defnyddiwyd y dull Tîm o Amgylch y Teulu a rhannwyd llawer o wybodaeth a data i gefnogi cydweithio effeithiol. 
  • Bu dirywiad yn y perfformiad oherwydd cymhlethdodau’r anghenion oedd gan unigolion, oedd yn golygu bod asesiadau’n cymryd mwy o amser, fodd bynnag, roedd ar y gwasanaeth eisiau i asesiadau o ansawdd gael eu cynnal, felly roeddent yn cymryd mwy o amser.  Roedd recriwtio a chadw yn ffactor arall oedd yn cyfrannu at y dirywiad mewn perfformiad, ynghyd â system newydd o gofnodi data, oedd yn golygu ei bod yn anodd cymharu o un flwyddyn i’r llall. 
  • Dangosodd yr adroddiad mai dim ond chwe chwyn a gafwyd yn erbyn y Gwasanaeth, oedd yn ymddangos yn nifer isel iawn.  Roedd y drefn gwyno yn broses statudol a ddiffiniwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd gan Adran Gwynion Cyngor Sir Ddinbych enw da iawn ac roedd nifer o awdurdodau eraill wedi gofyn iddynt am gyngor i ymdrin â chwynion yn effeithiol. Roedd cyfradd ymateb yr adran i gwynion yn effeithlon iawn. 
  • Roedd digartrefedd yn rhan o gylch gwaith y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd (AL), fodd bynnag, nid oedd angen cynnwys gwybodaeth am ddigartrefedd yn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn yr adran ar gyllid, nodwyd er gwybodaeth bod £4 miliwn o gyllideb £59 miliwn y Gwasanaethau Oedolion ar gyfer darparu gwasanaethau digartrefedd, ariannwyd gweddill y Gwasanaethau Digartrefedd drwy arian grant.  Roedd pobl ifanc digartref rhwng 16-17 oed yn rhan o Gyllideb y Gwasanaethau Plant felly nid oeddent yn cael eu cynnwys yn y ffigwr hwn. 
  • Roedd pontio o Wasanaethau Plant i Wasanaethau Oedolion i gyd yn seiliedig ar gynllunio ymlaen llaw ac ymyrraeth gynnar. Ar gyfer plant ag anableddau, roedd gan Gyngor Sir Ddinbych broses ragorol o gynllunio ymlaen llaw. Fodd bynnag, ar gyfer Plant â phroblemau Iechyd Meddwl oedd yn symud i wasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion, roedd yr adran yn profi pwysau. Roedd y rhai oedd yn gadael gofal, ac oedd yn dal mewn addysg yn aros gyda’r gwasanaeth nes eu bod yn 21 i 25 oed. Roedd gwaith pontio pwrpasol, gweithio gyda digartrefedd, symud ymlaen i dai ac roedd yr hyn oedd ar gael yn gallu bod yn anodd, felly roedd y Gwasanaeth yn edrych ar hyn o bryd ar ffyrdd o ddatblygu cefnogaeth yn y cartref. Ar gyfer pobl ifanc 18 oed mewn gofal preswyl, roedd pontio i lawr i lety â chymorth. Ar gyfer gofal preswyl a maethu, roedd rhaglen o’r enw “pan fyddaf yn barod”, oedd yn golygu nad oedd raid iddynt adael dim ond oherwydd eu bod yn 18 oed. Roedd llawer o gynllunio llwybrau, rheoli arian a sgiliau cyllideb yn agweddau allweddol i’r grŵp oedran hwn. 
  • Y rhaglen Nid er Elw - roedd Pennaeth Gwasanaethau Plant Sir Ddinbych yn Gadeirydd bwrdd Cyfarwyddwyr  Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan ar gyfer y rhaglen benodol hon. Roedd llawer o gwestiynau heb eu hateb am y Bil hwn a gofynnwyd nifer o gwestiynau i Lywodraeth Cymru amdano. Er bod bwriad y rhaglen ‘Nid er Elw’ yn glodwiw, mewn gwirionedd, byddai’n anodd iawn, ac nid oedd yn glir byth ble byddai eithriadau. 
  • Roedd micro ddarparwyr wedi llenwi llawer o fylchau mewn darpariaeth gofal yn y cartref yn y sir, fe’i hystyrid yn gynnig gwerthfawr gan Gyngor Sir Ddinbych gan fod y gwasanaeth a ddarparwyd ganddynt yn golygu nad oedd ar bobl angen gwasanaethau statudol, drwy eu helpu i gadw eu hannibyniaeth. Gallai pob micro ddarparwr ddarparu cefnogaeth a gofal i hyd at bedwar o bobl. Roedd micro ddarparwyr yn darparu gofal a chefnogaeth i tua 200 o breswylwyr i gyd, roedd rhai yn ei ariannu eu hunain. Roedd Sir Ddinbych yn recriwtio, hyfforddi a chefnogi micro ddarparwyr, fodd bynnag, endidau preifat, unigolion hunangyflogedig oeddent yn y bôn. 
  • Ariennir y Tîm Adsefydlu Byd-eang gan y Swyddfa Gartref drwy gyllid ar gyfer Rhaglenni Adsefydlu penodol i ddinasyddion o Affganistan, Syria a Wcráin. Roedd cefnogaeth ariannol i ddinasyddion Wcráin yn prinhau, ond roedd llawer o deuluoedd o Wcráin yn dal i fyw gyda theuluoedd ar hyd a lled y sir ac roeddent yn dal i gael cyllid gan y Swyddfa Gartref. Roedd Canolbwynt Croeso Wcráin wedi cau erbyn hyn, ac roedd y teuluoedd i gyd yn byw mewn cartrefi mwy parhaol. Roedd ychydig o deuluoedd o Affganistan a Syria yn dod i Sir Ddinbych bob blwyddyn, ond roedd y niferoedd yn fach iawn. O ran Ceiswyr Lloches, yn 2023/24 cafodd pob awdurdod lleol ddyraniad o dai y gellir eu defnyddio i letya ceiswyr lloches. Daeth y darparwr dros y Swyddfa Gartref at y Cyngor gydag eiddo roeddent yn eu cynnig y dylid eu defnyddio ar gyfer hyn a sut y byddent yn cael eu gwella i gyrraedd y safon. Roedd y cyllid ar eu cyfer yn swm untro fesul gwely. Ar hyn o bryd, roedd tri neu bedwar teulu wedi’u lletya yn Sir Ddinbych ac roedd y Tîm Adsefydlu Byd-eang yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru ac Adran Gwarchod y Cyhoedd Sir Ddinbych o ran Ceiswyr Lloches. Ni ddefnyddir unrhyw gyllid gofal ar gyfer y rhaglenni adsefydlu.
  • Yn y dyfodol agos, bydd y sefyllfa’n heriol, nid oedd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddiogel rhag gorfod gwneud arbedion sylweddol yn y gyllideb, byddai perfformiad yn dirywio mewn rhai meysydd, mae’n debyg y byddai angen i’r cynnig cymorth fod yn llai, fodd bynnag, gwneir pob ymdrech i gynnal y gwasanaeth i’r rhai mwyaf diamddiffyn.

Ar ddiwedd trafodaeth fanwl, diolchodd y Pwyllgor i’r Cyfarwyddwr am adroddiad cynhwysfawr oedd yn rhoi cyfrif didwyll o berfformiad y Gwasanaeth ynghyd â’r pwysau oedd arno i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i breswylwyr y Sir ar adeg o gynni ariannol.  

 

Felly:

Penderfynodd y Pwyllgor: yn amodol ar y sylwadau uchod –

(i) dderbyn yr adroddiad a’i gymeradwyo fel cyfrif clir o berfformiad Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol y Cyngor yn 2023/24; a

(ii) chydnabod y pwysau ariannol ac ar adnoddau yr oedd disgwyl i Wasanaethau weithio ynddynt ar hyn o bryd.

 

Gohiriwyd y Pwyllgor am egwyl am 11.20am ac ailymgynnull am 11.30am

 

 

 

Dogfennau ategol: