Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 46/2023/0719/ PF - PARC BUSNES NEW VISION, FFORDD GLASCOED, LLANELWY, LL17 0LP
Ystyried cais ar
gyfer adeiladu 2 uned fasnachol (Dosbarth Defnydd D1) gan gynnwys creu llefydd
parcio, gwaith tirlunio a gwaith cysylltiedig (diwygiad i’r defnydd B1 a
gymeradwywyd yn flaenorol) (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i godi 2 uned fasnachol gan
gynnwys creu maes parcio, tirlunio a gwaith cysylltiedig.
Siaradwr Cyhoeddus - Steve Grimster
(o blaid) fel y dogfennwyd gan
Swyddogion, roedd y tir dan sylw wedi'i neilltuo ers tro ar gyfer defnydd
swyddfa B1 yn y CDLl, gan ffurfio rhan o Barc Busnes Llanelwy. Sicrhaodd y tir
ganiatâd cynllunio am y tro cyntaf ar gyfer defnydd swyddfa yn 2006, a gafodd
ei ymestyn wedi hynny.
Er bod rhywfaint o ofod swyddfa wedi'i ddarparu ar y tir cyfagos, nid oedd
yr ymgeisydd wedi gallu dod o hyd i ddeiliad ar gyfer gweddill ei ddatblygiad,
a elwir yn Barc Busnes New Vision. Gwnaed popeth posibl i wneud iddo lwyddo.
Roedd pandemig covid wedi lleihau'r galw am ofod swyddfa ymhellach, oherwydd
mwy o weithio hyblyg.
18 mlynedd ar ôl rhoi caniatâd cynllunio cyntaf ar y safle, daeth
defnyddiwr at yr ymgeisydd, a oedd yn ceisio cyfleuster newydd, modern a
phwrpasol yn benodol yn Llanelwy, i ddarparu triniaethau clinigol, meddygol a
chosmetig fel defnydd D1.
I’r perwyl hwn, rhoddwyd y sylwadau a ganlyn:
·
Derbyniodd y Cyngor fod y tir dan sylw wedi’i farchnata’n briodol, ac nad
oedd unrhyw ddiddordeb yn y tir ar gyfer y defnydd a ganiatawyd.
·
Roedd y CDLl a’r polisïau sydd ynddo bellach wedi dod i ben, yn cwmpasu’r
cyfnod hyd at 2021. Fodd bynnag, yn absenoldeb CDLl Newydd, maent yn parhau i
fod yn sail ar gyfer gwneud penderfyniadau, yn cynnig hyblygrwydd cyfyngedig i
ddefnyddiau amgen gael eu hystyried ar y safle pan oedd yn amlwg nad oedd
unrhyw alw am y defnydd B1 a neilltuwyd. Gallai'r dull hwn arwain at y
buddsoddiad arfaethedig a 30-50 o swyddi'n mynd y tu allan i'r Sir;
·
Gofynnodd yr ymgeisydd am farn bragmatig wrth ystyried argaeledd tir ac
adeiladau eraill. Mae’r defnyddiwr terfynol eisiau bod yn Sir Ddinbych, yn agos
at Ysbyty Glan Clwyd i gefnogi gwasanaethau’r GIG, a’r rhwydwaith priffyrdd i
wasanaethu trigolion y Sir. Nid oeddent am fod yn Sir y Fflint na Chonwy;
ystyriwyd bod asesiad o'r tir a'r adeiladau sydd ar gael yn y Siroedd hynny yn
ormodol ac y gallai unwaith eto lywio buddsoddiad y tu allan i Sir Ddinbych;
·
Ar y mater hwn, 'roedd yr ymgeisydd yn ymwybodol nad oedd y Cyngor wedi
cymhwyso ystyriaethau prawf dilyniannol wrth ganiatáu cais ôl-weithredol i
newid defnydd o B1 i D1 ym Mharc Busnes Rhuthun ym mis Ionawr. Nid yw'n glir
pam bod dull gwahanol o ymdrin â'r prawf dilyniannol bellach yn cael ei roi ar
waith. Fodd bynnag, mae'n dangos y gall
defnyddiau B1 a D1 fodoli gyda’i gilydd ar Barc Busnes;
·
O ran hygyrchedd, derbyniwyd y byddai rhywfaint o ddibyniaeth ar y maes
parcio preifat. Nid oedd hynny’n wahanol i’r defnydd B1 a ganiatawyd. O ran
lleoliad, y safle oedd yr agosaf at Lanelwy, dim ond milltir o'r terfynau
datblygu. Roedd gwasanaeth bws bob awr, a byddai ymwelwyr yn gallu aros y tu
mewn i'r adeilad cyn dychwelyd i'w cyrchfan. Ar gyfer y defnyddiwr terfynol,
roedd angen cael cydbwysedd rhwng agosrwydd at Lanelwy, yr Ysbyty a'r A55.
Byddai’r pecyn o
fanteision economaidd, cymdeithasol ac iechyd a gynigir yn sylweddol, heb
unrhyw effeithiau amgylcheddol annerbyniol. Nid oedd unrhyw seiliau technegol
dros wrthod.
Trafodaeth Gyffredinol –
Dywedodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Peter
Scott, bod y cais hwn yn gyfle gwych i ddod â 30-50 o swyddi proffesiynol i'r
ardal a darparu gwasanaeth deintyddiaeth y mae mawr ei angen. Roedd Llwybr
Teithio Llesol newydd yn cael ei ddatblygu ar Green Gates East a Green Gates
West, a fyddai’n cysylltu safle’r Parc Busnes â Llanelwy. Teimlai y byddai’r
cais hwn yn ased i Lanelwy.
Roedd y Rheolwr Datblygu yn deall sylwadau’r
aelodau lleol ac eglurodd fod argymhelliad y swyddog i wrthod y cais yn
seiliedig ar ymagwedd Swyddogion at geisiadau defnydd amgen eraill ar y Parc
Busnes. Roedd D1 yn gategori o fewn y gorchymyn dosbarthiadau defnydd cynllunio
sy’n delio â sefydliadau amhreswyl, gan gynnwys gwasanaethau meddygol neu
iechyd. Roedd y cais yn ymwneud â defnydd categori D1 yn unig, ac adeiladu
strwythur newydd a oedd yn mynd i gynnwys defnydd D1.
Argymhellodd y Cynghorydd Andrea Tomlin i’r
Pwyllgor ganiatáu’r cais gydag amod ychwanegol ar gategori D1, yn cyfyngu’r
defnydd ar gyfer gwasanaethau meddygol ac iechyd yn unig.
Cynnig – Cynigiodd y
Cynghorydd Andrea Tomlin bod y cais yn cael ei ganiatáu yn erbyn argymhelliad y
cynnig, gydag amod ychwanegol ar gyfer defnydd cyfyngedig D1, a SECCONDWYD gan
y Cynghorydd Karen Edwards.
Pleidlais –
O blaid – 16
Yn erbyn – 0
Ymatal – 0
PENDERFYNWYD: CANIATÁU'R
cais yn groes i argymhelliad y swyddog, gydag amod ychwanegol ar gyfer defnydd
cyfyngedig D1.
Dogfennau ategol: