Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 40/2023/0627/ PF - TIR YM MRYN MORFA, BODELWYDDAN, Y RHYL

Ystyried cais ar gyfer dymchwel annedd ac adeiladu 31 o anheddau fforddiadwy newydd gan gynnwys mynediad newydd i gerbydau, ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer dymchwel annedd ac adeiladu 31 o anheddau fforddiadwy newydd gan gynnwys mynediad newydd i gerbydau, ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig.

 

Siaradwr Cyhoeddus – Saul Page (yn erbyn) yn byw ar y stryd am 7 mlynedd roedd llawer o bryderon am y cais oedd wedi ei gyflwyno ar gyfer y tir gwyrdd ger yr ardal breswyl bresennol. 

 

Roedd y gwrthwynebiadau yn erbyn y cais fel a ganlyn –

·       Colli tir gwyrdd.

·       Roedd posibilrwydd i brisiau tai ostwng gan na fyddai'r stryd bellach yn ffordd bengaead.

·       Roedd difrod i gerbydau yn bryder gyda'r cynnydd mewn traffig oherwydd y stryd gul.

·       Pryderon ynglŷn â diogelwch plant yn chwarae tu allan gan y byddai'r stryd yn dod yn ffordd drwodd i'r datblygiad newydd, gyda chynnydd mewn cerbydau adeiladu yn ystod y gwaith.

·       Plant yn cael eu gorfodi i chwarae y tu mewn, gan gyfyngu ar fynediad i’r awyr agored.

I gloi, roedd y Pwyllgor yn awyddus i ymweld â'r safle i weld sut y byddai'r mewnlifiad traffig yn effeithio ar y stryd gul cyn gwneud penderfyniad ar y datblygiad.

 

Siaradwr Cyhoeddus – Endaf Roberts (o blaid) - mae angen tai fforddiadwy yn Sir Ddinbych ac roedd yr angen presennol sydd heb ei ddiwallu yn arwain at drigolion yn byw mewn gwestai.

 

Byddai’r cais hwn yn cyfrannu at ddarparu cartrefi fforddiadwy yn Sir Ddinbych. Roedd y safle mewn ardal hynod gynaliadwy ym Modelwyddan, gyda chysylltiadau cludiant cyhoeddus. Roedd y safle ar hyn o bryd mewn perchnogaeth breifat heb unrhyw fynediad cyhoeddus. Roedd yr aneddiadau yn y cynnig yn amrywio o eiddo 1 ystafell wely i gartrefi teuluol mwy, a fyddai’n diwallu’r angen yn uniongyrchol. 

 

Roedd yr ymgeisydd wedi darparu gwybodaeth ychwanegol ar faterion tir amaethyddol, priffyrdd a gofynion ecolegol.

 

Nodwyd bod materion priffyrdd wedi eu hamlygu fel pryder ac atgoffwyd yr aelodau na wrthodwyd cynllun marchnata tebyg ar yr un safle lle disgwylir i berchenogaeth ceir fod yn llawer uwch na'r cynnig hwn ar sail priffyrdd.   

 

Roedd y safle mewn lleoliad cynaliadwy ac yn darparu mathau a chymysgedd o dai yr oedd dirfawr eu hangen yn yr ardal.

 

Gofynnwyd yn garedig am ganiatâd cynllunio i'r cais er mwyn gallu mynd i'r afael â rhan o'r argyfwng tai yn yr ardal.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Dywedodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Raj Metri ei fod yn deall pryderon y trigolion ond bod y boblogaeth yn cynyddu a'r angen am dai yn cynyddu.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am wybodaeth gan swyddogion ar y mater bod y cais y tu allan i'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a’r rheswm y derbyniwyd y cais i ddod gerbron y Pwyllgor Cynllunio, yn ogystal â’r pryderon a godwyd am y briffordd.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio nad oedd y safle yn y CDLl a’i fod y tu allan i ffin y datblygiad. O fewn y CDLl mabwysiedig roedd polisi eithriadau (polisi BSC8) a oedd yn caniatáu ar gyfer anheddau y tu allan i ffin y CDLl pe bai'r cais yn amlygu'r angen am dai fforddiadwy. Ni allai 55% o aelwydydd yn ardal Bodelwyddan fforddio rhentu na phrynu eiddo ac am y rhesymau hyn argymhellodd swyddogion ganiatáu'r cais.

 

Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Rheoli Datblygiadau, Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd wrth y Pwyllgor fod y cynnig ar gyfer 31 o unedau preswyl ac y byddai mynediad uniongyrchol i'r safle o ffordd bengaead Bryn Morfa a oedd yn gwasanaethu tua 40 o eiddo preswyl ar hyn o bryd. Mae stryd Bryn Morfa oddeutu 6m o led, gyda llwybrau troed ar y ddwy ochr yn cwrdd â Ronalds Way ar gyffordd a reolir yn ôl blaenoriaeth. Mae datganiad cludiant wedi’i gynnwys gyda'r cais.  Roedd y mewnlif traffig prysur yn y bore i'r datblygiad yn 4 cerbyd, a 15 cerbyd yn y prynhawn, ac all-lif traffig prysur yn y bore yn 15 cerbyd a 7 cerbyd yn y prynhawn. Byddai Cynllun Rheoli Traffig adeiladu ar waith cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau. Teimlwyd bod natur a graddfa'r datblygiad arfaethedig yn annhebygol o achosi swm andwyol o draffig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jon Harland ei fod yn deall bod angen tai, ond nid oedd y safle hwn yn addas. Byddai glaswelltir a llwyni yn cael eu dinistrio ac roedd prinder carbon yn barod.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Jon Harland wrthod y cais, ac EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

Pleidlais –

O blaid - 4

Yn erbyn – 12

Ymatal – 0

 

Roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn cydnabod y prinder tai yn yr ardal a dywedodd fod swyddogion wedi gwneud gwaith i warchod elfen amgylcheddol y cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu wrth y Pwyllgor fod y Tîm Cynllunio wedi cysylltu ag Ecolegydd y Sir ynghylch diogelu gwahanol lefelau o Fioamrywiaeth. Ar ôl pwyso a mesur, roedd yr angen am dai ychwanegol yn drech na rhai o'r ystyriaethau ynghylch mannau gwyrdd, a mater i'r Pwyllgor oedd gwneud penderfyniad gwybodus.

 

Cynnig –

Cynigodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Alan James.

 

Pleidlais –

O blaid - 12

Yn erbyn – 4

Ymatal – 0

 

PENDERFYNWYD: y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.

 

 

Dogfennau ategol: