Eitem ar yr agenda
CYNGOR SIR DDINBYCH STRATEGAETH HINSAWDD A NATUR 2021/22 - 2029/30 - ADOLYGU AC ADFYWIO BLWYDDYN 3
Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd Dros Dro (copi ynghlwm) i'w fabwysiadu gan y Cyngor.
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod
Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd Barry Mellor, adroddiad
Strategaeth Hinsawdd a Natur Cyngor Sir Ddinbych (2021/22–2029/30) – Adolygiad
ac Adnewyddiad Blwyddyn 3 (wedi’i ddosbarthu ymlaen llaw).
Diolchodd y
Cynghorydd Mellor i'r Cabinet am gefnogaeth unfrydol yr holl ffordd drwy waith
caled yr adolygiad o'r Strategaeth yr oedd angen ei wneud bob tair
blynedd. Roedd grŵp trawsbleidiol
wedi'i ffurfio a diolchodd y Cynghorydd Mellor i holl aelodau'r grŵp am eu
cyfraniad. Diolchodd yn arbennig i ddau
aelod y Blaid Werdd am eu mewnbwn.
Manteisiodd y
Cynghorydd Mellor ar y cyfle hefyd i groesawu Jane Hodgson, y Rheolwr Newid
Hinsawdd, yn ôl i Gyngor Sir Ddinbych.
Roedd y Cyngor
wedi datgan Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol ym mis Gorffennaf 2019,
gan ymrwymo i fod yn Gyngor Sero Net erbyn 2030 fan bellaf a gwella
bioamrywiaeth ar draws y Sir.
Mabwysiadwyd y
Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol (2021/22–2029/30) ym mis
Chwefror 2021. Yn ogystal â bod yn Sero
Net erbyn 2030, roedd y Cyngor i leihau’r allyriadau carbon o’r nwyddau a’r
gwasanaethau oedd yn cael eu prynu (cadwyn gyflenwi’r Cyngor) o 35% erbyn
2030. Fe wnaeth y Cyngor hefyd newid y
Cyfansoddiad ym mis Hydref 2020 fel bod rhaid i bob penderfyniad gan y Cyngor
roi ystyriaeth i fynd i’r afael â newid hinsawdd a newid ecolegol.
Roedd y
Strategaeth i gael ei hadolygu a’i hadnewyddu bob tair blynedd. Adolygiad ac
adnewyddiad swyddogol cyntaf y Strategaeth oedd yr un yn 2023/24 ac roedd
proses drylwyr wedi’i chwblhau yn rhan o’r adolygiad a’r adnewyddiad hwnnw.
Fe wnaeth y
Cyfarwyddwr Corfforaethol – Llywodraethu a Busnes ac Uwch Berchennog Cyfrifol y
Rhaglen Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol, Gary Williams, hefyd ddiolch i Reolwr
Dros Dro’r Rhaglen Newid Hinsawdd, Liz Willcox-Jones,
yr holl swyddogion a’r Grŵp Trawsbleidiol am eu gwaith ar yr adolygiad a’r
adnewyddiad.
Roedd y
gweithgarwch a oedd wedi’i wneud yn rhan o’r adolygiad a’r adnewyddiad i’w weld
yn Atodiad 3 i’r adroddiad.
Roedd y prif
feysydd yn y Strategaeth a adolygwyd ac a ddiweddarwyd yn cynnwys –
- Newid yr enw i Strategaeth Hinsawdd a Natur
Cyngor Sir Ddinbych (2021/22–2029/30) o Strategaeth ar Newid Hinsawdd a
Newid Ecolegol Cyngor Sir Ddinbych (2021/22–2029/30).
- Ychwanegu tair adran newydd –
Ø Lleihau allyriadau a chynyddu amsugniad ar
draws Sir Ddinbych
Ø Datblygu ein gwytnwch ar draws y sir, ac
Ø Adfer natur ar draws Sir Ddinbych.
- Cyflwynwyd atodiad technegol hefyd, oedd yn
cynnwys mwy o wybodaeth am feysydd lle’r oedd cyflawni’r targed
angenrheidiol yn profi’n her.
Roedd
ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein wedi’i gynnal rhwng 25 Mawrth a 20 Mai. Cafwyd 336 o ymatebion ac roedd 88% o’r
preswylwyr a oedd wedi ymateb yn cytuno y dylai’r Cyngor fabwysiadu’r ddogfen
oedd wedi’i hadolygu fel ei Strategaeth.
Er mwyn galluogi
i’r ddogfen sylweddol gael ei deall yn haws, roedd crynodeb gweithredol o’r
Strategaeth wedi’i lunio ynghyd â fersiwn i bobl ifanc.
Dywedodd y
Cynghorydd Martyn Hogg fod y broses a’r lefel o ymgysylltu wedi bod yn
dda. Byddai cyrraedd statws sero net yn
anodd a byddai angen i bawb wneud mwy.
Dywedodd yr
Aelodau y byddai cyrraedd statws sero net erbyn 2030 yn her ac yn anfforddiadwy.
Codwyd y cwestiwn pam nad 2050 oedd y dyddiad, a fyddai’n ymarferol, a
dyna oedd y dyddiad roedd Llywodraeth Cymru’n gweithio tuag ato. Fe wnaeth Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth
Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac
Asedau gadarnhau nad oedd uchelgais LlC wedi newid ac
mai Cymru sero net erbyn 2050 oedd y targed wedi bod erioed, ond roedd targedau
wedi bod ar gyfer y sector cyhoeddus erbyn 2040. Cadarnhawyd y byddai’r uchelgais o 2030 yn
aros i sicrhau bod cymaint â phosib’ yn cael ei gyflawni, yn ddibynnol ar
gyfyngiadau.
Roedd adroddiad
Archwilio Cymru wedi dweud bod angen i’r sector cyhoeddus fod yn fentrus a
gwneud penderfyniadau cadarn ac roedd adroddiad y Strategaeth wedi bod yn
adroddiad gonest a beiddgar am y ffordd ymlaen.
Yn ystod y
trafodaethau, codwyd yr elfen ariannol o gyrraedd statws sero net. Byddai’n costio £48 miliwn i gyrraedd statws
sero net dros y chwe blynedd nesaf. Gan
fod CSDd ac awdurdodau lleol eraill yn wynebu
argyfwng ariannol, holwyd sut roedd hyn am gael ei ariannu.
Atebodd Pennaeth
y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau gan ddweud
bod yr arfarniad ariannol wedi bod yn seiliedig ar y carbon a gafodd ei arbed
yn y tair blynedd gyntaf, faint roedd hynny wedi’i gostio ac yna ymestyn hynny
ar gyfer beth oedd ei angen yn y dyfodol.
Nid oedd yn cynnwys y gofynion statudol ynghlwm â datgarboneiddio stoc
dai CSDd.
Byddai’r gwaith i gael ei wneud ar y stoc dai’n
cael ei ariannu drwy’r Cyfrif Refeniw Tai.
Roedd yn bwysig
nodi nad oedd disgwyl i’r cyllid ar gyfer y cynlluniau oedd angen eu cyflawni
ddod o gyllideb CSDd yn unig. Roedd y prosiectau a oedd wedi’u cyflawni hyd
yma wedi’u hariannu gyda chyfran o 36% o gyllid grant allanol – canran roedd y
Cyngor am geisio ei chynyddu dros y blynyddoedd nesaf. O fewn y cynllun ariannol tymor canolig roedd
darpariaeth o £250,000 i ariannu benthyca darbodus.
Cadarnhawyd bod
nifer o ffynonellau cyllid nad oeddent wedi’u labelu fel grantiau hinsawdd ond
y gellid eu cynnwys ac ymgeisio amdanynt yn rhan o’r agenda hon.
Ni fyddai tir
amaeth oedd yn eiddo i CSDd ond yn cael ei osod ar
rent i ffermwyr oedd yn denantiaid yn cael ei gynnwys yn yr ystadegau.
Nodwyd yn yr
adroddiad y byddai cynnydd yn y coedwigoedd a’r coetir roedd y Cyngor yn gofalu
amdanynt. Gofynnwyd am ffigyrau’r costau
a chadarnhaodd y swyddogion y byddent yn rhannu’r ffigyrau ar ôl y cyfarfod.
Codwyd mater
ynghlwm â thorri glaswellt ond peidio â chlirio’r glaswellt wedyn. Cadarnhawyd bod contractwyr ar hyn o bryd yn
torri glaswellt ond y byddent yn clirio’r glaswellt hwnnw cyn gynted â phosib’. Roedd gwaith yn cael ei wneud gyda’r tîm
Cyfathrebu i gyfleu’r neges a byddai’r contractwyr yn torri mwy ar ddiwedd y
tymor.
PENDERFYNWYD –
(i)
Bod y Cyngor yn mabwysiadu Strategaeth Hinsawdd a Natur Cyngor Sir Ddinbych
(2021/22–2029/30) (Atodiad 1);
(ii)
Bod y Cyngor yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad
o Effaith ar Les yn rhan o’i ystyriaethau (Atodiad 2).
Dogfennau ategol:
- Year 3 Review and Refresh of Denbighshire’s Climate and Nature Strategy -Council Paper- 09.07.24 CYMRAEG, Eitem 5. PDF 224 KB
- Appendix 1 - YEAR 3- DCC Climate Ecological Change Strategy - FINAL, Eitem 5. PDF 2 MB
- Appendix 2 - Revised Climate and Ecological Change WIA, Eitem 5. PDF 122 KB
- Appendix 3- Activity Undertaken as part of the review, Eitem 5. PDF 99 KB
- Appendix 4-Strategy Review Consultation 2024 - You Said We Did, Eitem 5. PDF 187 KB
- Appendix 5 - Climate and Nature Strategy - Exec Summary, Eitem 5. PDF 123 KB
- Appendix 6 - CLIMATE STRATEGY - Youth version- Revised June 2024, Eitem 5. PDF 302 KB
- Appendix 7- Notable Risks, Eitem 5. PDF 69 KB
- Appendix 8- power to make the decision further detail, Eitem 5. PDF 80 KB