Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 01/2020/0315/ PF - HEN YSBYTY GOGLEDD CYMRU

Ystyried cais am drosi ac adnewyddu, dymchwel yn rhannol ac addasu'r prif adeiladau rhestredig at ddefnydd preswyl (34 annedd); dymchwel cartref nyrsys, marwdy, ward ynysu, Ward Aled a’r hen waith nwy; datblygu tir o fewn libart yr ysbyty at ddefnydd cymysg i alluogi datblygu, yn cynnwys hyd at 300 o unedau preswyl a hyd at 1114 metr sgwâr o unedau busnes (yn cynnwys cymysgedd o ddefnydd A1, A2, A3, B1, C1, C2, C3, D1 a D2); lleoli Clwb Criced Dinbych ac adeiladu mynediad a gwneud y gwaith draenio a gwaith arall cysylltiedig (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer newid, adfer, dymchwel yn rhannol ac addasu prif ystod yr adeiladau rhestredig i ddefnydd preswyl (34 annedd); dymchwel Cartrefi Nyrsys, Marwdy, ward ynysu, Ward Aled a hen adeilad gwaith nwy; a datblygu tir o fewn safle’r ysbyty ar gyfer defnydd cymysg i alluogi datblygiad, gan gynnwys hyd at 300 o unedau preswyl a hyd at 1114 metr sgwâr o unedau busnes; lleoli Clwb Criced Dinbych; ac adeiladu mynedfa, system ddraenio a gwaith cysylltiedig.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd yr aelodau at nodiadau’r swyddogion yn y papurau ategol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Datblygu gefndir byr i'r cais i'r Pwyllgor.

 

Cyflwynwyd a thrafodwyd y cais cynllunio’n wreiddiol gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych ddydd Mercher 8 Medi 2021. Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn amodol ar ddychwelyd manylion y cytundeb cyfreithiol ac amodau cynllunio i’r Pwyllgor Cynllunio i benderfynu arnynt ymhellach. Byddai'r Aelodau'n ymwybodol bod hwn yn brosiect mawr i Ddinbych a Sir Ddinbych. Roedd y safle yn cynnwys adeilad rhestredig o bwysigrwydd cenedlaethol, a bwriedir adfer a throsi'r adeilad hwn fel rhan o'r cynnig. Roedd y Prosiect yn cynnwys galluogi datblygiadau sy'n ymwneud ag adeiladu tai o fewn y tir, er mwyn cefnogi gwaith adfer ac addasu'r prif adeilad rhestredig. Roedd angen cynhyrchu swm sylweddol o arian y Sector Cyhoeddus er mwyn gwneud y prosiect yn hyfyw, a chyllid oedd un o’r prif resymau dros yr oedi ers mis Medi 2021. Roedd llawer o reolaethau deddfwriaethol yr oedd angen eu hystyried, a oedd yn cynnwys sgyrsiau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Ecolegydd y Sir a’r Tîm Priffyrdd, er mwyn sicrhau y gellid cyflawni’r prosiect ac ystyried amser a’r effeithiau ar Ddinbych a’r ardaloedd cyfagos.

 

Yn olaf, gydag unrhyw gytundeb cynllunio cyfreithiol, roedd angen cytundeb rhwng y datblygwr a'r awdurdod. Teimlai swyddogion bod y lefel hon o gytundeb wedi'i chyflawni a'u bod yn hyderus gyda’r manylion o ran amser a chyflawniad, a oedd yn gwneud y cynllun yn ymarferol.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Diolchodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Delyth Jones i'r swyddogion am eu gwaith ar y cais hwn ar gytundeb Adran 106. Gan gyfeirio at ohirio’r eitem o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ym mis Mai 2024, gofynnwyd a oedd yr Adran Gyfreithiol yn fodlon â’r amodau sydd bellach wedi’u cynnwys yn y cais. Cyfeiriwyd at elfennau Bioamrywiaeth a Chadwraeth y cais, ac amlygwyd eu bod yn hollbwysig i lwyddiant a chyflawniad y prosiect hwn.  Gofynnwyd am eglurder ynghylch cadw adeilad Ward Aled yn ystod y cyfnod adeiladu. Codwyd cwestiynau ynghylch pwy fyddai'n gyfrifol am y safle a chodwyd pryderon hefyd ynghylch y cyllid sydd ar gael. Gofynnwyd am eglurhad ar gludiant a llwybrau Teithio Llesol i'r safle.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu sut y byddai Ecoleg a Bioamrywiaeth yn cael ei reoli ar y safle, a’u bod yn rhai o’r problemau mwyaf oedd yn wynebu'r prosiect. Roedd gwaith agos yn parhau gyda CNC ynghylch y broses drwyddedu gan ystyried y cyfrannau lliniaru arfaethedig a nodir yn y cynigion.

 

Cynnig y datblygwr ar hyn o bryd oedd dymchwel Ward Aled, ond oherwydd bod y datblygiad hwn wedi cymryd 10 - 15 mlynedd i'w gwblhau, cafodd Ward Aled ei gynnwys yng nghyfnodau'r prosiect er mwyn caniatáu pob cyfle iddi gael ei chadw.

 

Roedd CNC yn awyddus i gael awdurdod cyfrifol (CSDd) i ofalu am y safle a’i reoli, ac roedd trafodaethau manwl wedi’u cynnal gyda’r Gwasanaethau Cefn Gwlad ynghylch sut y gellid rhoi hyn ar waith.

 

Dywedodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd fod gan Sir Ddinbych y cyllid i gynorthwyo gyda rhai addasiadau priffyrdd oddi ar y safle. Fodd bynnag, roedd angen ei wario erbyn diwedd mis Rhagfyr 2024. Mewn perthynas â goblygiadau diogelwch priffyrdd, roedd asesiad traffig wedi'i gynnal yn flaenorol a theimlwyd bod hyn yn ddigonol i ddelio â'r cynnydd mewn traffig ar gyffyrdd yn y dyfodol. Nid oedd llwybrau / arosfannau bysiau wedi'u cysylltu'n dda â thref Dinbych ar hyn o bryd. Fodd bynnag, roedd y datblygwr wedi awgrymu cyfleoedd i ddarparu arhosfan o fewn y safle yn y dyfodol.

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau ynghylch sicrwydd yr adnoddau sydd ar gael o fewn y Cyngor ar gyfer y prosiect o dan yr hinsawdd economaidd bresennol. Dywedodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad fod y prosiect hwn yn cael ei ystyried yn un â blaenoriaeth uchel i'r rhanbarth, a bod arian cyhoeddus wedi'i glustnodi ar gyfer y cynllun. Byddai rheolaeth ecolegol barhaus y safle yn flaenoriaeth i Wasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor, ac roedd Pwyllgor Cyswllt yn y broses o gael ei greu a fyddai’n fuddiol iawn.

 

Amlygodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis anghysondebau rhwng yr argymhelliad yn yr adroddiad a'r argymhelliad yn y taflenni sylwadau hwyr. Eglurodd y Rheolwr Datblygu mai'r argymhelliad a nodwyd yn y taflenni sylwadau hwyr oedd yr argymhelliad y byddai'r aelodau'n pleidleisio arno.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Gareth Sandilands y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog, ac fe EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Cheryl Williams.

 

Pleidlais –

O blaid – 16

Yn erbyn – 0

Ymatal – 0

PENDERFYNWYD: y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.50am

 

 

Dogfennau ategol: