Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

HUNANASESIAD Y CYNGOR O’I BERFFORMIAD 2023 I 2024

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), yn cyflwyno Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad ar gyfer 2023 i 2024 er mwyn i’r Cabinet ei ystyried a’i gadarnhau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi cynnwys yr adroddiad, gan gynnwys y chwe cham gwella a restrwyd ym mharagraff 4.4 yn yr adroddiad, ac yn

 

(b)      cadarnhau cynnwys Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad 2023-2024 i’w gyflwyno i’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2024 i’w gymeradwyo.

 

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Cynghorydd Gwyneth Ellis, cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau yr adroddiad a Hunanasesiad y Cyngor ar gyfer 2023 i 2024 er mwyn i’r Cabinet eu hystyried cyn iddynt fynd gerbron y Cyngor.   Roedd y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad hefyd yn bresennol.

 

Roedd Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad yn darparu dadansoddiad diwedd blwyddyn o gynnydd a heriau yn ôl amcanion perfformiad allweddol (h.y. themâu’r Cynllun Corfforaethol).

 

Arweiniodd y swyddogion yr aelodau drwy’r adroddiad oedd yn cynnwys Crynodeb Gweithredol (Atodiad I), yn tynnu sylw at berfformiad yn erbyn y Cynllun Corfforaethol a’r saith maes llywodraethu; yr Adroddiad Diweddaru Perfformiad (Atodiad Il) o fis Hydref at fis Mawrth 2024; camau gweithredu o’r Heriau Perfformiad Gwasanaeth (Atodiad Ill) a chwmpas drafft yr Asesiad Perfformiad Panel (Atodiad lV).  Roedd adborth eisoes wedi’i roi gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi iddynt ystyried yr adroddiad. Rhoddwyd trosolwg o’r cynnydd a wnaed ynghyd â’r heriau oedd o’n blaenau. Nodwyd fod yn rhaid ystyried perfformiad yng nghyd-destun cyfyngiadau cyllidebol a disgwylid i’r cyflawniad fod yn arafach o’r herwydd o bosibl. Tynnwyd sylw penodol hefyd at y chwe gweithgaredd gwella a nodwyd.

 

Diolchodd y Cabinet i’r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr a’r gwaith caled.

 

Canolbwyntiodd y prif faterion trafod ar y canlynol -

 

·       rhoddwyd disgrifiad manwl o bwrpas yr Asesiad Perfformiad Panel a’r disgwyliadau. Trafodwyd cwmpas drafft yr Asesiad a chafodd ei groesawu fel cyfle arall i asesu perfformiad o safbwynt gwahanol i arwain gwelliannau a pherfformiad gwell yn y dyfodol. Roedd y meysydd pwyslais drafft yn cynnwys Arweinyddiaeth, Cynigion ar y Gyllideb/Trawsnewid a Gweithio mewn Partneriaeth. Bydd y Cabinet yn cael adroddiad arall ym mis Gorffennaf i gymeradwyo’r trefniadau.

·       er ei bod yn bwysig cynnal uchelgeisiau’r Cyngor a pharhau i ymdrechu i wella, derbynnir bod llawer o faterion, o ran cyfyngiadau cyllidebol a’r economi ehangach, y tu hwnt i reolaeth y Cyngor

·       cafodd y problemau gyda chyflwyno'r gwasanaeth gwastraff newydd a’r effaith ar berfformiad, ynghyd â phroblemau eraill y tynnwyd sylw atynt yn y misoedd diwethaf eu codi fel pryder a hefyd yr effaith ar enw da’r awdurdod a’r thema o fod yn Gyngor sy'n cael ei gynnal yn dda, ac sy’n uchel ei berfformiad. Roedd y prosiect gwastraff yn rhan o’r thema Sir Ddinbych Mwy Gwyrdd yn y Cynllun Corfforaethol a byddai sylwadau am ei gyflwyno yn rhan o adroddiad perfformiad chwarter 2.   Roedd pob awdurdod lleol yn wynebu heriau sylweddol i’r gyllideb ac roedd y gwaith yn canolbwyntio ar y rhaglen drawsnewid i gyflawni gwasanaethau. Roedd fframwaith rheoli perfformiad y Cynllun Corfforaethol yn cynnwys dangosyddion rheoli ariannol

·       trafodwyd y thema Cyngor sy'n cael ei gynnal yn dda, ac sy’n uchel ei berfformiad yn fanwl a nodwyd bod perfformiad yn un o saith maes llywodraethu yr oedd yn ofynnol i’r Cyngor eu hasesu ar gyfer iechyd corfforaethol da. Rhan o bwyslais y thema hon yn y Cynllun Corfforaethol oedd meithrin dull “un Cyngor” o gefnogi’r naill a’r llall, gan weithio gyda’n gilydd i ymdrin â phroblemau’n agored a thryloyw, bod yn awdurdod dysgu, cydnabod perfformiad da a gwneud y gwelliannau angenrheidiol mor gyflym â phosibl mewn meysydd nad oedd yn perfformio cystal

·       unwaith eto, cydnabu’r Arweinydd y problemau wrth gyflwyno’r gwasanaeth gwastraff newydd a rhoddodd sicrwydd eto bod pob ymdrech yn cael ei wneud i’w datrys

·       ni chyfeiriwyd at achosion o dorri amodau cynllunio/gorfodaeth yn yr adroddiad perfformiad a chytunodd yr aelodau i godi’r mater gyda’r gwasanaeth perthnasol fel mesur posibl i’w gynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol ac adrodd yn ôl ar y canlyniad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio nesaf

·       nod yr adroddiad oedd ystyried perfformiad y Cyngor mewn ffordd wrthrychol a phwyllog a chytunodd y Cabinet ei fod yn adroddiad gonest oedd yn canmol ac yn herio, a’i fod yn ddull hanfodol o sicrhau gwelliant.

 

Roedd y Cynghorydd Delyth Jones yn croesawu’r adroddiad fel ffordd werthfawr o werthuso perfformiad ynghyd â chyfyngiadau a heriau er mwyn symud ymlaen.  Roedd hi’n credu bod Cyngor sy'n cael ei gynnal yn dda, ac sy’n uchel ei berfformiad yn dod o’r arweinyddiaeth a ddangosir mewn cyfnodau anodd a diolchodd i’r Arweinydd a’r Prif Weithredwr am gydnabod y problemau gyda’r gwasanaeth gwastraff ac am gymryd camau pendant, clir i ymdrin â nhw.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)      nodi cynnwys yr adroddiad, gan gynnwys y chwe cham gwella a restrwyd ym mharagraff 4.4 yr adroddiad, ac yn

 

(b)      cadarnhau cynnwys Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad 2023-2024 i’w gyflwyno i’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2023 i’w gymeradwyo.

 

 

Dogfennau ategol: