Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Penderfyniad:

Cododd yr Arweinydd y mater brys canlynol - Cyflwyno’r Gwasanaeth Casglu Deunyddiau Ailgylchu a Gwastraff newydd

 

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn bwriadu codi’r mater brys canlynol - Cyflwyno’r Gwasanaeth Casglu Deunyddiau Ailgylchu a Gwastraff newydd.

 

Ymddiheurodd yr Arweinydd ar ran y Cyngor i breswylwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan y problemau sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r gwasanaeth newydd ac i aelodau sydd wedi bod yn gweithio’n galed ar ran preswylwyr. Diolchodd hefyd i aelodau am roi gwybod am gasgliadau a fethwyd yn eu wardiau ac i breswylwyr am eu hamynedd a’u hymdrechion i ailgylchu. 

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi bod mewn cyswllt dyddiol â’r Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi a’r Aelod Arweiniol am y sefyllfa. Er bod y cyfraddau casglu wedi gwella, roedd yn amlwg bod angen gweld cynnydd anferthol o ran cyflymdra a gwelliant i ymdrin â’r ôl-groniad a gweithio i sicrhau bod y system yn gweithio’n iawn. Sicrhaodd yr Arweinydd ei fod ef a’r Aelod Arweiniol yn herio’r swyddogion yn drwyadl i sicrhau bod problemau’n cael eu datrys cyn gynted â phosibl ac roedd pawb yn gweithio mor galed â phosibl i gael gwared ar yr ôl-groniad, ymdrin â’r problemau a sicrhau bod y system yn gweithio’n iawn yn y dyfodol.    Byddai’r digwyddiadau’n ymwneud â chyflwyno’r system newydd yn destun ymchwiliad craffu cyhoeddus a byddai’r broses honno’n dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl yr etholiad. Roedd cyfarfod arbennig o’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu wedi’i drefnu ar gyfer 8 Gorffennaf.

 

Ymddiheurodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Barry Mellor i aelodau a phreswylwyr. Ychwanegodd fod y cyflwyno wedi’i ddwyn ymlaen gan y Cabinet blaenorol, ond fel Cabinet, roeddent yn credu mai dyma’r peth iawn i’w wneud gan barhau â hynny. Pwysleisiodd y Cynghorydd Mellor mai problem weithredol ydoedd a’i fod wedi bod mewn cyswllt rheolaidd â’r swyddogion perthnasol i gyflymu’r gwelliannau. Ynghyd â’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, roedd wedi bod allan gyda’r criwiau i weld drosto’i hun yr anawsterau oedd yn wynebu preswylwyr a gwaith caled y criwiau, oedd yn gweithio sifftiau ychwanegol i ymdrin â’r ôl-groniad. O’r herwydd, roedd yn hyderus y byddai’r problemau'n cael eu datrys ac y byddai’r system yn cael ei hymgorffori’n llwyddiannus, er nid mor gyflym â’r hyn a ragwelwyd.   Diolchodd i breswylwyr am eu hamynedd a rhoddodd sicrwydd bod popeth posibl yn cael ei wneud i wireddu manteision y system newydd mor gyflym â phosibl. 

 

Caniataodd yr Arweinydd gwestiynau, ond atgoffodd yr aelodau bod craffu ar gyflwyno’r gwasanaeth newydd yn broses ar wahân drwy ymchwiliad dan arweiniad aelodau.

 

Yn ystod y drafodaeth mynegodd yr aelodau eu pryderon a’u gofidiau am y gwasanaeth newydd a’r effaith ar breswylwyr, a chafwyd nifer o enghreifftiau o broblemau mewn wardiau gwahanol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Wrth siarad ar ran y Grŵp Annibynnol, roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn dymuno diolch i’r criwiau a’r staff ar y rheng flaen oedd yn gweithio’n galed mewn amgylchiadau anodd. Roedd yn dymuno rhoi ar gofnod hefyd bod y cyn Gabinet wedi pleidleisio ar gysyniad y gwasanaeth newydd, nid y dull gweithredu.   Cododd yr aelodau gwestiynau a phryderon penodol am agweddau amrywiol o gyflwyno’r gwasanaeth a methiannau allweddol a gofynnwyd am sicrwydd am y camau i ymdrin â’r ôl-groniad presennol a bod y system yn gweithio’n effeithlon yn y dyfodol, a chyflwynwyd nifer o awgrymiadau am hynny.

 

Ymatebodd yr Arweinydd, yr Aelod Arweiniol, y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Swyddog Monitro i’r cwestiynau a materion a godwyd fel a ganlyn -

 

·       roedd yr effaith ar y preswylwyr a effeithiwyd yn andwyol gan y newid gwasanaeth yn annerbyniol ac roedd yn wirioneddol ddrwg gan y Cyngor am y gofid a achoswyd o’r herwydd

·       roedd y cyfraddau casglu yn ardaloedd gwledig y sir yn is nag yn y Gogledd, ble roedd mwyafrif y casgliadau wedi cael eu cwblhau, ac roedd adnoddau ychwanegol wedi cael eu targedu yn yr ardaloedd gwledig i ymdrin â’r broblem

·       roedd uwch reolwyr, staff gweithredol a WRAP (Rhaglen Gweithredu ar Wastraff ac Adnoddau) yn cydweithio ar gamau gweithredu i ymdrin â’r problemau      

·       roedd adnoddau ychwanegol wedi cael eu cyfeirio at y gwasanaeth newydd dros dro nes y bydd yn rhedeg yn llyfn

·       yn ei hanfod, ymdrinnir â’r ôl-groniad drwy ddefnyddio mwy o staff a cherbydau am fwy o oriau gyda system sifftiau i wneud y mwyaf o oriau fflyd yn ystod yr wythnos a defnyddio fflyd lawn ar ddydd Sadwrn

·       pan fydd yr ôl-groniad wedi’i glirio, gellid cynnal adolygiad o’r llwybrau gwahanol i sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau’n gyson yn y dyfodol

·       roedd staff y Cyngor yn cael eu symud dros dro o waith arall heb fod yn gritigol ac roedd staff asiantaeth yn cael eu recriwtio yn y tymor byr. Roedd dewisiadau eraill a ystyriwyd i gynyddu capasiti dros dro yn cynnwys comisiynu cwmnïau gwastraff a chysylltu ag awdurdodau lleol cyfagos eraill am gymorth

·       cadarnhawyd bod faniau llai yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd gwledig i gasglu yn yr ardaloedd blaenoriaeth uchel

·       credir nad oedd casgliadau gardd a fethwyd yn broblem eang a chytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol i ymchwilio i’r mater ac adolygu’r tanysgrifiad o bosibl, a rhoi diweddariad i’r aelodau y tu allan i’r cyfarfod

·       yn y drefn flaenorol, roedd gwastraff bwyd yn cael ei gasglu ar wahân ond roedd yn cael ei gasglu gyda’r ailgylchu dan y drefn newydd

·       roedd camau’n cael eu cyflwyno i ymdrin â’r ôl-groniad o wastraff bwyd ac roedd ardaloedd nad oedd wedi cael casgliad ers wythnosau yn cael eu blaenoriaethu. Roedd llwybrau’n cael eu creu i griwiau penodol mewn cerbydau llai i gasglu yn yr ardaloedd hynny

·       cafwyd problemau ar hyd a lled y sir, oedd wedi ei gwneud yn anodd blaenoriaethu a thargedu adnoddau’n gywir, ac roedd angen blaenoriaethu’r aelwydydd hynny nad oedd wedi cael casgliad ers y cyfnod hiraf

·       dywedodd yr Arweinydd ei fod yn cymryd cyfrifoldeb llwyr fod hyn wedi digwydd yn ystod ei gyfnod ef wrth y llyw ac nad oedd yn beio’r Cabinet blaenorol am amgylchiadau cyflwyno’r gwasanaeth newydd - roedd bellach yn canolbwyntio ar wneud y mwyaf o’r capasiti a chlirio’r ôl-groniad. Roedd y system ei hun a gytunwyd arni gan y Cabinet blaenorol a’i hetifeddu gan y Cabinet presennol yr un gywir pan fydd yn gweithio’n iawn

·       roedd Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd  a’r Amgylchedd wedi bod ar y rheng flaen bob dydd ac wedi bod yn rhan o’r ddwy sesiwn briffio i aelodau; byddai hefyd ar gael i gymryd rhan yn y broses graffu sydd i ddod

·       nid oedd wedi bod yn bosibl cynnal cyfarfod o’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu cyn 8 Gorffennaf oherwydd y cyfnod cyn yr etholiad a bod staff cefnogi craffu’n gweithio’n llawn amser ar yr etholiad, ac roedd y cynnig ar gyfer y broses graffu wedi’i amlinellu, oedd yn arwain at ymchwiliad craffu cyhoeddus o gyflwyno’r gwasanaeth. 

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau.