Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CANOLFAN GENEDLAETHOL ADDYSG GREFYDDOL CYMRU

Derbyn cyflwyniad gan Dr Joshua Andrews ar waith Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd Dr Joshua Andrews o Brifysgol Bangor gyflwyniad ar Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru.

 

Ail-lansiwyd y ganolfan yn 2022 gyda’r nod o gynnig arbenigedd academaidd a chefnogaeth addysgegol ar gyfer addysgu addysg grefyddol. Mae’r ganolfan yn canolbwyntio ar athroniaeth, crefydd a moeseg a’r gynulleidfa darged yw athrawon a myfyrwyr cyrsiau cynradd a TAR.

 

Mae’r ganolfan yn cynnig gweithgareddau allweddol, yn cynnwys:

·       Gweithdai

·       Sesiynau adolygu

·       Digwyddiadau Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP)

Cafodd yr aelodau wybodaeth am lwyddiannau’r ganolfan yn ystod y 12 mis diwethaf, a oedd yn cynnwys:

·       Blychau Arteffactau: crëwyd 10 bocs o arteffactau crefydd penodol ar gyfer addysgu crefyddau mwyaf y byd i’w benthyg i ysgolion

·       Sesiynau Adolygu Lefel A: Trefnwyd sesiwn adolygu Lefel A mewnol ar gyfer myfyrwyr o Ynys Môn a Gwynedd, yn cynnwys sesiynau i fyfyrwyr Coleg Sir Gâr

·       Hyfforddiant DPP: Darparwyd hyfforddiant DPP i athrawon ar Fwdhaeth a Hindŵaeth

·       Sesiynau ar-lein: Cynhaliwyd sesiynau ar-lein o fis Hydref 2023 tan fis Ionawr 2024 ar gyfer myfyrwyr ac athrawon TGAU a Lefel A, i archwilio perthnasedd athroniaeth, moeseg a chrefydd mewn cymdeithas gyfoes

·       Ysgol Haf: Cynhaliwyd ysgol haf ar-lein fis Gorffennaf 2023, gan ddarparu 15 o ddarlithoedd i gyflwyno testunau athroniaeth, moeseg a chrefydd i fyfyrwyr ar lefel prifysgol

·       Addysgeg Holocost: Cafwyd panel ar addysgeg Holocost a rhoddwyd sgwrs ar-lein gan oroeswr i ysgolion uwchradd

Cafwyd gwybodaeth am brosiectau cyfredol, yn cynnwys sesiynau adolygu, lansiad cenedlaethol y canllawiau adolygu, Gwersi Heddwch a digwyddiadau DPP.

Darparwyd gwybodaeth am y prosiectau newydd mae’r ganolfan wedi’u cychwyn, yn cynnwys:

·       Fideos Adolygu TGAU: Cyfres o fideos adolygu TGAU byr dan y teitl ‘A Topic in Ten’ ar wahanol agweddau ar faes llafur TGAU CBAC

·       Podlediad athroniaeth: Mae podlediad ar athroniaeth, crefydd a moeseg Lefel A yn cael ei ddatblygu, sy’n canolbwyntio ar faes llafur Lefel A CBAC ac sy’n cynnwys trafodaethau gydag ysgolheigion

·       Cwrs Gwella Gwybodaeth Pwnc: Mae cyrsiau ar-lein ar gyfer myfyrwyr TAR yn cael eu datblygu. Bydd y rhain hefyd ar gael i athrawon er mwyn gwella eu gwybodaeth am y pwnc

Diolchodd y Cadeirydd i Dr Andrews am ei gyflwyniad a dywedodd fod croeso i’r Aelodau ofyn cwestiynau.

 

Gofynnodd yr aelodau am eglurhad ynghylch plant o gefndiroedd gwahanol yn cael eu hintegreiddio gyda chrefyddau gwahanol pan fyddan nhw’n dechrau yn yr ysgol uwchradd. Eglurodd Dr Andrews fod gan bob ysgol faes llafur wedi’i llunio’n lleol sy’n gallu cynnwys credoau crefyddol yn y gymuned. Mae llawer o ysgolion wedi gofyn am sesiynau gan y ganolfan ar destunau penodol.

 

Trafododd yr aelodau yr Ysgol Haf a gynhaliwyd a holi a fyddai modd cynnal sesiynau gwahanol dros nifer o wythnosau yn ystod y gwyliau haf. Eglurodd Dr Andrews fod yr Ysgol Haf yn rhad ac am ddim, a bod sesiynau’n cynnal ar-lein er mwyn i fwy o bobl allu manteisio arnynt. Gall sesiynau ychwanegol fod yn bosibilrwydd, a bydd hynny’n cael ei gyflwyno i’r Bwrdd i’w drafod a’i ystyried ymhellach.

 

Diolchodd yr aelodau i Dr Andrews am yr adnoddau gwerthfawr sydd ar gael drwy’r ganolfan, yn enwedig y blychau arteffactau a gofynnwyd iddo a oes gwefan ar gael i ysgolion wneud cais i’w benthyg. Dywedodd Dr Andrews fod gwefan ar gael a bod system rota ar gyfer benthyg y blychau arteffactau.

 

Holodd yr aelodau a oes modd i gydweithwyr o ysgolion cynradd ddefnyddio adnoddau’r ganolfan. Croesawodd Dr Andrews y syniad a dywedodd y byddai’n cyflwyno hyn yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd.

 

Diolchodd Dr Andrews i’r aelodau am eu sylwadau a’u hadborth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Dr Andrews am y cyflwyniad ac am ddod i’r cyfarfod, a chroesawodd y syniad o weithio mewn partneriaeth yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd: derbyn a nodi’r cyflwyniad ar y Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol.

 

 

Dogfennau ategol: