Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF: 47/2023/0796/ PS - BIOGEN WAEN, FFORDD TREFFYNNON, RHUALLT, LLANELWY

Ystyried cais i Amrywio amod 3 caniatâd cynllunio 47/2012/1120 i gynnwys ”treuliad anaerobig o wastraff bwyd a/neu gnydau nad ydynt yn wastraff" (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i amrywio amod 3 caniatâd cynllunio 47/2012/1120 i gynnwys ”treuliad anaerobig o wastraff bwyd a/neu gnydau nad ydynt yn wastraff".

 

Gadawodd y Cynghorydd Merfyn Parry y cyfarfod ar ôl datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu gyda’r eitem hon ar y rhaglen.

 

Rhoddodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff gefndir cryno i’r cais.

Roedd hwn yn gais i ganiatáu mwy o amrywiaeth mewn porthiant i lenwi Treuliwr Anaerobig a ddatblygwyd a chontractwr i ddelio gyda’r gwastraff bwyd gweddilliol a gesglir gan Awdurdodau Lleol Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

 

Daeth hwn yn weithredol yn 2014 ac roedd y cysyniad sylfaenol fel a ganlyn -

 

Roedd gwastraff bwyd pydradwy yn cael ei gludo i’r safle, roedd yn cael ei fwydo a’i dreulio’n anaerobig gan ficro-organebau lle’r oedd y nwy yn cael ei dynnu allan a’i ddefnyddio fel tanwydd ar gyfer generadur i gynhyrchu oddeutu 1MW o drydan bob blwyddyn. Roedd y deunydd a oedd yn weddill yn dal i gynnwys maetholion megis nitrogen, ffosfforws a photasiwm a oedd wedyn yn cael ei ddefnyddio gan ffermwyr lleol i’w wasgaru ar dir fel tail.

 

Roedd y cais hwn i amrywio’r porthiant i ganiatáu ar gyfer prosesu cnydau nad ydynt yn wastraff e.e. gweiriau, rhyg, indrawn yn ogystal â gwastraff bwyd o fewn y cyfleuster. Pwysleisiwyd nad oedd hwn yn gais i gynyddu capasiti’r safle. Roedd yn gais i amrywio a phrosesu porthiant mwy cyson.

 

Roedd y safle yn cael ei rheoleiddio a’i rheoli drwy amodau cynllunio a Thrwydded Amgylcheddol.

 

Fel rhan o’r broses gynllunio, derbyniwyd gwrthwynebiadau mewn perthynas â’r effeithiau negyddol posibl y byddai amrywio’r porthiant yn ei gael ar Ffermio, y Gymraeg a Diwylliant yn lleol, diffyg tirlunio, yr effeithiau ar amwynder lleol drwy sŵn ac aroglau ac effeithiau ar y briffordd.

Roedd rhai o’r pryderon hyn yn arwyddocaol ac eraill yn amherthnasol i broses y cais, fodd bynnag, roeddent wedi cael sylw yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Dywedodd yr aelodau bod y safle yn defnyddio 80% o’i gapasiti ar hyn o bryd, a byddai’r cais hwn yn caniatáu ar gyfer defnyddio’r 20% sy’n weddill. Ychwanegodd yr aelodau y byddai’r rhyg a’r grawn a oedd yn cael eu cludo i’r safle yn dod o radiws bach yn yr ardal leol a oedd yn cynorthwyo â chadw ôl-troed carbon y gweithrediad yn isel.

 

Mynegodd y Cynghorydd Chris Evans ei bryderon ynglŷn â’r tir fferm cyfagos ac nad oedd y cynnig yn cadw at y cais cynllunio cyntaf a gymeradwywyd yn 2013, ynglŷn â thirlunio’r ardal ac fe gwestiynodd ymrwymiad y contractwr i gadw at y cais cynllunio wrth symud ymlaen.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu a Rheoli Adeiladu eu bod yn ymwybodol o rai pryderon mewn perthynas â’r caniatâd gwreiddiol a chydymffurfiaeth â’r amodau cynllunio. Ymdriniwyd â’r mater hwn o dan broses cydymffurfio â chynllunio, a byddai hyn yn cael ei ymchwilio iddo. Ar hyn o bryd, nid oedd yn ymwybodol o unrhyw gwynion arwyddocaol a oedd wedi cael eu cyflwyno’n ddiweddar mewn perthynas â thirlunio, fodd bynnag, roedd swyddogion wedi pasio hyn ymlaen i Dîm Cydymffurfio’r Adran Gynllunio er mwyn ymchwilio iddo. Ni fyddai hyn yn atal cymeradwyo’r cais cynllunio oherwydd ei fod yn ymwneud ag amod gwahanol yn y cynllun. Roedd amodau cynllunio a oedd yn cyfyngu defnydd y safle ac fe ymdriniwyd â nhw drwy reoliadau a thrwyddedau amgylcheddol. Pe bai pryderon pellach yn cael eu codi, roedd prosesau ar waith i ymchwilio iddynt.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Alan James y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Delyth Jones.

 

Pleidlais –

O blaid – 15

Yn erbyn – 0

Ymatal – 0

 

PENDERFYNWYD: y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.

 

           Daeth y cyfarfod i ben am 10.20am

 

 

Dogfennau ategol: