Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS 2023/24

Cael Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2023/24 gan y Cynghorydd Jason McLellan (copi ynghlwm).

2.20pm – 2.35pm.

 

Cofnodion:

Arweiniodd y Rheolwr Datblygu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y Bwrdd drwy adroddiad blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) 2023/24.

Roedd adroddiad blynyddol 2023/24 yn rhoi trosolwg o beth oedd y Bwrdd wedi ei gyflawni yn ystod blwyddyn gyntaf y Cynllun Lles diweddaraf. Roedd yn bwysig bod y BGC yn atebol i’r cyhoedd ac roedd yr adroddiad yn cynorthwyo’r BGC i hunan-fyfyrio ar ble roeddent yn teimlo eu bod yn gwneud gwahaniaeth, yn unol â’r 5 ffordd o weithio yn ogystal ag amlinellu cyfeiriad y Bwrdd yn y dyfodol.

 

Roedd y canllawiau a ddarparwyd ar gyfer y ddeddf yn nodi bod yn rhaid i’r adroddiad blynyddol nodi’r camau a gymerwyd gan y Bwrdd i gyflawni’r amcanion a osodwyd yn eu cynllun llesiant. Fodd bynnag, gall yr adroddiad hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth arall roedd y Bwrdd yn ei ystyried yn briodol. Felly, roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu - 

 

·       Cyflawniadau yn y flwyddyn ddiwethaf

·       Meysydd gwaith eraill

·       Meddyliau’r Bwrdd ar ôl eleni ac edrych ymlaen; a

·       Sut gall pobl gymryd rhan.

Roedd yr adroddiad blynyddol hefyd yn rhoi manylion rhai mesurau cyd-destunol allweddol hefyd, oedd yn berthnasol i’r themâu lles. Roedd y rhain yn ddangosyddion lefel uchel oedd yn nodi pam bod y themâu yn parhau’n flaenoriaeth i’r BGC ac yn helpu i roi ffocws ar drafodaethau wrth symud ymlaen. 

Roedd angen i’r Bwrdd anfon copi o’u hadroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu dynodedig y Bwrdd.

Roedd prif gyflawniadau yn ystod 2023-2024 yn cynnwys - 

Strwythurau a llywodraethu BGC gwell:

Cyflwyno cyfarfodydd anffurfiol: Roedd hwn yn gyfle i hwyluso rhwydweithio i holl aelodau, gan helpu i ddatblygu ymddiriedaeth a siarad yn agored ar faterion a heriau a wynebir, roedd yna hefyd adolygiad o Gylch Gorchwyl y Bwrdd.

 

Trafodwyd risgiau ac achosion cyffredin gyda sefydliadau partner all gael effaith ar ddarparu dyheadau Cynllun Lles y Bwrdd. Teimlwyd ei bod yn werth edrych ar risgiau ac achosion newydd fel rhanbarth Gogledd Cymru gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eraill.

 

Datblygu dulliau ‘system gyfan’ o weithio a chydweithio ar draws y rhanbarth:

 

Cafwyd cyflwyniadau ar Feddwl Trwy Systemau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (timau lleol a chenedlaethol). Roedd hyn o gymorth wrth edrych ar ffyrdd y gallwn ddefnyddio’r ymagwedd hwn tuag at ein huchelgais o chwarae rôl fwy arweiniol.

 

Yn dilyn trafodaethau cychwynnol, cynhaliwyd ymarfer mapio systemau i werthuso’r camau nesaf tuag at gyflawni’r Cynllun Lles. Roedd hyn ar gyfer nodi credoau a nodau’r system y gallwn gymryd perchnogaeth drostynt fel Aelodau BGC, a strwythurau systemau a digwyddiadau er mwyn i sefydliadau eu harwain.

 

Roedd y dull hwn yn helpu i sicrhau ein bod yn cael y gwerth ychwanegol mwyaf o’r BGC a’r newid trawsffurfiol oedd eisiau ei gyflawni.

 

Gweithio gyda Chymunedau:

 

Mabwysiadwyd datganiad cenhadaeth ymgysylltiad ar y cyd. Roedd gwaith yn parhau i ddatblygu cynllun ymgysylltu cymunedol fel rhan o’r camau nesaf. 

 

Roedd gwaith yn parhau ar hyn o bryd gyda Phrifysgol Wrecsam i gyflawni prosiect ymgysylltu mewn dwy gymuned yng Nghonwy a Sir Ddinbych (Pensarn a Pharc Bruton yn y Rhyl). Roedd y prosiect yn parhau, ac yn defnyddio dulliau creadigol (fel gwaith celf, ffotograffiaeth a fideo) i gefnogi cymunedau i adrodd eu hanesion ynglŷn â sut deimlad ydi byw yn eu cymuned.

 

Cynhaliwyd ymgysylltiad gyda chymunedau amrywiol i ddeall eu hanawsterau ac archwilio’r ffyrdd y gall y Sector Cyhoeddus helpu i rymuso pobl i mewn i’r byd gwaith. Nodwyd nifer o rwystrau ac awgrymiadau ar gyfer camau i’w cymryd. Roedd y gwaith yn cael ei wneud yn rhanbarthol ar ran tri BGC Gogledd Cymru.

 

Cynnydd mentrau allweddol BGC:

 

Roedd yna ymrwymiad i ddatblygu’r Siarter Teithio Iach yn ein sefydliadau drwy gynnal asesiad gwaelodlin o weithgareddau presennol sefydliadau yn erbyn ymrwymiadau’r Siarter. Bydd hyn hefyd yn nodi unrhyw fylchau a chyfleoedd i ddatblygu yn unol â chynlluniau gweithredol presennol.

 

Rydym wedi gwneud ychydig o waith paratoi wrth bennu’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r fframwaith Asesiad Risg Newid Hinsawdd a ddatblygwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

Gwnaed cyfraniadau i brosiect y Gymraeg a Chyflogaeth a arweinir gan BGC Gwynedd a Môn.

 

Amlygwyd meysydd gwaith eraill o fewn yr adroddiad gan gynnwys parhad cydweithio gyda phartneriaethau a chyrff cenedlaethol eraill i osgoi dyblygu ac i rannu syniadau. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr Datblygu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus am yr adroddiad a chroesawyd cwestiynau a sylwadau gan Aelodau.

 

Croesawodd Aelodau’r dull cydweithio ar draws Gogledd Cymru a mynegwyd manteision dull rhanbarthol. 

 

Cyfeiriodd Aelodau at y data ar dai fforddiadwy a nodwyd dros amser y gall y wybodaeth hon ddarparu gwybodaeth ar sut oedd y nifer o gartrefi fforddiadwy ar gael yn cydgysylltu gyda’r angen am dai.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ddangosyddion ar dlodi a Theithio Iach o fewn yr adroddiad. 

 

Trafododd yr Aelodau’r posibilrwydd yn y dyfodol i gynnwys dangosyddion pellach o fewn yr adroddiad, fodd bynnag, oherwydd yr amserlen dynn, cytunwyd y gellir cymeradwyo’r adroddiad fel y mae, heb gynnwys dangosyddion o fewn yr adroddiad.  

 

Trafododd a chytunodd yr Aelodau ar sesiwn ar amrywiaeth gan fod cyllid yn parhau ar gael i’w ddilyn. Byddai’r sesiwn yn anelu i gymell newid ar draws pob sefydliad ac edrych ar y gwahaniaeth y gall BGCau ei wneud wrth gydweithio.  

 

PENDERFYNWYD bod –

A.    Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych yn cytuno i sesiwn EDI pellach a;

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Dinbych i gymeradwyo Adroddiad Blynyddol 2023/24 BGC Conwy a Sir Ddinbych i’w gyhoeddi heb ychwanegu’r dangosyddion

Dogfennau ategol: