Eitem ar yr agenda
ADOLYGU GOFYNION TRWYDDEDU CERBYDAU HYGYRCH I GADEIRIAU OLWYN
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaeth Cefn Gwlad
(copi ynghlwm) yn ceisio adolygiad yr aelodau o’r gofynion presennol ar gyfer
cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn dan drwydded y Cyngor.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
bod yr Aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad
ac yn awdurdodi swyddogion i gynnal ymgynghoriad gyda’r holl bartïon sydd â
diddordeb ynghylch y dewisiadau canlynol ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar
ganlyniadau’r ymgynghoriad –
(a) Peidio â gwneud unrhyw newid
i’r gofynion trwyddedu presennol ar gyfer WAVs sy’n golygu eu bod wedi’u
trwyddedu ar yr un sail â cherbydau “arferol”;
(b) ystyried dileu’r gofynion
oedran presennol ar gyfer cerbydau WAV a’u disodli gydag amod bod yn rhaid i
bob cerbyd WAV gyrraedd safonau allyriadau Ewro 6 a chael prawf cydymffurfio
ychwanegol bob blwyddyn unwaith y bydd y cerbyd yn 12 oed a phob blwyddyn y mae
wedi’i drwyddedu wedi hynny h.y. 3 phrawf y flwyddyn bob 4 mis;
(c) ystyried (b) uchod heb unrhyw
brawf cydymffurfio ychwanegol, a
(d) ystyried bod pob cais newydd
am drwydded Cerbyd Hacni yn hygyrch i gadeiriau olwyn.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu
adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau adolygu’r gofynion
presennol ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn a drwyddedir gan y
Cyngor.
Cymeradwywyd Polisi presennol Cerbydau
Hacni a Cherbydau Hurio Preifat gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Rhagfyr 2016.
Yr oedd yn cynnwys cyfyngiad oed, sef bod rhaid i holl gerbydau newydd y fflyd
fod yn iau na 5 mlwydd oed, ac y byddai’n rhaid cael gwared ag unrhyw gerbyd a
oedd yn cyrraedd 12 mlwydd oed. Yn dilyn
nifer o estyniadau, byddai’r cyfyngiad yn dod i rym o’r diwedd ar 1 Gorffennaf
2024. Yr oedd gofyn i Gerbydau Hygyrch i
Gadeiriau Olwyn fodloni’r un safonau ag unrhyw gerbyd arall, ond yr oedd y
costau a oedd yn gysylltiedig â Cherbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn lawer
uwch. Gan ystyried effaith y cyfyngiad
oed ar argaeledd Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn, cefnogai Cludiant Ysgol
Sir Ddinbych adolygu’r gofynion, ac yr oedd nifer fechan o’r fasnach dacsis
hefyd wedi gofyn am adolygiad i’w gwneud yn fwy fforddiadwy i drwyddedu
Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn.
Cyfeiriwyd at ganllawiau arferion
gorau’r Adran Drafnidiaeth a pherthnasedd Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar
ddiwygio tacsis ynghyd â manylion ynglŷn ag oedran ac allyriadau cerbydau
a Cherbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn a oedd wedi eu trwyddedu yn Sir
Ddinbych. Oherwydd yr angen i fynd a’r
afael â’r prinder Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn, gofynnwyd i’r aelodau
ystyried a fyddai’n briodol cael gwared â’r cyfyngiad oed ar gyfer y cerbydau
hyn a chyflwyno gofyniad allyriadau gofynnol, ac a ddylid cynnal mwy o brofion
ar gerbydau o ganlyniad. Argymhellodd y
swyddogion gynnal ymarfer ymgynghori ar y dewisiadau canlynol ac adrodd am
ganlyniadau’r ymgynghoriad mewn cyfarfod yn y dyfodol –
(a) peidio â gwneud unrhyw newid i’r gofynion trwyddedu presennol ar gyfer
Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn sy’n golygu eu bod wedi’u trwyddedu ar yr un
sail â cherbydau “arferol”
(c)
ystyried (b) uchod heb unrhyw brofion
cydymffurfio ychwanegol
(d)
ystyried bod pob cais newydd am
Drwydded Cerbyd Hacni yn hygyrch i gadeiriau olwyn.
Pwysleisiodd yr aelodau yr angen i
sicrhau bod y safonau uchel presennol ar gyfer cerbydau trwyddedig yn cael eu
cynnal, ac na ddylid cymryd unrhyw gamau a fyddai’n peryglu’r safonau
hynny. Yn ogystal, yr oedd pryder na
fyddai pob cerbyd yn destun yr un meini prawf trwyddedu. Fodd bynnag, cydnabuwyd pwysigrwydd mynd i’r
afael â phrinder presennol darpariaeth sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, a
rhoddwyd ystyriaeth i’r dewisiadau a nodir yn yr adroddiad fel ffordd o gymell
mwy o Gerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn i’r fflyd i fodloni’r galw, yn
arbennig ar gyfer cludiant i’r ysgol, lle nad oedd anghenion dysgwyr yn cael eu
diwallu ar hyn o bryd. Parthed cynnal
safonau diogelwch, eglurodd y swyddogion y gellid cysylltu’r cynnig i gael
gwared â’r terfyn oedran a’r gofyniad i fodloni safonau Ewro 6 gyda threfn
brofi fanylach ar gyfer y cerbydau hynny.
Credai’r Cadeirydd fod dadl wedi ei
rhoi dros ystyried a ddylid rhoi safon uchel wahanol ar Gerbydau Hygyrch i
Gadeiriau Olwyn o ystyried prinder y mathau hynny o gerbydau a’r costau sy’n
gysylltiedig â hwy, a meddyliai y byddai’n fuddiol ymgynghori ar y dewisiadau
ac ystyried yr ymatebion hynny cyn gwneud penderfyniad terfynol. Teimlai’r Cynghorydd Andrea Tomlin y dylid
gwneud mwy i geisio awgrymiadau am ffyrdd eraill o fynd i’r afael â’r prinder
presennol o Gerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn, yn hytrach na gwneud newidiadau
i safonau presennol y polisi.
Cadarnhaodd swyddogion y byddai blwch testun yn cael ei gynnwys mewn unrhyw
ymgynghoriad, ac y gellid annog yr awgrymiadau hynny yn rhan o’r broses
honno. Cytunodd pawb na ddylid cael
unrhyw ostyngiad yn safonau cerbydau o ganlyniad i unrhyw newidiadau
arfaethedig sydd i’w gwneud.
PENDERFYNWYD
bod yr aelodau’n nodi cynnwys yr adroddiad ac
yn awdurdodi swyddogion i gynnal ymgynghoriad gyda’r holl bartïon cysylltiedig
ynghylch y dewisiadau canlynol ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar ganlyniadau’r
ymgynghoriad –
(a) peidio â gwneud unrhyw newid
i’r gofynion trwyddedu presennol ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn,
sy’n golygu eu bod wedi’u trwyddedu ar yr un sail â cherbydau “arferol”;
(b) ystyried dileu’r gofynion
oedran presennol ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn a’u disodli gydag
amod bod yn rhaid i bob cerbyd o’r fath gyrraedd safonau allyriadau Ewro 6 a
chael prawf cydymffurfio ychwanegol bob blwyddyn unwaith y bydd y cerbyd yn 12
oed a phob blwyddyn y mae wedi’i drwyddedu wedi hynny, h.y. 3 phrawf y flwyddyn
bob 4 mis;
(c) ystyried (b) uchod heb unrhyw
brawf cydymffurfio ychwanegol; ac
(e) ystyried bod pob cais newydd am Drwydded Cerbyd Hacni yn hygyrch i
gadeiriau olwyn.
Dogfennau ategol: