Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

TABL PRISIAU A THALIADAU CERBYDAU HACNI

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am adolygiad o ffioedd tariff presennol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis) a’r Tabl Prisiau a Thaliadau arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, drwy fwyafrif, bod y Pwyllgor Trwyddedu yn –

 

(a)      cadw'r tabl ffioedd presennol

 

(b)      cyfarwyddo’r swyddogion i baratoi adroddiad ar gyfer y Pwyllgor Trwyddedu i adolygu’r sefyllfa ymhen 12 mis.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn diweddaru’r aelodau ar adolygiad y prisiau cyfredol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis), a Thabl Prisiau arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Mae’r prisiau presennol wedi bod yn destun adolygiad parhaus ers canol 2023.  Yr oedd ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i gynyddu’r prisiau presennol wedi darparu ymateb cymysg, ac ym mis Rhagfyr 2023 penderfynodd y Pwyllgor Trwyddedu gadw’r prisiau presennol tra bod cyfrifiannell brisiau yn cael ei datblygu.  Ers hynny, ychydig iawn o ymateb a gafwyd gan y fasnach drwyddedig i gynorthwyo i fwydo ychwaneg o ddata i’r gyfrifiannell brisiau, a lle nodwyd bylchau yn y data dibynnwyd ar ddata arall er mwyn datblygu’r gyfrifiannell brisiau a dull gweithredu, a nodwyd yn fanwl yn yr adroddiad ynghyd â’r prisiau a luniwyd a thabl yn cymharu awdurdodau gogledd Cymru.

 

Gofynnwyd i’r aelodau ystyried manylion yr adroddiad, gan gynnwys yr effaith ar y fasnach dacsis a defnyddwyr tacsis o ganlyniad i gynnydd yn y prisiau, a naill ai (i) cadw’r tabl prisiau presennol, neu (2) gynyddu’r prisiau yn unol â’r gyfrifiannell brisiau, yn amodol ar ymgynghoriad statudol.  Pe bai’r aelodau’n cefnogi cynnydd yn y prisiau ac na chafwyd unrhyw wrthwynebiad yn dilyn ymgynghoriad, byddai’r cynnydd yn cael ei weithredu, ond byddai’n rhaid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnid ger bron y Pwyllgor i’w hystyried.  Byddai unrhyw dariff terfynol yn destun Penderfyniad Dirprwyedig Aelod Arweiniol.

 

Yn ystod y drafodaeth diolchodd yr aelodau i swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr a nodwyd y dull gweithredu pwyllog a chadarn a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu’r gyfrifiannell brisiau.  Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad yn ofalus ynghyd â’r dewisiadau a oedd ar gael iddynt, a gofynnwyd cwestiynau amrywiol i’r swyddogion yn ystod y trafodaethau.  Cyfeiriwyd yn benodol at ddiffyg awydd ymddangosiadol y fasnach dacsis i gynyddu’r prisiau a’r effaith ar ddefnyddwyr tacsis yn yr hinsawdd ariannol bresennol.  Crybwyllwyd amseru ac amlder adolygiadau prisiau, a pha un a fyddai dull o gynyddu prisiau fesul cam yn rheolaidd yn osgoi cynnydd mawr yn y ffioedd ar ôl cyfnod hwy ai peidio.  Nodwyd bod y tariff yn pennu’r pris uchaf posibl a ganiateir a gellid codi ffi is.  Trafodwyd hefyd werth cynnal ymgynghoriad eang ar y cynnydd arfaethedig yn y prisiau ac ystyried y safbwyntiau hynny cyn gwneud penderfyniad terfynol.

 

Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r aelodau fel a ganlyn –

 

·       yr oedd ymgynghoriadau blaenorol â’r fasnach dacsis wedi darparu ymateb cymysg o blaid ac yn erbyn codi prisiau; ni chafwyd cawod o geisiadau am gynnydd yn y prisiau

·       yr oedd lefel y gyrwyr trwyddedig newydd yn dal yn gyson â blynyddoedd blaenorol a nifer y gyrwyr trwyddedig yn parhau i fod yn weddol gyson

·       yr oedd y gyfrifiannell brisiau’n darparu ffordd o gyfrifo cost gyfartalog gweithredu busnes tacsis ac yr oedd y cynnydd arfaethedig yn seiliedig ar fethodoleg fanwl

·       manylwyd ar y tariff a luniwyd, fel y’i nodwyd yn yr adroddiad, a oedd yn rhoi’r pris uchaf posibl y gellid ei godi a byddai’n arwain at gynnydd o’r pris presennol, sef £6.00, i bris arfaethedig o £6.94, yn seiliedig ar siwrnai 2 filltir

·       byddai’r tariff arfaethedig yn peri i Sir Ddinbych fod yr awdurdod drutaf yng ngogledd Cymru, ac yng nghanol y tabl cenedlaethol o brisiau tacsis

·       ni wyddid beth oedd y dull a ddefnyddid gan awdurdodau lleol eraill gogledd Cymru i gyfrifo prisiau, a bu’n 1-4 blynedd ers i’r awdurdodau hynny adolygu eu prisiau ddiwethaf; yr oedd un awdurdod nad oedd wedi cynyddu ei brisiau ers 2010

·       manylwyd ar yr ymgynghoriad eang, yn ogystal â gofynion statudol, pe bai’r dewis hwnnw yn cael ei gymeradwyo – byddai’n cynnwys ymgysylltu sylweddol gyda’r fasnach drwyddedig, cynghorau tref / cymuned a sefydliadau amrywiol ynghyd â phresenoldeb ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn gysylltiedig â phorth Sgwrs y Sir

·       nid oedd amserlen statudol benodol i adolygu prisiau a oedd wedi eu cyflwyno’n flaenorol ar gais y fasnach dacsis neu aelodau, ac yr oedd cytundeb wedi bod i ailystyried y prisiau o fewn 12 mis yn dilyn yr adolygiad diwethaf

·       nifer fechan o geisiadau am gynnydd yn y prisiau a gafwyd o gymharu â nifer y gyrwyr trwyddedig, ond yr oedd yn anodd canfod safbwyntiau’r fasnach dacsis yn ehangach; yn ogystal, dim ond nifer fechan oedd wedi cymryd rhan yn adolygiad y gyfrifiannell brisiau

·       yr oedd yn debygol y byddai perchnogion tacsis yn adennill TAW ar danwydd, a defnyddiwyd y cyfraddau diweddaraf a gyhoeddwyd gan yr AA ar gyfer tanwydd wrth gyfrifo’r prisiau

·       ni heriwyd y cyfrifiadau a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Brian Jones a oedd yn dangos y byddai prisiau arfaethedig ar gyfer siwrneiau pellach na 10 milltir yn gostwng o gymharu â’r tariff presennol, ac eglurwyd y defnyddid tariff 2 filltir fel mesur safonol yn nhablau cenedlaethol prisiau tacsis ac ni wnaed cyfrifiadau y tu hwnt i hynny; yr oedd y ffigurau’n dibynnu’n gyfan gwbl ar y gyfrifiannell brisiau

·       cadarnhawyd bod gweithredwyr tacsis yn codi eu prisiau eu hunain, ac yr oedd y symiau ar gyfer yr un siwrnai yn amrywio, yn amodol ar y tariff uchaf posibl a bennwyd gan yr awdurdod.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl nid oedd y rhan fwyaf o’r aelodau yn meddwl bod awydd gan y fasnach dacsis i gynyddu prisiau.  Awgrymwyd y byddai gwerth i ymgynghori ar gynnydd yn y prisiau er mwyn cael gwybod yn iawn beth yw’r safbwyntiau hynny, er mwyn eu hystyried ymhellach cyn gwneud penderfyniad terfynol.  Amlygodd y swyddogion y byddai angen i’r aelodau gefnogi’r cynnydd arfaethedig yn y tabl prisiau er mwyn cynnal ymgynghoriad arno oherwydd byddai’r ffioedd hynny’n dod i rym pe na dderbynnid unrhyw sylwadau i’r ymgynghoriad.  Cadarnhawyd y byddai’r broses ymgynghori’n costio tua £1500-£2000.

 

Ar y pwynt hwn gofynnodd aelod o’r cyhoedd am gael siarad.  Dywedodd y Cyfreithiwr nad oedd hawl gan aelod o’r cyhoedd i siarad yng nghyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu – yr oedd hynny yn ôl disgresiwn y Cadeirydd.  Yr oedd dadl deg wedi bod, ac, er mwyn bod yn deg, ni fyddai yna wrthfarn pe bai caniatâd yn cael ei roi.  Gwrthododd y Cadeirydd y cais.

 

Wedi ystyried cynnwys yr adroddiad a rhoi sylwadau fel y bo’r angen ynglŷn â’r dogfennau am y dull gweithredu sydd ynghlwm fel Atodiadau, estynnodd y Cadeirydd wahoddiad am gynnig.  Cynigiodd y Cynghorydd Hugh Irving, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Joan Butterfield, bod y tabl prisiau presennol yn cael ei gadw, a bod swyddogion yn cael eu cyfarwyddo i baratoi adroddiad i’w gyflwyno ger bron y Pwyllgor Trwyddedu mewn deuddeng mis er mwyn adolygu’r sefyllfa.

 

Ar ôl cael ei roi i bleidlais –

 

PENDERFYNWYD, drwy fwyafrif, bod y Pwyllgor Trwyddedu yn –

 

(a)      cadw’r tabl prisiau presennol

 

(b)      cyfarwyddo’r swyddogion i baratoi adroddiad ar gyfer y Pwyllgor Trwyddedu i adolygu’r sefyllfa ymhen 12 mis.

 

 

Dogfennau ategol: