Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD AR STRATEGAETH A CHYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG AR GYFER 2025/26 - 2027/28 AC ADOLYGIAD O GADERNID A CHYNALIADWYEDD ARIANNOL Y CYNGOR

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Archwilio (copi ynghlwm) sy’n ceisio adborth y Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â Strategaeth a Chynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2025/26 i 2027/28, yn ogystal ag asesiad yr Awdurdod o’i gadernid a’i gynaliadwyedd ariannol.

10.45am – 11.30am

Cofnodion:

Bu i’r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau a Phennaeth Cyllid ac Archwilio gyflwyno’r adroddiad Strategaeth a Chynllun Ariannol Tymor Canolig (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Bu iddynt ddweud wrth aelodau y byddai gan y Pwyllgor swyddogaeth allweddol wrth symud ymlaen ym mhrosesau monitro’r gyllideb a strategaeth/cynllun ariannol tymor canolig a byddai eu safbwyntiau’n cael eu cyflwyno i’r Cabinet.   Bu i’r Aelod Arweiniol roi trosolwg o beth roedd bob atodiad yn ei gyflwyno a gwahoddwyd cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

Gan ymateb i’r cwestiynau a godwyd dywedodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio:

 

·   mewn perthynas â pha mor gyfredol oedd y data ac a oedd data amser real ar gael i aelodau etholedig - byddai sefydlu’r system rheoli cyllid T1 newydd yn flaenoriaeth dros yr haf er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio’n effeithlon ac yn effeithiol.  Roedd yr adran gyllid yn edrych ar y mantolenni yn barhaus. Byddai diweddariad pellach ar yr arbedion a wnaed hyd yma i gyfarfod Cabinet mis Gorffennaf. Yn anffodus, byddai rhywfaint o oedi mewn data bob amser oherwydd yr amser sydd ei angen i baratoi adroddiadau cyn dyddiadau cau cyhoeddi.

·   er bod ffigyrau gwario ac arbedion Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd wedi eu cynnwys gyda’i gilydd, oherwydd eu bod o dan yr un Pennaeth Gwasanaeth, roedd gan y Gwasanaeth Cyllid ffigyrau unigol ar gyfer y meysydd gwasanaeth ar wahân a ellir eu rhannu gydag aelodau. Byddai ffigwr maes gwasanaeth unigol yn cael ei rannu yn ystod y gweithdai sydd i ddod.  Pwysleisiwyd mai Gofal Cymdeithasol i Oedolion oedd maes gwariant mwyaf y Cyngor gan ei fod yn seiliedig ar alw ac roedd gan yr ardal broffil mawr o ran demograffeg pobl hŷn, roedd pobl yn byw’n hirach ac felly roedd y galw ar y gwasanaeth wedi cynyddu.

·   mewn perthynas â nifer y fforymau oedd yn trafod cynnwys yr adroddiad penodol hwn, roedd hwn yn adroddiad arwyddocaol a oedd yn cynnwys manylion y prif rwystr i’r Cyngor wrth ddarparu ei wasanaethau a chyflawni ei ddyheadau ar gyfer y dyfodol.  Felly roedd yn allweddol fod holl brif bwyllgorau sy’n gwneud penderfyniadau a grwpiau gweithredol y Cyngor yn ei weld ac yn rhan o’i graffu.  I ddechrau cyflwynwyd yr adroddiad i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, yna’r Cabinet cyn i’r Cyngor Llawn ei gymeradwyo.  Roedd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ran i’w chwarae wrth sicrhau fod gan y Cyngor broses ddigonol o ran gosod cyllideb, tra bod swyddogaeth y Pwyllgor Craffu Perfformiad yn canolbwyntio ar fonitro’r gyllideb ac arbedion, adnabod llithriadau yn gynnar er mwyn ffurfio argymhellion gyda’r bwriad o ymdrin â’r llithriadau hynny.  Gan fod gan bob pwyllgor/grŵp swyddogaeth wahanol i’w chyflawni mewn perthynas â’r MTFS a MTFP nid oedd cyflwyno i bob un yn golygu dyblygu gwaith

·   bod trefniadau ar waith i gynnal cyfarfod gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned i’w diweddaru ar sefyllfa’r gyllideb. 

·   o ran cynlluniau gadael gwirfoddol staff a’u heffaith ar ddarparu gwasanaeth, roedd rheoli swyddi gwag dal yn weithredol.  O dan y polisi rheoli swyddi gwag roedd unrhyw geisiadau gan reolwyr/penaethiaid gwasanaeth i recriwtio staff yn cael eu cyflwyno i’r Tîm Gweithredol Corfforaethol am gymeradwyaeth cyn hysbysebu’r swyddi.  Bu i aelodau nodi pryderon ynghylch a oedd y cynlluniau hyn wedi annog swyddogion eraill i adael cyflogaeth yr Awdurdod ochr yn ochr ond nid trwy’r cynlluniau hyn, gan eu bod yn teimlo fod nifer o swyddogion adnabyddus yng Nghyngor Sir Ddinbych yn gadael yn y dyfodol agos a fyddai’n golygu colli llawer o wybodaeth a phrofiad.  Roedd aelodau yn bryderus fod y nifer uchel o staff profiadol yn gadael am amrywiaeth o resymau yn ganlyniad negyddol anfwriadol y cynlluniau gadael gwirfoddol.

·   bydd ymholiadau’n cael eu gwneud o ran a oedd y rhagdybiaeth a amcangyfrifir o £700,000 o ffioedd parcio ceir yn debygol o gael ei wireddu. 

 

I orffen y drafodaeth bu i’r Pwyllgor drafod pa gamau lliniaru a gymerir i sicrhau fod y Cyngor yn gosod ac yn cyflwyno cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn gyfredol ac ar gyfer y blynyddoedd i ddod.  Bu i’r Aelodau Arweiniol dynnu sylw’r Pwyllgor at Atodiad 4, y MTFP, a oedd yn amlinellu’r broses a ddilynir.  Roedd angen i bob gwasanaeth o fewn y Cyngor wneud arbedion, ac mewn rhai achosion roedd rhaid torri rhai gwasanaethau, fodd bynnag yn yr hirdymor ni fyddai hyn yn hyfyw a dyma’r rheswm pam fod y Bwrdd Cyllideb a Thrawsnewid wedi ei sefydlu gyda’r bwriad o edrych ar ffyrdd eraill o arbed yn y dyfodol, gan gynnwys ffyrdd gwahanol o ddarparu gwasanaethau.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

Penderfynwyd:

 

(i)   bod y sylwadau uchod ar y materion a restrwyd ym mharagraff 2.1 yr adroddiad yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet gan yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau ynghyd â’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio; a

(ii)  cydnabod ei swyddogaeth yn y dyfodol wrth osod y gyllideb a phrosesau monitro’r Strategaeth a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

Ar y pwynt hwn, cymerodd y pwyllgor egwyl o 10 munud.

 

 

 

Dogfennau ategol: