Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD HUNAN-ASESU PERFFORMIAD Y CYNGOR 2023/24

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog Perfformiad a Chynllunio Strategol sy’n dadansoddi perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau, gan gynnwys y Cynllun Corfforaethol ac amcanion Cydraddoldeb Strategol a cheisio barn y Pwyllgor ar y cynnydd hyd yn hyn.

 

12.15pm – 12.45pm

Cofnodion:

Bu i’r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol gyflwyno’r adroddiad ac atodiadau (dosbarthwyd ymlaen llaw) gan nodi fod y Cyngor wedi gosod Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol, ac ers iddo gael ei gymeradwyo roedd hi hyd yn oed yn fwy heriol ei gyflawni o ystyried yr hinsawdd ariannol cyfredol sy’n wynebu awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus.  

 

Bu i Bennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol - Perfformiad, Digidol ac Asedau, roi trosolwg o’r cynnydd a wnaed, ac amlinellu’r heriau yn erbyn themâu’r Cynllun Corfforaethol. Dywedodd ei bod yn ddogfen fyw, pan fo gan eitemau statws coch, roeddent dal i gael sylw, nid oedd yn golygu eu bod wedi eu hoedi, mewn rhai achosion gall cynnydd fod yn arafach i rai meysydd oherwydd pwysau cyllidebol. Hefyd ynghlwm fel atodiad i’r adroddiad oedd y cwmpas drafft ar gyfer Asesu Perfformiad Panel i gael sylwadau aelodau.

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Gwasanaeth a swyddogion eraill:

 

·       bod y ‘statws deall trawma’ yn cyfeirio at Fframwaith cymdeithas gyfan i gefnogi dull cydlynol, cyson o ddatblygu a gweithredu ymarfer sy’n deall trawma ar draws Cymru, gan ddarparu’r cymorth gorau posib i’r rhai sydd fwyaf o’i angen. Roedd yn ymwneud â sut roedd ysgolion ac unigolion ynddynt yn cymryd ystyriaeth o drallod a thrawma, adnabod a chefnogi cryfderau’r unigolyn i oresgyn y profiadau hyn yn eu bywydau a gosod y gefnogaeth a gallant ei disgwyl gan sefydliadau, sectorau a systemau y gallant fynd atynt am gymorth. Roedd yn cynnwys hyfforddiant a oedd yn eithaf dwys ac yn ddibynnol ar arian grant. Roedd un ysgol yn Sir Ddinbych wedi cael y statws hyd yma ac roedd dwy ysgol arall yn rhannol trwy’r broses. Ym Mehefin 2023, cynhaliwyd hyfforddiant deuddydd uwch arweinyddiaeth ysgol; roedd 87 o uwch arweinwyr wedi eu hyfforddi rhwng Mehefin a Thachwedd 2023.  Roedd gan y sir hefyd 86 o staff ysgolion a sirol a oedd wedi cwblhau’r diploma fel Ymarferwyr sy’n Deall Trawma. Roedd y Cyngor yn aros am gadarnhad ynghylch cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth deall trawma cyffredinol am ddim.

·     roedd y prif feysydd o orwariant, a oedd yn cyfrannu at amrywiolyn cyllideb Corfforaethol a Gwasanaeth o £2,780,000 ar ddiwedd Mawrth 2024, yn parhau i fod yn y Gwasanaethau Addysg a Phlant, Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd. Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn amlinellu’r camau a gymerwyd yn y misoedd diwethaf i gyflawni cyllideb gytbwys h.y. cynlluniau gadael gwirfoddol, cynlluniau arbedion i staff, y pecyn o gynigion arbedion a gymeradwywyd yn gynharach yn y flwyddyn, gweithredu rheolaethau gwario (gan gynnwys rheoli swyddi gwag).  Roedd yn bwysig cofio fod y gyllideb yn cael ei gweld fel proses sy’n esblygu yn hytrach nag un digwyddiad yn Ionawr bob blwyddyn. Bydd ymgysylltiad sylweddol ar y gyllideb a phwysau ariannol ar draws y Cyngor, gydag aelodau a gyda chymunedau yn parhau.

·     Mae’r Cyngor wedi cymeradwyo’r polisi gweithio’n hyblyg, sy’n golygu fod rhai swyddogion yn gweithio o gartref am rywfaint o’u hamser ac o adeiladau’r Cyngor pan fo gwaith y Cyngor yn gofyn am hynny.  Roedd y polisi hwn yn galluogi staff i gael cydbwysedd gwaith/bywyd, gyda buddiannau’r busnes yn flaenllaw.  Bu iddo arbed arian i’r Cyngor a rhyddhau swyddfeydd, bu iddo hefyd ostwng amser a dreulir yn teithio i gyfarfodydd a rhwng gwahanol leoliadau a helpu i ostwng allyriadau carbon. Nid oedd unrhyw gynlluniau i adolygu’r polisi ar hyn o bryd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Llywodraethu a Busnes wrth yr aelodau os nad oedd swyddog yn ymateb i gynghorwyr mewn modd amserol, dylent ei godi gyda Phennaeth Gwasanaeth y swyddog, gan na ddylai gweithio o gartref achosi oedi wrth ymateb.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

Penderfynodd:- y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod i –

 

(i)  cael adroddiad Hunanasesiad Perfformiad y Cyngor ar gyfer 2023 i 2024, gan gydnabod y materion yn ymwneud â pherfformiad a amlygwyd o fewn yr adroddiad ynghyd â’r camau gweithredu a nodwyd i ymdrin â llithriadau a/neu bwysau cyllidebol; a

(ii)                  cefnogi’r negeseuon allweddol sy’n codi o’r Hunanasesiad a chymeradwyo’r cwmpas drafft ar gyfer Asesiad Perfformiad Panel 2024 yn Atodiad IV.

 

 

 

Dogfennau ategol: