Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH DDIWYGIEDIG DDRAFFT SIR DDINBYCH AR NEWID HINSAWDD A NEWID ECOLEGOL 2021/22 - 2029/30

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog Perfformiad a Chynllunio Strategol sy’n dadansoddi perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau, gan gynnwys y Cynllun Corfforaethol ac amcanion Cydraddoldeb Strategol a cheisio barn y Pwyllgor ar y cynnydd hyd yn hyn.

 

11.45am – 12.15pm

Cofnodion:

Yn absenoldeb Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant bu i Bennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol - Perfformiad, Digidol ac Asedau, a’r Rheolwr Prosiect Newid Hinsawdd gyflwyno’r adroddiad a’r strategaeth ddrafft a adolygwyd (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Roedd angen adolygu’r Strategaeth bob tair blynedd, a dyma’r adolygiad cyntaf. Roedd Atodiad 2 i’r adroddiad yn cynnwys canfyddiadau cychwynnol yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y ddogfen ddrafft, tra bod Atodiad 3 yn rhestru’r diwygiadau arfaethedig a fyddai’n cael eu gwneud i’r strategaeth yn dilyn yr ymgynghoriad. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y Cyngor yn gwneud cynnydd da wrth weithredu a chyflwyno’r Strategaeth, ond oherwydd cyflymder newid a phwysau cyllidebol ni allant warantu y byddai’r Awdurdod yn cyflawni ei brif uchelgais erbyn 2030.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth a Rheolwr Prosiect Newid Hinsawdd: 

 

  • Roedd gan y Cyngor 85 o Bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan (CT), roedd gan y rhan fwyaf 2 soced. Roedd 45 o’r pwyntiau rhain ger adeiladau’r Cyngor, 40 ar gael i’r cyhoedd mewn meysydd parcio sy’n berchen i’r Cyngor (18 ym maes parcio West Kimmel Street yn y Rhyl). Roedd 12 pwynt yn cael eu comisiynu ar hyn o bryd. Mae lleoliad y pwyntiau gwefru CT agosaf i’w gweld ar-lein.
  • nid yw’r Cyngor yn darparu pwyntiau gwefru ar hyn o bryd yn ei stoc dai, yn bennaf gan nad oes gan y mwyafrif ddreifiau. Pan fo ganddynt ddreifiau, roedd rhai tenantiaid wedi gwneud eu trefniadau eu hunain i osod pwyntiau gwefru CT.  Fodd bynnag, byddai’r Cyngor yn parhau i edrych ar drefniadau cyllido ar gyfer gosod mwy o bwyntiau CT ar dir sy’n berchen i’r Cyngor a stoc dai’r Cyngor yn y dyfodol.    
  • yr incwm a gynhyrchir o ddefnyddio pwyntiau gwefru CT wedi ei fuddsoddi mewn cynnal y systemau.  Er nad oedd y Cyngor yn gwneud colled trwy osod y pwyntiau hyn ni cheir gwneud elw o’r gwasanaeth.
  • Byddant yn fodlon trafod gyda chynghorwyr unigol y tu allan i’r cyfarfod ynglŷn ag amrywiol gyfleoedd grant a allai fod ar gael i’r cyhoedd neu sefydliadau lleol i ymgeisio er mwyn gosod pwyntiau gwefru CT a mesurau arbed ynni eraill etc. yn arbennig mewn ardaloedd gwledig.  Roedd gan y tîm hanes da o sicrhau cyllid allanol a byddent yn parhau i wneud hynny ar gyfer ardaloedd sy’n flaenoriaeth o fewn y Strategaeth.
  • Nid oes angen i’r Cyngor gyflawni popeth sydd yn y Strategaeth ei hun, mae’n golygu defnyddio ein dylanwad i bartneriaid a’r cyhoedd gyfrannu hefyd. Hefyd yn ymwneud â blaenoriaethu ein hymdrechion a’n gweithredoedd.  Roedd Swyddogion yn gobeithio cael prosiectau’n barod pan fydd arian grant ar gael.
  • nid oedd gan yr adolygiad ei hun oblygiadau cost gan mai amser staff oedd y costau.   Roedd rhywfaint o arian wedi ei wario ar hwylusydd annibynnol ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus allanol.
  • er mwyn cyflawni sero net erbyn 2030, amcangyfrifir fod goblygiadau ariannol, o leiaf £48 miliwn dros y 6 mlynedd, a gellir ariannu llawer ohono trwy grantiau allanol.
  • fforddiadwyedd oedd y prif risg oedd yn gysylltiedig â’r Strategaeth, yna adnoddau swyddogion.   Roedd swyddogion nawr yn blaenoriaethu prosiectau ble roeddent yn debygol o allu cael arian allanol ar gyfer prosiectau a fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

 

Awgrymodd yr aelodau y gall fod yn arfer da yn y dyfodol i ganiatâd cynllunio ar gyfer adeiladau newydd nodi’r angen i osod pwyntiau gwefru CT fel rhan o’r meini prawf cynllunio yn ystod y broses caniatâd cynllunio.   Bu i aelodau drafod y posibilrwydd o ddefnyddio’r system rheolaeth ariannol newydd ar gyfer olrhain data allyriadau carbon ar gyfer y Cyngor.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar yr adborth a’r sylwadau uchod, i gydnabod y gwaith a wneir i ddatblygu’r Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol 3 mlynedd a adolygwyd, ac wrth wneud hynny -

 

(i)   cefnogi ei nodau a’i hamcanion ac argymell i’r Cabinet ei fod yn gofyn i’r Cyngor Sir fabwysiadu a gweithredu’r Strategaeth ddiwygiedig;

(ii)  penderfynu y bydd cynnydd y Cyngor wrth gyflawni’r Strategaeth ddiwygiedig yn cael ei fonitro gan y Pwyllgor yn flynyddol o dymor yr hydref 2025 ymlaen; a

(iii)  fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 4).

 

 

 

Dogfennau ategol: