Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD AROLWG ESTYN 2018

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) ar y cynnydd a wnaed i fynd i’r afael â’r argymhellion yn adroddiad arolwg Estyn 2018 o wasanaethau addysg Cyngor Sir Ddinbych.

 

10.15am – 10.45am

 

 

Cofnodion:

Yn absenoldeb Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc bu i’r Pennaeth Addysg gyflwyno’r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn diweddaru’r Pwyllgor ar y camau a gymerwyd yn dilyn Arolwg Estyn yn 2018.  Eglurodd, yn ddelfrydol, y byddai’r Gwasanaeth wedi cyflwyno’r math hwn o adroddiad terfynu yn gynharach, fodd bynnag roedd cadarnhau’r camau i ymdrin ag argymhellion yr adroddiad wedi ei oedi ac roedd angen ei addasu oherwydd y pwysau yn dilyn y pandemig. Cafodd yr arolwg arbennig hwn adroddiad arolwg cadarnhaol iawn ac roedd tri maes allweddol yr oedd Estyn wedi canolbwyntio arnynt yn 2018; Deilliannau, Ansawdd Gwasanaethau Addysg ac Arweinyddiaeth a Rheoli.

 

Yr argymhellion o’r arolwg oedd gostwng yr amrywiaeth mewn deilliannau mewn ysgolion uwchradd, ac yn ail sicrhau fod y gwerthusiad o wasanaethau i ddisgyblion a addysgir y tu allan i’r sir ac mewn lleoliadau adnoddau yn canolbwyntio’n glir ar fesur deilliannau roedd plant a phobl ifanc wedi eu cyflawni trwy’r gwasanaethu hynny. 

 

Bu i’r Pennaeth Gwasanaeth egluro o dan argymhelliad un, i ostwng yr amrywiaeth mewn deilliannau, bod cyfarwyddeb Llywodraeth Cymru na ddylai awdurdodau lleol ac ysgolion gyhoeddi data cymharol yn dangos perfformiad blwyddyn i flwyddyn, ysgol yn erbyn ysgol, gan fod bob ysgol yn wahanol, yn ei gwneud yn fwy anodd dangos sut mae amrywiaethau rhwng ysgolion wedi gostwng.

 

Roedd yr ysgolion ac awdurdodau lleol yn parhau i gadw’r data ond nid oeddent yn cael ei gyhoeddi. Gall y cyhoedd weld y data trwy ddefnyddio gwefan Fy Ysgol Leol LlC. Dylid defnyddio’r data i yrru penderfyniadau ar gyfer gwelliant ym mhob ysgol.

 

Roedd y gwasanaeth yn bwriadu dod ag adroddiad i’r Pwyllgor i nodi sut roedd ysgolion Sir Ddinbych yn perfformio yn erbyn targedau perfformiad cenedlaethol, a fyddai’n edrych ar y deilliannau yn Sir Ddinbych yn erbyn deilliannau’n genedlaethol, nid dim ond yn erbyn ysgolion yn Sir Ddinbych.

 

O dan argymhelliad dau dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth, mewn perthynas â lleoliadau y tu allan i’r sir, fod llawer o gamau wedi eu cymryd i ymdrin â’r agwedd hon, gan gynnwys panel a fu’n cwrdd bob pythefnos i drafod cynnydd dysgwyr unigol, ymweliadau rheolaidd gan swyddogion y Gwasanaeth ag ysgolion, a ble’n briodol cydweithio rhwng gofal cymdeithasol ac addysg yn ogystal â staff y Gwasanaeth Iechyd gyda’r bwriad o fonitro, cefnogi a sicrhau gwelliant parhaus yng nghyrhaeddiad y disgybl.  Yn dilyn yr arolwg, roedd y Gwasanaeth yn hyderus fod ganddo afael cadarn ar bob lleoliad tu allan i’r sir.

 

Yna agorodd y Cadeirydd y drafodaeth ar gyfer unrhyw gwestiynau.  Gan ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth:

 

  • mai’r cyngor a roddwyd i deuluoedd sy’n symud i’r ardal o ran sut i benderfynu pa ysgol fyddai’r un fwyaf priodol ar gyfer eu plentyn oedd defnyddio’r data sydd ar gael ar wefan Fy Ysgol Leol ar gyfer bob ysgol a ystyrir ar gyfer eu plentyn ac yna i ymweld â’r ysgol(ion) a chwrdd â’r Pennaeth. 
  • roedd y setiau data ar gyfer ysgolion fel arfer yn cael eu diweddaru yn flynyddol tra bod data presenoldeb yn cael ei ddiweddaru’n fisol
  • er y bu nifer o newidiadau mewn staff yn y Gwasanaeth ers yr arolwg, roedd addysg a’r byd yn gyffredinol hefyd wedi newid yn ddramatig ers y pandemig, gyda bob gwasanaeth nawr yn ceisio bodloni gofynion cynyddol gydag adnoddau ariannol cyfyngedig.  Fodd bynnag, roedd y Gwasanaeth wedi datblygu perthnasoedd rhagorol gyda phenaethiaid ac yn deall y blaenoriaethau roeddent yn canolbwyntio arnynt.  Cynhaliwyd sesiynau briffio agored wythnosol gydag ysgolion ble roedd pawb yn cael eu hannog i rannu unrhyw bryderon neu ymholiadau gyda’r Gwasanaeth gyda’r gobaith o geisio datrysiadau neu atebion. Roedd hefyd angen i’r Gwasanaeth fodloni blaenoriaethau eraill gan LlC ac Estyn a bu i’r Gwasanaeth geisio cydbwyso’r rhain yn gyson er mwyn defnyddio adnoddau cyfyngedig yn effeithiol.  Roedd gan y Gwasanaeth broffil Estyn ‘da’ ar hyn o bryd.
  • nid oedd y cynllun Campau’r Ddraig na’r rhaglen 5 x 60 bellach yn bodoli.  Roedd gan Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig gynnig cymunedol cryf i ysgolion ac roedd chwaraeon yn ffurfio rhan statudol o’r Cwricwlwm Newydd i Gymru, gyda’i ganolbwynt holistig ar les corfforol a meddyliol.
  • o ran GwE, roedd y cyn Weinidog Addysg a’r Gymraeg wedi cyhoeddi Cam 2 o adolygiad haen ganol o GwE, a allai arwain at ddod â’r elfen gweithio’n rhanbarthol i ben, gyda mwy o ganolbwynt ar ysgolion lleol a chydweithio gydag awdurdodau lleol cyfagos eraill, bydd y cam hwn o’r adolygiad yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Awst 2024.  Ni wnaed unrhyw benderfyniadau eto o ran cefnogaeth hirdymor.  Am y 12 mis nesaf bydd GwE yn parhau i gefnogi ysgolion.  Rhagwelir y byddai newidiadau’n cael eu gwneud i wasanaethau a gomisiynir gan GwE o Ebrill 2025 ond byddai’r gwaith statudol a ddarperir i Gyngor Sir Ddinbych yn parhau. Roedd y gwasanaethau a gomisiynir yn debygol o gael eu teilwra i anghenion unigol ysgolion ar ôl Ebrill 2025; a
  • o ran pryd mae arolwg nesaf o Wasanaeth Addysg y Cyngor yn debygol, roedd arolygiadau Estyn mewn cylchoedd chwe blynedd.  Gan fod y 22 awdurdod lleol bellach wedi cael arolwg, mewn theori gall y Cyngor gael arolwg unrhyw bryd o Fedi 2024 ymlaen pan ddaw Fframwaith Arolygu newydd Estyn i rym.  Cynhelir bob arolwg gyda rhybudd cyfyngedig i’r Awdurdod neu pryd roedd yn debygol o ddigwydd.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth drylwyr:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau a ddarparwyd ac o ystyried y sefyllfa gyfredol yn dilyn y pandemig, roedd yn fodlon fod yr holl gamau posib i ymdrin â’r argymhellion yn Adroddiad Arolwg Estyn 2018 wedi eu cwblhau.

 

 

 

Dogfennau ategol: