Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUNIAU HIRDYMOR AR GYFER TREFI: Y RHYL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Mynd i'r Afael ag Amddifadedd (copi yn amgaeedig) ynglŷn ag oddeutu £20 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y Rhyl, fel rhan o fenter Cynlluniau Hirdymor ar gyfer Trefi Llywodraeth y DU, a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer yr ymateb arfaethedig i’r camau gweithredu gofynnol.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi a’r Arweinydd/Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth angenrheidiol i Lywodraeth y DU er mwyn bodloni gofynion y gronfa erbyn y dyddiad cau, sef 3 Mehefin 2024.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad ynglŷn â’r gronfa £20 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y Rhyl, rhoddodd ychydig o gefndir i’r adroddiad, a gofynnodd am gefnogaeth y Cabinet i’r ymateb arfaethedig i’r camau gweithredu sydd eu hangen.

 

Mae’r adroddiad yn nodi’r prif delerau ac amodau ar gyfer yr £20 miliwn o gyllid a gyhoeddwyd ar gyfer y Rhyl fel rhan o fenter Cynlluniau Hirdymor ar gyfer Trefi a rhaglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.  Byddai cyllid yn cael ei ddyfarnu i’r Cyngor a fyddai’n gyfrifol am y cyllid ac am gyflwyno’r cynllun.  Roedd angen cyflawni rhai gweithredoedd erbyn 3 Mehefin 2024 (dyddiad terfynol diwygiedig o 1 Mehefin fel nodwyd yn yr adroddiad) megis penodi Cadeirydd y Bwrdd Tref ynghyd â chyflwyno Bywgraffiad y Cadeirydd, Strwythur y Bwrdd, Cylch Gorchwyl, Polisi Gwrthdaro Buddiannau, a Ffiniau Tref.  Er y croesawyd yr arian roedd yr amserlen yn heriol a gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cabinet i ddirprwyo’r tasgau hynny i’r Swyddog Arweiniol a’r Arweinydd/Aelod Arweiniol i gyrraedd dyddiad terfynol o ran cyllid.  Rhoddwyd manylion y camau gweithredu dilynol sy’n rhaid i’r Bwrdd eu cyflawni cyn 1 Tachwedd.

 

Bu i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd ymhelaethu ar gynnydd a’r gwaith a wnaed hyd yma i gyflawni’r camau gweithredu angenrheidiol erbyn 3 Mehefin ac i sicrhau’r cyllid a oedd yn ymwneud yn bennaf â threfniadau a thasgau gweinyddol, gan gynnwys cyfweliadau i benodi Cadeirydd y Bwrdd yn ddiweddarach yr wythnos honno, a chynrychiolaeth ac aelodaeth y Bwrdd.  Roedd gwaith i’r ail ddyddiad terfynol o 1 Tachwedd yn ymwneud â’r weledigaeth hirdymor (10 mlynedd) ar gyfer y dref a chynllun cyflawni 3 mlynedd yn seiliedig ar flaenoriaethau pobl leol ac roedd y buddsoddiad a’r adfywio yn alinio â thair thema allweddol.  Byddai’r dasg honno yn golygu llawer o waith ymgysylltu ac roedd arian ychwanegol ar gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer hynny (ar wahân i’r gronfa £20 miliwn).  Ychwanegodd yr Arweinydd fod llawer o waith wedi ei wneud mewn cyfnod byr a mynegodd ei ddiolch i bawb a oedd yn rhan o’r broses honno.

 

Roedd y Cabinet yn croesawu’r arian ychwanegol ar gyfer y Rhyl a thrafodwyd amrywiol agweddau ar yr adroddiad gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Economi a’r Amgylchedd.

 

Roedd prif feysydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol -

 

·       nodwyd fod rhaid i weledigaeth a blaenoriaethau’r dref ar gyfer buddsoddiad ac adfywio fod wedi eu halinio â’r themâu o (1) ddiogelwch, (2) strydoedd mawr, treftadaeth ac adfywio, a (3) chludiant a chysylltedd a oedd yn themâu eithaf eang ac yn addas ar gyfer y Rhyl - roedd gweledigaeth eisoes ar gyfer y Rhyl a fyddai’n cael ei hadolygu ar y cyd â datblygiad y weledigaeth hirdymor newydd er mwyn cysylltu ag un ddogfen gydlynol.

·       roedd rhywfaint o drafodaeth ynglŷn â’r cysyniad fod y Rhyl yn cael ei flaenoriaethu o flaen ardaloedd eraill yn y sir ar gyfer buddsoddiad, a oedd hefyd wedi ei adlewyrchu yn y Rhyl gyda rhai yn teimlo fod mwy o arian yn cael ei wario yn Rhuthun, a derbyniwyd fod angen i’r Cyngor fod yn glir wrth gyfathrebu gyda’r cyhoedd, er bod yr arian yn benodol ar gyfer y Rhyl, fod buddsoddiad yn cael ei wneud ar draws y sir gydag arian ffyniant bro ar gyfer De Clwyd a Gorllewin Clwyd yn ogystal â Dyffryn Clwyd ac arian ffyniant cyffredin ar draws y sir.  Roedd y Rhyl yn denu buddsoddiad ychwanegol oherwydd ei heriau economaidd-gymdeithasol a’i bod yn cynnwys dwy o’r wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru a bod buddsoddiad hefyd yn creu buddion cadarnhaol ar gyfer gweddill y sir.  Roedd swyddogion yn mynd i Grwpiau Ardal yr Aelodau unigol gyda chynlluniau tref yn nodi prosiectau sydd wedi eu cyflawni a’r rhai a gynlluniwyd ar gyfer y dyfodol gyda buddsoddiad cymesur ar draws y sir.  Fodd bynnag, o ystyried barn y cyhoedd teimlwyd y gallai’r Timau Cyfathrebu wneud gwaith pellach i ymdrin ag unrhyw gamsyniadau

·       cafodd y gwaith a wnaed gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd ar ddatblygu’r camau gweithredu angenrheidiol ei gwestiynu o ystyried blaenoriaethau/galwadau eraill o ran amser gan gynnwys gwaith ar gynlluniau trawsnewid ac arbedion.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod ganddo nifer o flaenoriaethau a bod angen sicrhau fod y gwaith a wneir ar bob un o’r blaenoriaethau hyn yn gymesur i’r dasg dan sylw.   Roedd rhywfaint o arian ychwanegol ar gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer y cam cychwynnol o sefydlu’r Bwrdd ac mae ymgynghorwyr wedi eu comisiynu i wneud rhywfaint o’r gwaith hwnnw.  Mae’n annhebygol y gellir hawlio am gyllid ar gyfer amser y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar y prosiect, ond gellir edrych ymhellach ar y posibilrwydd

·       roedd y canolbwynt presennol ar y set gyntaf o weithredoedd i gyrraedd y dyddiad terfynol o ran cyllid a’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y dref a byddai ymgysylltiad â phobl leol yn cael ei ddatblygu yn y cam nesaf.  Teimlwyd fod angen i waith cymunedol gael ei gyfeirio gan y Bwrdd ar ôl ei sefydlu a byddai cyfansoddiad y Bwrdd yn cynnwys cynrychiolaeth o’r gymuned

·       amlygwyd fod llawer iawn o waith i’w wneud a chwblhau’r tasgau angenrheidiol i gyrraedd dyddiad terfynol o 3 Mehefin a sicrhau’r arian ynghyd â’r gwaith ychwanegol sydd i’w wneud erbyn y dyddiad terfynol o 1 Tachwedd.  Roedd llawer o waith wedi ei wneud yr un pryd er mwyn penodi Cadeirydd y Bwrdd ac i gael cynrychiolaeth briodol ar y Bwrdd i gyflawni ar gyfer y Rhyl a sicrhau diwallu gofynion dyddiad terfynol o ran cyllid.

 

Agorodd yr Arweinydd y drafodaeth i aelodau nad oedd yn rhan o’r Cabinet ac roedd cefnogaeth eang i’r buddsoddiad yn y Rhyl ac effaith gadarnhaol y cyllid hwnnw ar yr ardal ehangach.  Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â threfniadau llywodraethu a gweithredol y Bwrdd a gofynnwyd am sicrwydd o ran cefnogaeth y gymuned fusnes a chynrychiolaeth briodol er mwyn cyflawni llwyddiant masnachol ynghyd ag ymgysylltu â'r gymuned o’r cychwyn.

 

Ymatebodd yr Arweinydd a swyddogion i’r cwestiynau/sylwadau fel a ganlyn –

 

·       byddai’r cyllid yn cael ei ddyfarnu i’r Cyngor a fyddai’n gyfrifol am y cyllid ac am gyflwyno’r cynllun

·       roedd gwaith yn parhau ar y trefniadau llywodraethu a materion megis cylch gorchwyl, strwythur a chyfansoddiad y Bwrdd - byddai hefyd angen i’r Bwrdd gymryd safbwynt a’i osod yn ei weithrediad/llywodraethu yn y dyfodol.

·       efallai y bydd posib defnyddio cyllid i gael arian ychwanegol gan ffrydiau ariannu eraill, ond byddai’n dibynnu ar feini prawf a chymhwysedd.

·       gan nad oedd yn bosib ateb bob cwestiwn ynglŷn â’r trefniadau llywodraethu ar hyn o bryd awgrymwyd y gellid dod ag adroddiad yn ôl i’r Cabinet pan fydd y trefniadau hyn wedi eu cadarnhau ar ôl 3 Mehefin

·       y dewis fyddai creu cyfansoddiad y Bwrdd a threfniadau llywodraethu cyn penodi Cadeirydd y Bwrdd ond nid oedd y gofynion yn cefnogi’r drefn honno o ddigwyddiadau ac roedd yn amserlen hynod o heriol

·       yr awgrym yn y canllawiau cyfredol, a allai newid, oedd na fyddai gan y Bwrdd ei endid cyfreithiol ei hun o ystyried mai’r Cyngor oedd y corff atebol

·       cydnabod fod gan y gymuned fusnes swyddogaeth allweddol i’w chwarae yn y broses a rhoddwyd sicrwydd y byddai’r sector yn cael ei gynrychioli ar y Bwrdd

·       cadarnhau fod sgyrsiau yn parhau gydag eraill mewn sefyllfa debyg o ran Byrddau Trefi i sicrhau bod arfer gorau’n cael ei rannu, a gwersi a ddysgwyd

·       roedd hyder y penodir Cadeirydd y Bwrdd yn dilyn y broses gyfweld.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at argymhellion yr adroddiad a’r newid i’r dyddiad terfynol o 1 Mehefin i 3 Mehefin ym mharagraff 3.1.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi a’r Arweinydd/Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth angenrheidiol i Lywodraeth y DU er mwyn bodloni gofynion y gronfa erbyn y dyddiad terfynol, sef 3 Mehefin 2024.

 

 

Dogfennau ategol: