Eitem ar yr agenda
ASESIAD DRAFFT O’R FARCHNAD DAI LEOL (LHMA)
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi
amgaeedig) yn cyflwyno’r Asesiad Drafft o’r Farchnad Dai Leol ar gyfer Sir
Ddinbych a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) cymeradwyo Asesiad Drafft o Farchnad
Tai Lleol Sir Ddinbych i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru a
(b) dirprwyo awdurdod i Aelodau Arweiniol
Tai a Chymunedau i gytuno ar unrhyw fân newidiadau golygyddol sydd eu hangen
i’r Asesiad Drafft o’r Farchnad Dai Leol, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Cofnodion:
Yn absenoldeb y Cynghorydd Rhys Thomas, bu i’r
Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan, gyflwyno’r adroddiad a’r Asesiad Drafft
o’r Farchnad Dai Leol (LHMA) ar gyfer Sir Ddinbych a gofynnodd am gymeradwyaeth
y Cabinet i gyflwyno’r asesiad i Lywodraeth Cymru.
Mae'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA) yn
archwilio'r angen/galw am dai nawr ac yn y dyfodol yn Sir Ddinbych ac mae'n
rhan allweddol o'r dystiolaeth sy'n cefnogi polisïau gan gynnwys y Cynllun
Datblygu Lleol a'r Strategaeth Tai a Digartrefedd. Roedd yn ofyniad statudol i’r Cyngor adolygu
anghenion o ran tai o bryd i’w gilydd ac mae’r LHMA wedi ei ddatblygu yn
seiliedig ar ganllawiau a methodoleg pecyn gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau
dull cyson ar draws bob awdurdod lleol yng Nghymru.
Roedd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad, Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai ac Uwch Swyddog -
Cynllunio Strategol a Thai yn bresennol.
Cynghorwyd y Cabinet fod yr LHMA am gyfnod o 15 mlynedd gydag adolygiad
llawn bob 5 mlynedd a diweddariad rhwng blwyddyn 2 a 3. Roedd yr LHMA yn darparu tystiolaeth
allweddol ar gyfer nifer o feysydd o waith y Cyngor ac roedd yn seiliedig ar
ddata, yn darparu tystiolaeth i gefnogi creu polisi wrth symud ymlaen. Roedd yn cynnwys 10 o ardaloedd marchnad dai
a ddiffiniwyd a bu ymgysylltu eang â budd-ddeiliaid wrth ei ddatblygu. Hysbyswyd y Cabinet ynglŷn â’r
canfyddiadau, yn gryno -
·
roedd y mwyafrif o’r angen
o ran tai o ganlyniad i ôl-groniad o’r angen presennol a dim ond rhan fechan
oherwydd twf y boblogaeth
·
roedd y mwyafrif o’r angen
ar gyfer tai rhent cymdeithasol ac eiddo llai 1 neu 2 ystafell wely gan fod
aelwydydd 1 neu 2 unigolyn yn cynrychioli 70% o boblogaeth Sir Ddinbych
·
roedd materion
fforddiadwyedd ar draws y rhan fwyaf o ddeiliadaeth tai ac roedd diffyg tai ar
gael yn fater allweddol o ganfuwyd, yn arbennig y rhai sydd ar gael i’w rhentu
·
roedd
angen 400 o gartrefi fforddiadwy fesul blwyddyn am y 5 mlynedd gyntaf o’r LHMA,
ar y sail y dylid bodloni’r angen presennol o fewn y 5 mlynedd gyntaf er bod
cwestiwn ynghylch a oedd hynny’n gyraeddadwy ai peidio
·
roedd angen 153 o gartrefi
fforddiadwy fesul blwyddyn am gyfnod 15 mlynedd yr LHMA ac felly roedd llawer o
waith yn digwydd o ran darparu tai fforddiadwy ar safleoedd datblygu, gan ail-ddefnyddio
eiddo gwag, a ffyrdd eraill amrywiol o gynyddu cyflenwad
·
ni fu i’r LHMA osod y
targed tai fforddiadwy ar gyfer y Cynlluniau Datblygu Lleol ond roedd yn rhan
o’r dystiolaeth gyffredinol ar gyfer y CDLl.
Bu i’r Cabinet ystyried yr adroddiad cynhwysfawr,
gan nodi’r broses ddynodedig, canfyddiadau allweddol ac allbynnau o’r
asesiad. Gofynnwyd cwestiynau
ynglŷn â’r hyder yn y ffigyrau a gynhyrchwyd, cymysgedd tai'r farchnad
agored yn y dyfodol, bodloni’r angen am 400 o gartrefi fforddiadwy, ac ail-ddefnyddio
eiddo gwag.
Ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau fel a ganlyn -
·
cyfeiriwyd at y cyfoeth o
ddata a chymhlethdod y model a soniwyd am y pedwar senario rhagolwg tai
gwahanol a ddefnyddiwyd, gan ddefnyddio prif ragamcan Llywodraeth Cymru i gefnogi
ffigwr angen o ran tai LHMA. Roedd y
ffigwr prif ragamcan o 3165 o gartrefi yn debyg i ofyniad y CDLl ar gyfer 3275
o gartrefi felly roedd hyder yn y ffigyrau hynny o ystyried y cysondeb rhwng y
ddau a’r broses gadarn a’r wybodaeth fanwl a oedd yn sail i’r LHMA.
·
o ran y cymysgedd y
farchnad a awgrymwyd roedd gwahaniaeth rhwng yr angen a’r dyhead, ond y nod
oedd darparu hyblygrwydd yn y farchnad dai o ystyried y dyhead am ystafell sbâr
neu le astudio ac o ystyried yr anawsterau ar hyn o bryd i symud rhwng gwahanol
ddeiliadaeth ac eiddo oherwydd diffyg lleoedd ar gael. Roedd cyfuno’r eiddo 1 a 2 ystafell wely yn
cynnig yr hyblygrwydd hynny ac yn cydnabod nad oedd llawer o angen ar gyfer
eiddo 1 ystafell wely
·
yn cadarnhau y byddai
darparu 400 o dai fforddiadwy yn cael ei wneud mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan
gynnwys tai newydd, ail-ddefnyddio eiddo gwag a chaffael eiddo sy’n
bodoli. Roedd gan Sir Ddinbych hanes da
o ddarparu tai fforddiadwy, yr uchaf yng Ngogledd Cymru dros y ddwy flynedd
ddiwethaf, ac yn 2023/24 dyrannwyd £10 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru i Sir
Ddinbych i ddarparu tai fforddiadwy gyda swm tebyg (£9 miliwn) ar gyfer y ddwy
flynedd nesaf. O ystyried yr hanes da
hwn mae Sir Ddinbych hefyd wedi cael arian tuag at ddiwedd y flwyddyn (tanwariant
o awdurdodau lleol eraill) gyda £800,000 ychwanegol yn cael ei ddyrannu yn
2023/24 ar gyfer darparu tai fforddiadwy.
·
Roedd 70% o aelwydydd yn
rhai 1 neu 2 unigolyn a oedd yn un rheswm pam fod cymaint o alw am eiddo llai 1
a 2 ystafell wely. Roedd yr LHMA yn
darparu dadansoddiad o angen yn ôl ardal a maint marchnad dai leol felly er bod
y galw wedi ei ledaenu ar draws y sir, roedd yr angen mwyaf am eiddo 1 a 2
ystafell wely yn ardal marchnad dai Rhuddlan/Dyserth heb unrhyw angen dybryd yn
y Rhyl, Rhuthun, Dinbych a Llangollen.
Fodd bynnag, roedd hynny’n adlewyrchu’r cyflenwad tai presennol yn yr
ardaloedd hynny gan gynnwys eiddo llai ar gyfer rhent cymdeithasol ac roedd y
model yn tybio lefel o drosiant ac felly cyflenwad o’r eiddo hynny yn yr
ardaloedd hynny
·
roedd y ffigyrau 1 a 2
ystafell wely yn cynnwys eiddo mewn cynlluniau tai gofal ychwanegol ac roedd
lefel dda o alw am dai gofal ychwanegol a oedd yn boblogaidd iawn, mantais
arall oedd y posibilrwydd y byddai’n rhyddhau tai eraill
·
achub morgais (i atal colli
eiddo ble bynnag fo modd) wedi ei restru fel un o’r 13 blaenoriaeth strategol
allweddol ar gyfer tai fforddiadwy ac er nad oedd llawer wedi dod trwy’r system
roedd modd trwy landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i helpu i gefnogi pobl
mewn anhawster gyda’u morgeisi trwy gyllid gan Lywodraeth Cymru
·
roedd rhywfaint o
drafodaeth ynglŷn â’r heriau o ail-ddefnyddio eiddo gwag gyda chynllun
cyflawni cartrefi gwag i nodi’r amrywiol gamau gweithredu/gweithgareddau
gwahanol i fynd i’r afael â’r mater a swyddog cartrefi gwag dynodedig. Tra bod y Cyngor wedi perfformio’n weddol dda
wrth ail-ddefnyddio eiddo gwag roedd problem o ran eiddo gwag hirdymor ac mae’r
ffigwr wedi parhau’n gyson dros amser, ond roedd camau gweithredu rhagweithiol
a dull holistig yn cael eu cyflawni a gydnabuwyd gan y Cabinet ynghyd â’r
gwaith caled cysylltiedig
·
tybiwyd y byddai’r
ôl-groniad o angen presennol yn cael ei ddiwallu o fewn 5 mlynedd a oedd yn
annhebygol o ystyried fod yr holl dai a adeiladwyd yn gyfwerth â thua 250 o
gartrefi fesul blwyddyn.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Brian
Jones, bu i swyddogion gadarnhau fod gwaith yn parhau ar y CDLl newydd trwy’r
Grŵp Cynllunio Strategol a oedd yn adolygu’r dystiolaeth ac yn cynnal yr
ymchwil ac yn diwygio polisïau. Parheir
i aros am ganllawiau llifogydd allweddol gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cael
effaith ar yr amserlen darparu ac yn achosi rhywfaint o oedi. Darparwyd mwy o fanylion am y Grŵp
Cynllunio Strategol gyda gwahoddiad agored i bob aelod i fynychu a chyfranogiad
sylweddol Grwpiau Ardal yr Aelodau yn y broses honno.
Bu i’r Cabinet gydnabod y gwaith caled a’r
cymhlethdodau wrth ddatblygu’r LHMA a diolchwyd i swyddogion am y gwaith caled.
PENDERFYNWYD
bod y
Cabinet yn -
(a) cymeradwyo Asesiad Drafft o Farchnad
Tai Lleol Sir Ddinbych i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru a
(b) dirprwyo awdurdod i Aelodau Arweiniol
Tai a Chymunedau i gytuno ar unrhyw fân newidiadau golygyddol sydd eu hangen
i’r Asesiad Drafft o’r Farchnad Dai Leol, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Dogfennau ategol:
- LHMA REPORT, Eitem 6. PDF 235 KB
- LHMA - Appendix 1 - summary of LHMA outputs, Eitem 6. PDF 181 KB
- LHMA - Appendix 2 - Draft Denbighshire LHMA - 7 may 2024, Eitem 6. PDF 3 MB