Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y BROSES GYNNAL A CHADW TAI GWAG

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Eiddo Tai (copi ynghlwm) ynglŷn â’r broses gynnal a chadw tai gwag, ar y cyd â’r heriau cynyddol o ran y gyllideb, gyda phwyslais penodol ar amseroedd ail-osod tai gwag.

 

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, ynghyd â Mark Cassidy, Swyddog Arweiniol Eiddo Tai a Liz Grieve, Pennaeth y Gwasanaeth Tai a Chymunedau hefyd yn bresennol i gyflwyno’r adroddiad ar y Broses Gynnal a Chadw Tai Gwag.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad gan egluro bod dau argymhelliad, un bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn herio ac yn rhannu ei safbwyntiau ar yr adroddiad hwn a’r broses tai gwag. Eglurodd, pan fydd tenant yn gadael eiddo, bydd yn cael ei ddosbarthu fel eiddo gwag, weithiau mae angen gwneud llawer o waith i’r eiddo cyn y gellir ei ail rentu. 

 

Eglurodd y Cynghorydd Rhys Thomas ei bod yn hanfodol bod y broses o reoli tai gwag yn effeithlon ac effeithiol er mwyn lleihau’r amser mae’r tŷ yn wag rhwng tenantiaid, ac fel y gall tenantiaid posibl gael y tai cyn gynted â phosibl. Y nod oedd gwneud y mwyaf o’r incwm rhent drwy leihau’r colledion rhent (drwy wneud y cyfnodau gwag mor fyr â phosibl drwy eu rheoli’n dda) a sicrhau bod y gwaith ar dai gwag o safon uchel, wrth leihau costau pan fo’n bosibl.  

 

Dywedodd Liz Grieve, Pennaeth y Gwasanaeth Tai a Chymunedau fod y Fframwaith Tai Gwag wedi’i gyflwyno i’r Cabinet yn gynharach eleni, gan egluro sut oedd yr adran yn contractio gwaith allan ar eiddo gwag. Bwriad yr adroddiad heddiw oedd mynd dros y broses a’r dadleuon am dai gwag, gan grynhoi:

 

·       Chwilio am ffyrdd eraill o weithio gyda’r tenant cyn iddynt adael fel bod angen gwneud llai o waith wedi iddynt adael.

·       Gwneud gwaith cynnal a chadw cyn gynted ag y bydd yr eiddo’n wag. 

·       Roedd galw mawr am rai tai, unwaith roeddent yn wag, o’i gymharu ag eraill, felly roedd angen gadael rhai tai am y tro er mwyn canolbwyntio ar y gwaith ar y tai yr oedd galw mawr amdanynt. 

·       Roedd angen gwario mwy o arian ar rai tai i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon. Pe gallai’r Gwasanaethau uwchraddio tri eiddo am yr un gost ag un drytach, byddent yn gadael yr un drytach am y tro. 

Roedd gan y Cynghorwyr bryderon nad oedd ail ffynhonnell gwresogi a gofynnwyd pa ddarpariaeth oedd ar waith mewn argyfwng eithafol, yn ystod gaeaf garw? Dywedodd Mark Cassidy, Swyddog Arweiniol Eiddo Tai:

 

·       Dan reoliadau adeiladu, nid oedd yn orfodol darparu ail ffynhonnell gwresogi. 

·       Roedd deunydd yr adeilad yn cael ei wirio yn erbyn system wresogi ffynhonnell aer.

·       Darparwyd ar gyfer cynlluniau gwresogi cymunedol mewn argyfwng, roeddent yn amrywio yn dibynnu ar y math o eiddo, tenant ac ardal. Gallai’r Gwasanaeth ddarparu adroddiad i’w gyflwyno i’r pwyllgor craffu yn y dyfodol. 

·       Byddai problemau’n ymwneud â thywydd eithafol a cholli pŵer yn effeithio ar y sir gyfan - nid dim ond tenantiaid yr Awdurdod. 

Roedd gan y Cynghorwyr bryderon am eiddo gwag hirdymor a faint mae’n ei gostio i’r Cyngor, yn cynnwys y trethi sy’n daladwy ar eiddo gwag a’r amser mae’n ei gymryd i restru eiddo i’w gwaredu ar y farchnad. Dywedodd y swyddogion:

 

·       Yn y dyfodol, byddai’r tîm yn rhoi gwybod i’r Aelod Ward am eiddo oedd wedi’u gadael am y tro.

·       Roedd treth y Cyngor ar eiddo gwag yn cael ei dalu o’r Cyfrif Refeniw Tai.

·       Byddai adroddiad yn cael ei ddarparu ar faint o dreth y Cyngor oedd yn cael ei dalu ar eiddo gwag a faint o dai oedd wedi bod yn wag am dros flwyddyn. 

·       Roedd y swyddogion yn rhannu’r rhwystredigaeth am ba mor hir roedd hi’n ei gymryd i roi eiddo ar y farchnad - eglurwyd mai problem yn ymwneud â chapasiti ydoedd. Cytunwyd y byddai adroddiad yn canolbwyntio’n benodol ar y mater hwn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn nes ymlaen.

Roedd gan y Cynghorwyr bryderon am Safon Ansawdd Tai Cymru 2023, ac os oedd rhai o ofynion y safonau yn arwain at oedi cyn i dai gael eu meddiannu a holwyd am y prosesau ar gyfer ymgysylltu â chontractwyr. Crynhodd Mark Cassidy:

 

·       Byddai’r Fframwaith Contractwyr yn mynd i dendr ddiwedd mis Mai 2024. Roedd yn mynd allan i dendr bob tair i bedair blynedd. 

·       Roedd gan gontractwyr Ddangosyddion Perfformiad Allweddol llym, os oeddent yn mynd dros yr amserlen, roedd y Cyngor yn hawlio’r colledion incwm rhent yn ôl. 

·       Roedd dyfynbrisiau contractwyr yn cyd-fynd â’r Safon Cenedlaethol. 

·       Roedd angen mwy o waith ar staff mewnol yn gwneud rhai o’r tasgau llai i arbed costau ychwanegol, ac roedd hyn wedi dechrau. 

·       Roedd Mesuryddion Deallus yn ofyniad yn Safonau Ansawdd Tai Cymru, ond roedd y trafodaethau’n parhau â Llywodraeth Cymru ar y gofynion hyn. Ni allai’r Awdurdod orfodi tenant i gael mesurydd deallus na dewis pa gyflenwr i’w ddefnyddio. 

·       Talwyd am ystafelloedd ymolchi a cheginau o’r Cyfrif Cyfalaf, a mân waith o’r Cyfrif Refeniw.

·       Roedd yn rhaid darparu lloriau a charpedi, roedd y syniad o roi talebau yn eu lle yn cael ei ystyried, roedd yr Awdurdod eisoes yn rhoi talebau ar gyfer deunyddiau addurno yn hytrach na gwneud y gwaith eu hunain. 

·       Os yw’r carpedi mewn cyflwr da, maent yn cael eu glanhau’n broffesiynol yn hytrach na phrynu rhai newydd. Roedd y Safonau’n nodi’r gofyniad ar gyfer lloriau newydd i bob tenant, cynhelir trafodaethau parhaus â Llywodraeth Cymru am hyn. 

·       Nid oedd yn rhaid bodloni pob safon cyn i denant symud i mewn - er enghraifft, gallai gwaith allanol megis darparu sied feics gael ei gwblhau ar ôl iddynt symud i mewn. 

Awgrymodd y Pwyllgor y gellid cynnwys blaendal yn y rhent am y misoedd cyntaf neu flwyddyn wedi i’r tenant symud i mewn, fel cymhelliant i adael yr eiddo mewn cyflwr gweddus, fel y sector preifat. Byddai’r blaendal yn cael ei dalu’n ôl pe bai’r eiddo mewn cyflwr addas pan fyddai’r tenant yn gadael. Cytunodd y swyddogion i ymchwilio’r dewis hwn. 

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor:

        I.         yn nodi cynnwys yr adroddiad,

      II.         yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1) fel rhan o’i ystyriaethau,

    III.         yn gofyn am adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am faint o dai sydd wedi bod yn wag am fwy na blwyddyn a’r costau treth y Cyngor sy’n gysylltiedig â hyn ac

    IV.         yn gofyn am i adroddiad ar y broses gwaredu cyn dai’r Cyngor gael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: