Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD DIWEDDARU ARIANNOL
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi I ddilyn), yn manylu’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd mewn perthynas â’r strategaeth gyllidebol a gytunwyd.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod yr Aelodau’n cydnabod
y cyllidebau a’r targedau arbed ar gyfer y flwyddyn
a’r cynnydd mewn perthynas â’r strategaeth gyllidebol a gytunwyd.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr Adroddiad
Cyllid gan roi manylion arbedion a chyllideb refeniw’r Cyngor fel y cytunwyd
arnynt ar gyfer 2012/13 fel ar ddiwedd mis Medi 2012. Roedd yr adroddiad hefyd yn diweddaru’n
gryno’r Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a’r Cynllun Cyfalaf Tai.
Cafodd pob eitem a ddosbarthwyd fel un “ar y gweill” ei
hadolygu yn ystod y broses herio gwasanaeth a chadarnhawyd y byddai’r rhain yn
cael eu cyflenwi drwy gydol y flwyddyn ariannol.
Roedd ysgolion wedi
dangos tanwariant bach wedi’i ragamcanu. Roedd llawer o waith i’w wneud
ynghylch yr ysgolion hynny mewn anhawster ariannol. Roedd gan yr ysgolion hynny
gynlluniau adfer yn eu lle ac roeddent wrthi’n gweithio tuag at y targedau a
osodwyd yn y cynlluniau hynny.
Wrth baratoi
cyllideb 2012/2013, bu’n rhaid gwneud nifer o dybiaethau ynghylch pwysau y
byddai’r Cyngor yn eu hwynebu a rhoddwyd cyllidebau priodol yn eu lle. Dwy
enghraifft o bwysau mawr oedd tebygolrwydd codiad cyflog i staff a chostau
ynni’n cynyddu’n sylweddol. Fel y cyfryw, cyllidodd y Cyngor tua £1.5miliwn i
dalu’r costau hynny. Ni ddigwyddodd y codiad cyflog a gyllidwyd i staff.
Cadarnhawyd bod cyflogau’n cael eu rhewi ar ôl gosod y gyllideb ac felly roedd
gan y Cyngor gyllideb ar gyfer codiad cyflog na fyddai’n digwydd.
Cyllidwyd y cynnydd
mewn prisiau ynni yn wreiddiol yn 20% ond roedd yn agosach at 10% ac felly nid
oedd y gyllideb ychwanegol yn ofynnol.
Roedd £1.7miliwn o arian ar gael i Gyngor Sir Ddinbych ac,
yng ngoleuni trafodaethau a gafwyd am y Cynllun Corfforaethol newydd ac i
ddarparu ar gyfer blaenoriaethau datblygol, cytunwyd y byddai buddsoddiad mawr
yn digwydd dros y 5/6 mlynedd nesaf. Byddai’r £1.7miliwn yn cael ei drosglwyddo
i gronfeydd wrth gefn.
Cymeradwyodd Swyddfa Archwilio Cymru gyfrifon blynyddol y
Cyngor. Bu’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill yn diolch yn ffurfiol i Paul
McGrady, Richard Weigh a’r holl staff a fu’n paratoi’r cyfrifon.
Ychwanegwyd cyfalaf wrth gefn at brosiect Pont Cerddwyr a
Beicio Harbwr y Rhyl, ynghyd â chyfraniad pellach o £250,000 gan SUSTRANS.
Cafwyd yr wybodaeth
ddiweddaraf am y Rhyl yn Symud Ymlaen. Roedd Caniatâd Ardal Gadwraeth wedi’i
roi gan Lywodraeth Cymru i ddymchwel The Honey Club yn y Rhyl. Fodd bynnag,
roedd gofyn i’r Cyngor ganiatáu ar gyfer chwe wythnos o gyfnod apelio.
Roedd y crynodeb o gyllid a ddygwyd ymlaen yn nodi £200,000
a oedd heb ei ddyrannu eto. Y
cydweithwyr a fyddai’n penderfynu ble i roi hwn yn y cronfeydd wrth gefn.
Gofynnodd y Cynghorydd Eryl Williams am wybodaeth am y
gwariant ar briffyrdd ar gyfer y flwyddyn hon. Cytunodd y Cydbennaeth Priffyrdd
a Seilwaith i roi’r wybodaeth hon.
Roedd Tŵr Awyr y Rhyl yn ôl o dan reolaeth Cyngor Sir
Ddinbych. Roedd Rheolwr y Rhyl yn Symud Ymlaen a’i dîm yn gweithio ar y
portffolio eiddo a’r costau refeniw.
Bu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Moderneiddio a Lles, yn
rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn fras am Wasanaethau Oedolion. Roedd darn o
waith yn digwydd ar draws Awdurdodau Lleol yn edrych ar gynllun gwariant 3
blynedd. Nid oedd rhagor o fanylion ar gael am y prosiect ar y pryd.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais
Economaidd a Chymunedol, fod trafodaethau helaeth yn digwydd am Gyfnod 3 Gwaith
Amddiffyn yr Arfordir. Cafwyd materion ynghylch llifogydd ac roedd trafodaethau
pellach yn parhau gyda Grŵp Scarborough.
Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley wrth yr Aelodau fod
llifogydd, yn ôl rhagfynegiadau’r adroddiad newyddion, yn mynd i gynyddu yn y
dyfodol. Roedd angen i Awdurdodau Lleol wybod am hyn a derbyn y ffaith y byddai
angen cyllid ychwanegol i ymdrin â’r peth. Cadarnhaodd y Cynghorydd David Smith
fod cynllun llifogydd ar gael a nododd yr ardaloedd llifogydd tebygol yn Sir
Ddinbych. Cytunodd y Cynghorydd Smith i gyflwyno’r cynllun i gyfarfod yn y
dyfodol.
PENDERFYNWYD bod yr
Aelodau’n nodi’r targedau arbedion a’r cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ac yn
symud ymlaen mewn perthynas â’r strategaeth gyllideb y cytunwyd arni.
Dogfennau ategol:
- 17-10-12 Cabinet Revenue Report W, Eitem 6. PDF 366 KB
- Revenue Appendix 1 Sept Outturn, Eitem 6. PDF 25 KB
- Appendix 2 Savings, Eitem 6. PDF 26 KB
- Appendix 3 Capital Sept 2012, Eitem 6. PDF 6 KB
- Apendix 4 Capital Update, Eitem 6. PDF 309 KB