Eitem ar yr agenda
CYMUNEDAU DYSGU CYNALIADWY - RHAGLEN DREIGL
- Meeting of Cabinet, Dydd Mawrth, 23 Ebrill 2024 10.00 am (Item 6.)
- View the declarations of interest for item 6.
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol
dros Addysg, Plant a Theuluoedd (copi ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet i gyflwyno’r Rhaglen Amlinellol Strategol ddrafft ar gyfer y Rhaglen
Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu i Lywodraeth Cymru i’w hystyried.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn –
(a) cymeradwyo bod y Rhaglen Amlinellol
Strategol ddrafft ar gyfer y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, (Atodiad 1 yr
adroddiad), yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w hystyried, a
(b) chadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3
yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Gill
German yr adroddiad gan geisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r Rhaglen
Amlinellol Strategol ddrafft ar gyfer y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i
Lywodraeth Cymru (LlC) i’w hystyried.
Roedd LlC wedi newid ei ddull
i ddarparu’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Ysgolion yr 21ain Ganrif
gynt), gan symud oddi wrth fandiau 5 mlynedd o fuddsoddiad i ddull mwy hyblyg
dros gyfnod hirach o 9 mlynedd wedi’i rannu’n dri bloc o dair blynedd yr
un. Gofynnwyd i
awdurdodau lleol ddiweddaru eu Rhaglenni Amlinellol Strategol o dan y strwythur
newydd gyda phrosiectau sydd yn eu hanfod yn barod am achosion busnes i gael eu
cyflwyno yn y tair blynedd gyntaf, i brosiectau sy’n cael eu datblygu ac yn
mynd trwy ymgynghori statudol gael eu cyflwyno yn yr ail gam o dair blynedd ac
i brosiectau sydd ar y gweill gael eu cyflwyno ar gyfer y tair blynedd
olaf. Byddai’r rhaglen yn cael ei
hadolygu bob tair blynedd.
Roedd y cynigion a’r rhesymau
dros gyflwyno buddsoddiad ysgolion y Cyngor fesul cam dros y 9 mlynedd nesaf
wedi’i amlinellu yn yr adroddiad a gan yr Aelod Arweiniol, yn gryno –
· oherwydd yr
oedi, ni fyddai’r 4 prosiect Band B (Ysgol Plas Brondyffryn, Ysgol Pendref,
Ysgol Bryn Collen/Ysgol Gwernant, ac Ysgol Uwchradd Dinbych) yn cael eu darparu
o fewn yr amserlenni gwreiddiol ac o ystyried y pwysau ariannol presennol roedd
angen ail-ystyried beth oedd yn fforddiadwy dros ba gyfnod o amser. Argymhellir ein bod yn cadw at yr ymrwymiad
i ddatblygu’r holl 4 prosiect Band B a’u hymgorffori i’r Rhaglen Amlinellol
Strategol newydd, ond bod yr amserlenni datblygu yn cael eu hailbroffilio i
ledaenu’r pwysau refeniw dros gyfnod hirach.
· cynigiwyd
hefyd cynnwys prosiect ychwanegol yn y Rhaglen Amlinellol Strategol i gael ei
gyflwyno o fewn y tair blynedd gyntaf yn ymwneud ag adeiladu estyniad bach i
Ysgol y Castell a oedd mewn perygl oherwydd costau cynyddol; drwy ei gynnwys yn
y rhaglen byddai’n ei ganiatáu i barhau heb unrhyw ofynion benthyca gan y
Cyngor gyda’r cyllid cyfatebol sydd ei angen yn cael ei ddarparu gan
gyfraniadau gan ddatblygwr Adran 106.
· roedd gofyn
i’r Cyngor wneud cyfraniad cyfalaf i’r prosiectau Band B presennol a fyddai’n
cael eu hariannu drwy fenthyca darbodus.
Os byddai’r holl brosiectau Band B yn trosglwyddo i’r tair blynedd
gyntaf mae’n debygol y byddai angen gwneud toriadau pellach i wasanaethau, yn
cynnwys cyllidebau ysgol dirprwyedig, er mwyn ariannu’r costau benthyca, a dyna
pam fod y cynnig yn ymwneud â gwasgaru’r benthyciad hwnnw dros amserlen sy’n
haws i’w rheoli.
· gan mai Ysgol
Plas Brondyffryn oedd y prosiect mwyaf datblygedig, cynigiwyd ceisio buddsoddi
yn yr ysgol honno yn y tair blynedd gyntaf gyda’r prosiectau Band B lleiaf
datblygedig yn cael eu cynnwys yn yr ail gyfnod o dair blynedd (2027 – 2030),
ac yn y cyfnod olaf o dair blynedd (2030 – 2033) byddai angen rhoi ystyriaeth i
ddatblygu uchelgeisiau pellach gan ddibynnu ar y sefyllfa ariannol ar adeg yr
adolygiad cyntaf yn 2027. Derbyniwyd y
byddai’r cynnig yn ergyd i’r ysgolion hynny a fyddai angen aros yn hirach am y
gwelliannau sydd eu hangen ond byddai gwaith yn parhau tuag at wireddu’r
uchelgeisiau hynny cyn gynted â phosibl yn cynnwys unrhyw waith dros dro a
ellir ei ddatblygu yn y cyfamser.
Roedd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol
ac Addysg, y Pennaeth Addysg a’r Prif Reolwr – Cymorth i Ysgolion hefyd yn
bresennol ar gyfer yr eitem hon.
Ychwanegodd y Pennaeth Addysg bod yno benderfyniadau anodd ac
amhoblogaidd i’w gwneud ond, o ystyried yr hinsawdd ariannol, roedd yn
galonogol bod uchelgeisiau’r Cyngor ar gyfer buddsoddi yn yr ysgolion hynny yn
cael eu cadw dros y blynyddoedd nesaf.
Disgwyliad LlC ar gyfer y tair blynedd gyntaf oedd bod prosiectau a oedd
yn gallu cael eu darparu o fewn y cyfnod hwnnw yn cael eu datblygu a dyna pam
fod Ysgol Plas Brondyffryn wedi cael ei gynnig gan fod y prosiect ar hyn o bryd
yng Ngham 3 RIBA.
Bu i’r Cabinet ystyried
cynnwys yr adroddiad a’r goblygiadau i ysgolion yn y rhaglen o ganlyniad i’r
argymhellion. Bu i’r Cynghorydd Julie
Matthews dynnu sylw at yr angen brys am y ddarpariaeth arbenigol a ddarperir
gan Ysgol Plas Brondyffryn. Mewn ymateb
i gwestiynau, cadarnhawyd bod yr ysgol wedi'i gordanysgrifio ar hyn o bryd gyda
rhestr aros ac roedd disgyblion hefyd yn aros am asesiadau a diagnosis ffurfiol
i allu cael mynediad at y ddarpariaeth.
Tynnwyd sylw hefyd at y pwysau ychwanegol ehangach ar ysgolion prif
ffrwd a’r potensial ar gyfer lleoli mwy o blant y tu allan i’r sir. Byddai’r prosiect yn caniatáu i’r galw am y
ddarpariaeth honno gael ei fodloni drwy gynyddu’r capasiti o 133 o ddisgyblion
ar hyn o bryd i gapasiti cyffredinol o 220 o ddisgyblion. Nodwyd bod 16% o’r disgyblion presennol
hynny yn byw y tu allan i’r sir.
Tynnodd y Cynghorydd Rhys
Thomas sylw at nifer o risgiau a’r ansicrwydd sy’n codi o’r rhaglen dreigl
arfaethedig o brosiectau yn cynnwys caniatâd cynllunio ar gyfer Ysgol Plas
Brondyffryn, heriau cyfreithiol posibl i’r broses fel yr amlinellir yng Nghod
Sefydliad yr Ysgol, diffyg ymrwymiad gan Grŵp Ardal Aelodau Dinbych,
ysgolion, busnesau a sefydliadau lleol cyfagos a fyddai’n cael eu heffeithio o
ganlyniad i’r cynigion, ansicrwydd o ran chwyddiant a chyllid gan LlC yn y
dyfodol a newidiadau gwleidyddol. O
ystyried yr amheuon hynny roedd yn teimlo na allai gefnogi’r cynigion a chododd
nifer o gwestiynau yn ymwneud â’r materion hynny. Ystyriodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis bod
datblygiad y rhaglen yn risg o ystyried y rhagolygon ariannol yn y tymor canolig
a oedd yn golygu bod y Cabinet yn gorfod blaenoriaethu prosiectau gan fod
ysgolion sydd gyntaf ar y rhestr yn fwy tebygol o gael eu cwblhau. Nid oedd o’r farn mai datblygu’r cynlluniau
hynny a oedd yn fwy datblygedig oedd y ffordd gywir o flaenoriaethu’r
prosiectau. Gofynnodd y Cynghorydd
Emrys Wynne a fyddai modd cryfhau’r geiriad yn yr Asesiad o’r Effaith ar Les
i’w gwneud yn orfodol i’r adeilad ddarparu arwyddion dwyieithog o fewn yr
ysgol.
Ymatebodd
yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion i’r materion a godwyd fel a ganlyn –
· roedd risg yn
gysylltiedig â sicrhau cymeradwyaeth cynllunio ar gyfer y safle a ffefrir ar
gyfer Ysgol Plas Brondyffryn ac, os byddai caniatâd cynllunio yn cael ei
wrthod, byddai angen i’r Cabinet ailystyried y mater ac ailgyflwyno’r Rhaglen
Amlinellol Strategol
· byddai angen
i unrhyw Raglenni Amlinellol Strategol sy’n cael eu hailgyflwyno fodloni meini
prawf LlC a bodloni gofynion y grant ar gyfer y cam nesaf; roedd cytundeb gyda
LlC a dyraniad cyllid i Sir Ddinbych ar gyfer y prosiect
· rhoddwyd y
rhaglen ar gyfer prosiectau Band A fel enghraifft lle’r oedd y rhaglen derfynol
yn wahanol i’r rhaglen wreiddiol a gymeradwywyd a lle cymerwyd dull
partneriaeth gyda LlC a oedd wedi caniatáu i brosiectau gael eu newid yn ystod
oes y rhaglen honno i ddarparu prosiectau’n llwyddiannus; byddai’r dull hwnnw
hefyd yn cael ei gymryd gyda’r Rhaglen Amlinellol Strategol i adlewyrchu
blaenoriaethau sy’n newid
· yn nhermau’r
potensial ar gyfer cynnydd mewn chwyddiant, costau cynyddol a’r effaith ar
brosiectau mewn blynyddoedd i ddod, ni ellir rhoi unrhyw sicrwydd penodol gan
nad oedd y sefyllfa honno’n hysbys, ond rhoddwyd sicrwydd y byddai swyddogion
yn gweithio gyda budd-ddeiliaid gyda’r golwg o gyflawni bwriad y Rhaglen
Amlinellol Strategol
· nodwyd bod
llawer o’r risgiau a’r ansicrwydd a godwyd yn gyffredin i’r holl brosiectau
cyfalaf ac roedd angen pwyso a mesur y risgiau hynny a gwneud penderfyniad
· roedd LlC
wedi bod yn glir yn eu gofynion y dylid rhoi blaenoriaeth i brosiectau a ellir
eu darparu a’u cwblhau yn y tair blynedd gyntaf. Llwyddodd prosiect Ysgol Plas Brondyffryn i
fodloni disgwyliadau LlC i’w gwblhau o fewn yr amserlen ac roedd y gyllideb ar
waith, ac roedd angen cynyddu’r capasiti ar gyfer darpariaeth arbenigol gyda
goblygiadau i ddisgyblion, ysgolion eraill, a chostau os nad oedd modd
bodloni’r anghenion hynny. Os byddai unrhyw un o’r prosiectau eraill yn cael eu
blaenoriaethu, ni fyddant yn cael eu cwblhau o fewn yr amserlen sy’n ofynnol
gan LlC
· cytunwyd i
edrych i newid y geiriad yn yr Asesiad o’r Effaith ar Les i’w gwneud yn glir
fod arwyddion dwyieithog mewn ysgolion yn ofynnol.
Agorodd yr Arweinydd y
drafodaeth i aelodau nad oeddent yn aelodau o’r Cabinet. Tynnodd y Cynghorydd Delyth Jones sylw at yr
angen i ddisgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol ac i ddisgyblion mewn
ysgolion sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd difreintiedig gydag amgylcheddau
dysgu anaddas, ac at yr anawsterau o ran blaenoriaethu un garfan dros y llall,
a chododd gwestiynau o ran datblygiad y prosiectau a’r amserlenni a ddarperir. Ymhelaethodd y Cynghorwyr Mark Young a
Pauline Edwards ar y negeseuon e-bost yr oeddent wedi’u hanfon at y Cabinet yn
nodi eu pryderon o ran argymhellion yr adroddiad ac unrhyw oedi i ddatblygiad
Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Pendref yn y drefn honno o ystyried yr amodau
adeiladu presennol a’r gwaith brys sydd ei angen a’r effaith y byddai’n ei
gael, yn enwedig mewn ardal o amddifadedd.
Cododd y Cynghorydd Young nifer o gwestiynau o ran yr elfennau cyllido
ac ymgysylltu ag aelodau a gofynnodd i benderfyniad y Cabinet gael ei ohirio
wrth ddisgwyl am drafodaeth ac ystyriaeth bellach gan yr aelodau lleol a’r
cyngor ehangach. Bu i’r Cynghorwyr
Merfyn Parry a Huw Hilditch-Roberts hefyd leisio eu barn a’u pryderon o ran y
diffyg ymgysylltiad ac ymrwymiad gan aelodau lleol a’r rhesymeg dros yr
argymhellion, gyda’r Cynghorydd Hilditch-Roberts yn awgrymu y dylai’r rhesymeg
fod yn seiliedig ar anghenion y disgybl fesul pen.
Ymatebodd yr Aelod Arweiniol
a'r swyddogion i’r cwestiynau a’r sylwadau, ynghyd â chwestiynau ategol pellach
a godwyd fel a ganlyn –
· roedd yr holl
ysgolion a gyflwynwyd yn y Rhaglen Amlinellol Strategol angen buddsoddiad ac
roedd yr uchelgeisiau ar gyfer yr ysgolion hynny’n parhau i fod yn feysydd
blaenoriaeth ond roedd canllawiau LlC yn glir bod yn rhaid i’r tair blynedd
gyntaf gynnwys y rhai mwyaf datblygedig ac sy’n barod i gael eu cyflwyno. Byddai gwaith yn parhau ar y prosiectau
eraill hynny yn ystod y tair blynedd gyntaf i sicrhau y gallent symud ymlaen yn
gyflym yn yr ail gyfnod o dair blynedd.
· byddai’n
cymryd oddeutu 111 o wythnosau i brosiectau gyrraedd Cam 3 RIBA ac yn barod ar
gyfer gwaith adeiladu; y cynharaf y gallai Ysgol Pendref ddechrau gwaith ar y
safle fyddai 2026 ac roedd y cynnig i ddechrau yn y Gwanwyn 2027, gallai’r
gwaith adeiladu cynharaf ddechrau ar safle Ysgol Uwchradd Dinbych yn Ebrill
2027, ac ar y sail honno, nid oedd oedi hir o ran dechrau’r prosiectau
· roedd lefel
yr angen a’r amddifadedd yn yr ardal wedi’i dderbyn a darperir cefnogaeth trwy
Ysgolion Bro ac elfennau cyllido eraill
· roedd amryw o
resymau pam fod prosiectau’n cael eu datblygu ar gyfraddau gwahanol, yn enwedig
o ystyried bod llwybrau gwahanol yn cael eu dilyn a’u datblygu fel rhan o’r
broses a oedd y tu hwnt i gapasiti a rheolaeth y Cyngor
· cafodd yr holl
brosiectau eu cynnal ochr yn ochr â’i gilydd.
Roedd yr oedi i brosiect Ysgol Pendref wedi bod oherwydd problemau yn
ymwneud â dewis safle o ganlyniad i’r penderfyniad i ailfodelu’r ysgol
bresennol ac roedd prosiect Ysgol Uwchradd Dinbych wedi’i gysylltu â phrosiect
Ysgol Plas Brondyffryn. Cyfeiriwyd
hefyd at anghenion Ysgol Bryn Collen / Ysgol Gwernant yn Llangollen a oedd
hefyd yn rhannu nifer o gyfleusterau
· cynhaliwyd
nifer o drafodaethau yng Ngrŵp Ardal Aelodau Dinbych o ran y prosiectau
ysgol. Roedd y penderfyniad presennol o
ran y Rhaglen Amlinellol Strategol yn benderfyniad y Cabinet ac roedd yr un
prosesau wedi’u dilyn yn flaenorol ar gyfer prosiectau Band A – nid oedd y
penderfyniad wedi cael ei alw i’r Pwyllgor Craffu nac ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Craffu. Roedd elfennau amrywiol o’r
rhaglen dreigl ehangach wedi bod i’r Cabinet bedair gwaith ers mis Ebrill 2022
· os byddai’r
holl brosiectau’n cael eu datblygu ar gyflymder, byddai effaith y benthyca
darbodus a oedd ei angen yn golygu y byddai angen dod o hyd i arbedion yn
rhywle arall a fyddai’n cael effaith anochel ar gyllidebau ysgolion; roedd
angen bodloni disgwyliadau LlC hefyd er mwyn sicrhau’r cyllid cyfalaf
angenrheidiol ar gyfer y prosiectau
· roedd y
gostyngiad yn y grant cynnal a chadw ar gyfer adeiladau ysgol hefyd yn her ac
roedd trafodaethau’n parhau i archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio cyllid
cynnal a chadw refeniw fel yr elfen arian cyfatebol o’r rhaglen ar gyfer Ysgol
Uwchradd Dinbych felly nid oedd unrhyw gostau benthyca i Sir Ddinbych
· roedd y
Cyngor yn bodloni ei holl oblygiadau cyfreithiol o ran ystâd yr ysgol gydag
arolygon cyflwr a gwaith cynnal a chadw ac ailwampio rheolaidd yn cael ei
wneud. Roedd yno broses ar waith a oedd
yn cael ei dilyn mor ddiwyd â phosibl
· nid oedd
unrhyw brosiect wedi’i oedi hyd yma oherwydd penderfyniadau cyllidebol. Yr argymhelliad presennol oedd ymestyn yr
amser a gymerir i gwblhau’r prosiectau Band B oherwydd effaith costau benthyca
ar y gyllideb refeniw
· soniwyd eto
os byddai penderfyniad yn cael ei wneud i flaenoriaethu prosiect ysgol arall yn
y cam cyntaf ni fyddai’n bosibl darparu’r prosiect yn y tair blynedd gyntaf
· rhwng 2018/19
– 2023/24 cafodd oddeutu £1.5miliwn ei wario ar draws yr holl safleoedd gyda
mwyafrif helaeth y gwariant ar Ysgol Plas Brondyffryn oherwydd y gwaith ar yr
achos busnes a chyrraedd y cam cynllunio, ac roedd y rhan fwyaf o hwnnw wedi’i ariannu
gan y Cyngor. Fel arfer, roedd costau
dylunio yn cael eu defnyddio ar gyfer arian cyfatebol yn nes ymlaen yn y
prosiect fel bod cyllid yn cael ei hawlio’n ôl yn effeithiol yn nes ymlaen
· pe bai’r
ystyriaethau blaenorol wedi’u seilio ar nifer y plant a effeithir arnynt yn
unig, ni fyddai unrhyw ysgolion gwledig llai wedi’u hadeiladu a byddai nifer o
ysgolion gwledig wedi cau. Roedd nifer o
ystyriaethau wedi bod ar gyfer y prosiectau Band B gwreiddiol yn cynnwys eu
cyflwr, addasrwydd, capasiti a digonolrwydd a’r effaith. Nid oedd y galw am ddarpariaeth arbenigol yn
cael ei fodloni gyda disgyblion yn aros am leoedd yn Ysgol Plas
Brondyffryn. Wrth dderbyn cyflwr yr
ysgolion eraill, roedd gan yr holl ddisgyblion le mewn ysgol gydag addysgu a
dysgu da a oedd yn bodloni eu hanghenion.
Derbyniodd yr Arweinydd ei fod
yn benderfyniad anodd iawn a oedd yn gorfod cael ei wneud yng nghyd-destun yr
heriau ariannol difrifol a oedd yn wynebu’r awdurdod a’r effaith o
fenthyca. Roedd gan yr holl brosiectau
ysgol achos dilys yn nhermau angen, a bu iddo ddiolch i bawb am eu barn a’u
cyfraniadau i’r drafodaeth.
PENDERFYNWYD, trwy
bleidlais fwyafrifol, bod y Cabinet yn –
(a) cymeradwyo
bod y Rhaglen Amlinellol Strategol ddrafft ar gyfer y Rhaglen Cymunedau Dysgu
Cynaliadwy (Atodiad 1 yr adroddiad), yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru
i’w hystyried, a
(b) chadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3
yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.
Ar y pwynt hwn (12.15pm) cymerodd y pwyllgor egwyl am
luniaeth.
Dogfennau ategol:
- SUSTAINABLE COMMUNITIES FOR LEARNING, Eitem 6. PDF 231 KB
- SCL - Appendix 1 Rolling Programme Projects, Eitem 6. PDF 226 KB
- SCL - Copy of Appendix 2, Eitem 6. PDF 78 KB
- SCL - Appendix 3 impact assessment_, Eitem 6. PDF 108 KB