Eitem ar yr agenda
CYDWEITHIO RHWNG PRIFFYRDD A SEILWAITH CONWY A SIR DDINBYCH
Ystyried adroddiad gan Reolwr y Prosiect (copi ynghlwm. Atodiad 1 copi I ddilyn) yn diweddaru’r aelodau ar gynnydd ac yn amlinellu argymhellion i’r Cabinet ar gyfeiriad y cydweithredu yn y dyfodol.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno:
(i)
oherwydd nad yw'r Achos Busnes
yn gwneud achos clir o blaid
Gwasanaeth Priffyrdd a Seilwaith sydd wedi ei integreiddio’n
llawn, nad yw Conwy a Sir Ddinbych yn symud ymlaen
â’r opsiwn hwn.
(ii)
Bod Conwy a Sir Ddinbych yn parhau
i ystyried cyfleoedd pellach i resymoli rheolaeth,
lleihau costau a gwella gwasanaethau i’n trigolion trwy:
Ø
Gryfhau’r meysydd is-wasanaeth hynny sydd dan
reolaeth sengl
Ø
Ystyried meysydd is-wasanaeth Priffyrdd a Seilwaith lle gallai cydweithredu
ddod â manteision
i’n trigolion
Ø
Ystyried cyfleoedd lleol (Awdurdod benodol) i gydweithredu a chael trefniadau cyd-reoli rhwng gwasanaethau presennol
Ø
Cynnal a datblygu ein hymrwymiad
i’r datblygiadau rhanbarthol ar gludiant a all, os cânt eu cyflawni
yn dda, sicrhau
manteision ychwanegol. Bydd angen seilio
penderfyniadau ar achos busnes cadarn
dros newid mewn perthynas ag elfennau o’r
fath, a
(iii)
Bod y Cyfarwyddwyr Corfforaethol yn adrodd yn
ôl i’r Cabinet ym mis Rhagfyr
2012 ar y gwaith sydd ymhlyg yn
Argymhelliad (ii)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad i’w
ystyried am argymhellion Bwrdd Rhaglen Cydweithio Priffyrdd a Seilwaith Conwy a
Sir Ddinbych ar ôl ystyried “Cyd-wasanaeth Priffyrdd a Seilwaith Cwbl
Integredig CBS Conwy a Chyngor Sir Ddinbych: Adroddiad am y Cynllun Gwasanaeth
Drafft (Medi 2012)’ ar 12 Medi 2012.
Bu’r Cynghorydd David Smith yn diolch yn ffurfiol i Danielle
Edwards, y Rheolwr Prosiect Rhanbarthol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, am ei
gwaith caled yn paratoi’r Adroddiad. Cadarnhaodd y Cynghorydd Smith ei fod ef a
Chynghorydd Conwy Mike Priestley wedi cael eu holi ac wedi cael pob gwybodaeth
drwy gydol y prosiect.
Roedd Prif Weithredwyr Conwy a Sir Ddinbych wedi comisiynu
gweithgor i ystyried y dewisiadau a oedd ar gael. Roedd y grŵp yn cynnwys
dau Gyfarwyddwr Corfforaethol – Sasha Davies (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) a
Hywyn Williams (Cyngor Sir Ddinbych) gyda chymorth Danielle Edwards (Rheolwr
Prosiect), Swyddogion A151 a Phenaethiaid Gwasanaeth AD. Dyma oedd y dewisiadau
i’w hystyried:-
Ø
Arbed yn ariannol i’r ddau gyngor heb golli
gwasanaethau pwysig i’r preswylwyr
Ø
Cryfhau’r
cydweithio y mae’r ddau Awdurdod Lleol wedi ymrwymo iddo ar lefel iswasanaeth,
h.y. cludiant ysgol a goleuadau stryd
Ø
Ystyried dewisiadau rhwng awdurdodau yn ogystal
â dewisiadau mewn awdurdodau ar gyfer modelau darparu gwasanaeth
Ø
Sicrhau bod y dewisiadau i’w hystyried yn gyson
â datblygiadau rhanbarthol.
Byddai adroddiad y Cyfarwyddwyr Corfforaethol yn cael ei
gyflwyno i’r Cabinet ar 18 Rhagfyr 2012.
Bu Danielle
Edwards, Rheolwr y Prosiect, yn cydnabod gwaith ei chydweithwyr yn llunio’r
adroddiad. Am y ddwy flynedd flaenorol, bu tîm prosiect o staff Cyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych yn gweithio ar y prosiect. Tasg
yr adroddiad oedd astudio un maes cydweithio, sef Priffyrdd a Seilwaith. O ran
yr adroddiad ei hun, cydnabuwyd nad oedd unrhyw weledigaeth glir na set glir o
fuddion. Felly, tua dechrau mis Ebrill, bu Rheolwyr Priffyrdd a Seilwaith yn
gwneud gwaith a gynhyrchodd weledigaeth gyffredin. Gwasanaethau oedd y pethau
cyntaf i’w hastudio. Datblygwyd gweithdy dylunio a oedd yn cynnwys Penaethiaid
Gwasanaeth a chydweithwyr Uwch Dimau Rheoli Conwy a Sir Ddinbych. Aethpwyd â’r
modelau wedyn i’r Rheolwyr Priffyrdd a Seilwaith yng Nghonwy a Sir Ddinbych i
holi eu barn am ba adran o’r model a oedd yn gweithio ai peidio. Ar ôl cytuno
ar sut fyddai’r gwasanaeth yn edrych, ystyriwyd y strwythur staff ac o’r diwedd
ble fyddai’r gwasanaeth yn cael ei leoli. Byddai tri dewis yn cael eu
hystyried:-
Ø
Dewis 1 – Symud staff swyddfa’r Heath i safle
Caledfryn
Ø
Dewis 2
- Cadw safleoedd Caledfryn a’r Heath, gan ad-drefnu’r staff yn ôl meysydd
gwasanaeth / iswasanaeth lle’n briodol
Ø
Dewis 3 – Gosod staff o’r Heath a Chaledfryn
mewn adeilad a ddefnyddid yn flaenorol yn lle swyddfa (Parc Busnes
Llanelwy).
Diystyrwyd symud staff i adeilad yr Heath am fod yr adeilad
yn anaddas. Diystyrwyd adeilad newydd hefyd oherwydd byddai hyn yn afresymol o
ran cost.
Byddai symud staff yn cynnwys goblygiadau TGCh. Roedd Adran
10 o’r adroddiad yn cyfeirio at y model ariannol, a oedd yn dangos costau
arfaethedig y 3 dewis.
Dyma fyddai’r costau llety ar gyfer pob un o’r tri
dewis:-
Ø
Dewis 1 – Byddai mân gostau llety wrth symud i
Galedfryn
Ø
Dewis 2 – nid oedd unrhyw gostau ychwanegol
disgwyliedig
Ø
Dewis 3 – byddai costau ar gyfer prydlesu
adeilad.
Dangoswyd costau colli gwaith ar gyfer blwyddyn 1. Byddai 9
swydd newydd yn cael ei chreu. Roedd y swyddi newydd hyn wedi’u cyfateb i
swyddi cyfredol gan leihau’r swyddi a gollir felly i 8.59 FTE (cyflogaeth amser
llawn).
Diolchodd yr Arweinydd hefyd i’r Rheolwr Prosiect am yr
adroddiad a soniodd nad oedd yr adroddiad yn amlygu’r drafodaeth a gafwyd yng
nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar 11 Hydref, 2012.
Cadarnhaodd y Cynghorydd David Smith fod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau wedi cytuno i’r argymhellion yn yr adroddiad.
Ailadroddodd CD:C
nad oedd integreiddio llwyr yn ariannol ymarferol i’r Priffyrdd a Seilwaith ond
bod cydweithio at y dyfodol yn bosibl. Roedd cydweithio rhwng Conwy a Sir
Ddinbych yn cael ei asesu o hyd. Cadarnhaodd CD:C hefyd fod trafodaeth fanwl
wedi digwydd yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau lle cytunasant i’r
argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad.
Cadarnhaodd CD:C, pan fyddai’r adroddiad wedi’i ddiweddaru’n
cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar 5 Rhagfyr,
y byddent yn craffu ar argymhelliad 3.2 yn yr adroddiad yn enwedig o ran y
goblygiadau staff. Roedd angen gwneud arbedion, ni waeth a fyddai cydweithio
neu beidio. Byddai hyn yn cael ei wneud yn gliriach ym mis Rhagfyr.
Holodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies pam na fu unrhyw
adroddiad ysgrifenedig gan y Pwyllgor Craffu Partneriaethau neu hyd yn oed
golwg ar y cofnodion, a fyddai wedi bod yn ddefnyddiol i aelodau’r
Cabinet.
Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai ef hefyd fod wedi hoffi
gweld adroddiad ysgrifenedig ar ôl cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau,
ond ei fod yn deall mai amseru’r cyfarfod oedd y rheswm pam nad oedd adroddiad
ysgrifenedig ar gael, ac na fyddai’r cofnodion yn cael eu cadarnhau tan
gyfarfod canlynol y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar 8 Tachwedd 2012.
Cytunwyd bod y diffyg adroddiad ysgrifenedig neu hyd yn oed
copi o’r cofnodion ar ôl cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn dangos
diffyg yn y system. Cyflwynwyd cais a ofynnodd y byddai eitem wedi’i thrafod
mewn cyfarfod Craffu penodol ac y byddai’n cael ei chyflwyno wedyn, er
enghraifft, yn y Cabinet, y dylai fod rhyw adroddiad ysgrifenedig o’r
drafodaeth a gafwyd, neu hyd yn oed y cofnodion heb eu cadarnhau, er mwyn i’r
Aelodau gael gwybod yn llawn.
Bu’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill yn llongyfarch y
Rheolwr Prosiect am yr adroddiad manwl a gyflwynwyd. O ran cydweithio,
cadarnhaodd y Cynghorydd Thompson-Hill mai syniad cydweithio oedd y ffordd
ymlaen o hyd er nad oedd integreiddio llwyr yn achos busnes dichonol ar yr
achlysur hwn.
Mynegodd y Cynghorwyr eu siom na fyddai’r cydweithio
Priffyrdd a Seilwaith yn mynd yn ei flaen rhwng Conwy a Sir Ddinbych.
Gofynnodd y Cynghorydd Eryl Williams am gopi o’r llythyr a
anfonwyd at y Gweinidog Carl Sargeant,
ynghyd â chopi o’r ateb a gafwyd.
Cadarnhaodd yr Arweinydd nad oedd ateb wedi dod eto ond
byddai’r ddau lythyr yn cael eu gwneud ar gael i aelodau’r Cabinet.
Dywedodd y Prif Weithredwr, o ran integreiddio llwyr, fod
hon wedi bod yn wers allweddol a ddysgwyd ac mai’r gwall sylfaenol oedd y
tybiwyd bod achos busnes wedi bodoli. Roedd uno gwasanaethau yn brosiect drud.
Roedd costau ymlaen llaw, yn arbennig i ariannu colli swyddi. Byddai pwysau gan
y Gweinidog yn parhau i gynyddu. Roedd llunio cynllun busnes yn sicrhau gwell
gwasanaeth a gwasanaeth a fyddai’n fwy diwastraff i’w gynnal.
PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn cytuno:-
(i)
gan
nad yw’r Achos Busnes yn gwneud achos clir dros Wasanaeth Priffyrdd a Seilwaith
cwbl integredig, nad yw Conwy a Sir Ddinbych yn mynd ymlaen â’r dewis hwn.
(ii)
bod
Conwy a Sir Ddinbych yn parhau i chwilio am gyfleoedd pellach i resymoli
rheolaeth, lleihau costau a gwella gwasanaethau i breswylwyr drwy:
Ø
Gryfhau’r
meysydd hynny o iswasanaeth sydd o dan reolaeth sengl
Ø
Archwilio’r
meysydd iswasanaeth Priffyrdd a Seilwaith lle gallai cydweithio fod o fudd i’n
preswylwyr
Ø
Archwilio
cyfleoedd lleol (penodol i Awdurdod) i gael trefniadau cydweithio a chydreoli
rhwng gwasanaethau presennol
Ø
Cynnal a
datblygu ein hymrwymiad i’r datblygiadau rhanbarthol ar gludiant a allai
sicrhau buddion ychwanegol, os cânt eu cyflawni’n dda. Bydd angen i
benderfyniadau fod yn seiliedig ar achos busnes cadarn dros newid o ran
elfennau felly a
(iii)
bod y
Cyfarwyddwyr Corfforaethol yn rhoi gwybod i’r Cabinet ym mis Rhagfyr 2012 am y
gwaith sy’n gynhenid yn Argymhelliad (ii)
Dogfennau ategol:
- Adroddiad Priffyrdd 231012 - Cabinet, Eitem 5. PDF 120 KB
- Appendix 1_Final_Report on the Draft Service Design, Eitem 5. PDF 784 KB
- Appendix 2_Communication Plan_JH&I_Sept2012_v3, Eitem 5. PDF 90 KB