Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYSYLLTEDD RHYNGRWYD YN SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Digidol ar Gysylltedd Rhyngrwyd yn Sir Ddinbych, y cynnydd hyd yma, a chynlluniau i’r dyfodol, ar gyfer cynyddu a gwella cysylltedd rhyngrwyd ym mhob rhan o’r sir (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth yr adroddiad ar Gysylltedd Rhyngrwyd yn Sir Ddinbych (dosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor.

 

Allan o’r cyfanswm o 50,501 eiddo yn Sir Ddinbych roedd 2,690 eiddo yn derbyn cyflymderau rhyngrwyd o 30Mbs neu lai ac roedd 1,145 eiddo yn derbyn cyflymderau rhyngrwyd o 10Mbs neu lai (roedd Atodiad A i’r adroddiad yn darparu manylion pellach i Aelodau).

 

Roedd ‘Helpu trigolion i ddeall yr opsiynau a datrysiadau ar gyfer gwell cysylltedd rhyngrwyd’ yn nod o fewn ein Cynllun Corfforaethol ac roedd Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) wedi buddsoddi mewn swydd Swyddog Digidol (o Chwefror 2020 i Fai 2025) i hysbysu unigolion, busnesau a chymunedau am hyn.  Roedd y Swyddog Digidol yn gweithio’n agos gydag Aelodau o Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned wrth hysbysu cymunedau.

 

Roedd y Cyngor yn cael ei gynrychioli hefyd ar Raglenni Digidol a Bwrdd Digidol Uchelgais Gogledd Cymru. Roedd y gwaith hwn ar lefel strategol a lefel ranbarthol ac roedd yn canolbwyntio ar wella isadeiledd ar draws y rhanbarth. 

 

Roedd ymyrraeth polisi a masnachol newidiol yn gwneud y gwaith yn heriol oherwydd cyhoeddiadau a newidiadau masnachol gan Openreach ac ymyrraeth gan Lywodraeth y DU, a allai olygu nad oes angen neu nad yw prosiectau Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru yn ymarferol mwyach, yn sgil trefniadau masnachol ac ymyrraeth Llywodraeth y DU.  Roedd hwn yn waith tymor canolig i hirdymor, ac felly roedd prosiectau yn gallu newid i adlewyrchu’r amgylchedd newidiol.

 

Soniodd y Prif Reolwr Cydnerthu Cymunedol ymhellach am bwysigrwydd cysylltedd rhyngrwyd yn y gymuned.

 

Roedd 3 philer cynhwysiant digidol -

·       Mynediad at offer

·       Gwybodaeth am ddefnyddio offer

·       Isadeiledd cysylltedd

Gallai peidio â chael mynediad at y rhyngrwyd gael effaith niweidiol ar gyfleoedd bywyd. Roedd cael cysylltiad band eang yn ymwneud â chael y gallu i ymgysylltu a chysylltu o fewn y gymuned, yn cynnwys mynediad at addysg, cyfleoedd cyflogaeth, a chyngor iechyd.

Eglurodd y Swyddog Digidol er bod gan y rhan fwyaf o siroedd lond llaw o gwmnïau yn gosod isadeiledd rhwydwaith ffibr, Openreach oedd yr unig gwmni a oedd yn gosod yr isadeiledd angenrheidiol yn Sir Ddinbych.   Er hyn, roedd Sir Ddinbych yn rhagori ar gyfartaledd Cymru o ran cysylltedd rhyngrwyd, fodd bynnag, roedd angen sicrhau bod rhannau gwledig o’r sir yn cael mynediad at yr un lefel o gysylltedd â’r ardaloedd mwy trefol. Yn y dyfodol agos, byddai 762 eiddo o fewn y sir yn cael cysylltiad ffibr, roedd hyn wedi cael ei sicrhau drwy gynlluniau talebau Gigabit.  Byddai hyn, yn ei dro, yn helpu safleoedd gerllaw i gael mynediad at y rhwydwaith ffibr am bris mwy rhesymol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Partneriaeth Openreach yng Nghymru a Gorllewin Lloegr fod Sir Ddinbych ymysg y gorau yng Nghymru o ran cysylltedd ffibr. Roedd £11 miliwn o bunnoedd wedi cael eu buddsoddi hyd yma i uwchraddio’r rhwydwaith copr i ffibr llawn ac roedd 11 cyfnewidfa newydd ar draws y sir bellach wedi cael eu clustnodi ar gyfer bod yn adeiladau masnachol.

 

Roedd y cynllun talebau Gigabit wedi dod i ben am y tro, fodd bynnag, roedd 4 cynllun talebau newydd i helpu preswylwyr gyda chysylltedd wedi cael eu lansio yn Sir Ddinbych yn ddiweddar, un o’r cymunedau i elwa o’r cynllun hwn oedd Llandyrnog.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion a’r Aelod Arweiniol am yr adroddiad ac fe groesawodd gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Cwestiynodd yr Aelodau ar ba gam fyddai’r gwaith adeiladu isadeiledd erbyn diwedd 2025 a pha gymunedau / cyfnewidfeydd fyddai’n parhau i fod heb ffibr. Eglurodd gynrychiolydd Openreach eu bod yn gobeithio y bydd 80% o’r eiddo yn y rhaglen uwchraddio cyfnewidfeydd presennol gyda chysylltiad ffibr llawn erbyn diwedd 2026.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurder ar y system Starlink y cyfeiriwyd ati yn yr adroddiad. Eglurodd y Swyddog Digidol fod hon yn system lloeren newydd, byddai’n costio £75 y mis i gael y system hon mewn aelwyd, a byddai’n darparu 100 megabeit yr eiliad.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at Gynllun Talebau Gigabit Llywodraeth y DU, a fyddai’n dod i ben ym mis Mawrth 2025, a fydd yn cael effaith ar beidio â chyflwyno ffibr i ardaloedd gwledig drwy Bartneriaeth Ffibr Cymunedol Openreach.  Dywedodd y Swyddog Digidol a Swyddog Openreach bod y cynllun talebau wedi cael ei ymestyn am ddwy flynedd.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y map a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad ar y cyfnewidfeydd cytunedig rhwng rŵan a mis Rhagfyr 2026 a gofynnwyd sut yr oedd ardaloedd yn cael eu blaenoriaethu. Eglurodd y Swyddog Openreach fod y cynlluniau’n seiliedig ar hyfywedd yr isadeiledd o fewn yr ardal.

 

Cwestiynodd yr Aelodau a oedd anhawster o ran cael preswylwyr i ddefnyddio’r cysylltiad ffibr ar gael iddynt a defnyddio’r offer yr oedd ganddynt gartref ac os oedd data ar faint o bobl oedd yn defnyddio’r rhyngrwyd yn y Sir. Dywedodd y Prif Reolwr Cydnerthu Cymunedol bod arolwg digidol wedi cael ei gynnal gyda thenantiaid mewn tai Cyngor, ac roedd yr arolwg yn cynnwys casgliad o gwestiynau yn ymwneud â defnydd o’r rhyngrwyd. Roedd yr Aelodau’n credu y byddai data ar nifer y preswylwyr sy’n defnyddio ac nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd yn ddefnyddiol yn y dyfodol.

 

Wrth ymateb i gwestiynau ynglŷn ag a oedd cael cymunedau o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ddynodedig yn heriol o ran cael caniatâd i godi polion telegraff ac ati a phe bai’r dynodiad hwn yn newid i statws Parc Cenedlaethol byddai hyn yn fwy heriol fyth, dywedodd y cynrychiolydd Openreach, er y gallai hyn fod yn ystyriaeth, mai’r prif rwystr oedd natur wledig yr ardal a natur wasgaredig yr eiddo o fewn y cymunedau gwledig hyn.  Oherwydd y costau’n gysylltiedig â gosod yr isadeiledd hanfodol ac angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaethau, roedd yn hollbwysig bod digon o gyllid yn cael ei sicrhau cyn y gellid cyflwyno ffibr, 4G neu 5G i unrhyw ardaloedd yn Sir Ddinbych neu unrhyw le ledled y wlad.

 

Pwysleisiodd yr Aelodau bwysigrwydd cadw rôl Swyddog Digidol o fewn y Cyngor oherwydd bod gan y swydd hon ran allweddol i’w chwarae wrth addysgu a chefnogi preswylwyr a chymunedau yn ystod y broses o gyflwyno ffibr llawn ar draws y Sir.

 

Ar ddiwedd trafodaeth gynhwysfawr, diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu mewnbwn.  Diolchodd hefyd i Martin Williams, Cyfarwyddwr Partneriaeth Openreach yng Nghymru a Gorllewin Lloegr am fynychu ac ateb cwestiynau’r Pwyllgor.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar yr atebion a’r arsylwadau uchod –

 

(i)             derbyn y wybodaeth a ddarperir o ran y sefyllfa bresennol mewn perthynas â chysylltedd y rhyngrwyd a theleffoni yn Sir Ddinbych;

(ii)           cydnabod a phwysleisio pwysigrwydd Swyddog Digidol y Cyngor wrth gefnogi preswylwyr a chymunedau Sir Ddinbych yn enwedig y rhai hynny mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd, i gael mynediad at wasanaethau teleffoni a rhyngrwyd effeithiol a fforddiadwy; a

(iii)         gofyn bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu ymhen 12 mis yn nodi cynnydd lleol a chenedlaethol mewn perthynas â materion rhyngrwyd a theleffoni.

 

Ar y pwynt hwn, cymerodd y Pwyllgor egwyl. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.15am.

 

Dogfennau ategol: