Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O’R GOFRESTR RISGIAU GORFFORAETHOL: CHWEFROR 2024

Ystyried adroddiad ar yr Adolygiad o’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol: Chwefror 2024 gan Bennaeth y Gwasanaeth Cefnogi Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol  yr Adolygiad o’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol: Chwefror 2024 i’r Pwyllgor.

 

Yr Uwch Dîm Arwain, ynghyd â’r Cabinet, oedd wedi datblygu ac yn berchen ar y Gofrestr Risgiau Gorfforaethol. Roedd yn cael ei hadolygu ddwywaith y flwyddyn gan y Cabinet yn ystod sesiwn friffio’r Cabinet.  Ar ôl pob adolygiad, roedd y gofrestr wedi’i diweddaru wedyn yn cael ei rhannu gyda’r Pwyllgor Craffu Perfformiad a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Cyflawnwyd yr adolygiad diwethaf ym mis Medi 2023. Mae’r papurau a gyflwynwyd ddiwethaf i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad (30 Tachwedd 2023) ar gael ar-lein. 

 

Roedd Datganiad Parodrwydd i Dderbyn Risg y Cyngor wedi cael ei ddefnyddio yn y trafodaethau a gafwyd gyda pherchnogion risgiau, a dadansoddwyd lefel risg y Cyngor o fewn y Gofrestr Risgiau Gorfforaethol.

 

Roedd gan y Cyngor 13 o Risgiau Corfforaethol ar y Gofrestr ar hyn o bryd. Darparwyd crynodebau o’r adolygiad yn Atodiad 2. Nid oedd unrhyw risgiau wedi’u tynnu oddi ar y gofrestr yn yr adolygiad hwn, nac unrhyw rai newydd wedi’u hychwanegu. Er bod pob risg wedi’i hadolygu, nid oedd unrhyw newidiadau arwyddocaol wedi’u gwneud yn ystod adolygiad Chwefror 2024, ac nid oedd sgôr risg weddilliol unrhyw un o’r 13 Risg Gorfforaethol wedi newid.

 

Eglurodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad bod y 13 risg a nodwyd yn yr adroddiad wedi aros yn sefydlog heb unrhyw newid. Roedd proses beilot ar waith ar gyfer dull adolygu’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol a fyddai’n golygu adolygu’r gofrestr 4 gwaith y flwyddyn a chyflwyno diweddariadau chwarterol i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am eu hadroddiad a chroesawyd cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Croesawodd yr Aelodau’r dull newydd ar gyfer adolygu’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at risg 01 a oedd yn ddibynnol iawn ar Wasanaethau Cymdeithasol a chwestiynwyd os y dylid rhoi mwy o ffocws ar y Gwasanaethau AD a’r broses wirio ar gyfer pobl sy’n ymuno â’r Cyngor. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau y byddai hyn yn rhywbeth y gellid ei drafod eto mewn cyfarfod yn y dyfodol ar ôl cael y manylion.  Rhoddodd y Swyddog Monitro sicrwydd i’r Aelodau bod proses ar waith ar gyfer gwiriadau diogelu a oedd yn cael ei hymestyn i unrhyw asiantaeth yr oedd y Cyngor yn ei defnyddio. Roedd gwiriadau gorfodol yn cael eu cwblhau yn dilyn penodi gweithwyr newydd ac roedd hyfforddiant diogelu yn orfodol i bob un o weithwyr y Cyngor beth bynnag eu rôl, gyda hyfforddiant mwy dwys yn cael ei ddarparu i’r rhai hynny a oedd yn darparu gwasanaethau gofal rheng flaen.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurder ynghylch risg 21, yn cyfeirio at unrhyw welliannau cysylltedd / cyfathrebu rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor ers rhoi’r Bwrdd yn ôl dan Fesurau Arbennig. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg  bod y berthynas rhwng y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd yn parhau i wella. Penodwyd Prif Swyddog Gweithredol newydd yn ddiweddar ar y Bwrdd Iechyd ac fe gynhaliwyd cyfarfod gyda’r Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol y Bwrdd Iechyd a oedd yn gadarnhaol iawn.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at risg 45, Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol a chwestiynwyd a oedd y Cyngor wedi asesu effaith y risg i’r Cyngor o beidio â chyrraedd y targed lleihau carbon a’r sgil-effaith bosibl o gynyddu prisiau ynni ar sefydlogrwydd ariannol y Cyngor. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau bod y risg yn cael ei hasesu’n barhaus, byddai peidio â chyrraedd y targed carbon yn golygu gwario mwy ar ynni yn y pen draw.                                                                                                                                               

 

Trafododd yr Aelodau risgiau 51 a 52 - Hinsawdd Economaidd - gan gyfeirio at leihau gwasanaethau. Gofynnodd yr Aelodau a oedd y Cyngor mewn perygl o esgeuluso gwasanaethau eraill tra’n canolbwyntio ar eraill. Dywedodd y Swyddog Monitro mai dyma pam yr oedd risgiau 51 a 52 wedi’u nodi ar y Gofrestr Risgiau Gorfforaethol. Nid oedd gan y Cyngor ddigon o arian i ddarparu lefel y gwasanaethau yr oeddent wedi’i wneud yn y gorffennol.  Roedd angen gwneud toriadau i wasanaethau, fodd bynnag, byddai lefel y gwasanaeth yr oedd yn rhaid i’r Cyngor ei darparu yn unol â’r gyfraith yn parhau. Nodwyd yn glir, wrth leihau gwasanaethau, na fyddai disgwyl i’r staff sy’n weddill gyflawni llwyth gwaith eraill.  Byddai trawsnewid gwasanaeth yn ffurfio rhan allweddol o’r gwaith i ddatblygu cyllideb y Cyngor ar gyfer 2025/26, byddai gan y Pwyllgor Craffu rôl i’w chwarae wrth archwilio unrhyw gynigion i drawsnewid gwasanaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion a’r Aelod Arweiniol am yr adroddiad manwl ac am fynychu’r cyfarfod.

 

Ar ddiwedd trafodaeth fanwl:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau a’r arsylwadau uchod –

 

(i)             cydnabod yr adolygiad diweddaraf o’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol a derbyn fersiwn Chwefror 2024 o’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol;

(ii)           cefnogi’r diwygiadau i Ddatganiad y Cyngor ar Barodrwydd i Dderbyn Risg, fel y manylwyd ym mharagraffau 4.7 i 4.8 ac Atodiad 3 i’r adroddiad; a

(iii)         cymeradwyo’r dull diwygiedig arfaethedig ar gyfer adrodd Risgiau Corfforaethol fel yr amlinellwyd yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: