Eitem ar yr agenda
CYDWEITHIO PRIFFYRDD A SEILWAITH RHWNG CONWY A SIR DDINBYCH
Ystyried adroddiad
gan y Rheolwr Prosiect (copi ynghlwm) yn diweddaru’r
aelodau ar y cynnydd ac yn amlinellu
argymhellion ar gyfeiriad y cydweithredu yn y dyfodol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid (CD:C)
adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) i ystyried argymhellion Bwrdd Rhaglen
Gydweithio Priffyrdd a Seilwaith Conwy a Sir Ddinbych ar ôl ystyried “Cyd-wasanaeth Cwbl Integredig Priffyrdd a
Seilwaith CBS Conwy a CS Dinbych: Adroddiad am y Dyluniad Gwasanaeth Drafft
(Medi 2012)’ ar 12 Medi, 2012.
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid y Rheolwr
Prosiect Rhanbarthol, Danielle Edwards, o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a oedd
wedi llunio’r adroddiad sydd ynghlwm ym mhapurau Atodiad 1.
Bu adrannau Priffyrdd Conwy a Sir Ddinbych yn cydweithio ers
3 blynedd. Sefydlodd Conwy a Sir Ddinbych Fwrdd Cydweithio ac roeddent wedi
penderfynu gwerthuso’r cynllun ymlaen. Roedd y Bwrdd Cydweithio wedi cyfarfod
ag Aelodau Arwain, Swyddogion a’r Prif Weithredwr i edrych ar ddyfodol y
prosiect a gwerthuso a oedd gwerth integreiddio’r gwasanaethau’n llwyr.
Daethpwyd i’r casgliad nad integreiddio llwyr fyddai’r ffordd ymlaen, ond nid
oedd hynny’n golygu na ddylid cydweithio o gwbl.
Penderfynodd y Bwrdd Cydweithio y byddai adroddiad yn cael
ei anfon at Gabinet Conwy a Sir Ddinbych ar 23 Hydref yn y drefn honno a
chyflwyno’r adroddiad i gyfarfod Pwyllgor Craffu Partneriaethau heddiw ac i
Bwyllgor Craffu Conwy ar 16 Hydref. Byddai’r adroddiad yn cael ei ddychwelyd
hefyd i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar ôl y cyfarfodydd uchod.
Bu’r Rheolwr Prosiect Rhanbarthol yn crynhoi’r prif
flaenoriaethau. Roedd y Bwrdd Cydweithio’n teimlo nad oedd yr Achos Busnes
Llawn yn achos dichonadwy. Aseswyd sut
byddai gwasanaethau’n cael eu staffio, ac a fyddai mwy neu lai o staff yn
ofynnol. Hwnnw oedd un agwedd ar y prosiect. Ar ôl deall sut byddai
gwasanaethau’n cael eu darparu, y cwestiwn nesaf fyddai ble fyddai’r
gwasanaethau’n cael eu lleoli? Y tri dewis oedd:-
Ø
Dewis 1 – Symud staff yr Heath i safle Caledfryn
Ø
Dewis 2
- Cadw safleoedd Caledfryn a’r Heath, gan ad-drefnu’r staff yn ôl meysydd gwasanaeth/iswasanaeth
lle’n briodol
Ø
Dewis 3 – Gosod staff o’r Heath a Chaledfryn
mewn adeilad a arferai gael ei ddefnyddio’n lle swyddfa ym Mharc Busnes
Llanelwy.
Ni fyddai’n ddichonadwy trosglwyddo staff i safle’r Heath yn
Llanfairfechan oherwydd nid oedd safle’r Heath yn addas.
Byddai goblygiadau TGCh wrth symud staff a lleoliad.
Roedd Adran 10 o’r adroddiad yn cyfeirio at y model
ariannol, a ddangosai gostau posibl y 3 dewis.
Ar ôl i’r Pwyllgor gael trafodaeth, cyflwynwyd ymholiadau
amrywiol ac ymatebwyd iddynt fel a ganlyn:-
Ø
Cadarnhaodd y Rheolwr Prosiect Rhanbarthol nad
oedd costau tarfu wedi’u cyfrifo eto oherwydd byddai hyn yn golygu darn
sylweddol o waith
Ø
Eglurodd y Rheolwr Prosiect Rhanbarthol y dylai
ddweud yn yr adroddiad “gwaredu swyddi” yn hytrach na “gwaredu staff”. O ran yr effaith ar staff, roedd staff Conwy
a Sir Ddinbych wedi cael eu proffilio. Er mwyn gwneud arbedion, byddai angen
colli swyddi. Byddai 9 swydd newydd yn cael eu creu. Roedd y swyddi newydd hyn
yn cyfateb i swyddi cyfredol gan leihau’r swyddi a gollir felly i 8.59
Ø
O ran llety, nid oedd yn bendant y byddai unrhyw
un o’r dewisiadau llety’n bodloni’r meini prawf a osodwyd.
Ø
Cadarnhawyd bod y Gofrestr Risg yn cael ei
diweddaru ddwywaith y mis ac y byddai’n cael ei diweddaru ar ôl y cyfarfod.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid eto i’r Aelodau
nad oedd integreiddio llwyr yn y ddau Awdurdod Lleol yn ariannol ddichonadwy
ond y gallai cydweithio ddigwydd o hyd. Ni fyddai integreiddio llwyr o fudd i
breswylwyr o ran gwerth am arian. Roedd cydweithio mewnol yn cael ei asesu e.e.
yr adran briffyrdd yn cydweithio ag adran yr amgylchedd.
Penodwyd y Cyd-bennaeth Priffyrdd a Seilwaith ym mis Ionawr
2009 i weithio ar gydweithio. Roedd gwaith sylweddol wedi digwydd drwy gydol y
3 blynedd flaenorol, er enghraifft:-
Ø
Drwy gydweithio ar lwybrau graeanu, llwyddwyd i
leihau nifer y cerbydau graeanu o 23 i 21
Ø
Roedd contractau cyfunol ar gyfer cynnal a chadw
a
Ø
System drwyddedu a rennir yn y Gwasanaethau
Morol.
Nid oedd cydweithio rhwng Awdurdodau Lleol yn ofyniad
statudol ond cafwyd cyfarwyddyd clir gan Lywodraeth Cymru y byddai’n rhy ddrud
cael 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru’n gweithio’n annibynnol, a bod angen
cydweithio, lle bynnag y bo modd, i leihau costau.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid
argymhellion Bwrdd Rhaglen Gydweithio Priffyrdd a Seilwaith Conwy a Sir
Ddinbych:-
Ø
Roedd argymhelliad 3.1 wedi’i osod yn yr
adroddiad am nad oedd yr Achos Busnes yn gwneud achos clir dros wasanaeth
Priffyrdd a Seilwaith cwbl integredig. Nid yw Conwy a Sir Ddinbych yn mynd
ymlaen â’r dewis hwn.
Ø
Parhaodd argymhelliad 3.2 i ystyried sut
gallai’r prosiect symud ymlaen, nid gydag integreiddio llwyr ond cynllun
cydweithio. Roedd 4 maes yn cael eu hasesu:-
o goleuadau
stryd a chludiant rhwng y cartref a’r ysgol, am nad oedd y rhain yn perfformio
cystal ag y dylent
o edrych
ar gyfleoedd pellach lle’r oedd achos dros newid yn gadarnhaol ac yn fuddiol i
breswylwyr a lle byddai’n lleihau costau
o roedd
adroddiad archwiliad wedi’i wneud ac roedd cyfle i’r adran Briffyrdd gydweithio
ag adran yr Amgylchedd
o datblygu
ein hymrwymiad i’r datblygiadau rhanbarthol ar gludiant cyhoeddus. Byddai
penderfyniadau’n seiliedig ar achos busnes cadarn dros newid.
Byddai’r adroddiad, ynghyd â’r sylwadau gan y Pwyllgor
Craffu Partneriaethau, yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Cabinet ar 23
Hydref.
Cytunwyd i drefnu cyfarfod Pwyllgor Craffu Partneriaethau
Arbennig ar 5 Rhagfyr, 2012, i gyflwyno’r adroddiad wedi’i ddiweddaru yn manylu
ar ddewisiadau cydweithio i’r dyfodol.
PENDERFYNWYD bod y
Pwyllgor Craffu Partneriaethau’n cefnogi’r argymhellion canlynol:-
(i)
Am nad
oedd yr Achos Busnes yn gwneud achos clir dros Wasanaeth Priffyrdd a Seilwaith
cwbl integredig, nid yw Conwy a Sir Ddinbych yn mynd ymlaen â’r dewis hwn;
(ii)
Bod
Conwy a Sir Ddinbych yn parhau i chwilio am gyfleoedd pellach i resymoli
rheolaeth, lleihau costau a gwella gwasanaethau i’n preswylwyr drwy:
a.
Cryfhau’r
meysydd iswasanaeth hynny sydd o dan reolaeth sengl
b.
Archwilio’r
meysydd iswasanaeth Priffyrdd a Seilwaith lle gallai cydweithio fod o fudd i’n
preswylwyr
c.
Archwilio
cyfleoedd lleol (penodol i Awdurdod) i gydweithio a threfniadau rheoli ar y cyd
rhwng gwasanaethau presennol, a
d.
Cynnal
a datblygu ein hymrwymiad i’r datblygiadau rhanbarthol ar gludiant a allai
sicrhau buddion ychwanegol, os cânt eu cyflwyno’n dda. Bydd angen seilio
penderfyniadau ar achos busnes cadarn dros newid o ran elfennau felly.
(iii)
Trefnu
cyfarfod Craffu Partneriaethau Arbennig ar gyfer 5 Rhagfyr, 2012 i gael
adroddiad Cydweithio Priffyrdd a Seilwaith Conwy a Sir Ddinbych wedi’i
ddiweddaru.
Daeth y cyfarfod i
ben am 10.55 a.m.
Dogfennau ategol:
- Adroddiad Craffu Priffyrdd 111012, Eitem 4. PDF 122 KB
- Appendix 1_Final_Report on the Draft Service Design, Eitem 4. PDF 784 KB
- Appendix 2_Communication Plan_JH&I_Sept2012_v3, Eitem 4. PDF 90 KB