Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF. 09-2023-0669 - HAFOD Y PARC, BODFARI, DINBYCH

Ystyried cais i ddymchwel yr adeilad storio presennol, a throsi sied fuwch bresennol i ffurfio un annedd, gan gynnwys codi estyniadau un llawr, ffurfio parcio, gosod offer trin pecyn, tirlunio a gwaith cysylltiedig yn Hafod y Parc, Bodfari, Dinbych (copi ynghlwm)

 

 

Cofnodion:

Cafodd cais ei gyflwyno ar gyfer dymchwel adeilad storio presennol, a thrawsnewid sied wartheg bresennol i ffurfio un annedd, gan gynnwys adeiladu estyniadau un llawr, creu lle parcio, gosod offer trin pecyn, tirlunio a gwaith cysylltiol mewn Adeiladau Allanol yn Hafod y Parc, Bodfari, Dinbych. 

 

Siaradwr Cyhoeddus - Diolchodd Gethin Jones (asiant) (O blaid) i’r pwyllgor am gael siarad.   Eglurodd y byddai’n cyflwyno cynnig ar ran ymgynghorwyr Jones Planning, oedd yn cynrychioli’r ymgeiswyr oedd â gwreiddiau dwfn yn Hafod Park. 

 

Roedd yr ymgeiswyr yn gwasanaethu Heddlu Gogledd Cymru ar hyn o bryd ac yn gyn heddwas gyda Heddlu Gogledd Cymru, nawr yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, yn dymuno adleoli i Aberchwiler oherwydd eu cysylltiadau teulu cryf â’r ardal.   Fodd bynnag, roedd cyfyngiadau ariannol wedi gwneud adleoli yn anymarferol iddyn nhw.   Mae’r heriau economaidd hefyd yn cyfyngu ar allu cymunedau lleol i groesawu teuluoedd ifanc bywiog fel nhw, sydd â chysylltiadau teulu cryf â’r ardal. 

 

Roedd y safle bwriedig wedi’i leoli yng ngogledd ddwyrain Aberchwiler ac roedd yn rhan o Ystâd hanesyddol Grove Hall. Roedd y safle yn arfer bod yn gartref i’r porthdy, oedd wedi’i adleoli i’r diwedd ar ddechrau’r 1900au.

 

Mae’r safle yn cynnwys adeilad a elwir yn lleol yn Sied Wartheg, sydd yn cael ei gydnabod gan CPAP fel adeilad o ddiddordeb arbennig.   Roedd yr adeilad storio cyfagos yn arfer bod yn strwythur dal dŵr caeedig, fel y gwelir mewn lluniau hanesyddol o’r 1970au.   Roedd y cais yn bwriadu trawsnewid y safle i lety preswyl gyda dull sensitif a ystyriwyd yn drwyadl.   Roedd y cynnig yn alinio gyda’r paramedrau presennol ac roedd wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan y gymuned leol, gan gynnwys 17 llythyr o gefnogaeth a chymeradwyaeth gan y cyngor cymuned lleol.

 

Roedd y datblygiad arfaethedig yn anelu i wella’r ardal a darparu preswylfa i gwpl ifanc â’u gwreiddiau’n ddwfn yn y gymuned.   Fodd bynnag, roedd cyflwr presennol y lleoliad, gan gynnwys y sied wartheg oedd yn dirywio ac adeiladau storio anhrefnus yn tynnu oddi ar apêl weledol cyffredinol yr AHNE.  Er gwaethaf hyn, roedd y golygfeydd dros Glawdd Offa yn darparu safbwynt sy’n amlygu pwysigrwydd cydbwysedd y datblygiad bwriedig gyda maint amaethyddol sy’n cyd-fynd â’r ardal gyfagos.  Er nad yw’r cynnig o bosibl yn cwrdd â phwynt trawsnewid sy’n ofynnol ym Mholisi HEG 4, mae arwyddocâd hanesyddol ac amaethyddol y sied wartheg yn cyflwyno achos cymhellol ar gyfer ei hailddefnyddio. Mae’r ymgeisydd yn credu ei bod yn bwysig cydbwyso polisi a chadwraeth treftadaeth ac mae wedi gofyn i’r aelodau ystyried y cydbwysedd hwn yn eu proses gwneud penderfyniad yn ofalus. 

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Cynghorydd Merfyn Parry (aelod lleol) - hysbysodd y pwyllgor y dylent fod wedi derbyn dogfennaeth hwyr gyda lluniau yn ymwneud â’r safle a mynegodd ei rwystredigaeth gyda’r diffyg lluniau ar gael yn ystod cyfarfod y pwyllgor, fel y bu’n flaenorol a chodwyd hynny o fewn y cais gan y Cynghorydd Parry, roedd y sied wartheg wedi’i lleoli yng nghwrtil Fferm Grove Hall.  Y cynnig oedd i’w newid i annedd, a fyddai nid yn unig yn cadw’r deunydd hanesyddol ond hefyd yn gwella’r tirlun treftadaeth leol. Roedd y cyngor cymuned yn ffafrio’r cynnig hwn ac ni fu unrhyw wrthwynebiad.   Roedd Grove Hall yn glwb yn y 50au ac yn fferm hyd at y 70au.   Fodd bynnag, mae’r adeiladau i gyd bellach yn dai, fflatiau a fflatiau aml-lawr preswyl. 

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog, ac fe eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Huw Hildtich-Roberts.

 

Roedd y pwyllgor yn trafod manteision cynnwys amodau ar y defnydd o ddeunyddiau ar y datblygiad; roedd rhai aelodau eisiau sicrhau bod y deunydd yn cyfateb i’r eiddo oedd yn bresennol yn barod ar y safle, tra roedd eraill yn credu y byddai cael dau ddeunydd gwahanol yn amlygu’r elfennau hŷn o’r safle.   Roedd yr Aelodau hefyd yn codi’r mater eu bod yn bryderus y gallai’r datblygiad droi yn llety gwyliau rhywbryd yn y dyfodol a pha un a fyddai’r cais yn cael ei warantu ac yn meddwl pa un a ellir ei gynnwys fel amod.  

 

Rhoddodd y swyddogion y cefndir i’r aelodau ynglŷn â’r polisi, roedd y safle datblygu dan sylw yn disgyn y tu allan i’r ffin datblygu ac roedd yn destun polisïau eithriad, fel trawsnewid adeiladau gwledig (Polisi HEG 4).   Fodd bynnag, roedd yr adeilad i’w drawsnewid ond yn 36 metr sgwâr, o dan y safon isafswm lle ar gyfer annedd bach (50 metr sgwâr). Eglurodd y swyddog er mwyn gwneud y cais yn gymwys, bwriedir i bron 100 metr sgwâr o estyniad gael ei adeiladu, fydd yn ei wneud yn annedd newydd ac yn methu’r polisi eithriad gwledig.   Gan gyfeirio at y posibilrwydd o ddeunyddiau amodol os byddai caniatâd yn cael ei roi yn erbyn argymhelliad swyddog, gellir cytuno ar y deunyddiau a ddefnyddir gydag amodau pellach.   Roedd swyddogion hefyd yn cyfeirio at bwynt y Cynghorydd Ellis ynglŷn â’r newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth sy’n nodi Llety Gwyliau fel dosbarth defnydd ar wahân o’r annedd.  Er y gall yr Awdurdod Cynllunio Lleol ddileu’r datblygiad a ganiateir drwy amod cynllunio, gellir trafod yr amodau gyda’r aelod lleol os bydd y pwyllgor yn mynd yn erbyn argymhelliad y swyddogion. 

 

Roedd yr aelodau yn cytuno gyda’r amodau posibl i sicrhau nad oedd yr eiddo yn troi yn llety gwyliau.   Amodau ar y camau posibl o’r adeiladu i sicrhau bod trawsnewid y sied wartheg yn digwydd yr un pryd â’r adeilad newydd oedd yn cael ei adeiladu a dywedodd swyddogion y byddai amodau yn cael eu trafod gydag aelodau lleol os byddai’r cais yn cael ei ganiatau. 

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Hilditch-Roberts i siarad gan ei fod yn eilio’r cynnig a pha un a oedd yn fodlon gyda chynnwys amodau ychwanegol; nid oedd yn fodlon gyda’r amodau gan ei fod yn teimlo bod yna deulu oedd eisiau adeiladu tŷ a’r pwyllgor yn gwneud yr holl broses yn anoddach gyda’r amodau bwriedig.    Roedd yn teimlo fod y cynlluniau yn dda a byddai’r datblygiad bwriedig o fudd i’r ardal.  Roedd yn teimlo y gallai deunyddiau gynnwys amodau, ond roedd yr amodau eraill a awgrymwyd ar gyflwyno fesul cam yn gwneud y broses yn anodd. 

 

Hysbysodd yr aelodau’r swyddogion nad oedd angen trafod yr amodau gyda’r pwyllgor.   Os oedd y penderfyniad i fynd yn erbyn yr argymhellion, byddai angen i Aelodau’r Pwyllgor ddarparu rhesymeg glir. 

 

Yn ystod y drafodaeth, roedd rhai aelodau yn codi pryderon am y cais gan y teimlwyd bod y cynnig yn gyfystyr ag adeiladu annedd newydd yng nghefn gwlad. Roedd hyn yn amlwg o faint yr adeiladau newydd o’i gymharu â thrawsnewid y sied wartheg fechan.

 

Roedd y Cynghorydd Parry yn amlygu ei resymau am fynd yn groes i argymhellion y swyddog. Ei resymau oedd y byddai’r datblygiad bwriedig yn cadw rhywfaint o dreftadaeth leol a byddai’r datblygiad yn lleihau unrhyw effaith negyddol ar harddwch os byddai’r adeilad yn parhau’n wag ac yn mynd â’i ben iddo.  

 

PLEIDLAIS –

O blaid – 19

Yn erbyn – 0

Ymatal – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn groes i argymhelliad swyddog a bod yr amodau’n cael eu manylu gydag aelodau lleol a’u cyflwyno yn ôl i’r pwyllgor wedyn. 

 

 

Dogfennau ategol: