Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF. 01/2023/0715 - GWEITHDY'R GORON (Y FARCHNAD FENYN GYNT), LON Y GORON, DINBYCH
Ystyried cais ar gyfer newidiadau ac ad daliadau i do, gan gynnwys tynnu a gwneud iawn o olau awyr presennol, gosod ffenestri to, paneli solar ffotofoltaidd a gwaith cysylltiedig yng Ngweithdy'r Goron (Y Farchnad Fenyn gynt), Lôn y Goron, Dinbych (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cafodd cais ei gyflwyno ar
gyfer Addasiadau ac atgyweiriadau i’r to, gan gynnwys tynnu ac atgyweirio’r
ffenestr do presennol, gosod goleuadau yn y to, paneli solar ffotofoltäig a gwaith cysylltiol yng Ngweithdy’r Goron
(Marchnad Fenyn gynt), Lôn Crown, Dinbych.
Siaradwr Cyhoeddus - diolchodd
Paul Moore (o blaid) i’r pwyllgor am y cyfle i siarad i gefnogi’r cais ar gyfer
y Farchnad Fenyn yn Ninbych. Eglurodd y
siaradwr cyhoeddus na fyddent yn trafod yr agweddau technegol o’r cais a
deddfwriaeth, gan fod hyn wedi ei gyflwyno eisoes; byddent yn canolbwyntio ar
bwysigrwydd yr adeilad hwn i’r gymuned.
Ar ôl bod yn wag ac mewn cyflwr gwael ers bron i saith mlynedd, y
gobaith oedd i’w weld yn cael ei adfywio.
Gweledigaeth yr ymgeisydd oedd i greu canolfan dreftadaeth a diwylliant
iechyd meddwl, a weithredir gan y trydydd sector ac elusennau, a fyddai’n
darparu gwasanaethau hanfodol i bobl Sir Ddinbych.
Oherwydd yr hinsawdd ariannol
presennol, roedd yn hynod heriol i ddarparu unrhyw wasanaeth, yn arbennig ar
gyfer y trydydd sector, a oedd yn wynebu toriadau parhaus a phenderfyniadau
anodd yn ddyddiol. Y nod oedd i leihau gorbenion gweithredol a chanolbwyntio ar gyflawni canlyniadau.
Er enghraifft, roedd y datblygiad yn anelu i ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl
oedd wir ei angen ar gyfer o leiaf pump diwrnod yr wythnos, ynghyd â chyfleoedd
gwirfoddoli. Roedd yr ymgeisydd hefyd yn dyheu i ddatblygu’r gwasanaethau a bod
yn achrededig tra’n hybu ein diwylliant gyda’r Fenter Iaith.
Roedd y siaradwr cyhoeddus yn
cydnabod bod Sir Ddinbych wedi cefnogi eu gweledigaeth yn fawr ac roeddent yn
ddiolchgar am yr arian oedd ar gael drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Roedd gan
y Farchnad Fenyn botensial sylweddol i fod yn ganolbwynt cymunedol hanfodol.
Trafodaeth Gyffredinol –
Caniataodd y Cynghorydd Mark
Young i’r Cynghorydd Arwel Roberts siarad ar ran y Cynghorydd Delyth Jones
(aelod lleol) nad oedd yn gallu bod yn bresennol. “Fel aelod lleol o’r ward ble roedd yr
adeilad wedi’i leoli, roeddwn eisiau rhannu fy marn. Y bwriad yw i ddatblygu’r adeilad, sydd
eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio, i swyddfa, canolfan addysg, amgueddfa a
chyfleuster cymunedol. Mae’r cynllun
hwn yn alinio gydag amcanion y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac mae mewn lleoliad
priodol. Felly, rydw i’n cefnogi’r
prosiect yn llwyr.
Nid oes gennyf unrhyw
wrthwynebiad i’r bwriad i gadw’r goleuadau to na’r blwch nythu ar y safle. Mae’n hanfodol i sicrhau bod y deunyddiau to
a ddefnyddir yn briodol i’r safle, fel llechi Cymreig fel y soniwyd yn yr
adroddiad. Er fy mod yn cefnogi’r
prosiect, mae gennyf bryderon ynglŷn ag ychwanegu paneli solar i’r
adeilad. Mae ynni adnewyddadwy yn
hanfodol ar gyfer y dyfodol, ond mae’n bosibl na fydd maint a graddfa’r
lleoliad yn briodol ar gyfer ystod o 40 o baneli. Rwyf yn annog aelodau’r panel i ystyried yr
agwedd hon yn ofalus cyn penderfynu. Gan fod y safle mewn ardal gadwraeth ble
mae adeiladau rhestredig yn amlwg, mae lleoliad a gwelededd unrhyw waith
adeiladu newydd yn ystyriaethau hanfodol.
Mae’r safle arfaethedig, sydd wedi’i leoli mewn lle amlwg a gellir ei
weld o nifer o lwybrau cerdded ledled y dref, gan gynnwys y rhai sy’n arwain at
Gastell Dinbych, angen sylw arbennig.
Mae unrhyw ddatblygiad yn yr
ardal hon yn gallu bod yn risg o osod cynsail ar gyfer prosiectau yn y dyfodol,
a allai gael effaith andwyol ar ymdrechion cadwraeth. Mae Dinbych yn cynnwys y nifer uchaf o
adeiladau rhestredig yng Nghymru, gan ei wneud hyd yn oed yn fwy hanfodol i
gadw a diogelu cymeriad unigryw y dref.
Mae’r cyllid CFFR mewn perygl os yw’r cynllun bwriedig
yn cynnwys paneli solar, a oedd yn fater o bryder. Dylai’r cynllun datblygu fod wedi ystyried
arwyddocâd hanesyddol a chadwraeth i osgoi unrhyw niwed posibl i dreftadaeth y
gymuned.”
Caniataodd y cadeirydd i’r
Cynghorydd Merfyn Parry siarad hefyd ar ran y Cynghorydd Pauline Edwards (aelod
lleol). “Fel aelod lleol y ward hon,
roeddwn yn falch o glywed am y cyllid a roddwyd i gefnogi cyfleuster cymunedol
sydd wirioneddol ei angen yn Ninbych.
Fodd bynnag, roeddwn i’n llai bodlon pan ddarllenais am y pryderon a
godwyd ynglŷn â’r system Paneli Solar a fwriadwyd. Rwyf wedi mynd drwy’r datganiad effaith
treftadaeth a chanfod bod y system PV solar rhyngweithiol a fwriedir ar gyfer
llechi to’r adeilad yn ddatrysiad ystyriol i fynd i’r afael ag unrhyw effaith
posibl ar ymddangosiad yr adeilad. Byddai’r paneli solar ond yn cael eu gosod
ar rannau mwyaf modern o’r adeilad ac ni fyddent yn weladwy o’r strwythur
Marchnad Fenyn gwreiddiol. Ni fyddent
i’w gweld yn amlwg gan y cyhoedd o’r priffyrdd.
Rwy’n deall bod y Paneli PV bwriedig yn ofyniad ar gyfer yr adeilad i gefnogi polisi
Sero Net Llywodraeth y DU. Mae hyn yn
cyd-fynd â’n hamcanion amgylcheddol a byddai o fudd i’r adeiladau, gan gynnwys
llai o gostau rhedeg. Mae’n werth nodi
nad oes gan Gyngor Tref Dinbych na Cadw unrhyw wrthwynebiad i’r cynlluniau.”
Hysbysodd swyddogion y
pwyllgor bod Swyddog Cadwraeth y Cyngor wedi mynychu’r cyfarfod i ateb unrhyw
ymholiadau ynglŷn â’r cais.
Dywedodd Aelodau fod y cais yn
fuddiol i wneud defnydd o adeilad gwag yn y gymuned, byddai’r paneli solar bwriedig yn cynorthwyo’r lleoliad gyda chostau cynnal ac yn
cyd-fynd â’r agenda werdd a ddilynir yn lleol ac yn genedlaethol. Hefyd ychwanegwyd bod y pryderon cadwraeth
wedi eu hystyried drwy’r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Merfyn
Parry y gellir cael amod os bydd mwy o dechnoleg pellach yn cael ei weithredu
yn y dyfodol, fyddai’n golygu bod y paneli solar wedi cyrraedd diwedd eu hoes;
gallai’r to ddychwelyd i’r dyluniad gwreiddiol.
Dywedodd y Swyddog Cadwraeth
fod y paneli yn weladwy a gallent fod yn rhwystr i harddwch y dref, a gallent
osod cynsail ar gyfer datblygiadau yn yr ardal yn y dyfodol.
Eglurodd swyddogion wrth yr
aelodau fod y drafodaeth ynglŷn â gosod cynsail yn gymhleth; roedd y cais
yn sicrhau y byddai’r paneli yn cael eu gosod mewn mannau llai amlwg. Eglurodd swyddogion y byddai pob cais angen
ei drafod yn ôl ei rinweddau ei hun; fodd bynnag, os byddai’r cais yn cael ei
gymeradwyo, byddai’n gwneud unrhyw ddadleuon tebyg yn fwy anodd wrth symud
ymlaen.
Ychwanegodd y Swyddog
Cadwraeth ei fod yn cytuno mai’r paneli a fwriadwyd oedd y dewis gorau; fodd
bynnag, roeddent yn parhau’n blastig ac nid y deunydd toi traddodiadol fyddai
wedi cael ei ddefnyddio; gan ymateb i pa un a ellir gweld y paneli o lefel y
stryd, eglurodd y swyddog y gellir eu gweld o’r stryd a’r maes parcio.
Codwyd gwresogi amgen, fel
gwres ffynhonnell aer neu wres o’r ddaear a pha un a oeddent wedi eu hystyried
fel dull gwresogi amgen. Ychwanegodd y
Cynghorydd Parry at y mater gan amlygu eu bod yn ffynonellau gwresogi da; fodd
bynnag, roedd angen ynni i’w rhedeg a heb baneli gallent fod yn anhyfyw yn ariannol i’w rhedeg. Roedd swyddogion wedi
codi’r mater gyda’r asiant a’r cais; fodd bynnag, ni fu unrhyw sylwadau pellach
ar y sefyllfa.
Eglurodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol fod yr amod yn awgrymu ynglŷn ag
adfer y to i’w gyflwr blaenorol os byddai’r paneli solar yn cael eu
tanddefnyddio; dychwelir i’r pwyllgor yn y dyfodol a gellir ei gynnwys os
byddai’r cais yn cael ei ganiatáu.
Byddai’r swyddogion hefyd yn trafod unrhyw amodau gyda’r aelodau lleol
os byddai’r cais am ganiatâd cynllunio yn cael ei ganiatau.
Cynnig - roedd y Cynghorydd Elfed Williams yn cynnig bod y
cais yn cael ei ganiatau yn groes i argymhellion
swyddog oherwydd bod y polisïau amgylcheddol yn gorbwyso’r agwedd dreftadaeth
o’r polisïau; roedd y cynnig yn cynnwys yr amod bod y paneli solar yn cael eu
tynnu os na fyddent yn cael eu defnyddio, eiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn
Parry.
PLEIDLAIS –
O blaid – 17
Yn erbyn – 1
Ymatal – 0
PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn groes i argymhelliad
y swyddog.
Dogfennau ategol: