Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PROSIECT YSBYTY CYMUNED GOGLEDD SIR DDINBYCH

Derbyn cyflwyniad i ystyried y sefyllfa bresennol o ran darparu’r prosiect gan gynnwys cefnogaeth mewn egwyddor gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Elen Heaton, y Cyfarwyddwr Gofal Acíwt, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'r Pwyllgor. 

 

Yn dilyn cyfarfod i drafod Ysbyty Brenhinol Alexandra, roedd cynnydd wedi'i wneud ond yr oedd yn y cyfnod cynnar. Gwnaeth yr Aelod Arweiniol gadarnhau fod datblygiad Ysbyty Brenhinol Alexandra yn brosiect Bwrdd Iechyd a oedd yn cael cefnogaeth gan Gyngor Sir Ddinbych pan fo angen. Pwysleisiwyd pwysigrwydd datblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra i liniaru'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd ac integreiddio rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol fyddai'r flaenoriaeth. 

 

Cadarnhaodd Alyson Constantine, Cyfarwyddwr Gofal Acíwt, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yr amserlenni a'r prosesau ar gyfer y dyfodol i’r Pwyllgor. 

 

Roedd prosiect partneriaeth wedi’i sefydlu ac yr oedd cefnogaeth gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi’i gadarnhau ym mis Rhagfyr 2023.

 

Roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda TACP Architects i gyflwyno dyluniadau o safon uchel, costau ac amserlenni.  

 

Byddai'r Gwerthusiad Dewis yn mynd i Lywodraethu Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Mawrth ac yna'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru (LlC) ddiwedd mis Mawrth. Byddai Llywodraeth Cymru yna’n cadarnhau dyraniadau cyllid a grant yn dilyn y cam hwn.

 

Roedd yr ysgogwyr ar gyfer y gwerthusiad dewis fel a ganlyn -

 

·         Adnewyddu'r adeilad presennol ar gyfer cynaliadwyedd a sicrhau ei fod yn addas i'r diben;

·         Defnyddio’r arwynebedd llawr yn y ffordd orau posibl i fanteisio ar y buddion cymunedol;

·         Canolbwyntio ar integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol;

·         Gwella cydweithio rhwng Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Trydydd Sector;

·         Darparu Uned Mân Anafiadau yn cynnwys rhai gwelyau ar y campws;

·         Darparu llety sy’n addas at y diben – nid popeth yn yr adeilad newydd;

·         Mae’n rhaid i’r dewis fod yn fforddiadwy.

 

Mae’r adeilad clinigol newydd yn darparu gwasanaethau newydd ac estynedig -

 

·         Gwelyau cymunedol – model newydd o ofal cam i fyny a cham i lawr;

·         Uned anafiadau difrifol i'r gymuned a chlinigau Nyrsys Ardal;

·         Gwasanaethau radioleg estynedig i gynnwys uwchsain a gwasanaeth y tu allan i oriau;

·         Canolbwynt trydydd sector i gynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth a hybu lles;

·         Llety estynedig ar gyfer timau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar y safle;

·         Caffi cymunedol ar gyfer ymwelwyr a staff;

·         Gwasanaethau deintyddol cymunedol i’w darparu’n lleol mewn amgylchedd sy’n addas at y diben.

 

Adnewyddu'r adeilad presennol a defnyddio'r safle ehangach -

 

·         Darparu amgylchedd sy’n addas at y diben ar gyfer -  

o   Timau amlasiantaeth

o   Grwpiau’r trydydd sector

o   Gwasanaethau Plant

o   Gwasanaethau Therapi, a

o   Gwasanaethau Iechyd Rhywiol.

·         byddai amrywiaeth o dimau cefnogi wedi’u lleoli ar y safle;

·         cadw dau adeilad Glan Traeth sy’n cynnal timau iechyd meddwl pobl hŷn ac amrywiaeth o wasanaethau cleifion allanol

·         maes parcio estynedig oddi ar y safle.

 

Roedd Dewisiadau Cwmpas Adolygu Ysbyty Brenhinol Alexandra fel a ganlyn -

 

·         Dewis 1 - Gwneud dim

·         Dewis 2 - Gwaith adfer ar yr Ysbyty Brenhinol Alexandra presennol. Dim newid i wasanaethau.

·         Dewisiadau 3, 4 a 5 - Cwmpas Canolradd - Dewisiadau Newydd

o   Dewis 3 - Unllawr, ôl troed achos busnes gwreiddiol a chynllun y llawr gwaelod. Darparu uned mân anafiadau, gwasanaethau deintyddol cymunedol, gwasanaethau radioleg estynedig, gwasanaethau iechyd rhywiol ehangach a chanolbwynt y trydydd sector. Adnewyddu'r adeilad presennol.

o   Dewis 4 - Unllawr, ôl troed achos busnes gwreiddiol a chynllun newydd. Darparu uned mân anafiadau, gwasanaethau deintyddol cymunedol, gwasanaethau radioleg estynedig, gwelyau cymunedol a chanolbwynt y trydydd sector.  Adnewyddu'r adeilad presennol.

o   Dewis 5 - deulawr, yr un arwynebedd llawr â dewisiadau 3 a 4 a chynllun newydd. Darparu uned mân anafiadau, gwasanaethau deintyddol cymunedol, gwasanaethau radioleg estynedig, gwelyau cymunedol a chanolbwynt y trydydd sector. Adnewyddu'r adeilad presennol.

·         Dewis 6 - Uchafswm Cwmpas yr Achos Busnes Llawn

 

Byddai'r amserlenni'n dibynnu ar ganlyniad yr ymgysylltu â LlC ynghylch y dewisiadau sydd ar gael.

 

Gwnaeth aelodau ddiolch i Alyson am y cyflwyniad.

 

Yn ystod y trafodaethau, codwyd y pwyntiau canlynol –

·         Mynegodd yr aelodau eu rhwystredigaeth gan fod y cynllun gwreiddiol ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra wedi'i gyflwyno 13 mlynedd yn ôl.  Roedd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fel yr aelodau, yn rhwystredig. Eglurwyd bod angen cynnig y model a'r cyfleusterau mwyaf priodol yn y ffordd fforddiadwy orau. Dylai'r broses fod yn un syml eleni a bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn fuan. Cadarnhawyd na fyddai'r achos busnes a gyflwynwyd flynyddoedd yn ôl yn fforddiadwy ar hyn o bryd. Roedd y dewisiadau a gyflwynwyd yn fwy fforddiadwy ar gyfer cyfleuster addas at y diben.

·         Codwyd y mater o drosglwyddo cleifion i ardaloedd eraill ar gyfer gwasanaethau arbenigol. Cadarnhawyd y byddai cleifion yn dal i gael eu trosglwyddo i ardaloedd eraill ar gyfer y triniaethau angenrheidiol gorau ac na fyddai'r broses honno'n newid.

·         Roedd cyfranogiad yr aelodau yn bwysig ac yr oedd Arweinydd ac Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymwneud â thrafodaethau a chynlluniau ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra. Cadarnhawyd y byddai gwybodaeth yn cael ei dosbarthu i'r aelodau i gyd er mwyn sicrhau parhad o ran cyfathrebu.

 

Ar y pwynt hwn, cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts fod llythyr yn cael ei anfon at Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, a Phennaeth y Gwasanaethau Iechyd yn gofyn am ragor o arian i Ogledd Cymru i ganiatáu i’r ysbyty hwn gael ei adeiladu cyn gynted â phosibl.  

 

Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Bobby Feeley.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn nodi'r cyflwyniad diweddaru ac yn cytuno i anfon llythyr gan y Pwyllgor at Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Phennaeth y Gwasanaethau Iechyd yn gofyn am fwy o arian i Ogledd Cymru i ganiatáu Ysbyty Brenhinol Alexandra gael ei adeiladu cyn gynted â phosibl.