Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PENNU FFIOEDD CARTREFI GOFAL PRESWYL A NYRSIO 2024/25

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer pennu ffioedd cartrefi gofal ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25. 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo gosod ffioedd cartrefi gofal gwaelodlin ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 yn unol â Thabl 1 ym mharagraff 4.5 yr adroddiad sy’n cynrychioli cynnydd o 8.8%.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer gosod ffioedd cartrefi gofal preswyl a nyrsio ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 yn dilyn ymgynghoriad â darparwyr gofal ac a oedd yn cynnig cynnydd o 8.8%.

 

Roedd ffioedd cartrefi gofal yn rhan sylweddol o’r gyllideb gofal cymdeithasol flynyddol, gyda tua £13 miliwn yn cael ei ddyrannu i tua 364 o leoliadau mewn 82 o gartrefi gofal.  Roedd darpariaeth gofal yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac roedd hyn wedi’i adlewyrchu yn nyraniadau’r gyllideb ar gyfer 2024/25 i ddiogelu gofal cymdeithasol ac addysg gymaint ag sy’n bosibl yn ystod argyfwng ariannu Llywodraeth Leol.  Rhoddwyd diweddariad ar ymgysylltu â darparwyr gofal ynghyd â dewisiadau cynyddu ffioedd ar gyfer 2024/25.  Gan ystyried y goblygiadau ariannol, roedd dewisiadau cost is wedi’u cyflwyno hefyd, ond er bod y cynnydd arfaethedig o 8.8% yn sylweddol uwch na setliad 3.8% y Cyngor a byddai’n cynyddu gwariant o fwy na £1 miliwn, roedd yn cydbwyso fforddiadwyedd i drethdalwyr lleol, cynaliadwyedd gwasanaethau hanfodol eraill, a sicrhau iawndal teg i ddarparwyr gofal gwerthfawr ar ôl ystyried chwyddiant a’r Cyflog Byw Gwirioneddol.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Heaton fod y Cyngor yn gwerthfawrogi eu darparwyr gofal a’u bod yn ymrwymedig i feithrin perthynas agored a theg.  Ni ddylai unrhyw ddarparwr deimlo eu bod yn wynebu argyfwng ariannol oherwydd iawndal annheg am wasanaethau a byddai cynnig ymarfer llyfr agored yn parhau i ganiatáu ymgysylltiad tryloyw a thrafodaeth deg am gost wirioneddol gofal a defnyddio arian trethdalwyr yn effeithlon.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg a’r Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.  Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y broses gosod ffioedd yn wahanol i’r blynyddoedd blaenorol er mwyn cyflwyno argymhelliad i’w drafod mewn fforwm cyhoeddus gyda thryloywder am y broses a gymaint ag sy’n bosibl o ymgysylltiad â darparwyr gofal a chydweithwyr rhanbarthol.  Roedd polisi drws agored ar gyfer darparwyr gofal ac roedd trafodaethau am ffioedd cartrefi gofal yn cael eu croesawu trwy gydol y flwyddyn.  Roedd y Grŵp Ffioedd Rhanbarthol wedi’i ail-sefydlu ac roedd ymgysylltiad wedi bod â darparwyr gofal eto a byddai gwaith yn parhau gan ystyried adborth gan ddarparwyr.

 

Bu’r Cabinet yn trafod yr adroddiad a nodi’r ymdrechion a wnaed i ymgysylltu â darparwyr, y themâu sy’n codi o’r ymarfer ymgysylltu dechreuol ac adborth dilynol ar ôl ymgynghoriad ar y cynnig ffioedd.  Roedd y Cabinet yn awyddus i sicrhau bod pob darparwr gofal yn talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i’w staff a gofynnwyd cwestiynau o ran y dull ymgysylltu rheolaidd a chyfathrebu â darparwyr gofal, yr angen i sicrhau bod darparwyr llai yn ymgysylltu'r un fath â’r broses, a gofynnwyd am ragor o fanylion am liniaru’r risgiau a nodwyd yn yr adroddiad hefyd.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion i’r cwestiynau a’r sylwadau fel a ganlyn –

 

·       er ei bod wedi’i gwneud yn glir bod darpariaeth ar gyfer y Cyflog Byw Gwirioneddol wedi’i chynnwys yn y gyfradd ffioedd a gynigiwyd a bod disgwyliad i ddarparwyr gofal dalu’r Cyflog hwn i’w staff, nid oedd system gytundebol na system arall i orfodi’r taliad yn gyfreithiol.  Fodd bynnag, pe na bai staff yn cael y Cyflog Byw Gwirioneddol, roedd yn debygol y byddent yn gadael i weithio i ddarparwyr eraill a oedd yn talu’r gyfradd honno.

·       Roedd Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol ac wedi sefydlu’r Fforwm Gwaith Teg gyda’r bwriad o sicrhau bod staff yn cael y tâl, telerau ac amodau, a’r gydnabyddiaeth maen nhw’n eu haeddu trwy fargeinio ar y cyd.  Cadarnhawyd bod Fforwm Gofal Cymru (corff cynrychiadol ar gyfer darparwyr gofal ar draws Cymru sy’n aelodau ohono) yn aelod o’r Fforwm Gwaith Teg hefyd.

·       Eglurwyd y cyswllt rheolaidd rhwng amryw aelodau o staff y Cyngor a darparwyr gofal, gan gynnwys ymweliadau cartref gan y tîm monitro contractau, cyfathrebu trwy dimau taliadau a gweithwyr cymdeithasol/therapyddion galwedigaethol, gyda deialog agored am bob agwedd ar ddarpariaeth gofal, gan gynnwys ffioedd gofal, a gellid nodi a chodi materion trwy unrhyw un o’r ffynonellau hyn. Roedd adborth dechreuol gan ddarparwyr yn croesawu ail-lansio’r Fforwm Darparwyr, a oedd wedi’i ail-sefydlu ers hynny ac roedd yn cynnig system arall ar gyfer deialog rheolaidd yn ogystal â’r polisi drws agored a’r ymarfer llyfr agored parhaus.  O ganlyniad, roedd hyder o ran lefel yr ymgysylltiad â darparwyr gofal trwy gydol y flwyddyn.

·       Ymhelaethwyd ar gamau lliniaru i leihau’r risgiau a nodwyd yn yr adroddiad ac eglurwyd y ddeialog barhaus â darparwyr er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa a darparu darlun clir o ddarpariaeth ar draws y sir a nodi materion gan gynnwys argaeledd a fforddiadwyedd lleoliadau priodol er mwyn diwallu anghenion yn y ffordd orau.  Amlygwyd her sy’n gysylltiedig â lleoliadau gofal cymdeithasol o ystyried cymhlethdod anghenion mewn rhai achosion a’r ddarpariaeth sydd ar gael i ddiwallu’r anghenion hynny.  Fodd bynnag, roedd darparwyr hysbys a oedd yn awyddus i fuddsoddi a datblygu yn Sir Ddinbych, a oedd yn anogol, ac roedd y farchnad ar gyfer datblygiad newydd yn lleihau’r risg; byddai deialog gyda’r darparwyr hynny’n parhau.  Byddai’r cynnydd 8.8% a argymhellir ar gyfer ffioedd gofal yn rhoi Sir Ddinbych yn gyfartal â rhai Awdurdodau Lleol eraill ar draws gogledd Cymru, ac felly byddai’n lleihau’r risg y byddai rhai darparwyr yn dewis cynnig lleoliadau i dalwyr uwch yn unig.

·       O ran y tymor hwy a rheoli risgiau’r dyfodol, lluniodd y Cyngor ei Ddatganiad Sefyllfa’r Farchnad ac ymgysylltu mewn cydweithio rhanbarthol gyda Strategaeth Gomisiynu Ranbarthol a Strategaeth Gweithlu Rhanbarthol ac roedd gwaith yn mynd rhagddo’n gyson i nodi’r anghenion ar gyfer darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol a sicrhau bod gweithlu digonol ar gael i ddiwallu’r anghenion hynny wrth symud ymlaen.

·       Cydnabuwyd mai cartrefi gofal llai oedd y rhan fwyaf o’r ddarpariaeth cartrefi gofal yn y sir a rhoddwyd sicrwydd bod perthnasoedd da wedi’u meithrin gyda’r rhan fwyaf o fusnesau llai lleol yn ogystal â’r busnesau mwy; roedd cartrefi gofal llai yn cael eu cynrychioli yn y Fforwm Darparwyr hefyd.  Yn ogystal, bu ymdrech ymwybodol i sicrhau bod amrywiaeth o ddarparwyr yn ymgysylltu yn y broses gosod ffioedd i helpu i lywio’r gwaith cyfrifo ffioedd.

 

Roedd y Cabinet wedi bod yn falch o nodi’r ddeialog barhaus â darparwyr gofal trwy amrywiaeth o dimau’r Cyngor, ail-lansio’r Fforwm Darparwyr a chynnig ymarfer llyfr agored parhaus, yn enwedig o ystyried y rhagolwg economaidd ansicr, gyda system i ymgysylltu ac adolygu ffioedd trwy gydol y flwyddyn a thrafod a chefnogi darparwyr gofal o ran materion ehangach rheoli cartref gofal. 

 

Ar y pwynt hwn, agorodd yr Arweinydd y drafodaeth i aelodau nad oeddent yn aelodau o’r Cabinet.  Gofynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley a ddylai gwaith y Grŵp Ffioedd Rhanbarthol fod wedi’i gwblhau cyn i’r ffioedd gael eu gosod a gofynnodd am gyfranogiad Fforwm Gofal Cymru yn y broses honno; amlygwyd y diffyg ymateb gan ddarparwyr a deialog ystyrlon i lywio’r broses; a chododd bryderon am y risgiau a nodwyd yn yr adroddiad a materion a godwyd gan ddarparwyr yn eu hadborth dechreuol.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a'r swyddogion i’r cwestiynau a sylwadau ategol pellach gan y Cynghorydd Feeley fel a ganlyn –

 

·       gan ystyried y gwaith yr oedd gofyn i’r Grŵp Ffioedd Rhanbarthol ei wneud, roedd yn hysbys na fyddai methodoleg newydd yn cael ei chyflwyno mewn pryd i lywio’r broses o osod ffioedd ar gyfer 2024/25; rhoddwyd rhagor o fanylion am y gwaith a wnaed gan y Grŵp a gwahanol fethodolegau peilot i lywio argymhellion y dyfodol.

·       Roedd Fforwm Gofal Cymru yn rhan sylweddol o’r Grŵp Ffioedd Rhanbarthol, gyda chynrychiolaeth ar y pwyllgor sefydlog ac aelodau ar y grŵp gweithredol, felly roedd yn rhan fawr o’r broses ffioedd rhanbarthol.

·       byddai unrhyw oedi wrth osod y ffioedd yn creu ansicrwydd i’r sector gofal a’r Cyngor ac roedd cymeradwyo’r ffioedd cartrefi gofal, wrth dderbyn bod gwaith a thrafodaethau yn dal i fynd rhagddynt yn lleol ac ar draws y rhanbarth, yn creu’r sicrwydd a oedd ei angen ar gyfer gosod y gyllideb a rheolaeth ariannol dda, yn enwedig o ystyried bod y buddsoddiad ychwanegol arfaethedig mewn gofal cymdeithasol yn dod i fwy na £1 miliwn.

·       roedd pob Awdurdod Lleol yn mynd trwy broses gosod ffioedd ar hyn o bryd, ac ni ellid cymharu’n rhwydd; roedd cynnig ffioedd Sir Ddinbych wedi bod yn seiliedig ar resymeg a oedd yn ystyried amgylchiadau lleol.

·       roedd ymarfer ymgysylltu â darparwyr gofal a gynhaliwyd ym mis Hydref wedi helpu i lywio’r broses gosod ffioedd ac roedd ymgynghoriad dilynol ar y cynnig ffioedd ym mis Rhagfyr wedi cynnwys cyswllt â phob darparwr gofal a chynnig pellach o ran ymarfer llyfr agored. Roedd 9 darparwr wedi dod ymlaen o ganlyniad i’r ohebiaeth honno ac roedd trafodaethau gyda nhw’n mynd rhagddynt ac roedd adborth ar lafar wedi dod i law gan rai darparwyr a oedd yn hapus â’r cynnig ffioedd.  Roedd yn anodd dod i gasgliad o ran barn gyffredinol oherwydd nad oedd pob darparwr wedi rhoi ymateb.

·       roedd rhagor o fanylion wedi’u darparu eisoes am y risgiau a’r mesurau lliniaru.

·       ailadroddwyd bod proses barhaus o ymgysylltu â darparwyr gofal ac er bod ymgysylltiad â nhw bob blwyddyn o ran y broses gosod ffioedd, roedd deialog barhaus trwy gydol y flwyddyn, trwy fonitro contractau a lleoliadau dinasyddion unigol ac roedd y polisi drws agored a’r ymarfer llyfr agored yn cael eu cynnig trwy gydol y flwyddyn.  Rhoddwyd rhagor o fanylion am y Fforwm Darparwyr a oedd yn cynnwys materion fel datblygu’r gweithlu a hyfforddiant, deddfwriaeth a chanllawiau a themâu cyffredin eraill o ran materion ehangach rhedeg cartref gofal.

 

Roedd y Cabinet yn sylweddoli’r gwasanaeth gwerthfawr a phwysig a wneir gan ddarparwyr gofal ac roedd wedi cael sicrwydd o ran y lefel barhaus o ymgysylltiad a gwaith partneriaeth agos a wneir gyda’r darparwyr hynny trwy gydol y flwyddyn a oedd yn cynnig digonedd o gyfleoedd am ddeialog ac ymgysylltu ar amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â’r sector gofal a chefnogaeth ehangach, yn ogystal â’r broses gosod ffioedd.  Roedd y Cabinet wedi cael sicrwydd am y polisi drws agored ar gyfer darparwyr gofal hefyd er mwyn trafod eu ffioedd gofal ar unrhyw adeg a’r cynnig parhaus o ran ymarfer llyfr agored.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, diolchodd yr Arweinydd i bawb am eu cyfraniadau ac i’r Aelod Arweiniol a swyddogion am y gwaith caled a wnaed.  Roedd yn falch bod y Cyngor wedi cynnal y broses gosod ffioedd mewn ffordd agored a thryloyw, gyda thrafodaeth mewn fforwm cyhoeddus, yn seiliedig ar resymeg glir ac mewn modd amserol.

 

PENDERFYNWYD Bod y Cabinet yn cymeradwyo pennu llinell sylfaen ar gyfer ffioedd cartrefi gofal ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25 yn unol â Thabl 1 ym mharagraff 4.5 yr adroddiad hwn, sy’n cynrychioli cynnydd o 8.8%.

 

 

Dogfennau ategol: