Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a osodwyd ar gyfer 2023/24 a symud ymlaen yn erbyn y strategaeth a gytunwyd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad misol a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·       y gyllideb refeniw net ar gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23)

·       rhagwelwyd y byddai gorwariant o £2.780 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·       amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol

·       nodwyd arbedion gwasanaeth ac arbedion effeithlonrwydd ar gyfer cyllideb 2023/24 (£8.172 miliwn)

·       rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr Aelodau drwy’r adroddiad.  Roedd gostyngiad bach wedi bod yn y gorwariant a ragwelir ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol o £2.780 miliwn gyda symudiad o  £60,000 o’i gymharu â’r mis diwethaf.  Roedd y prif feysydd gorwariant yn parhau i fod mewn Addysg a Gwasanaethau Plant, Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd, gyda mân newidiadau o’r mis diwethaf.   Roedd y Cyfrif Refeniw Tai wedi nodi gostyngiad bychan yn eu tanwariant o £126,000 i £110,000 oherwydd gostyngiad mewn rhent gyda rhagolygon o falans diwedd blwyddyn o £812,000.  Bu newid bach o ran y defnydd a ragwelir o gronfeydd wrth gefn ysgolion, sef £7.026 miliwn o’i gymharu â £7.054 miliwn y mis diwethaf.  Roedd yr atodiadau arferol wedi’u cynnwys ar y Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Oherwydd bod cyfrifon y Cyngor yn cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ni fyddai’r adroddiad monitro cyllid rheolaidd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Ebrill; byddai’r adroddiad cyllid ar gyfer mis Ebrill yn canolbwyntio ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig a byddai’n cynnwys strategaeth lefel uchel ar gyfer gosod y gyllideb yn y dyfodol.  Byddai’r adroddiad sefyllfa ariannol derfynol ar gyfer 2023/24 yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Mai.

 

Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd –

 

·       Ailddatblygu Marchnad y Frenhines, y Rhyl – roedd y cyfleuster wedi’i drosglwyddo i’r Cyngor ym mis Chwefror.  Rhoddwyd sicrwydd nad oedd bwriad i geisio cyllid ychwanegol gan fod cyllideb ddigonol ar gael i gwblhau’r prosiect yn barod ar gyfer ei weithredu.  Oherwydd rhesymau sy’n ymwneud â sensitifrwydd masnachol, ni ellir rhoi rhagor o fanylion am benodi gweithredwr ac agor y cyfleuster ar hyn o bryd, ond byddai’r wybodaeth honno’n cael ei rhannu gydag Aelodau a’r cyhoedd ehangach cyn gynted ag sy’n bosibl.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Amgylchedd y byddai’n barod i drefnu taith o’r cyfleuster a gofynnodd i Aelodau roi gwybod iddo os oeddent am fynychu.  Cytunodd hefyd y byddai’n canfod y costau i’r Cyngor o gymryd cyfrifoldeb dros dro dros y cyfleuster a byddai’n adrodd yn ôl wrth y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts am hyn.

·       Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – cadarnhawyd y byddai’r gwariant hyd yma’n cael ei rannu rhwng Llywodraeth Cymru (LlC) a’r Cyngor (CSDd), ac ar gyfer ysgolion â gofynion dysgu ychwanegol, byddai hyn yn rhaniad o LlC 75% / CSDd 25%, ac ar gyfer ysgolion eraill, byddai hyn yn rhaniad o LlC 65% / CSDd 35%.

·       Tanwariant oherwydd rheoli swyddi gwag – roedd yr ymadrodd hwn wedi ymddangos sawl gwaith yn y Naratif Amrywiad Gwasanaeth (Atodiad 2 yr adroddiad) ac roedd yn adlewyrchu rheolyddion recriwtio sydd ar waith i ystyried pob swydd wag cyn iddi gael ei llenwi, gyda’r bwriad o leihau’r gorwariant mewn cyllidebau gwasanaeth.  Roedd y broses yn cael ei dilyn ar gyfer swyddi gwag ar draws y Cyngor, nid dim ond ar gyfer maes gwasanaeth penodol ac roedd yn darparu tystiolaeth fod rheolwyr ar draws y Cyngor yn sylweddoli pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa ariannol a’u bod yn gweithio i fynd i’r afael â hi.  Roedd yn debygol bod Awdurdodau Lleol eraill hefyd yn dilyn yr un dull o ran rheoli swyddi gwag.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni.

 

 

Dogfennau ategol: