Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADDYSG DDEWISOL YN Y CARTREF

I ystyried a thrafod adroddiad am bolisïau a gweithdrefnau’r Awdurdod mewn cysylltiad â chefnogi a monitro darparu Addysg Ddewisol yn y Cartref.

 

10.10am – 11am

 

~~~~ EGWYL (11am – 11.15am) ~~~~

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Gill German, adroddiad ar Addysg Ddewisol yn y Cartref (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor i dawelu meddwl yr Aelodau fod Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) yn bodloni’r gofynion statudol ar gyfer Addysg Ddewisol yn y Cartref o fewn y Sir.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys trosolwg o’r gweithdrefnau sydd ar waith a chyfrifoldebau diogelu’r Cyngor.

 

Arweiniodd y Pennaeth Addysg yr Aelodau drwy’r adroddiad (a dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Roedd addysgu gartref yn derm a ddefnyddiwyd pan fo rhieni yn dewis addysgu eu plant yn y cartref yn lle eu hanfon i’r ysgol. Roedd addysgu gartref yn adlewyrchu amrywiaeth o ddulliau ac roedd yn caniatáu ymagwedd unigol i blant sydd wedi'i deilwra i anghenion a diddordebau penodol pob plentyn.  Roedd nifer o rieni sy’n addysgu gartref yn teimlo eu bod yn gallu diwallu anghenion a steiliau dysgu eu plant yn fwy effeithiol nag mewn ystafell ddosbarth.

 

Nid oedd disgwyl i blant sy’n cael eu haddysgu gartref ddilyn y Cwricwlwm i Gymru nac unrhyw gwricwlwm penodol arall na bodloni meini prawf ar gyfer y nifer o oriau dysgu.  Gall y dull addysgu gartref amrywio ar gontinwwm o ddull addysgu ffurfiol, strwythuredig wedi’i seilio ar amserlen, drwodd i addysg awtonomaidd neu sy’n cael ei arwain gan blentyn.

 

Cyfrifoldeb y rhiant oedd darparu addysg addas, effeithlon, llawn amser, yn unol ag oedran, gallu a doniau’r plentyn.

 

Rôl yr Awdurdod Lleol oedd canfod plant neu bobl ifanc nad oeddent yn derbyn addysg addas, effeithlon, llawn amser.  Nid rôl yr awdurdod oedd darparu’r addysg, fodd bynnag, roedd cymorth gan yr ALl ar gael ac yn cael ei ddarparu pan ofynnir amdano. Gal yr awdurdod ymgymryd â’r rôl hon mewn sawl ffordd wahanol.  Y peth pwysicaf oedd ymgysylltu â’r teuluoedd mewn modd cadarnhaol a chefnogol a meithrin perthynas i sicrhau y gellir adnabod fod dysgu yn digwydd, ei fod yn addas ac yn gynaliadwy.

 

Cyn i ddysgwyr gael eu tynnu oddi ar gofrestr yr ysgol, dylid rhannu Canllawiau Statudol Llywodraeth Cymru gyda theuluoedd er mwyn iddynt wybod beth a ddisgwylir ganddynt er mwyn addysgu gartref.  Ar ôl i deuluoedd symud i Addysg Ddewisol yn y Cartref, byddai protocol Sir Ddinbych, a ddiweddarwyd ym mis Chwefror 2024 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw yn Atodiad 1), yn cael ei anfon at deuluoedd i’w cefnogi nhw i ddechrau arni.

 

Roedd ymweliad â’r cartref yn cael ei gynnig i bob teulu sy’n cynnig Addysg Ddewisol yn y Cartref i drafod y ddarpariaeth a ddarperir.  Roedd hyn yn ffordd effeithiol o gysylltu â phob teulu ac roedd yn gyfle gwych i gyfarfod â’r dysgwyr a chlywed eu safbwyntiau nhw.  Roedd hyn hefyd yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr egluro’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu yn eu geiriau eu hunain.  Nid oedd yn rhaid i deuluoedd dderbyn ymweliad â’r cartref ac roedd yn well gan rai teuluoedd anfon adroddiad addysgiadol neu adroddiad cefnogi gan drydydd parti i’r awdurdod addysg lleol (AALl).

 

Ar hyn o bryd, roedd gan Sir Ddinbych 158 o ddysgwyr ar y gofrestr Addysg Ddewisol yn y Cartref.  Bu cynnydd amlwg ers mis Awst 2016 pan mai 94 o ddysgwyr oedd ar gofrestr Addysg Ddewisol yn y Cartref yr ALl. Gall niferoedd y dysgwyr Addysg Ddewisol yn y Cartref amrywio yn ystod y flwyddyn ysgol.

 

Bob blwyddyn roedd yr ALl yn derbyn grant gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwaith dysgu teuluoedd sy’n Addysgu Gartref.  Ym mis Hydref 2023, dangosodd 76 o’r 141 o deuluoedd ar y gofrestr bryd hynny ddiddordeb a chawsant eu cefnogi’n ariannol.

 

Yn anffodus, yn unol ag Awdurdodau Lleol eraill, roedd gan Sir Ddinbych nifer fechan o deuluoedd sydd naill ai’n gwrthod neu sydd yn gyndyn o ymgysylltu.  Fel ALl, mae Sir Ddinbych yn mynd ati i ymgysylltu gyda’r teuluoedd hyn drwy broses strwythuredig o lythyrau penodol sy’n cael eu hanfon ar adegau penodol.  Rhwng y llythyrau yma, bydd yna alwadau ffôn, bydd e-byst yn cael eu hanfon a bydd ymweliadau heb eu trefnu’n digwydd er mwyn ceisio ymgysylltu a chefnogi’r teuluoedd.  Roedd y swyddog Addysg Ddewisol yn y Cartref yn gweithio’n agos gyda Thîm Gwaith Cymdeithasol Addysg yn yr achosion yma er mwyn ceisio sicrhau bod unrhyw bryderon am ddiogelu yn cael eu trin yn brydlon.

 

Bu i Dîm Addysg Ddewisol yn y Cartref Sir Ddinbych dderbyn gwobr Aur i gydnabod y gwaith a wnaed gyda phlant sy’n cael eu haddysg gartref.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am yr adroddiad a chroesawyd cwestiynau gan yr Aelodau.

 

Bu i’r Aelodau gwestiynu sut eir ati i fonitro’r addysg a ddarperir gartref.  Eglurodd y Pennaeth Addysg nad rôl yr awdurdod oedd monitro ansawdd yr addysg a ddarperir gan y teulu.  Rôl yr awdurdod oedd cefnogi teuluoedd Addysg Ddewisol yn y Cartref a nodi dysgwyr nad oeddent yn derbyn unrhyw addysg yn y cartref.  Roedd gwybodaeth yn egluro rôl Addysg Ddewisol yn y Cartref yn yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw), ac roedd hwn yn cael ei rannu gyda rhieni pan oedd teuluoedd yn ystyried Addysg Ddewisol yn y Cartref, yn egluro eu cyfrifoldebau.

 

Pwysleisiodd y Swyddogion nad oedd disgyblion â phroblemau iechyd oedd yn cael eu haddysgu gartref gan diwtoriaid a drefnwyd gan ysgol yr awdurdod addysg yn cael eu dosbarthu fel disgyblion Addysg Ddewisol yn y Cartref.

 

Bu i’r Aelodau gwestiynu’r broses a oedd ar waith pan oedd pob lefel o ohebiaeth wedi’i wrthod gan y teulu.  Dywedodd y Pennaeth Addysg bod gweithdrefn genedlaethol ar waith a oedd yn cael ei dilyn.  Roedd ymgysylltu â rhai teuluoedd Addysg Ddewisol yn y Cartref yn anodd, os oedd pob maes o ohebiaeth ac ymgais i gyfathrebu ac ymgysylltu â’r teuluoedd wedi’i geisio, yna byddai’n dod yn fater cyfreithiol gyda Gorchymyn Addysg yn cael ei roi ar waith.

 

Bu i’r Aelodau gydnabod y cynnydd sylweddol mewn dysgwyr Addysg Ddewisol yn y Cartref ers 2016 a chwestiynu a oedd y cyllid wedi cynyddu gyda’r niferoedd.  Dywedodd y Pennaeth Addysg fod cyllid yn her.  Roedd Addysg Ddewisol yn y Cartref yn derbyn cyllid grant ac yn ddiweddar bu newid i’r ffordd yr oedd grantiau’n cael eu derbyn.  Roedd pob grant yn mynd drwy’r Awdurdod Lleol, roedd 1 grant gyda 4 elfen yn ymwneud â sut ellir gwario’r arian.  Nid oedd y cyllid/grantiau wedi cynyddu gyda nifer y dysgwyr Addysg Ddewisol yn y Cartref.  Pwysleisiwyd nad oedd y cynnydd yn nifer y disgyblion Addysg Ddewisol yn y Cartref yn unigryw i Sir Ddinbych, roedd yn cael ei adlewyrchu ar draws y rhan fwyaf o’r ardaloedd ALl.   Roedd y nifer uchaf o ddisgyblion Addysg Ddewisol yn y Cartref yn y sector uwchradd, gyda gorbryder ac anawsterau gyda bywyd ysgol bob dydd yn rheswm i rai teuluoedd ddewis darparu Addysg Ddewisol yn y Cartref.   Mewn rhai achosion, bu i rai disgyblion ddychwelyd i addysg prif ffrwd yn dilyn cyfnod o gael eu haddysgu gartref, rhwng mis Medi 2023 a mis Chwefror 2024, fe wnaeth 22 o ddisgyblion  yn Sir Ddinbych ddychwelyd i gael eu haddysgu o fewn lleoliad ysgol. 

 

Mynegodd Aelodau bryderon o ran monitro/cynnal gwiriadau ar deuluoedd Addysg Ddewisol yn y Cartref a gofynnwyd a oedd trafodaethau’n cael eu cynnal gyda’r Awdurdod Addysg Lleol (AALl).  Eglurodd y Pennaeth Addysg bod sgwrs yn cael ei gynnal pan fo teuluoedd yn ystyried addysgu eu plant gartref, er mwyn sicrhau bod rhieni yn deall yr hyn a oedd ynghlwm a’r hyn a oedd i’w ddisgwyl ganddynt.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd dysgwyr Addysg Ddewisol yn y Cartref yn sefyll arholiadau er enghraifft TGAU, eglurodd yr Athro Ymgynghorol Addysg Ddewisol yn y Cartref nad oedd gofyn i deuluoedd Addysg Ddewisol yn y Cartref ddilyn y cwricwlwm ac felly nid oedd yn rhaid iddynt sefyll unrhyw arholiadau os nad oeddent yn dymuno gwneud hynny.  Fodd bynnag, yn ei rôl byddai’n annog disgyblion i sefyll arholiadau er mwyn hybu eu rhagolygon gyrfa.  Rhan o’i rôl oedd cyfeirio’r disgyblion a rhieni at yr adnoddau a oedd ar gael iddynt, e.e. heriau darllen yr haf mewn llyfrgelloedd ac ati a’u cefnogi i sefyll arholiadau os ydynt yn dymuno gwneud hynny.   Byddai disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 yn cael gwybodaeth gan Gyrfa Cymru i’w helpu nhw i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

Trafododd yr Aelodau yr effaith ar brofiadau cymdeithasol plentyn a oedd yn cael ei addysgu gartref a cheisio eglurder ynghylch unrhyw gymorth a oedd ar gael i fynd i’r afael ag ef.   Dywedodd y Pennaeth Addysg bod agweddau cymdeithasol plentyn sy’n cael ei addysgu yn y cartref yn rhywbeth i’r rhieni ei ystyried ac roedd yn rhan o’r trafodaethau o’r dechrau.  Roedd y Tîm Addysg Ddewisol yn y Cartref yn gweithio gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig i annog teuluoedd Addysg Ddewisol yn y Cartref i gymdeithasu gyda’i gilydd drwy ddefnyddio’r cyfleusterau.  Dim ond swm cyfyngedig o gyllid oedd yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru i deuluoedd Addysg Ddewisol yn y Cartref ddod ynghyd i ganiatáu profiadau cymdeithasol.   Roedd gwybodaeth yn cael ei rannu gyda theuluoedd disgyblion Addysg Ddewisol yn y Cartref ar grwpiau ac ati a oedd ar gael iddynt eu mynychu gyda’r bwriad o wella’r elfen rhyngweithio cymdeithasol o’u dysgu.

 

Cadarnhawyd nad oedd Estyn yn ymwneud o gwbl â disgyblion a oedd yn derbyn Addysg Ddewisol yn y Cartref.   Roedd cyfrifoldebau’r Rheolydd ond yn ymestyn i archwilio trefniadau’r awdurdod addysg lleol ar gyfer darparu cymorth i ddisgyblion a theuluoedd Addysg Ddewisol yn y Cartref fel rhan o’u harchwiliad o Wasanaeth Addysg yr ALl.   Nid oedd GwE yn ymwneud o gwbl â disgyblion Addysg Ddewisol yn y Cartref ychwaith. 

 

Pwysleisiodd y Pennaeth Addysg pe byddai gan yr awdurdod unrhyw bryderon diogelu yn ymwneud â phlentyn/disgybl, byddai’r Gweithdrefnau Diogelu yn dechrau fel mater o frys.

 

Mynegodd yr Aelodau eu pryderon o ran y diffyg rheoliadau cenedlaethol canfyddedig sy’n llywodraethu cyfrifoldebau unigolion a theuluoedd sy’n dewis addysgu eu plant gartref ac felly gofynnwyd bod yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Addysg yn cysylltu â Llywodraeth Cymru ar y mater.   Dywedodd y Pennaeth Addysg y byddai’n codi’r mater gydag Arolygydd Estyn cyswllt Sir Ddinbych yn ystod eu cyfarfod nesaf ddechrau haf 2024.

 

Bu i’r Cadeirydd ddiolch i’r Aelod Arweiniol a’r Swyddogion am yr adroddiad manwl ac am ateb cwestiynau Aelodau’r Pwyllgor.

 

 

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau a’r arsylwadau uchod –

 

(i)             cymeradwyo’r polisïau, gweithdrefnau a’r dull a gymerwyd gan Wasanaeth Addysg y Cyngor i gefnogi a monitro darpariaeth Addysg Ddewisol yn y Cartref;

(ii)           cydnabod ymdrechion staff y Gwasanaeth Addysg i sicrhau bod y Cyngor yn diwallu ei gyfrifoldebau statudol o ran disgyblion sy’n dewis cael eu haddysgu gartref, wrth sicrhau hefyd eu bod yn cael eu cefnogi a’u diogelu'n briodol.

(iii)         gofyn bod Adroddiad Gwybodaeth yn cael ei gylchredeg i aelodau’r Pwyllgor ymhen 12 mis yn manylu’r data a’r tueddiadau mewn perthynas â nifer y disgyblion yn y sir sy’n cael eu haddysgu gartref; ac

(iv)         argymell fod yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd, ar y cyd â swyddogion y Gwasanaeth Addysg, yn ysgrifennu at Weinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru yn gofyn i’r Llywodraeth gyflwyno rheoliadau sy’n llywodraethu cyfrifoldebau’r rhai sy’n dewis addysgu eu plant gartref.

 

Dogfennau ategol: