Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2024

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ddiwygiedig.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

                    

(a)      nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

(b)      chymeradwyo’r rhaglen waith ddiweddaraf ar gyfer 2024 fel yr amlinellir yn Atodiad A yr Adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a oedd wedi cael ei ddosbarthu ymlaen llaw) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â rhaglen waith ddiwygiedig ar gyfer 2024.

 

Roedd blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu yn adlewyrchu’r ddyletswydd a roddir ar yr Awdurdod mewn perthynas â’i gyfrifoldebau o ran ei swyddogaeth drwyddedu, a rheoleiddio, rheoli a gorfodi trwyddedai yn effeithiol, yn ogystal ag ymrwymiad yr Awdurdod i greu cymunedau mwy diogel a datblygu’r economi.  Roedd y rhaglen waith wedi'i drafftio gan ystyried polisïau perthnasol a dyddiadau adolygu, ynghyd ag unrhyw newidiadau deddfwriaethol posibl a gynigiwyd.  Cafodd nifer o eitemau ar y rhaglen waith eu haildrefnu a chafodd eitem arall ei hychwanegu, a chafodd rhaglen waith ddiwygiedig ei chyflwyno i’w hystyried.

 

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am yr eitemau hynny a gafodd eu haildrefnu / a gafodd eu hychwanegu a oedd yn ymwneud â –

 

·       Thariffau Cerbydau Hacni – cafodd ei aildrefnu o fis Mawrth i fis Mehefin er mwyn caniatáu mwy o amser i gael digon o ddata gan y fasnach dacsis i ffurfio cyfrifiannell cywir ac effeithiol gydag ymgysylltiad pellach wedi’i gynllunio

·       Adolygu Gofynion Trwyddedu Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn – eitem ychwanegol ar gyfer mis Mehefin i adolygu’r gofynion trwyddedu cyfredol ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn o ystyried y costau uwch sy’n gysylltiedig â’r cerbydau hynny

·       Adolygu Polisi Eithrio Platiau Cerbydau Hurio Preifat – cafodd ei aildrefnu i fis Rhagfyr i gyd-fynd ag Adolygu Polisi ac Amodau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat

·       Gweithdrefnau Arbennig (tyllu’r croen) – cafodd ei aildrefnu o fis Mawrth i fis Mehefin gan nad oedd unrhyw ddiweddariad pellach ar y ddeddfwriaeth newydd pan gafodd yr adroddiad ei ysgrifennu.   Ers hynny, mae sesiwn hyfforddiant ar y cynllun trwyddedu, i’w ddarparu gan Sarah Jones o Lywodraeth Cymru, wedi’i drefnu i’r holl aelodau ar 22 Mawrth 2024, yn dilyn cyhoeddi’r rheoliadau drafft.

 

Nododd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf a’r diwygiadau arfaethedig i’r rhaglen waith.

 

Cafwyd trafodaeth ar yr adolygiad o’r gyfrifiannell ffioedd a gosod tariffau cerbydau hacni a gafodd ei aildrefnu i fis Mehefin oherwydd data annigonol ac roedd y Pwyllgor yn siomedig gyda’r diffyg ymateb gan y fasnach dacsis.   Roedd Aelodau yn awyddus i ddeall y rhesymeg y tu ôl i’r diffyg ymgysylltiad, camau yn y dyfodol o fewn y broses honno a dewisiadau ar gyfer y ffordd ymlaen.   Mynegwyd pryderon na fyddai digon o ddata yn cael ei ddarparu gan y fasnach i ffurfio’r gyfrifiannell tariffau ac na fyddai’r Pwyllgor mewn sefyllfa i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth lawn ar y mater.   Awgrymwyd y posibilrwydd o ddefnyddio data mewnol a gynhelir gan y Tîm Trwyddedu a ffynonellau eraill a gyhoeddwyd yn allanol.   Bu i’r Cynghorydd Gwyneth Ellis hefyd gwestiynu’r rhesymeg y tu ôl i’r Cyngor yn gosod y tariffau a’r teilyngdod neu fel arall y fasnach dacsis yn gosod eu ffioedd a’u taliadau eu hunain a gofynnwyd am drafodaeth gyda’r swyddogion ar y mater y tu allan i’r cyfarfod.

 

Ymatebodd y swyddogion i sylwadau’r Aelodau a chwestiynau pellach fel a ganlyn –

 

·       ymhelaethu ar yr ymgysylltiad gyda’r fasnach dacsis hyd yn hyn gan gynnwys Gweithgor yn cynnwys 2/3 o weithredwyr mawr ac 1 perchennog/gyrrwr, ac anfon ffurflen casglu data syml dros e-bost at bob un o’r 300 o yrwyr trwyddedig gydag oddeutu 100 o’r rheiny yn berchnogion/gyrwyr a oedd wedi arwain at 2/3 ymateb

·       o ystyried y costau gwahanol sy’n gysylltiedig â’r gweithredwyr mawr a pherchnogion/gyrwyr, roedd yn bwysig bod digon o ddata yn cael ei sicrhau gan y ddwy ffynhonnell i roi syniad cywir o’r costau a methodoleg gadarn ar gyfer y gyfrifiannell ffioedd

·       roedd yr ymgysylltu pellach a oedd wedi’i drefnu yn cynnwys ymweliadau wyneb yn wyneb i safleoedd tacsis i annog mwy o ddeiliaid trwyddedau i gyflwyno data i hysbysu’r adolygiad

·       ni chafodd unrhyw ganran ymateb ofynnol i'r ymgysylltiad ei gosod cyn y gellir gwneud penderfyniad gwybodus ond byddai angen digon o ddata ystyrlon a chynrychioliadol er mwyn ffurfio cyfrifiannell ffioedd effeithiol

·       nid oedd unrhyw awdurdod arall yng Ngogledd Cymru yn defnyddio’r gyfrifiannell ffioedd i osod eu tariffau; roedd yn gyfrifiannell cenedlaethol a gall awdurdodau eraill gasglu data drwy gymdeithasau/gweithgorau tacsis neu gynrychiolwyr masnach eraill

·       cytunwyd efallai y byddai’n ddefnyddiol i ddarparu cymysgedd o ffynonellau data yn cynnwys gwybodaeth gan y fasnach dacsis a data a gyhoeddwyd, ond roedd yn bwysig sicrhau bod y data yn ystyrlon ac yn berthnasol i amgylchiadau lleol i sicrhau bod uchafswm tariff yn cael ei osod i gydbwyso diwydiant tacsis cynaliadwy a hyfyw ac effaith unrhyw gynnydd ar y cyhoedd sy’n teithio

·       ers ei sefydlu, roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi gosod y tariffau cerbydau hacni fel yr oedd hen Gyngor Bwrdeistref Rhuddlan a hen Gyngor Rhanbarth Glyndŵr yn ei wneud cyn hynny, a chytunwyd i gael trafodaeth bellach ar y mater y tu allan i’r cyfarfod

·       roedd y ddeddfwriaeth yn caniatáu i gynghorau osod uchafswm ffioedd cerbydau hacni, ond nid oedd hyn yn ofyniad.   Roedd dros 300 o awdurdodau lleol yn y DU a dim ond 2 neu 3 o’r rheiny oedd ddim yn gosod tariffau.    Roedd y gyfrifiannell tariffau yn gofyn am ddealltwriaeth o’r costau perthnasol ac yn darparu tryloywder yn y broses o osod ffioedd.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, trafodwyd ymhellach y posibilrwydd o p’un ai y dylai’r Cyngor roi’r gorau i osod tariffau cerbydau hacni o blaid y fasnach dacsis yn gosod eu tariffau eu hunain cyn penderfynu ar unrhyw newidiadau arfaethedig i’r ffioedd a’r taliadau.   Bu i’r swyddogion gadarnhau ei fod yn fater i’r Pwyllgor benderfynu arno ac awgrymwyd y gellir ystyried yr opsiwn fel rhan o’r adroddiad tariffau cerbydau hacni a ddisgwylir ym mis Mehefin gan ystyried unrhyw gyngor cyfreithiol.

 

PENDERFYNWYD

                    

(a)      nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

(b)      chymeradwyo’r rhaglen waith ddiweddaraf ar gyfer 2024 fel yr amlinellir yn Atodiad A yr Adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: