Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 573053

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau wneud penderfyniad ynglŷn â chais gan Ymgeisydd Rhif 573053 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 573053.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)             cais a dderbyniwyd am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 573053;

 

(ii)            penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)          bod yr Ymgeisydd wedi cael yr euogfarnau troseddol canlynol;  Ionawr 1999 – ymosodiad sy’n achosi gwir niwed corfforol; Awst 2012 – clwyfo/achosi niwed corfforol difrifol; Tachwedd 2014 ac Ionawr 2015 – curo, cafodd pob un ei ddatgan gan yr Ymgeisydd a’i nodi ar y Dystysgrif gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd;

 

(iv)          gwybodaeth bellach yn ymwneud â’r achos yn cynnwys cyfweliad gyda’r Ymgeisydd a’i esboniad ynghylch amgylchiadau’r euogfarnau a gwybodaeth gefndir, ynghyd â chyflwyniad ysgrifenedig am yr Ymgeisydd (proffil personol) a darparu nifer o eirdaon cymeriad; 

 

(v)           polisi’r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau ac addasrwydd yr ymgeiswyr; a

 

(vi)          gwahoddwyd yr Ymgeisydd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r cais ac i ateb cwestiynau’r Aelodau wedi hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi – Trwyddedu yr adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn awyddus i dawelu meddwl yr Aelodau gan ddweud fod ganddo gywilydd o’i orffennol a’i fod bellach yn berson hollol wahanol a oedd wedi trawsnewid ei fywyd yn llwyr.   Cyfeiriodd at yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud a’i euogfarnau a’r newidiadau cadarnhaol y mae wedi’i wneud i’w fywyd ers hynny.   Disgrifiodd ei hun fel unigolyn gofalgar y gellir ymddiried ynddo, sydd bob amser yn barod i helpu eraill, a chafodd y rhinweddau hynny eu cynnwys yn ei eirdaon cymeriad a’u harddangos yn ei brofiadau gwaith blaenorol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r Aelodau, bu i’r Ymgeisydd ymhelaethu ar ei gyflogaeth flaenorol, yn benodol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, ac eglurodd ei fynediad at wasanaethau iechyd meddwl a bod ganddo iechyd meddwl gwell ac agwedd gadarnhaol.   Bu i’r Swyddog Gorfodi gadarnhau bod yr euogfarnau wedi digwydd yn ystod cyfres benodol o amgylchiadau ac nad oedd unrhyw risg wedi bod i’r cyhoedd.

 

Wrth wneud datganiad terfynol, cyfeiriodd yr Ymgeisydd at yr amgylchiadau ar adeg yr euogfarnau a mynegodd edifeirwch, gan ailadrodd ei fod wedi cymryd rheolaeth dros ei fywyd a’i fod wedi newid fel person, yn ofalgar a chymwynasgar.   Roedd eisiau symud ymlaen ac roedd wedi cael dau gynnig cyflogaeth os yw’n cael ei drwydded tacsi.   I gloi, bu iddo ddiolch i’r aelodau am eu hamser a’u hystyriaeth o’r cais.

 

Gohiriwyd y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a –

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 573053.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus, fel yr oeddent i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniadau’r Ymgeisydd, ei eirdaon cymeriad a'i atebion i gwestiynau.  Roedd yr aelodau wedi trin natur agored a gonestrwydd yr Ymgeisydd yn y ffordd yr oedd wedi delio a’r Pwyllgor yn ddifrifol iawn.

 

Wrth ddod i benderfyniad, bu i’r Pwyllgor ystyried y troseddau a oedd wedi’u nodi yn nhystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yr Ymgeisydd, Datganiad o Bolisi’r Cyngor yn ymwneud ag addasrwydd ymgeiswyr a thrwyddedai yn y masnachau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, yr amser sydd wedi mynd heibio ers cyflawni’r troseddau a’r amser hyd nes y bydd yr euogfarnau wedi dod i ben at ddibenion y polisi hwnnw, a’r amgylchiadau fel y cafodd eu hegluro gan yr Ymgeisydd mewn perthynas â’r troseddau.

 

Roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded, a daeth i’r casgliad bod amgylchiadau eithriadol a rhesymau cyfiawn dros wyro oddi wrth y polisi yn yr achos hwn a chymeradwywyd y cais.

 

Cafodd penderfyniad a rhesymau’r Pwyllgor felly eu cyfleu i’r Ymgeisydd.  Atgoffwyd yr Ymgeisydd bod cymeradwyo’r cais yn dal yn amodol ar yr holl wiriadau rheolaidd eraill a gynhaliwyd mewn cysylltiad â bod yn fodlon â’r cais.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.55am.

 

 

Dogfennau ategol: