Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

POLISI’R CYNGOR AR HYFFORDDIANT AELODAU

Ystyried adroddiad am Bolisi’r Cyngor ar Hyfforddiant Aelodau (copi ynghlwm gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, Steve Price.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol yr adroddiad i Aelodau. Croesawyd yr adroddiad, a dylai hyfforddiant i Aelodau gael ei ystyried yn nodwedd gadarnhaol o fod yn Gynghorydd.

 

Fe arweiniodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr aelodau drwy'r adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Dechreuodd rhaglen o ymsefydlu, hyfforddiant a datblygu i aelodau yn syth ar ôl etholiadau’r Cyngor ym mis Mai 2022. Mae’r sesiynau a gyflwynwyd fel rhan o’r ymsefydlu cychwynnol i aelodau newydd a’r rhai oedd yn dychwelyd, yn cynnwys hyfforddiant ar God Ymddygiad y Cyngor, darpariaeth TGCh aelodau, ymgyfarwyddo â gwasanaethau, cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu a chyflwyniad i Graffu.

 

Hyfforddiant Gorfodol a Dewisol

 

Gallai’r Cyngor benderfynu dewis hyfforddiant penodol i fod yn orfodol i’r holl aelodau, neu i aelodau sy’n gwneud swyddogaethau penodol.  Roedd mynychu o leiaf un sesiwn hyfforddiant ar God Ymddygiad Aelodau yn ystod bob tymor llawn yn hanfodol, gan fod y gofyniad wedi ei gynnwys yn y Cod Ymddygiad Aelodau. Mae’r Cyngor wedi parhau i gynnal hyfforddiant gorfodol i aelodau’r Pwyllgor Cynllunio, oherwydd y rôl lled farnwrol.  Cafodd hyfforddiant gorfodol a benderfynwyd gan y Cyngor blaenorol ei amlinellu i aelodau. 

 

Ym mis Mehefin 2023, fe argymhellodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd osod gofynion hyfforddiant gorfodol rhesymol ar gyfer testunau a swyddi priodol.  Credai’r pwyllgor fod defnyddio ‘unwaith y tymor’ fel amserlen ar gyfer cwblhau hyfforddiant gorfodol yn anaddas. Roedd y pwyllgor yn cefnogi rôl i grwpiau gwleidyddol ac arweinwyr grwpiau i annog cydymffurfiaeth ag unrhyw ofynion hyfforddi gorfodol ac yn cefnogi defnyddio cosbau priodol am fethu â chydymffurfio.

 

Ym mis Gorffennaf 2023 fe ystyriodd y Cyngor llawn faterion hyfforddiant Aelodau, serch hynny nid oedd yn gallu cytuno ar Bolisi Cyngor ar hyfforddiant gorfodol a chyfeiriodd hyfforddiant aelodau i gael ei ystyried gan arweinwyr grwpiau a ofynnodd yn y diwedd bod arolwg yn cael ei gyhoeddi i ganfod barn yr aelodau. 

 

Cafodd canlyniadau’r arolwg, a agorwyd ym mis Chwefror 2024 hyd at 8 Mawrth, ac oedd ar agor i Gynghorwyr, Uwch Swyddogion ac Aelodau Lleyg eu hamlinellu i Aelodau (Atodiad 1 a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr Gwasanaethau Democrataidd am yr adroddiad.

 

Fe awgrymodd y Cadeirydd y dylai canlyniadau’r arolwg gael eu defnyddio i lywio penderfyniad y Pwyllgor.  Cytunwyd y byddai pleidlais yn cael ei chynnal ar gyfer pob testun o hyfforddiant. 

 

Dyma oedd canlyniadau pleidleisiau’r Pwyllgor -

·       Cadeirio Cyfarfodydd - Gorfodol i Aelodau penodol

·       Newid Hinsawdd/Argyfwng Ecolegol - Gorfodol i bawb

·       Cod Ymddygiad - Gorfodol i bawb

·       Llywodraethu Corfforaethol - Gorfodol i Aelodau penodol

·       Rhianta Corfforaethol - Gorfodol i bawb

·       Diogelu Data - Gorfodol i bawb

·       Cydraddoldeb/Amrywiaeth - Gorfodol i bawb

·       Sipsiwn a Theithwyr - Gorfodol i bawb

·       Iechyd a Diogelwch - Gorfodol i bawb

·       Cyllid a Gosod Cyllideb Llywodraeth Leol - Gorfodol i bawb

·       Trwyddedu - Gorfodol i Aelodau penodol

·       Iechyd Meddwl a Lles - Gorfodol i bawb

·       Data perfformiad - Ddim yn orfodol

·       Pwyllgor Cynllunio - Gorfodol i Aelodau penodol

·       Sgiliau holi - Ddim yn orfodol

·       Diogelu - Gorfodol

·       Ysgolion ac Addysg - Ddim yn orfodol

·       Craffu - Gorfodol i bawb

·       Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol - Gorfodol i bawb

·       Safonau’r Gymraeg - Ddim yn orfodol

Trafododd yr Aelodau bwysigrwydd hyfforddiant Safonau’r Gymraeg ac fe eglurodd y Swyddog Monitro fod yr hyfforddiant yma’n ymwneud â chynnwys y Gymraeg yng ngwaith y Cyngor bob dydd, er enghraifft gohebiaeth yn Gymraeg y mae angen i’r Cyngor gadw at hynny’n gyfreithiol, ac nid y Gymraeg a Diwylliant Cymru’n ehangach.

Yna fe soniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd am elfen sancsiynau’r adroddiad.  Roedd angen i Aelodau gytuno ar y sancsiynau yr oeddynt yn dymuno eu cyflwyno i’r Cyngor.

 

Trafododd yr Aelodau yr angen am sancsiynau i gael eu gorfodi’n gadarnhaol ac fe wnaethant drafod y sancsiynau arfaethedig o fewn yr adroddiad.

 

Roedd Aelodau’n teimlo y byddai’n amhriodol cyhoeddi cofnodion hyfforddiant Aelodau unigol ar wefan gyhoeddus Cyngor Sir Ddinbych ac roeddynt yn teimlo bod arweinwyr grŵp yn derbyn y wybodaeth hon i drafod gyda’u Haelodau yn sancsiwn mwy addas. 

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl - 

 

PENDERFYNWYD: bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer gofynion gorfodol pob testun fel yr amlinellir yn y pwyntiau bwled uchod ac ar gyfer darparu cofnodion hyfforddiant i arweinwyr grŵp er mwyn i’r grwpiau annog a gorfodi cydymffurfiaeth gyda pholisi’r Cyngor ar hyfforddiant aelodau.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: