Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

FFRAMWAITH AILWAMPIO TAI GWAG Y CYNGOR

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi’n amgaeedig) sy’n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ail-dendro Fframwaith Tai Gwag y Cyngor.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet –

 

(a)      yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau, a

 

(b)      yn cymeradwyo ail-dendro Fframwaith Ailwampio Tai Gwag y Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ail-dendro Fframwaith Ailwampio Tai Gwag y Cyngor.

 

Roedd y Gwasanaeth Tai yn rheoli oddeutu 3,480 o eiddo tenantiaeth gydag oddeutu 250 o eiddo yn dod yn wag bob blwyddyn (yn wag tra bod tenantiaid newydd yn cael eu dyrannu).  Roedd yr eiddo hynny yn cael eu hailwampio i’r safon gosod newydd gan arwain at wariant o dros £4miliwn y flwyddyn.   Cafodd y fframwaith presennol ei awdurdodi gan y Cabinet yn 2018 i leihau costau ac amser o ran gwneud gwaith ar dai gwag wrth gynnal safonau ansawdd.   Dyluniwyd ail iteriad y fframwaith i barhau â’r gwelliannau hynny.   Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion a manyleb y fframwaith gan gynnwys pwysoliad ansawdd/pris o 60/40 gyda gwerth disgwyliedig o £16miliwn dros bedair blynedd a’r tendr wedi’i rannu yn 4 lot.

 

Roedd Pennaeth y Gwasanaeth Tai a Chymunedau a’r Swyddog Arweiniol Eiddo Tai yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.  Dywedwyd wrth y Cabinet bod eiddo gwag yn rhoi cyfle delfrydol i wneud gwaith adnewyddu.   Fodd bynnag, gallai’r trosiant gymharol fach mewn tenantiaid, gyda rhai wedi byw mewn eiddo ers degawdau cyn iddynt ddod yn wag, arwain at fod angen gwneud gwaith adnewyddu mawr.   Hefyd, roedd angen i’r gwaith gael ei wneud mor gyflym â phosibl o ystyried yr incwm rhenti a fyddai’n cael ei golli tra bod yr eiddo yn wag, a’r angen i weithio yn unol â’r Safon Ansawdd Tai Cymru newydd wrth symud ymlaen.   Roedd y fframwaith yn rhoi cyfle gwych i ddarparu gwaith cyson i gontractwyr lleol ac ehangu eu profiad/galluoedd i fodloni anghenion tai modern.

 

Roedd y Cabinet yn falch o nodi bod cael contractwyr lleol enwebedig i weithio gyda Sir Ddinbych dros oes y fframwaith wedi arwain at ddarpariaeth gwasanaeth gwell yn nhermau ansawdd a gwerth, ac roedd defnyddio contractwyr lleol yn golygu bod arian yn aros yn Sir Ddinbych.   Nodwyd hefyd bod y fframwaith yn helpu i sicrhau amseroedd cwblhau cynt ar gyfer gwaith adfer a thendro gwaith newydd ar dai gwag.   Croesawyd y buddion cymunedol a restrir yn yr adroddiad a’r Asesiad o’r Effaith ar Les hefyd gyda chyfleoedd ar gyfer hyfforddi, prentisiaethau a chreu swyddi.

 

Atebodd y swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Cabinet ac aelodau eraill fel a ganlyn –

 

·       roedd y Cyngor yn awyddus i wneud y mwyaf o fuddion cymunedol lle bynnag bo’n bosibl ac roedd cynlluniau ar waith i wneud gwasanaethau tai yn fwy rhagweithiol o ran mesur buddion cymunedol a sut oedden nhw’n effeithio ar denantiaid yn benodol; roedd gwaith hefyd yn mynd rhagddo gyda chontractwyr trwy Sir Ddinbych yn Gweithio i’w cefnogi nhw i gynnig prentisiaethau a lleoliadau’r cynllun Dechrau Gweithio ac ati, ynghyd â gwaith corfforol i neuaddau/mannau cymunedol gyda’r gwaith sydd wedi’i gwblhau yng Nghanolfan Phoenix yn Rhydwen Drive yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft

·       roedd y Tîm Gwytnwch Cymunedol wedi gweithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau’r trydydd sector i’w helpu nhw i gael cyllid i gyflawni eu huchelgeisiau mewn meysydd lle’r oedd yna’r potensial i gael cyllid ar gyfer buddion cymunedol

·       cwblhawyd Asesiad o’r Effaith ar Les fel grŵp yn cynnwys y Swyddog Arweiniol Eiddo Tai, Prif Swyddog Buddsoddiadau Tai a’r Swyddog Arweiniol – Eiddo Corfforaethol a’r Stoc Dai.   Er nad oedd Cymdeithas Tenantiaid Sir Ddinbych wedi bod yn rhan uniongyrchol o ddatblygu’r Asesiad o’r Effaith ar Les, roeddent wedi bod yn rhan yn nhermau datblygu’r fframwaith newydd

·       rhoddwyd sicrwydd bod cyflymder cwblhau gwaith ar dai gwag yn cael ei fonitro’n agos a’i herio yn rheolaidd; roedd oed a chyflwr yr eiddo, hyd y denantiaeth flaenorol, a gofynion Safon Ansawdd Tai Cymru i gyd yn ffactorau wrth ystyried y gwaith sy’n ofynnol ac yn effeithio ar amseroedd cwblhau; darparwyd dadansoddiad o’r math o waith a wnaed a’r Safon Ansawdd Tai Cymru newydd yn ymwneud â lloriau a gwres fforddiadwy; er bod y gost gyfartalog yn £13,000 – 15,000 yr eiddo, gellir yn hawdd wynebu costau o £60,000 ar gyfer un eiddo

·       yn nhermau effeithlonrwydd ynni a gwelliannau, gellir cynnwys bwrdd plastr wedi’i inswleiddio ac insiwleiddiad atig mewn gwaith ar dai gwag a rhoddwyd ystyriaeth i’r Dystysgrif Perfformiad Ynni mewn eiddo oherwydd y targed bod angen i’r holl dai fod yn raddfa ‘C’ ar y Dystysgrif Perfformiad Ynni erbyn 2030; byddai inswleiddio’r waliau allanol fel arfer yn cael ei wneud fel rhan o gynllun mwy ar draws ystâd dai.

 

Bu i’r Cynghorydd Rhys Thomas ddiolch i’r swyddogion am eu gwaith.   Bu iddo dynnu sylw at y ffaith fod y Cyfrif Refeniw Tai, a oedd yn ariannu’r gwaith ar dai gwag, hefyd wedi cael ei effeithio arno gan y sefyllfa economaidd ac ariannol bresennol a oedd yn wynebu awdurdodau lleol oherwydd camreolaeth Llywodraeth y DU, gyda chynnydd mewn chwyddiant a chost deunyddiau adeiladu.   O ganlyniad, byddai’n mynd yn fwy a mwy anodd i ddarparu’r holl welliannau sydd eu hangen o ystyried y cyllid sydd ar gael i fuddsoddi mewn gwaith ar dai.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet –

 

(a)      yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau, a

 

(b)      yn cymeradwyo ail-dendro Fframwaith Ailwampio Tai Gwag y Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: