Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

HYRWYDDO PRESENOLDEB YSGOL AC YMGYSYLLTIAD MEWN ADDYSG

Ystyried adroddiad gan Arweinydd Tîm Gwaith Cymdeithasol Addysg (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r sefyllfa bresennol i aelodau o ran presenoldeb ysgol ac ymgysylltiad mewn addysg.  Mae’r adroddiad hefyd yn ceisio barn y Pwyllgor ar y dull a ddefnyddir gan yr awdurdod addysg lleol i gynyddu ymgysylltiad disgyblion mewn addysg.

10.10 am – 11.00 am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Gill German adroddiad ar Hyrwyddo Presenoldeb yn yr Ysgol ac Ymgysylltiad Mewn Addysg (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Eglurodd nad oedd lefelau presenoldeb yn yr ysgol wedi cyrraedd y lefelau cyn y pandemig, felly roedd angen mwy o waith i wella ymgysylltiad a lefelau presenoldeb.

 

Rhoddwyd gwybodaeth ac eglurwyd y mesurau i gefnogi disgyblion diamddiffyn i ail-ymgysylltu gyda’u haddysg a dyfnhau dealltwriaeth o’r cyd-destun rhanbarthol a chenedlaethol wrth ymdrin â’r lefel gyfredol o bryder yn genedlaethol. 

 

Roedd cyfraddau presenoldeb dros y tair blynedd ddiwethaf wedi gostwng ar hyd a lled Cymru a’r cyfartaledd cyffredinol ar draws awdurdodau oedd 88.9% Cynradd/Uwchradd wedi’u cyfuno. Roedd dadansoddiad manylach o’r patrwm presennol yn Atodiad 3 ac roedd y ffigurau hyn yn dangos bod ffigurau presenoldeb cyfartalog Sir Ddinbych yn 90.1% yn ystod tymor yr hydref 2023 o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 91.3%.

 

Roedd Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau yn ddiweddar i ddod â Chymru yn unol â Lloegr ble mae absenoldeb cyson yn cael ei ddiffinio fel colli 10% o sesiynau hanner diwrnod (30 sesiwn) yn hytrach na’r gyfradd absenoldeb gyfredol o 20% o absenoldeb cyson sy’n gyfwerth â 60 sesiwn hanner diwrnod y flwyddyn. 

 

Roedd Sir Ddinbych wedi cael cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Addysg Awdurdod Lleol i ymdrin ag addysg ac ysgolion a’u cefnogi.

 

Roedd gwaith wedi bod yn cael ei wneud gydag ysgolion ar yr agwedd allweddol o deuluoedd oedd mewn trafferthion â thai gwael, byw mewn tlodi neu’n ei chael yn anodd gyda’r argyfwng costau byw, gan y byddai hyn yn cael effaith ar y plant.   Byddai ymgysylltu ag ysgolion a theuluoedd yn hollbwysig i wella presenoldeb.   Roedd swyddogion yn ymweld â theuluoedd mewn ymgais i ddeall pam nad oedd disgyblion yn mynd i’r ysgol ac yn ymgysylltu â’u haddysg, roedd cefnogaeth yn cael ei chynnig er mwyn annog ail-ymgysylltu a gwella lefelau presenoldeb.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd a’r swyddogion:

 

·         Roedd ymyriadau’n hanfodol, ond y prif anawsterau oedd nad oedd lefelau staff yn cynyddu i ymdopi â chynnydd mewn galw a phwysau. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ychwanegol ond roedd wedi bod yn anodd penodi.  

·         Roedd ymyriadau’n amrywio o un ysgol i’r llall hefyd gan fod presenoldeb da mewn rhai ysgolion, oedd cystal os nad gwell na’r lefelau cyn y pandemig, ond roedd ar eraill angen cefnogaeth ac adnoddau ychwanegol i wireddu gwelliannau.   

·         Roedd gwaith ar y gweill gyda theuluoedd plant ag anghenion dysgu ychwanegol, rhai sy’n cael prydau ysgol am ddim, ffoaduriaid, teuluoedd Sipsi, Roma a theithwyr, plant sy'n derbyn gofal ac ati gan eu bod yn ddisgyblion â nodweddion diamddiffyn.

·         O ran y rhai sy’n cael prydau ysgol am ddim, yn aml roedd gan y plant a theuluoedd hyn anghenion tai ac roedd yn bwysig bod y plant yn dod i’r ysgol i fod mewn amgylchedd diogel ac i gael un pryd poeth y dydd o leiaf. 

·         Roedd gan lawer o blant anghenion lles ac iechyd meddwl, ond nid oedd hyn yn esgus iddynt beidio â dod i’r ysgol. Roedd rhai plant hefyd yn gofalu am aelodau’r teulu, felly roedd yn bwysig bod eu hanghenion yn cael eu bodloni i’w galluogi i fynd i’r ysgol i wella eu canlyniadau i’r dyfodol. Mae pob plentyn ar ei ennill o fynd i’r ysgol. Roedd dull Un Cyngor ar waith er mwyn annog presenoldeb, ymgysylltiad a lles disgyblion. Roedd hyn yn cael ei ymestyn i sefydliadau allanol hefyd, hynny ydi ymarferwyr iechyd sy’n rhan o fywydau plant a’u teuluoedd/gofalwyr.

·         Roedd strategaeth gyfathrebu wedi ei llunio yn dilyn adroddiad Estyn a thrafodaethau mewn cynadleddau Penaethiaid. Roedd y strategaeth hon yn bwydo negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ac ati ar ba mor bwysig oedd hi i ddisgyblion fynd i’r ysgol yn rheolaidd, peidio cyrraedd yr ysgol yn hwyr a bod teuluoedd ddim yn mynd ar wyliau yn ystod y tymor ysgol. Nid bwriad y negeseuon hyn oedd gelyniaethu rhieni a theuluoedd, eu pwyslais oedd bod yr Awdurdod yn malio am bob plentyn, eu lles, eu dyheadau a’u dyfodol.  Roedd y strategaeth gyfathrebu yn cael ei gwerthuso a’i hadolygu bob mis i sicrhau bod y dull yr oedd yn ei dargedu yn berthnasol i’r tueddiadau diweddaraf. 

·         Roedd gweithlu addysg y sir yn greadigol iawn wrth feddwl am ffyrdd o ddileu rhwystrau fel bod disgyblion yn ymgysylltu â’u dysgu a bod ganddynt ddiddordeb ynddo.

·         Roedd y cyllid ychwanegol gan LlC wedi galluogi’r Tîm Gwaith Cymdeithasol Addysg i ehangu o 4 i 7 aelod o staff. Er hynny, roedd y galw am gefnogaeth yn dal yn fwy na’r hyn y gallai’r tîm ei ddarparu ar hyn o bryd.

·         Roedd dull ‘ysgol gyfan at les emosiynol a meddyliol’ wedi cael ei roi ar waith yn holl ysgolion y sir. Roedd y dull hwn wedi cael ei amlinellu mewn adroddiad i’r Pwyllgor ym mis Medi 2023.

·         Rhoddwyd Rhybuddion Cosb Benodedig i rieni neu ofalwyr plant nad oedd yn mynd i’r ysgol gan eu bod yn torri’r gyfraith. Yn anffodus, nid oedd y Rhybuddion Cosb Benodedig yn effeithiol bob amser ond dyma’r drefn oedd ar waith gan mai dyma’r canllawiau presennol i’w dilyn. Dim ond os nad oes unrhyw ddewis arall oedd y Rhybuddion yn cael eu rhoi, pan oedd pob ffordd arall o gyfathrebu, ymgysylltu ac annog rhieni neu ofalwyr wedi methu. 

·         Roedd yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn yr wythnos flaenorol ar ‘Wella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd’ yn cynnwys nifer o argymhellion i ysgolion, awdurdodau addysg lleol a hefyd i Lywodraeth Cymru. Roedd Sir Ddinbych a’i hysgolion eisoes yn defnyddio mwyafrif y dulliau a restrwyd yn yr argymhellion, ond byddai’n datblygu rhai ohonynt ymhellach eto yn y dyfodol. 

·         Ni fyddai’r cyllid ychwanegol trwy’r Grant Addysg Awdurdod Lleol yn gallu cael ei ddefnyddio ar gludiant i’r ysgol i fyfyrwyr. Roedd telerau ac amodau’r cyllid hwn yn nodi mai dim ond at ddibenion lles a chefnogaeth addysgol oedd i gael ei ddefnyddio.

·         Roedd LlC wrthi’n adolygu ei bolisi cludiant i’r ysgol ar hyn o bryd, o ran y pellter cymwys o gartref i ysgol agosaf fwyaf addas disgyblion. Rydym yn dal i aros am ganlyniad yr adolygiad hwn.

·         Byddai’r newidiadau arfaethedig i’r trothwy ‘absenoldebau parhaus’ yn rhoi mwy o bwysau ar staff ysgolion, staff addysg a gwasanaethau lles addysg.   Byddai disgwyl i Lywodraeth Cymru drafod gweithredu’r newidiadau hyn a’r effaith a ragwelir ar awdurdodau addysg lleol a staff â deiliaid portffolio addysg a swyddogion addysg yng Nghymru. Roedd Sir Ddinbych yn dibynnu llawer iawn ar gyllid grant LlC i dalu am wasanaethau lles addysg.

·         Roedd yn well gan yr Awdurdod fod yn rhagweithiol a defnyddio dull o atal yn hytrach nag ymyrryd o reoli presenoldeb yn yr ysgol. Roedd pob ysgol yn dilyn system godio genedlaethol, oedd yn darparu data am y rhesymau dros yr absenoldeb e.e. ‘M’ (apwyntiad meddygol) ‘S’ (neu ‘I’ yn Saesneg am salwch - hunan-ardystiad gan riant/gofalwr). Os oedd cod ‘N’ (dim rheswm wedi’i roi), byddai’r ysgol yn cael ei holi, gan y dylai fod yna reswm am bob absenoldeb. Roedd ysgolion yn cael eu monitro bob dydd/wythnos/mis/tymor drwy’r System Rheoli Gwybodaeth Ysgol.  

 

Holodd Aelodau a fyddai’n bosibl llunio ffeithlun fyddai’n dangos yn syml faint a goblygiadau diffyg presenoldeb disgyblion yn ysgolion y sir, fel y gallant ei rannu’n hawdd â phreswylwyr i dynnu sylw at unrhyw broblemau a chael eu cefnogaeth i annog disgyblion i ymgysylltu â’u haddysg. Wrth ymateb i gwestiwn gan aelod o’r Pwyllgor am beth allai aelodau etholedig ei wneud yn eu rôl fel Rhieni Corfforaethol i gefnogi swyddogion ac annog disgyblion i fynd i’r ysgol ac ymgysylltu â’u haddysg, dywedodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y byddent yn ddiolchgar pe gallai’r aelodau atgyfnerthu a rhannu’r negeseuon sy’n cael eu hanfon gan y Gwasanaeth Addysg a Thîm Cyfathrebu’r Cyngor yn pwysleisio pwysigrwydd mynd i’r ysgol â theuluoedd yn eu hardal ac ar gyrff llywodraethu’r ysgolion yr oeddent yn aelodau ohonynt. Wrth rannu’r negeseuon hyn, gofynnwyd i aelodau bwysleisio bod y Cyngor yn annog presenoldeb yn yr ysgol ac ymgysylltu nid oherwydd eu bod yn beio teuluoedd am beidio â sicrhau bod eu plant yn mynd i’r ysgol, ond oherwydd eu bod yn malio am ddisgyblion a’u teuluoedd.

 

Ar y pwynt hwn, diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a’r holl swyddogion am fynychu ac am eu holl waith.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth drylwyr:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau uchod –

 

(i)   derbyn yr adroddiad ynghyd â’r wybodaeth a rannwyd yn ystod y cyfarfod a chydnabod yr ymdrechion a wnaed hyd yma i hyrwyddo presenoldeb yn yr ysgol ac ymgysylltiad disgyblion yn eu haddysg; a

(ii) gofyn am i adroddiad arall gael ei gyflwyno i’r aelodau ym mis Medi 2024 yn trafod y cynnydd a wnaed i wella cyfraddau presenoldeb ac ymgysylltiad ag addysg yn holl ysgolion y sir yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24 yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ategol: