Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

SAFONAU A PHERFFORMIAD Y GWASANAETH LLYFRGELLOEDD

Ystyried adroddiad gan y Prif Lyfrgellydd (copi ynghlwm) sy’n amlygu perfformiad y Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn erbyn Safonau Cenedlaethol a cheisio sylwadau’r Pwyllgor mewn perthynas â chynnwys yr adroddiad.

11.15 am – 12.00 pm

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, y Cynghorydd Emrys Wynne, adroddiad Safonau a Pherfformiad y Gwasanaeth Llyfrgelloedd (dosbarthwyd ymlaen llaw).  Fel rhan o’i gyflwyniad, pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol fod y gwasanaeth wedi perfformio’n dda yn ystod 2022-23 ond cydnabu fod ganddo bryderon am allu’r Gwasanaeth i gynnal y perfformiad uchel hwn yn y tymor canolig oherwydd y sefyllfa ariannol yn y dyfodol. 

 

Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth ynghylch perfformiad y Cyngor yn erbyn 6ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017-20 (wedi’i ymestyn i 21-23) a’r cynnydd a wnaed i ddatblygu llyfrgelloedd fel mannau lles a chadernid unigol a chymunedol.

 

Roedd yr adroddiad yn ymwneud â Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Ddinbych ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23, oedd yn dal o fewn y cyfnod Covid. Ni ddisgwylir y bydd effaith y newidiadau arfaethedig ar berfformiad y gwasanaeth Llyfrgelloedd/Siop Un Alwad yn glir tan fis Ebrill 2024 ar y cynharaf.

 

Disgwylir y bydd Safonau Cenedlaethol Newydd yn cael eu sefydlu gyda chyhoeddiad 7fed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, sydd â dyddiad gweithredu arfaethedig o 1 Ebrill 2025.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Tai a Chymunedau, Liz Grieve y Prif Lyfrgellydd newydd, Deborah Owen i’r Pwyllgor. 

 

Cyn y trafodaethau, eglurodd y Pennaeth Tai a Chymunedau nad oedd yr adroddiad yn cyfeirio at y toriadau i oriau’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn Sir Ddinbych. Yna aeth ymlaen i amlinellu’r broses a ddilynwyd i gynnal yr asesiad, gan bwysleisio bod y Cyngor yn perfformio’n dda dan y safonau presennol. Roedd perfformiad wedi gwella’n fawr wedi i’r cyfyngiadau Covid ddod i ben, er nad oedd y cyhoedd yn defnyddio cymaint ar gyfrifiaduron yn y llyfrgelloedd ers y pandemig.   Roedd darpariaeth gwasanaeth eraill wedi cael eu haddasu i ymateb i anghenion y cyhoedd wedi’r pandemig.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:

  • Nad oedd Adran Ddiwylliant Llywodraeth Cymru yn cymharu gwasanaeth llyfrgelloedd awdurdodau lleol unigol yn erbyn ei gilydd.
  • Roedd y gwasanaeth yn cynnig ehangu ymgysylltiad digidol yn y gwasanaeth llyfrgelloedd, o bosibl drwy ddefnyddio gwirfoddolwyr i helpu i wella sgiliau digidol preswylwyr a chefnogi sefydliadau i gael cyllid i helpu i gefnogi rhai nad ydynt yn deall TG i gael a gwella eu sgiliau TG mewn amgylchedd ‘cyfeillgar/cefnogol’.   
  • Nid oedd y gwasanaeth yn defnyddio llawer ar wirfoddolwyr ar hyn o bryd.
  • Yn y dyfodol, byddai’r gwasanaeth yn archwilio cyfleoedd i greu mwy o incwm gan sefydliadau allanol er mwyn cynnal a gwella gwasanaethau er gwaetha’r toriadau i gyllidebau. Byddai hefyd yn gofyn am wybodaeth gan Wasanaethau Llyfrgell eraill ar ba gamau oeddent wedi eu cymryd i geisio cynnal gwasanaethau er gwaetha’r toriadau i gyllidebau.
  • Er nad oedd Gwasanaeth Llyfrgell Ysgolion bellach, roedd staff y llyfrgelloedd yn gweithio’n agos gydag ysgolion y sir ac roeddent wedi ymgysylltu â disgyblion blwyddyn 7 ac 8 yn ddiweddar er mwyn eu hannog i ymweld â’u llyfrgell leol a’i defnyddio fel cyfleuster ymchwil. Roedd disgyblion yn ystyried eu llyfrgelloedd ysgol fel mannau diogel ac roedd yn galonogol gweld cymaint o ddisgyblion yn gwirfoddoli i helpu ynddynt.
  • Fel rhan o’i waith cynllunio i’r dyfodol, bydd y gwasanaeth yn cynnal arolwg yn gofyn am farn y cyhoedd a’u syniadau am y math o wasanaethau yr hoffent weld eu llyfrgelloedd lleol yn eu darparu.
  • Nid oedd gan y gwasanaeth wybodaeth fanwl am faint o bobl oedd yn defnyddio’r gwasanaeth llyfrgelloedd a pha wasanaethau’n benodol, ond gellid rhoi data ar nifer yr aelodau o ward oedd yn aelodau gweithredol o lyfrgell.

 

Cadarnhawyd y byddai effaith y newidiadau i oriau agor llyfrgelloedd yn cael eu cynnwys yn adroddiad 2024/25, roedd adroddiad 2023/24 yn seiliedig ar yr oriau agor a’r defnydd presennol. Holodd yr aelodau pam bod oedi cyn cyflwyno’r adroddiad ac eglurwyd bod y Cyngor yn rhoi’r wybodaeth i Adran Ddiwylliant Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin bob blwyddyn ac yn cael ymateb gan yr Adran ym mis Rhagfyr fel arfer, a dyna pryd y cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Craffu bob blwyddyn. Gofynnodd yr aelodau am i Adroddiad Gwybodaeth gael ei ddarparu yng nghanol 2024 yn cynnwys manylion am ystadegau perfformiad drafft y gwasanaeth fel y’i cyflwynwyd i Adran Ddiwylliant Llywodraeth Cymru yn unol â gofynion y Fframwaith, cyn derbyn Adroddiad Asesiad Blynyddol 2023/24 yn erbyn y Safonau ym mis Ionawr 2025.

 

Byddai gweithgor yn cael ei sefydlu cyn bo hir i asesu effaith y gostyngiad yn oriau agor y Llyfrgell/Siop Un Alwad ac i archwilio datrysiadau eraill i wella darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol. Cyn bo hir, gofynnir i bob Grŵp Ardal Aelodau benodi aelod i wasanaethu ar y Grŵp hwn. 

 

Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol, er bod oriau agor y llyfrgelloedd yn cael eu lleihau fel rhan o strategaeth y Cyngor i osod cyllideb gytbwys, roedd hefyd yn bwysig cofio na fyddai unrhyw lyfrgell yn cau, a byddai’r adeiladau’n dal ar gael i’r gymuned eu defnyddio.

 

Yn dilyn trafodaeth ddwys:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)   cymeradwyo a chydnabod perfformiad y Gwasanaeth Llyfrgell yn erbyn 6ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru;  

(ii) gofyn am ‘Adroddiad Gwybodaeth’ yng nghanol 2024 yn cynnwys manylion am ystadegau perfformiad drafft y gwasanaeth fel y’i cyflwynwyd i Adran Ddiwylliant Llywodraeth Cymru yn unol â gofynion y Fframwaith, cyn derbyn Adroddiad Asesiad Blynyddol 2023/24 yn erbyn y Safonau ym mis Ionawr 2025; a

(iii)                bod darganfyddiadau cychwynnol y Gweithgor sy’n cael ei sefydlu i fesur effaith y gostyngiad yn oriau agor y Llyfrgell/Siop Un Alwad ac i archwilio cynigion neu ddatrysiadau eraill i wella neu ehangu darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol, yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn niwedd 2024.

 

Dogfennau ategol: