Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEB Y CYNGOR 2024/25

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn nodi goblygiadau Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2024/25 a chynigion i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)      yn nodi effaith y Setliad Dros Dro ar gyfer 2024/25;

 

(b)      cefnogi’r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran 4 yr adroddiad, ac yn eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb yn derfynol ar gyfer 2024/25;

 

(c)      argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog o 8.23% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor ynghyd ag 1.11% yn ychwanegol ar gyfer y cynnydd yn yr ardoll i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru; mae hyn yn hafal i gynnydd cyffredinol o 9.34% a gynigir;

 

(d)      argymell i’r Cyngor bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Bennaeth Cyllid ac Archwilio mewn ymgynghoriad ag Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian wrth gefn sydd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500,000 os oes yna symud rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod Treth y Cyngor yn amserol;

 

(e)      cefnogi’r strategaeth i ddefnyddio arian wrth gefn fel y nodir ym mharagraff 4.5 yr adroddiad a’i hargymell i’r Cyngor llawn; a

 

(f)       chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel y nodir yn Adran 7 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad yn nodi goblygiadau Setliad Ariannol Dros Dro Llywodraeth Cymru ar gyfer Llywodraeth Leol 2024/25 a chynigion i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.

 

Roedd yr heriau ariannol digynsail a oedd yn wynebu’r cyngor, ynghyd â’r holl awdurdodau lleol eraill, yn golygu bod angen proses wahanol i bennu’r gyllideb ac roedd wedi bod yn broses hynod o anodd ac anghyfforddus.   Diolchodd y Cynghorydd Ellis i bawb a gymerodd ran yn y broses honno a oedd wedi arwain at gyflwyno cyllideb gytbwys.

 

Darparodd y Cynghorydd Ellis a’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio drosolwg o broses y gyllideb a’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ac ymhelaethodd ar y cynigion i’w hystyried a’u hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2024/25.   Yn gryno, roedd y setliad dros dro wedi arwain at gynnydd arian parod o 3.6% (£6.720m) ac yn dilyn addasiad sylfaen treth y cyngor roedd yn uwch na’r gymhariaeth arian parod ar 3.7% (o gymharu â chyfartaledd Cymru o 3.1%) gyda’r setliad terfynolyn cael ei ddisgwyl yn gynnar ym mis Mawrth.  Roedd y setliad yn cynnwys pob cynnydd mewn cyflogau i athrawon a swyddi nad ydynt yn rhai addysgu a chyfrifoldeb i dalu Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal.   Rhoddwyd manylion am bwysau gwerth £24.682 miliwn ac roedd y setliad dros dro yn cynhyrchu £6.720 miliwn gan adael bwlch cyllido gwerth £17.962 miliwn gyda chynigion i gau’r bwlch hwnnw wedi eu nodi yn yr adroddiad a’u hegluro ymhellach yn y cyfarfod.  Cynigiwyd codiad Treth y Cyngor o 8.23% ynghyd ag 1.11% ychwanegol (newid i'r ffigwr dangosol o 1.3% yn yr adroddiad) ar gyfer y cynnydd yn yr ardoll i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru sy'n cyfateb i godiad cyffredinol o 9.34% i gynhyrchu £7.580 miliwn o refeniw ychwanegol.  Tynnwyd sylw hefyd at y defnydd arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i gynorthwyo gyda gosod y gyllideb.  Roedd y risgiau o beidio â chyflawni cyllideb gytbwys hefyd wedi'u nodi ynghyd â mesurau lliniaru a gwaith pellach sydd ei angen yn y dyfodol.   Roedd y rhagolygon ariannol tymor canolig yn edrych yr un mor heriol.   Gan fod y setliad terfynol yn hwyr, argymhellwyd bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo er mwyn galluogi addasiadau arian parod yng nghynigion y gyllideb hyd at £500,000.   Roedd yn bwysig nodi pe na bai cynigion yn yr adroddiad yn cael eu derbyn, bod yn rhaid cyflwyno cynigion amgen er mwyn  cyflawni cyfrifoldeb statudol y Cyngor i osod cyllideb gytbwys. 

 

Yn ystod y drafodaeth condemniodd y Cabinet y sefyllfa ariannol sy'n wynebu llywodraeth leol a oedd yn golygu bod yn rhaid gwneud toriadau difrifol i wasanaethau hanfodol er mwyn pennu cyllideb gytbwys a galwyd am gyllid gwell a chynaliadwy i ddarparu'r gwasanaethau hynny.   Nodwyd bod galwadau diweddar wedi’u gwneud gan Aelodau Seneddol ar draws y sbectrwm gwleidyddol i Lywodraeth y DU ddarparu cyllid ychwanegol i lywodraeth leol.   O ystyried y cyd-destun ariannol presennol, roedd y Cabinet yn credu bod cynigion y gyllideb yn cynrychioli’r canlyniad gorau i sicrhau bod gwasanaethau gofal cymdeithasol a dysgwyr ysgol yn cael eu hamddiffyn cyn belled ag y bo modd ac i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

 

Croesawodd y Cabinet y setliad uwch na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru ond nododd ei fod yn seiliedig ar ddata a fyddai’n arwain at alw uwch am wasanaethau ac nad oedd yn newid y sefyllfa gyllidebol yn sylweddol o ystyried y byddai darparu gwasanaethau yn 2024/25 yn costio £24.682 miliwn ychwanegol o gymharu â 2023/24, yn bennaf oherwydd pwysau chwyddiant a chynnydd mawr yn y galw gan wasanaethau cleientiaid.  Cydnabuwyd y risg y byddai'r galw am wasanaethau cymhleth yn parhau i gynyddu gyda mwy o alw am wasanaethau gofal a mwy o bobl yn wynebu digartrefedd.  Talwyd teyrnged i'r gwaith caled o wneud arbedion hyd yma, er gwaethaf hynny, roedd Penaethiaid Gwasanaeth wedi cael targed arbedion pellach o £3 miliwn i wneud iawn am y diffyg gyda chynigion i aelodau ym mis Mawrth cyn dechrau'r flwyddyn ariannol; nodwyd bod mentrau i gynorthwyo yn cynnwys y cynllun ymadael gwirfoddol ac adolygiad parhaus o ffioedd a thaliadau.   Ysgolion oedd â'r gyllideb fwyaf a oedd wedi'i diogelu yn y blynyddoedd diwethaf ac er na ellid ei diogelu yn ei chyfanrwydd oherwydd maint yr her ariannol, roedd cynnydd o 5.83% yn gyffredinol gydag ysgolion yn gwneud arbediad o 3%.  Derbyniwyd yr angen i warchod cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi o ystyried lefel gynyddol y risg yn y gyllideb ar gyfer 2024/25 a blynyddoedd i ddod ynghyd â chynigion ar gyfer defnyddio cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i gynorthwyo gyda gosod y gyllideb.  Roedd y Cabinet yn ymwybodol y byddai'r cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn anodd i drigolion ond roedd yn cydnabod y byddai Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor yn diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed.  Nodwyd y newidiadau diweddar i Ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a'r effaith ar Dreth y Cyngor.

 

Trafododd y Cabinet elfennau pellach o'r gyllideb fel a ganlyn -

 

·       Tynnodd y Cynghorydd Gill German sylw at y setliad gwell oherwydd y cynnydd yn y boblogaeth a data prydau ysgol am ddim a’r effaith ar Addysg a Gwasanaethau Plant a oedd wedi’i gydnabod yn y gyllideb; roedd hi wedi bod yn falch gyda'r prosiect buddsoddi i arbed yn y gwasanaeth maethu i leihau'r ddibyniaeth ar asiantaethau allanol, cynyddu gofalwyr maeth mewnol a gweithio i drawsnewid a gwella gwasanaethau.  Amlinellodd y Pennaeth Cyllid sefyllfa’r ysgolion gyda chynnydd wedi’i gyllido yng nghyllideb ysgolion o £7.6 miliwn ac effeithlonrwydd o 3% a oedd yn cyfateb i ostyngiad o £2.7 miliwn a adawodd gynnydd net o £5.6 miliwn; roedd hyn yn cynrychioli cynnydd cyffredinol o 5.8% yng nghyllideb ysgolion.   Teimlai’r Cynghorydd German ei bod yn iawn i’r cyngor amsugno llawer o bwysau’r ysgolion ac y byddai’n parhau i wneud y mwyaf o’r buddion i ysgolion drwy ddyrannu grant.

·       Ymatebodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio i gwestiynau ynghylch y strategaeth ar gyfer defnyddio cronfeydd wrth gefn a oedd yn cynnwys y defnydd o'r gronfa wrth gefn lliniaru cyllideb i ariannu'r gorwariant a ragwelwyd o £3.2 miliwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol a fyddai'n gadael balans o £1.5 miliwn a ailbennu’r Gronfa Bensiwn Wrth Gefn (wedi’i neilltuo i ariannu cynnydd posibl mewn cyfraniadau pensiwn) i ariannu’r costau cyflog yn 2024/25 yn ychwanegol at y pwysau yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig a’r costau ymadael sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Ymadael Gwirfoddol a fyddai’n gadael fawr ddim ar ôl yn y gronfa wrth gefn, a throsglwyddo balans y Gronfa Benthyciadau Diwygiedig i'r gronfa wrth gefn lliniaru cyllideb a fyddai'n darparu rhywfaint o amddiffyniad rhag galw sy'n fwy na'r pwysau; roedd hefyd angen cronfa wrth gefn buddsoddi i arbed er mwyn symud i drawsnewid a rhoi hwb i brif brosiectau.   Argymhellwyd cadw cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd o ystyried lefel bresennol y risg.

·       Amlygodd y Cynghorydd Elen Heaton effaith gofal cymdeithasol ar gyllidebau ledled Cymru, gyda 50% o bwysau yn ystod y flwyddyn wedi'u priodoli i ofal cymdeithasol yn adlewyrchu maint y pwysau, a chymhlethdod yr angen a'r galw yn y dyfodol yn cynyddu tra bod adnoddau'n lleihau.  Mewn ymateb, roedd ffocws ar wasanaethau ymyrraeth gynnar/atal yn y dyfodol ac roedd angen buddsoddi yn y meysydd hynny a pharhau i archwilio atebion arloesol a thrawsnewidiol.

·       Tynnodd y Cynghorydd Julie Mathews sylw at yr Asesiad o’r Effaith ar y Gymuned a oedd yn canolbwyntio ar agregiad lefel uchel o’r mesurau lleihau cyllideb cyfunol a fyddai’n ddogfen fyw, a rhoddwyd sicrwydd y byddai effaith y toriadau yn y gyllideb ar ddinasyddion yn cael eu monitro’n agos gan y Cabinet a'r Tîm Gweithredol Corfforaethol wrth symud ymlaen a chydweithio posibl yn y dyfodol gyda sefydliadau eraill i gyflawni ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed.

 

Ar y pwynt hwn, agorodd yr Arweinydd y drafodaeth i aelodau nad oeddent yn aelodau o’r Cabinet.

 

Lleisiodd y Cynghorydd Bobby Feeley ei gwrthwynebiad i arbedion y llyfrgell/siop un alwad.   Cyfeiriodd at ddau setliad ariannu olaf Sir Ddinbych ynghyd â Chyllid Ffyniant Bro ar gyfer Dyffryn Clwyd a Gorllewin Clwyd a theimlai fod y Cabinet wedi methu â chynllunio ymlaen ac wedi methu trigolion Sir Ddinbych.   Teimlai hefyd fod y cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn annerbyniol ac nid oedd yn gallu cefnogi'r gyllideb.  Cododd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gwestiynau am gyllidebau ysgolion a’r effaith ar ddysgwyr; yr angen i edrych ar atebion arloesol a newid trawsnewidiol cyn torri gwasanaethau, a phryderon ynghylch yr arbedion o £3 miliwn nas nodwyd a'r galw posibl ar gronfeydd wrth gefn.  Teimlai'r Cynghorydd David Williams y dylai cynigion ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru gael eu rhoi o'r neilltu o ystyried y gost uchel.

 

Ymatebodd Aelodau Cabinet Arweiniol a swyddogion perthnasol i’r materion a godwyd, a chwestiynau a sylwadau dilynol, fel a ganlyn –

 

·       roedd y setliadau gan Lywodraeth Cymru wedi cynrychioli toriad mewn termau real o ystyried chwyddiant a phwysau costau; roedd cyllid llywodraeth leol yn wynebu toriadau llym ac roedd galwadau ar Lywodraeth y DU i ailfeddwl

·       roedd y Cyllid Ffyniant Bro ar gyfer prosiectau cyfalaf penodol yn gyllid cwbl ar wahân i'r Grant Cynnal Refeniw a oedd yn ariannu gwasanaethau'r cyngor

·       roedd y cynnydd uchel yn Nhreth y Cyngor yn adlewyrchu'r pwysau ariannol digynsail sy'n wynebu'r awdurdod a'r angen i sicrhau cyllideb gytbwys ac roedd Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor yn darparu rhywfaint o amddiffyniad i'r rhai mwyaf agored i niwed

·       roedd y cyngor wedi gallu gosod cynnydd Treth y Cyngor is yn 2023/24 mewn argyfwng costau byw er budd trigolion

·       nid oedd neb eisiau codi lefel Treth y Cyngor a thorri gwasanaethau, ond roedd yn anghenraid er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys neu ddod yn fethdalwr i bob pwrpas

·       ni fyddai'n bosibl aros i'r arbedion o £3 miliwn gan Benaethiaid Gwasanaeth gael eu canfod cyn gosod y gyllideb oherwydd yr amserlenni dan sylw ond y byddent yn cynnwys arbedion o'r Cynllun Ymadael Gwirfoddol

·       roedd y pwysau cost ar gyfer pensiynau athrawon wedi’u cynnwys ar gyfer ysgolion ond y gobaith oedd y byddai cyllid y llywodraeth yn talu’r gost honno, ac roedd pwysau cyflogau ar gyfer swyddi nad ydynt mewn ysgolion yn rhagdybio dyfarniad cyflog o 5% a allai fod yn uwch na’r dyfarniad cyflog

·       er bod risg y byddai angen cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi y bwriad oedd cadw'r gronfa honno a delio â'r pwysau fel y nodwyd yn yr adroddiad

·       i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed a mynd i'r afael â chynnydd yn y galw roedd y gyllideb yn cynnig swm ychwanegol: £7.969 miliwn ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd, £2 miliwn ar gyfer Addysg a Gwasanaethau Plant, a £5.6 miliwn yn gyffredinol ar gyfer Ysgolion – roedd gwasanaethau eraill yn gorfod dod o hyd i arbedion a dioddef toriadau i ariannu'r rheini; roedd buddsoddiad mewn meysydd eraill yn cynnwys Gwasanaethau Gofal Maeth a’r Tîm Teuluoedd Integredig Lleol yn y Gwasanaethau Plant

·       derbyniwyd bod cyllid ar gyfer dyfarniadau cyflog ar draws holl wasanaethau'r cyngor wedi'i gydnabod ac nid yn unig i ysgolion ar gyfer dyfarniadau cyflog staff ddysgu a’r rhai nad ydynt yn addysgu.  Fodd bynnag, roedd y cyngor yn amsugno pwysau chwyddiant ysgolion ar gyfer cyflogau, cyfleustodau, Ardrethi Annomestig a chytundebau lefel gwasanaeth fel nad oeddent yn cael eu trosglwyddo i ysgolion, a oedd yn dasg fawr ac nid oedd yn wir ym mhob awdurdod.

·       nid oedd cynnig y Parc Cenedlaethol yn ystyriaeth ar gyfer y gyllideb gyfredol.   Byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yng Ngweithdy’r Cyngor ar 9 Ebrill, a byddai aelodau’n cael cyfle i drafod y mater bryd hynny.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis argymhellion yr adroddiad, gyda gwelliant i argymhelliad 3.3 i adlewyrchu Ardoll ddiwygiedig Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru o 1.11% a oedd yn cyfateb i godiad Treth y Cyngor cyffredinol o 9.34%, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)      yn nodi effaith y Setliad Dros Dro ar gyfer 2024/25;

 

(b)      cefnogi’r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran 4 yr adroddiad, ac yn eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb yn derfynol ar gyfer 2024/25;

 

(c)      argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog o 8.23% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor ynghyd ag 1.11% yn ychwanegol ar gyfer y cynnydd yn yr ardoll i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru; mae hyn yn hafal i gynnydd cyffredinol o 9.34% a gynigir;

 

(d)      argymell i’r Cyngor bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Bennaeth Cyllid ac Archwilio mewn ymgynghoriad ag Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian wrth gefn sydd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500,000 os oes yna symud rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod Treth y Cyngor yn amserol;

 

(e)      cefnogi’r strategaeth i ddefnyddio arian wrth gefn fel y nodir ym mharagraff 4.5 yr adroddiad a’i hargymell i’r Cyngor llawn; a

 

(f)       chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel y nodir yn Adran 7 yr adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn (11.50am) cymerodd y pwyllgor egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: