Eitem ar yr agenda
CANLYNIAD ADOLYGIAD Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU O BENDERFYNIAD Y CABINET YN YMWNEUD Â’R CYNNIG AM ARBEDION I’R GWASANAETH LLYFRGELLOEDD/SIOPAU UN ALWAD
Ystyried
canlyniad yr adolygiad o’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 19 Rhagfyr
2023 yn ymwneud â’r cynnig am arbedion i’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd/Siopau Un
Alwad a oedd wedi’i alw i mewn a’i ystyried gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar
11 Ionawr 2024.
Penderfyniad:
(a) Bod y Cabinet yn cydnabod arsylwadau,
canlyniadau ac argymhellion Pwyllgor Craffu Cymunedau yn dilyn ei adolygiad o
benderfyniad y Cabinet yn ymwneud â’r ‘Cynnig am Arbedion i’r Gwasanaeth
Llyfrgelloedd / Siop Un Alwad’, ac
(b) Nad
yw’r Cabinet yn derbyn argymhelliad 3.2 adroddiad y Pwyllgor Craffu, mae’n
cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol a wnaeth ar 19 Rhagfyr 2023, ac yn ymgymryd
â mwy o waith i nodi ffynonellau cyllid amgen.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd y
Pwyllgor Craffu Cymunedau yr adroddiad ar ganfyddiadau ac argymhellion y
Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2024 yn dilyn ystyried galw i mewn
benderfyniad y Cabinet a wnaed ar 19 Rhagfyr 2023 mewn perthynas â’r Cynnig
Arbedion Llyfrgell/Siop Un Alwad.
Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at y drafodaeth hirfaith yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu ar
sail galw’r penderfyniad i mewn, ac yn amlygu pryderon penodol y Pwyllgor
ynghylch y gostyngiad mewn oriau agor a’r effaith y byddai hynny’n ei chael ar
y canlynol –
· argaeledd a hygyrchedd y gwasanaeth llyfrgelloedd a
siopau un alwad i breswylwyr, yn arbennig y rhai mwyaf diamddiffyn a’r rhai
wedi’u heithrio’n ddigidol
· argaeledd ‘canolfannau clyd’ ar gyfer y rhai a gafodd eu
taro waethaf gan yr argyfwng costau byw, pobl a oedd yn unig, a’r rhai sy’n byw
gyda phroblemau iechyd a’u gofalwyr
· argaeledd cyfleusterau llyfrgell ar gyfer plant a phobl
ifanc i’w defnyddio i astudio neu waith ymchwilio, neu fel lloches ddiogel i
ffwrdd o sefyllfaoedd personol neu deuluol anhrefnus
· argaeledd llyfrgelloedd i'w defnyddio gan grwpiau
cymunedol a sefydliadau gwirfoddol er mwyn iddynt ddarparu gwasanaethau cymorth
a chyngor y mae mawr eu hangen i drigolion.
Roedd y Pwyllgor hefyd yn pryderu am effeithiau
negyddol anfwriadol posibl ar wasanaethau eraill y cyngor sydd eisoes dan
bwysau, yr effaith andwyol ar forâl staff a’r effaith y gallai colli staff
profiadol ei chael ar gapasiti’r gwasanaeth yn y dyfodol i ddarparu
gwasanaethau o safon. Teimlai'r Aelodau
nad oedd digon o ymchwiliadau wedi'u gwneud gyda chyrff allanol neu sefydliadau
allanol i sicrhau cyllid neu adnoddau eraill i helpu i gynnal y lefelau
gwasanaeth presennol cyn i benderfyniad gael ei wneud. O ganlyniad, gofynnwyd i’r Cabinet ailystyried
ei benderfyniad gwreiddiol gan ystyried casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor
Craffu bod y Cabinet yn -
(i)
cydnabod arsylwadau,
canlyniadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn dilyn ei adolygiad o
benderfyniad y Cabinet yn ymwneud â’r ‘Cynnig am Arbedion i’r Gwasanaeth
Llyfrgelloedd/Siop Un Alwad’; ac
(ii)
yn cytuno i argymhelliad y
Pwyllgor i ohirio gweithrediad y penderfyniad nes fydd mwy o gwaith archwilio
wedi’i gwblhau er mwyn canfod ffynonellau cyllido amgen sydd ar gael i’r Cyngor
a chyrff partner eraill yn y sector preifat neu’r sector cyhoeddus.
Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Williams am
adrodd ar drafodaeth ac argymhellion y Pwyllgor Craffu. Diolchodd y Cabinet hefyd i'r Pwyllgor
Craffu am eu gwaith.
Cydymdeimlodd y Cynghorydd Emrys Wynne â'r pryderon
a godwyd ynghylch yr effaith bosibl y byddai gostyngiad mewn oriau yn ei chael
fel y nodwyd yn yr adroddiad. Fodd
bynnag, roedd yn parhau o’r un farn bod y rhesymau dros alw’r penderfyniad i
mewn, a’r pryderon hynny, wedi’u trafod yn drylwyr gan y Cabinet ar 19 Rhagfyr
a bod y Cabinet wedi bod yn gwbl ymwybodol o’r holl faterion a risgiau hynny
pan wnaed y penderfyniad. Roedd angen y
penderfyniad i ymateb i'r her ariannol ddifrifol a gosod cyllideb gytbwys. Roedd y Cabinet wedi gwrando ac ymateb i
adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus gyda newidiadau yn arwain at tua 30 o oriau
agor ychwanegol o gymharu â'r cynnig gwreiddiol ac agor ar ddiwrnodau penodol.
Nid oedd yn cefnogi argymhelliad y Pwyllgor Craffu i ohirio gweithredu’r
penderfyniad hyd nes y byddai gwaith pellach yn cael ei wneud i ganfod
ffynonellau ariannu amgen. Roedd eisoes
wedi ymrwymo i weithio gydag aelodau, swyddogion, a Chynghorau
Dinas/Tref/Cymuned i ystyried modelau amgen o ddarparu gwasanaethau llyfrgell
gyda’r bwriad o ddiogelu a thyfu’r ddarpariaeth honno at y dyfodol, lliniaru’r
toriadau, a chwilio am ffynonellau incwm eraill, ac roedd angen dybryd i osod
cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Nid oedd unrhyw un eisiau torri gwasanaethau
llyfrgell, ond roedd y penderfyniad yn cynrychioli'r canlyniad gorau posibl i
lyfrgelloedd o ystyried y sefyllfa ariannol bresennol ac yn golygu na fyddai'n
rhaid i unrhyw lyfrgell gau a byddai'r holl wasanaethau presennol yn parhau, er
gwaetha’r oriau llai.
Roedd y Cynghorydd Gwyneth Ellis hefyd yn cydnabod
y craffu trylwyr ac roedd yn falch nad oedd yr argymhelliad wedi bod i
wrthdroi'r penderfyniad ond i'w ohirio tra'n disgwyl ymchwil pellach i
ffynonellau ariannu amgen. Yn anffodus,
roedd yr argymhelliad yn rhy benagored, ac roedd ymrwymiad eisoes wedi'i wneud
i edrych i mewn i ddulliau eraill o ariannu a darparu'r gwasanaeth
llyfrgell. O ystyried yr amserlen ar
gyfer gwneud toriadau/arbedion yn y gyllideb roedd yn hanfodol bod y Cabinet yn
cadarnhau ei benderfyniad er mwyn pennu cyllideb gytbwys. Nododd y Pennaeth Cyllid hefyd y risgiau sy'n
gysylltiedig ag oedi'r penderfyniad a chyflawni cyllideb gytbwys. Cyfeiriodd y Cynghorydd Barry Mellor at
awdurdodau lleol yn Lloegr a oedd i bob pwrpas wedi datgan eu bod yn fethdalwyr
gyda llawer o awdurdodau lleol Cymru yn agos at y sefyllfa honno a bod angen
gwneud penderfyniadau anodd i osgoi’r canlyniad hwnnw.
Diolchodd y Cynghorydd Huw Williams i'r Cabinet am
yr ymatebion. Tynnodd sylw at yr ymateb
digynsail i’r ymgynghoriad a chryfder teimladau a siaradwyr angerddol yn ystod
y drafodaeth graffu a’r Cabinet. Roedd
y Pwyllgor o’r farn y dylid bod wedi gwneud mwy cyn gwneud y penderfyniad ar
ymchwilio i ffrydiau ariannu posibl eraill.
Fodd bynnag, nid oedd am ailagor y drafodaeth.
Ar ôl ystyried yr adroddiad a’r argymhellion gan y
Pwyllgor Craffu, nododd y Cabinet fod yr holl faterion a godwyd wedi’u
hystyried wrth wneud y penderfyniad yn eu cyfarfod ar 19 Rhagfyr, a bod
ymrwymiadau wedi’u gwneud i weithio gyda budd-ddeiliaid a sefydliadau allanol
ar fodelau amgen o darparu gwasanaethau llyfrgell a chwilio am ffynonellau
incwm eraill. Gofynnodd y Cabinet am
sicrwydd y byddai gwaith yn cael ei wneud fel mater o frys. Ymrwymodd y Prif Weithredwr i weithio gyda
phartneriaid a sefydliadau eraill gyda’r bwriad o ar ddod o hyd i ffyrdd eraill
o gefnogi llyfrgelloedd ac eglurodd y byddai cadarnhau'r penderfyniad o ran y
gyllideb yn caniatáu eglurder a sicrwydd ynghylch y trafodaethau hynny. Ail-bwysleisiodd y Cabinet y sefyllfa
ariannol enbyd ar gyfer cyllid llywodraeth leol ac o ystyried maint yr arbedion
cyllidebol sydd eu hangen ar Sir Ddinbych ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf
a'r blynyddoedd i ddod byddai holl wasanaethau'r cyngor yn wynebu toriadau ac
roedd penderfyniad ar yr arbedion llyfrgell yn cael ei wneud yn y cyd-destun
hwnnw. Roedd yr arbedion llyfrgell/siop
un alwad wedi cael eu trafod yn helaeth ac roedd y penderfyniad wedi'i wneud
gyda’r bwriad o ddiogelu holl lyfrgelloedd y sir felly ni fyddai'n rhaid cau'r
un ohonynt.
Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes/Swyddog Monitro y
broses o alw i mewn, paramedrau trafod y Cabinet, a'r opsiynau sydd ar gael i'r
Cabinet o ran gwneud penderfyniadau.
Cynigiodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Elen
Heaton, fod y Cabinet yn cytuno ar argymhelliad 3.1 yr adroddiad, ac yn
anghytuno ag argymhelliad 3.2 yr adroddiad a chadarnhau ei benderfyniad
gwreiddiol, ond yn ymrwymo i wneud gwaith archwiliadol i ddod o hyd i
ffynonellau ariannu eraill.
Ceisiodd y Cynghorydd Hugh Irving (llofnodwr ar y
cais i alw penderfyniad i mewn) annerch y Cabinet ar y rhesymeg y tu ôl i alw’r
penderfyniad i mewn a herio’r penderfyniad.
Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cabinet yn gwbl ymwybodol o'r rhesymau a
bod yr heriau wedi'u nodi'n glir yn yr adroddiad a bod y Cabinet wedi ymateb
i'r materion a godwyd. Roedd y mater
wedi bod drwy’r prosesau democrataidd priodol, ac o ystyried paramedrau trafod
y Cabinet, ni fyddai’n briodol ail-gynnal nac ail-agor y ddrafodaeth graffu. Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y
cyfansoddiad a chadarnhaodd fod hyn yn gywir.
O ganlyniad, edrychodd yr Arweinydd ar gynnig y Cynghorydd Gwyneth
Ellis, a eiliwyd gan y Cynghorydd Elen Heaton, a gafodd ei ailddatgan er
eglurder. Ar ôl cael ei roi i bleidlais
–
PENDERFYNWYD –
(a) Bod y Cabinet yn cydnabod arsylwadau,
canlyniadau ac argymhellion Pwyllgor Craffu Cymunedau yn dilyn ei adolygiad o
benderfyniad y Cabinet yn ymwneud â’r ‘Cynnig am Arbedion i’r Gwasanaeth
Llyfrgelloedd / Siop Un Alwad’, ac
(b) Nad
yw’r Cabinet yn derbyn argymhelliad 3.2 adroddiad y Pwyllgor Craffu, mae’n
cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol a wnaeth ar 19 Rhagfyr 2023, ac yn ymgymryd
â mwy o waith i nodi ffynonellau cyllid amgen.
Dogfennau ategol:
- Library - OSS Savings Proposal Report to Cabinet 230124, Eitem 5. PDF 480 KB
- Library - OSS Savings Proposal Report to Cabinet 230124 - Annex 1, Eitem 5. PDF 304 KB