Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU PENDERFYNIAD Y CABINET YN YMWNEUD A'R CYNNIG ARBEDION LLYFRGELLOEDD/SIOPAU UN ALWAD

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor, archwilio’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 19eg Rhagfyr 2023 yn ymwneud â’r Cynnig Arbedion Llyfrgelloedd/Siopau Un Alwad.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorwyr Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol ac Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth i’r cyfarfod ac eglurodd eu bod yn mynychu ar ei gais i ateb cwestiynau’r aelodau yn ymwneud â’r penderfyniad. .

 

Galwyd ar yr aelodau a oedd wedi llofnodi'r cais i alw’r penderfyniad i mewn i roi datganiadau ar y rhesymau dros hynny; yr aelodau hyn oedd y Cynghorwyr Hugh Irving, Terry Mendies, James Elson, Justine Evans, a Brian Jones.

 

Diolchodd y Cynghorydd Hugh Irving i'r Cadeirydd am ganiatáu iddo siarad. Ailadroddodd fod y rhesymau dros alw’r penderfyniad i mewn fel a ganlyn -

 

  1. Roedd y penderfyniad i leihau oriau agor llyfrgelloedd 40% yn amhriodol gan y byddai’r gostyngiadau yn atal gwasanaeth sy’n perfformio’n dda rhag cynnal ei safonau ac yn effeithio ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol y Cyngor. Nid oedd yr effaith hon wedi ei hegluro eto.
  2. Mae siopau un alwad sydd wedi'u lleoli mewn llyfrgelloedd yn darparu cefnogaeth sylweddol i'r gymuned yn enwedig i drigolion llai abl na fyddant yn cael cymaint o gefnogaeth mwyach. Bydd mynediad y cyhoedd i dechnoleg TG yn cael ei leihau a bydd cyfleoedd i drigolion fynd i mewn i amgylchedd cynnes am resymau cymdeithasol yn cael eu lleihau.
  3. Nid yw Costau Diswyddo Posibl ac effaith colli staff hyfforddedig, profiadol wedi'u cyfrifo'n llawn eto na'u cynnwys yn y ffigurau ar gyfer arbedion corfforaethol.  Nid yw manylion yr arbedion a ragwelir wedi'u darparu i aelodau eto.
  4. Nid yw Cyngor Tref Rhuddlan na Chyngor Dinas Llanelwy wedi nodi eto a fyddant yn parhau â'u cefnogaeth ariannol i'w llyfrgelloedd lleol yng ngoleuni'r gostyngiad yn y gwasanaeth a gynigir. Mae angen i'r ffigurau hyn fod yn hysbys a'u hystyried cyn gwneud penderfyniadau terfynol.
  5. Nid yw sefydliadau allanol sy'n darparu gwasanaethau trwy lyfrgelloedd wedi nodi eto a fyddant yn parhau i wneud hynny gyda'r effaith ganlyniadol ar les cymunedol. Nid yw colledion ariannol gan sefydliadau masnachol megis banciau o golli mynediad i gyfleusterau llyfrgell wedi'u cyfrifo eto ac nid yw eu colled i'r gymuned wedi'i ystyried.

 

Yn ogystal â’r rhesymau a nodwyd eisoes, holodd y Cynghorydd Irving a oedd y swyddogion a’r aelodau arweiniol wedi ymweld â’r llyfrgelloedd cyn gwneud y penderfyniad i ddeall yr effaith y byddai’r penderfyniad yn ei gael ar drigolion a’r cymunedau cyfagos, yn ogystal ag ar sefydliadau allanol a oedd yn defnyddio’r llyfrgelloedd.   Byddai pob un yn dioddef o’r oriau agor byrrach. Teimlai'r Cynghorydd Irving nad oedd penderfyniad y Cabinet wedi ystyried y darlun cyfan nac wedi sylweddoli'n llawn yr effaith eang y byddai'r toriadau yn ei chael ar staff profiadol, preswylwyr, ynghyd â sefydliadau allanol gwirfoddol a masnachol a oedd yn dymuno defnyddio llyfrgelloedd at ddibenion ymgysylltu â'r gymuned.

 

Dywedodd y Cynghorydd Terry Mendies wrth y Pwyllgor ei fod yn meddwl bod yr arbedion arfaethedig yn gymeradwy, ond ni fyddent yn ddichonadwy.  Holodd y Cynghorydd Mendies ynghylch y diswyddiadau arfaethedig gan y dywedwyd yn ystod cyfarfod Cabinet mis Rhagfyr mai diswyddiadau fyddai'r opsiwn olaf ac y ceisir adleoli mewn gwasanaethau eraill ar draws y Cyngor ar gyfer staff sydd dan fygythiad o gael eu diswyddo.  Gofynnodd a fyddai unrhyw arbedion yn cael eu cyflawni pe bai staff yn cael eu hadleoli.  Wrth gloi ei ddatganiad, ychwanegodd y Cynghorydd Mendies mai’r ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus oedd yr ymateb mwyaf i’r Cyngor ei brofi ac eto nid oedd ymatebion y cyhoedd yn cael eu hadlewyrchu yn y penderfyniad a wnaed.  Wrth gloi, dywedodd fod yna brosiectau mwy y gallai'r Cyngor eu hatal er mwyn cyflawni arbedion mwy sylweddol.

 

Adleisiodd y Cynghorydd James Elson y datganiadau blaenorol.   Gan ychwanegu ei fod yn meddwl bod y llyfrgelloedd yn darged meddal, gan ofni, pe caniateid i'r toriadau fynd yn eu blaenau, na fyddai'r gwasanaeth yn dychwelyd i'r gwasanaeth rhagorol y mae ar hyn o bryd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Justine Evans ei bod yn cytuno â'r hyn a ddywedwyd.   Dywedodd hefyd ei bod yn ofni y byddai'r toriadau arfaethedig yn effeithio'n fwy arwyddocaol ar y rhai mwyaf bregus a difreintiedig yn y gymuned yn ogystal ag ar fyfyrwyr sy'n defnyddio'r llyfrgelloedd i astudio.   Roedd llyfrgelloedd hefyd yn darparu mannau cynnes i blant a phobl ifanc astudio ac weithiau'n cael eu defnyddio fel mannau diogel ganddynt i ffwrdd o amgylchedd cartref anhrefnus.

 

Cytunodd y Cynghorydd Brian Jones â'r siaradwyr blaenorol.   Cydnabu’r cyfyngiadau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor ac roedd yn deall y cynigion yn llawn, ond teimlai nad oedd y ffordd yr oedd y penderfyniad wedi’i wneud wedi’i ystyried yn drylwyr a bod angen amser ychwanegol arno cyn ei weithredu er mwyn sicrhau bod effaith y penderfyniad wedi’i fesur yn llawn.

 

Diolchodd yr Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth i bawb am eu sylwadau a'r cyfle i siarad.  Dywedodd ei fod yn rhannu pryderon yr aelodau ynghylch y cynigion, nid oedd y penderfyniad yn un yr oedd unrhyw aelod am ei wneud, ond bod y Cyngor yn wynebu gwneud penderfyniadau annymunol mewn perthynas â darparu gwasanaethau oherwydd yr hinsawdd ariannol ddigynsail yr oedd yn rhaid iddo weithredu ynddi ar gyfer y dyfodol rhagweladwy.   Roedd y Cabinet yn ymwybodol iawn o'r effaith y byddai'r gostyngiad yn ei gael ar gymunedau, fodd bynnag roedd yn rhaid gwneud y penderfyniad.  Pwysleisiodd y Cynghorydd Wynne na fyddai unrhyw lyfrgelloedd yn cau, yr opsiwn a gymerwyd gan y Cabinet oedd yr opsiwn gorau ar gyfer llyfrgelloedd y sir, ni fyddai unrhyw lyfrgelloedd yn cau, byddai pob un yn parhau ar agor er hynny gyda llai o oriau agor.   Teimlwyd bod yr opsiwn hwn yn rhoi cyfle i ymestyn oriau agor unwaith y byddai'r hinsawdd ariannol yn gwella.

 

Gan ateb y pwyntiau a godwyd, dywedodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol a’r Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: 

  • Nid oedd Sir Ddinbych ar ei phen ei hun yn wynebu gorfod torri gwasanaethau, roedd awdurdodau lleol ar draws y DU i gyd yn ceisio delio ag effeithiau costau uwch, chwyddiant uchel a setliadau is na chwyddiant gan lywodraethau canolog.
  • nad oedd yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei anwybyddu.   O ganlyniad i'r ymgynghoriad roedd y cynnig i leihau oriau agor llyfrgelloedd 50% wedi'i ddiwygio i ostyngiad o 40%, byddai hyn yn golygu y byddai llyfrgelloedd ar agor am tua 80 awr yn fwy nag o dan y cynnig gwreiddiol. 
  • roedd yr effaith negyddol yn cael ei hadnabod gan fod yr asesiad o'r effaith ar les yn dangos bod yr asesiad yn un negyddol; fodd bynnag, roedd yn ofynnol i'r Cyngor osod cyllideb gytbwys.
  • ynghylch y diswyddiadau posibl, roedd y ffigurau yn yr adroddiad wedi'u seilio o fewn ystod yn dechrau ar sero pe bai'r holl staff yr effeithir arnynt yn cael eu hadleoli'n llwyddiannus, gyda'r ffigwr uchaf yn nodi uchafswm y gost pe bai'r holl staff yr effeithir arnynt yn cael eu diswyddo.
  • Y byddai'n hapus i drafod prosiectau eraill a allai gael eu gohirio gyda'r Cynghorydd Mendies y tu allan i'r cyfarfod.
  • nad oedd y penderfyniad ynstryd un ffordd’.  Sicrhawyd yr aelodau y byddai gweithgor yn cael ei ffurfio i edrych ar opsiynau darparu ar gyfer y dyfodol gyda'r bwriad o adfer oriau agor y llyfrgell a'r siop un alwad ar ryw adeg pan fyddai cyllid yn caniatáu ac adeiladu arno ar gyfer y dyfodol.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Economi a'r Amgylchedd i bwyntiau a godwyd.   Dywedodd ei fod yn credu bod y Cabinet wedi gwneud y penderfyniad a'i fod yn gwbl ymwybodol o'r holl bwyntiau a nodwyd yn y cais i alw'r penderfyniad i mewn i’w graffu.  Nid oedd y penderfyniad yn un hawdd i'w wneud.  Gan ymateb i'r ffaith bod y llyfrgelloedd yn darged meddal ar gyfer toriadau, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Economi a'r Amgylchedd y byddai holl wasanaethau'r Cyngor yn wynebu toriadau, nid gwasanaethau llyfrgell yn unig.   Byddai rhai gwasanaethau yn wynebu toriadau sylweddol i'w cyllidebau er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gosod cyllideb gytbwys, yr oedd yn ofynnol iddo ei wneud yn ôl y gyfraith.

 

Dywedodd y Pennaeth Tai a Chymunedau fod penderfyniad y Cabinet i leihau cyllideb graidd ei gwasanaeth yn fan cychwyn iddi hi a staff y gwasanaeth i ddatblygu cynllun i liniaru risgiau yn ymwneud â’r gostyngiad yn y gyllideb ar gyfer darparu gwasanaethau a phreswylwyr/defnyddwyr gwasanaeth.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio (Swyddog Adran 151) nad oedd y niferoedd o ran diswyddiadau yn hysbys eto, gan y byddai angen i bob unigolyn wneud eu penderfyniadau eu hunain ar sail eu hamgylchiadau unigol.  Byddai'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda nhw oherwydd cymhlethdodau gyda blynyddoedd o wasanaeth, ac o'r herwydd, ni ellid cynhyrchu ffigwr pendant.  Fodd bynnag, o fewn yr adroddiad, nodwyd uchafswm y gost, a hysbyswyd yr aelodau hefyd mai cost unwaith ac am byth fyddai costau diswyddo, ac y byddai'r arbedion yn cael eu gwneud bob blwyddyn yn dilyn.

 

Ceisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Llywodraethu a Busnes egluro i'r aelodau nad oedd adleoli o fewn y Cyngor yn lle diswyddo yn symud y baich ariannol i rywle arall, a byddai'r staff a allai fod yn wynebu diswyddiad yn cael eu hadleoli i swyddi gwag a oedd eisoes yn bodoli ac wedi eu cyfrif o fewn cyllidebau'r gwasanaethau hynny.

 

Holodd yr aelodau a geisiwyd ffynonellau cyllid eraill, megis cronfeydd ffermydd gwynt cymunedol i helpu i gefnogi'r llyfrgelloedd.   Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth Tai a Chymunedau drwy ddweud wrth yr aelodau nad oedd y Cyngor yn gymwys i wneud cais am grantiau o'r cronfeydd hyn.

 

Gan ymateb i bryderon pellach mewn perthynas â diswyddiadau, adleoli ac ymddeoliad, eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Llywodraethu a Busnes mai prosesau gwirfoddol oedd y rhain i weld a oedd pobl am adael.  Byddai'r rhai oedd wedi mynegi diddordeb mewn gadael yn wirfoddol wedyn yn cael eu hasesu i weld a oedd yn ymarferol i wasanaethau ganiatáu iddynt adael. O ran adleoli, rhoddwyd sicrwydd i'r aelodau y byddai sgyrsiau'n cael eu cynnal gyda'r staff i sicrhau eu bod eisiau cael eu hadleoli a bod y rôl yn gweddu iddynt.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd aelodau'r Pwyllgor bryderon ynghylch yr effaith bosibl y byddai'r gostyngiad yn yr oriau agor yn ei chael ar argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau llyfrgell a siopau un alwad i drigolion, yn enwedig y dinasyddion mwyaf agored i niwed ac sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yn y sir.  Roedd llyfrgelloedd hefyd yn cael eu defnyddio fel mannau cynnes i’r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw, y rhai sy’n profi arwahanrwydd cymdeithasol, yn ogystal ag unigolion sy’n byw â phroblemau iechyd hirdymor a’u gofalwyr. Byddai’r gostyngiad yn oriau agor cyfleusterau llyfrgell yn effeithio ar ddefnydd plant a phobl ifanc ar gyfer astudio neu waith ymchwil ac ar argaeledd y cyfleusterau fel hafanau diogel i ffwrdd o sefyllfaoedd personol neu deuluol anhrefnus. Byddai’r toriadau’n effeithio’n fawr ar allu grwpiau cymunedol/sefydliadau gwirfoddol i gynnal digwyddiadau llesiant/grwpiau cymorth neu i sefydliadau busnes ddarparu gwasanaethau cynghori gwerthfawr i drigolion.   Byddai effaith andwyol hefyd ar y Gymraeg gan fod llyfrgelloedd yn cael eu defnyddio i bobl ddysgu’r iaith ac ymarfer eu sgiliau ieithyddol.

 

Dywedodd Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth wrth y Pwyllgor y gallai'r llyfrgelloedd gael eu defnyddio o hyd gan grwpiau cymunedol allanol/sefydliadau gwirfoddol hyd yn oed pan fyddai'r llyfrgelloedd ar gau.

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan y Pwyllgor ynghylch ymgynghori ac a ymgynghorwyd â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned, rhoddwyd sicrwydd i'r aelodau y bu deialog gyda'r cynghorau. Fodd bynnag, nid oedd y Cynghorau hynny nad oeddent ar hyn o bryd yn cyfrannu at lyfrgelloedd wedi cael eu holi a oeddent yn dymuno cyfrannu yn y dyfodol.   Oherwydd y sefyllfa ariannol na welwyd mo’i thebyg o’r blaen ac unwaith y bydd graddau llawn yr holl ostyngiadau mewn gwasanaethau yn hysbys, efallai y bydd cynghorau dinas, tref a chymuned yn penderfynu y byddai’n well ganddynt gyfrannu at ddarparu gwasanaethau eraill yn hytrach na llyfrgelloedd yn y dyfodol. 

 

Trafododd yr Aelodau eu pryderon mewn perthynas â phenderfyniad y Cabinet gan fod rhai'n teimlo bod yr ymarfer wedi'i gynnal ar ei ben ei hun, gan nad oedd pob llwybr wedi'i archwilio.  Gan fod angen gwneud y penderfyniad mewn cyfnod mor fach o amser nid oedd yn ymarferol i bob llwybr i alluogi'r llyfrgelloedd i aros fel ag yr oeddent fod wedi cael ei archwilio'n drylwyr. Teimlwyd hefyd nad oedd yr arbedion arfaethedig o'r llyfrgelloedd yn anghymesur o gymharu â maint y Gwasanaeth.

 

Wrth ymateb, eglurodd swyddogion nad oedd y toriadau i'r Gwasanaeth Llyfrgell a Siop Un Alwad wedi cael eu trin ar eu pen eu hunain.  Fel y dywedwyd eisoes, roedd y toriad hwn yn rhan o gyfres o doriadau i lawer o wasanaethau ar draws y Cyngor.  Roedd gofyn i bob Pennaeth Gwasanaeth ddod o hyd i doriadau i'w cyllidebau.  Roedd maint yr arbedion fesul gwasanaeth, gyda rhai yn llai nag eraill, yn amherthnasol gan eu bod i gyd yn cyfrannu at y Cyngor yn gosod cyllideb gytbwys

 

Caniataodd y Cadeirydd i gynrychiolydd Undeb o Unsain rannu llythyr a siarad ar ran aelodau’r Undeb.   Roedd y llythyr yn nodi:

“Mae UNSAIN yn credu y dylai’r toriadau yma gael eu gwrthod.  Credwn hefyd fod lle sylweddol i ymchwilio i ffynonellau ariannu amgen ar gyfer y gwasanaeth llyfrgelloedd o ddau faes yn benodol:

 

  • Yn gyntaf, mae trefniadau yn Llanelwy a Rhuddlan yn dangos y posibilrwydd o weithio allan trefniadau ar y cyd gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned.  Dylid archwilio hyn yn weithredol mewn rhannau eraill o'r sir.
  • Yn ail, credwn fod lle sylweddol i ddenu cyllid grant i gefnogi seilwaith y llyfrgelloedd fel canolbwyntiau cymunedol.  Gallai amrywiaeth o fentrau y mae staff y llyfrgell yn eu cyflwyno drwy gydol y flwyddyn o bosibl ddenu cyllid grant ar sail prosiect.  Yn fwy arwyddocaol, mae'r cynghorau eisoes yn dod â miliynau o bunnoedd bob blwyddyn mewn arian grant i ddarparu gwasanaethau cymunedol a chymdeithasol.  Mae enghraifft Sir Ddinbych yn Gweithio wedi dangos, trwy fanteisio ar y llyfrgelloedd fel canolbwyntiau cymunedol, ei bod yn bosibl darparu gwasanaethau eraill a ariennir gan grantiau trwy seilwaith y llyfrgell a defnyddio’r arian grant i gyfrannu at gostau rhedeg y llyfrgelloedd.  Mae angen i lawer mwy o wasanaethau ystyried y math hwn o drefniant a dylid cyfuno adolygiad o wasanaethau a ariennir gan grantiau â'n hadolygiad eiddo i archwilio'r cwestiwn hwn.

 

Gohiriwyd y Pwyllgor am egwyl o 10 munud am 12.15pm ac ailymgynnull am 12.25pm.

 

Cafodd y ddwy ochr gyfle i grynhoi eu safbwyntiau.   Pwysleisiodd y Cynghorydd Brian Jones, ar ran y rhai a lofnododd y cais i alw’r penderfyniad i mewn, nad oedd unrhyw awydd ymhlith y mwyafrif o'r aelodau etholedig na'r trigolion i wasanaethau llyfrgell ac oriau gael eu lleihau.  Cynigiodd y dylid cyfeirio’r penderfyniad i leihau oriau agor y Llyfrgell/Siop Un Alwad ac arbedion cysylltiedig yn ôl i’r Cabinet i’w hailystyried, gydag argymhelliad bod y cynnig yn cael ei ddileu o broses pennu cyllideb 2024/25 er mwyn hwyluso gwerthusiad opsiynau yn mewn perthynas ag argaeledd cyfleoedd ariannu preifat neu allanol i ariannu'r diffyg yng nghyllideb y Gwasanaeth.

 

Wrth grynhoi, ailadroddodd Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth y ffaith, er nad oedd y penderfyniad yn eistedd yn gyfforddus ag ef, bod y Cabinet, oherwydd y sefyllfa ariannol enbyd sy’n wynebu awdurdodau cyhoeddus hyd y gellir rhagweld, yn gorfod gwneud rhai penderfyniadau annymunol.   Wrth wneud y penderfyniad i leihau oriau agor ar draws y Gwasanaeth Llyfrgell/Siop Un Alwad yn hytrach na chau llyfrgelloedd unigol, roedd y Cabinet yn prynu amser i’r awdurdod a’r gwasanaeth i ddatblygu syniadau arloesol newydd mewn ymgais i gynnal a gobeithio ailadeiladu’r ddarpariaeth gwasanaeth wrth fynd ymlaen.   Plediodd ar yr aelodau i beidio â defnyddio Craffu fel arf gwleidyddol i guro’r Pwyllgor Gwaith, ond i weithio’n adeiladol gyda’r Cabinet i sicrhau hyfywedd llyfrgelloedd a gwasanaethau awdurdod lleol gwerthfawr eraill yn y dyfodol.

 

Eiliwyd argymhelliad y Cynghorydd Brian Jones gan y Cynghorydd James Elson.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry welliant i argymhelliad y Cynghorydd Brian Jones.   Cynigiodd y Cynghorydd Parry y dylid gofyn i’r Cabinet ailystyried ei benderfyniad mewn perthynas â lleihau oriau agor y Gwasanaeth Llyfrgell/Siop Un Alwad ac arbedion cysylltiedig, ac argymhellodd fod gwaith archwiliol yn cael ei wneud gyda chynghorau dinas, tref a chymuned, grwpiau allanol, ac asiantaethau gyda bwriad i sicrhau cyllid allanol i helpu i gynnal y gwasanaethau a ddarperir gan lyfrgelloedd/siopau un alwad.   Dylid gohirio penderfyniad y Cabinet hyd nes y cwblheir y gwaith hwn a bod canlyniadau arfarniad opsiynau ar hyfywedd ffrydiau ariannu yn y dyfodol yn hysbys.   Eiliwyd argymhelliad diwygiedig y Cynghorydd Parry gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

Cyn cymryd pleidlais ar y gwelliant gofynnodd yr aelodau am egwyl fer i'w galluogi i drafod yr argymhelliad a'r argymhelliad diwygiedig.   Pan ailalwyd y cyfarfod, eglurodd y Cynghorydd Merfyn Parry mai geiriad terfynol ei argymhelliad oedd y dylai'r Pwyllgor:

 

(i)    gyfeirio’r penderfyniad ar y ‘Cynnig Arbedion Llyfrgell/Siop Un Alwad’ a gymerwyd gan y Cabinet ar 19 Rhagfyr 2023 yn ôl i’r Cabinet i’w ystyried ymhellach; a

(ii)  argymell i'r Cabinet ei fod yn gohirio gweithredu'r penderfyniad uchod hyd nes y bydd gwaith archwilio pellach yn cael ei wneud i ganfod ffynonellau ariannu amgen sydd ar gael i'r Cyngor neu gyrff partner eraill, boed yn y sector preifat neu gyhoeddus.

 

Yn dilyn yr eglurhad hwn tynnodd y Cynghorydd Brian Jones ei argymhelliad gwreiddiol yn ôl ac eiliodd argymhelliad diwygiedig y Cynghorydd Parry.  Wrth dynnu ei argymhelliad yn ôl gofynnodd y Cynghorydd Jones am bleidlais wedi’i chofnodi ar yr argymhelliad ac eiliwyd ei gais gan y Cynghorydd Parry.   Cadarnhaodd y Swyddog Monitro er mwyn i bleidlais wedi'i chofnodi gael ei chynnal, bod angen i un rhan o chwech o aelodau'r Pwyllgor a oedd yn bresennol bleidleisio o blaid pleidleisio ar yr argymhelliad drwy bleidlais wedi'i chofnodi.  Penderfynodd y Pwyllgor o fwyafrif:

 

bod pleidlais wedi’i chofnodi yn cael ei chymryd ar yr argymhelliad mewn perthynas â chyfeirio’r penderfyniad ar Lyfrgelloedd/Siop Un Alwad a gymerwyd gan y Cabinet ar 19 Rhagfyr 2023 yn ôl i’r Cabinet i’w ystyried ymhellach.

 

Yna pleidleisiodd y Pwyllgor ar yr argymhelliad a gyflwynwyd a thrwy fwyafrif:

 

Penderfynwyd: ar ôl ystyried y wybodaeth yn yr adroddiad a’r atodiadau, y seiliau a osodwyd dros alw’r penderfyniad i mewn i’w graffu, a’r sylwadau a wnaed yn ystod y drafodaeth, i

 

(i)   gyfeirio’r penderfyniad ar y ‘Cynnig Arbedion Llyfrgell/Siop Un Alwad’ a gymerwyd gan y Cabinet ar 19 Rhagfyr 2023 yn ôl i’r Cabinet i’w ystyried ymhellach; a

(ii)  argymell i'r Cabinet ei fod yn gohirio gweithredu'r penderfyniad uchod hyd nes y bydd gwaith archwilio pellach yn cael ei wneud i ganfod ffynonellau ariannu amgen sydd ar gael i'r Cyngor neu gyrff partner eraill, boed yn y sector preifat neu gyhoeddus.

 

Pleidleisiodd aelodau’r Pwyllgor fel a ganlyn:

 

O blaid yr argymhelliad:

Y Cynghorwyr Michelle Blakeley-Walker, Karen Edwards, James Elson, Carol Holliday, Brian Jones, Merfyn Parry, Arwel Roberts a Cheryl Williams

 

Yn erbyn yr argymhelliad:

Y Cynghorwyr Jon Harland ac Alan James

 

Ymatal rhag pleidleisio:

Y Cynghorydd Huw Williams (Cadeirydd)

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.45pm

 

Dogfennau ategol: