Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 23/2023/0468/ PF - BRYN GOLAU, SARON, DINBYCH, LL16 4TH
Ystyried cais i
ddymchwel fferm ddofednod bresennol ac adeiladu uned ddofednod ar gyfer bridio
tyrcwn, yn cynnwys 2 uned ddofednod cysylltiedig gyda biniau porthiant, sied
tractor, lloriau caled, ffordd fynediad, mynedfa newydd i gerbydau a gwaith
cysylltiedig (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i ddymchwel fferm ddofednod
ac adeiladu uned ddofednod ar gyfer bridio tyrcwn, yn cynnwys 2 uned ddofednod
cysylltiedig gyda biniau porthiant, sied tractor, lloriau caled, ffordd
fynediad, mynediad newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig ym Mryn Golau,
Saron, Dinbych.
Siaradwr Cyhoeddus –
Sam Harrison (Asiant) (O blaid) – mae gan y
fferm ddofednod 7 tŷ dofednod ac yn gweithredu dan drwydded amgylcheddol
wedi’i chyhoeddi a’i rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer magu ieir
brwylio; mae gan y safle le i 87,200 o adar, gydag oddeutu 7.5 haid y flwyddyn.
Cynigir dymchwel y fferm bresennol a chodi uned fodern ar gyfer bridio tyrcwn a
fydd yn cynnwys y technegau gorau, yn wahanol iawn i’r unedau presennol. Ar ôl
y datblygiad byddai’r fferm yn gweithredu fel uned i dyrcwn ddodwy wyau
ffrwythlon ar gyfer deori. Byddai lle i 6000 o adar ar y fferm newydd – 5,500 o
dwrcennod a 500 o geiliogod tyrcwn, a byddai’r datblygiad newydd yn creu 5
swydd lawn amser ar y safle.
Mae’r datblygiad arfaethedig yn llawer llai
dwys na’r unedau brwylio presennol. Mae’r gylchred dyrcwn yn seiliedig ar
gylchred fridio 36 wythnos, gyda’r adar yn cael eu cadw am oddeutu 28 wythnos a’r
safle wedyn yn cael ei wagio, ei lanhau a’i baratoi am 8 wythnos. Y cynnig yw
bridio 1.6 haid y flwyddyn yn hytrach na 7.5 y flwyddyn.
Mae effaith y datblygiad wedi’i asesu drwy
amrywiaeth o adroddiadau technegol sy’n ymdrin ag arogl, sŵn, amonia, ecoleg,
cludiant a rheoli gwastraff. Byddai’r datblygiad yn arwain at nifer o
welliannau, yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i: lleihau arogl ac amonia,
lleihau gweithgareddau dal gyda’r nos a lleihau traffig yn ystod y dydd. Mae’r
gwerthusiad wedi’i werthuso’n llawn o safbwynt technegol gan Gyfoeth Naturiol
Cymru, Priffyrdd, Ecoleg ac Iechyd yr Amgylchedd, sydd heb fynegi gwrthwynebiad
yn amodol ar amodau.
Trafodaeth Gyffredinol –
Mynegodd y Cynghorydd Elfed Williams (aelod
lleol) bryderon ynghylch oriau gweithredu’r safle a lleoliad mynediad y
safle. Gan gyfeirio at amod 10 –
Er y cynlluniau a’r dogfennau i’w cymeradwyo
wrth hyn, bydd yr holl ddanfoniadau, gweithgareddau cludo dofednod byw o’r
safle (ac eithrio gweithgareddau cludo a ellir eu gwneud y tu allan i’r oriau
hyn) yn digwydd rhwng 07.00 a 19.00 ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 07.00 a
17.00 ddydd Sadwrn a rhwng 10.00 a 16.00 ddydd Sul a gwyliau banc.
Roedd teimlad bod yr oriau gweithredu yn
ystod yr wythnos yn rhy hwyr a chafwyd cais i’w newid nhw o 19.00 i 17.00 yn
ystod yr wythnos oherwydd y niwsans sŵn posibl i drigolion lleol. Amlygwyd
y gall loriau gyrraedd ar unrhyw adeg, ddydd neu nos, am 6 wythnos o’r
flwyddyn.
Pryder mwyaf y trigolion a Chyngor Cymuned
Llanrhaeadr yng Nghinmeirch yw’r mynediad i’r safle. Mae’r mynediad newydd
arfaethedig yn agos at set o groesffyrdd, nad ydynt yn addas i gerbydau mawr
sy’n mynd i mewn ac allan o’r safle. Gofynnwyd bod y mynediad arfaethedig yn
cael ei symud i le gwahanol draw oddi wrth y croesffyrdd ac eiddo cymdogion.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygiadau fod yr
opsiynau fel a ganlyn:
· Gall yr aelod
lleol gynnig geiriad gwahanol i amod 10. Cymeradwyo’r cais yn amodol ar
ddiwygio amod 10.
· Mae’r pwynt
mynediad yn rhan fawr o’r cais arfaethedig ac nid oes modd i’r Pwyllgor newid y
lleoliad. Mae’n rhaid i’r Aelodau asesu’r wybodaeth sydd o’u blaenau gan y
swyddogion a’r Peirianwyr Priffyrdd a phenderfynu a yw’r mynediad yn
dderbyniol. Os yw’n annerbyniol, byddai’n rhaid i’r Aelodau wrthod y cais.
· Gohirio’r cais
i ganiatáu i swyddogion siarad efo’r ymgeisydd ynglŷn â newid lleoliad y
mynediad a’r oriau gweithredu.
Holodd y Cynghorydd Alan James ynghylch y
pellter rhwng y mynediad presennol a’r mynediad arfaethedig. Cyfeiriodd y Prif
Swyddog Cynllunio at y cynllun o’r awyr ac amlygodd ble’r oedd y mynediad
arfaethedig a’r mynediad presennol.
Holodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts
ynghylch oriau gweithredu presennol y safle. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio
nad yw’r caniatâd presennol ar gyfer y safle yn cynnwys unrhyw reolaeth dros yr
oriau gweithredu.
Cynnig –
CYNIGIODD y Cynghorydd
Elfed Williams bod y cais yn cael ei ohirio tan y bydd y swyddogion wedi
cysylltu â’r ymgeisydd ynglŷn â’r mynediad i’r safle a’r oriau
gweithredol. EILIODD y Cynghorydd Delyth Jones y cynnig i ohirio.
Pleidlais –
O blaid – 14
Yn erbyn – 4
Ymatal – 1
PENDERFYNWYD GOHIRIO’R cais cynllunio.
Dogfennau ategol: